|
Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn rhoi cyfleoedd i ddysgu mwy o lawer am Gaer Digoll a’i thirwedd, ac am warchod a rheoli safleoedd archaeolegol eraill tebyg. Gwelir rhestr o amcanion ymchwil posibl isod, y gellir o bosibl fynd i’r afael â hwy yn y blynyddoedd sydd ar ddod.
Sut le oedd y safle
Ffurf a strwythur y fryngaer. Adeiladu’r amddiffynfeydd, eu cyfnodau a’u dimensiynau. Y mathau o adeiladau a strwythurau a oedd wedi’u codi y tu mewn iddi, a’r mathau o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd.
Cyflwr y safle a’i gadwraeth
Cyflwr gwahanol rannau o’r heneb a’u cadwraeth. Effeithiau hindreuliad ac erydiad naturiol. Effeithiau gweithgareddau amaethyddol gynt. Effeithiau planhigfeydd coed, o ran y broses plannu a gweithgareddau’r gwreiddiau’n ddiweddarach. Effeithiau gweithgareddau anifeiliaid. Natur y priddoedd a goroesiad dyddodion haenedig, presenoldeb dyddodion dwrlawn, asidedd y pridd ac effaith hyn ar oroesiad arteffactau a data amgylcheddol.
Hanes cymdeithasol ac economaidd
Pryd adeiladwyd y fryngaer a’r hyn a oedd yno’n gynharach, cyfnodau pan fu pobl yn byw ynddi a’r gwahanol ffyrdd y’i defnyddiwyd yn ddiweddarach. Y gweithgareddau domestig, diwydiannol ac economaidd a gynhaliwyd y tu mewn i’r fryngaer a thu hwnt. Cysylltiadau masnachol a chysylltiadau eraill ymhellach i ffwrdd. Tystiolaeth o strwythur cymdeithasol, tystiolaeth o drefniadaeth a chynllunio cymdeithasol a nifer y trigolion. Maint y gweithlu yr oedd ei angen i godi’r amddiffynfeydd dros ba gyfnod o amser. Hyd y cyfnod y bu pobl yn byw ynddi, a ph’un a oedd pobl yn byw yno am gyfnod di-dor ynteu’n ysbeidiol. Beth oedd ei dibenion. Tystiolaeth ei bod wedi tyfu, newidiadau dros amser, ei gadael a’i dadfeilio.
Cyd-destun y dirwedd
Cyd-destun tirwedd yr heneb. ‘Tiriogaeth’ y fryngaer a’i pherthynas â safleoedd eraill cyfagos mewn gofod a thros amser. Natur hanes yr amgylchedd a’r llystyfiant lleol ac effeithiau’r anheddiad ar ei gyffiniau. Llwybrau hynafol at y fryngaer. Perthnasoedd ffisegol â ffiniau allanol a defnydd tir.
Cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol
Cysylltiadau hanesyddol, llenyddol ac artistig. Hanes enwau lleoedd.
Gweithgareddau a defnydd tir diweddarach
Hanes amaethyddol diweddarach. Hanes coelcerth bosibl. Planhigfa i goffáu coroni’r Frenhines Elizabeth II. Hanes llafar.
Cofnodi a monitro
Cofnodi a monitro proses newid y defnydd tir o’i gyflwr coediog presennol. Y prosesau ynghlwm â hyn a’r effeithiau ffisegol ar yr heneb ac ar yr amgylchedd naturiol.
Canfyddiad y cyhoedd
Y budd a ddaw i’r cyhoedd yn sgil yr heneb yn dod yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth. Ei rôl a’i rôl bosibl wrth gyrraedd amcanion addysg ac allwaith. Effeithiau newidiadau mewn defnydd tir ar werth amwynder yr heneb. Agweddau pobl tuag at y newidiadau mewn defnydd tir.
|