Cymraeg / English
|
|
Bryngaer Caer Digoll
Fis Gorffennaf 2008, daeth bryngaer hynod Caer Digoll i feddiant yr Ymddiriedolaeth. Mae’r fryngaer yn goron ar Gefn Digoll yn nwyrain Sir Drefaldwyn. Prif nod y fenter newydd hon yw sicrhau cadw’r safle a’i amgylchoedd, a’u rheoli yn y tymor hir er budd a mwynhad y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae coed trwchus y tu mewn i’r fryngaer, sydd bellach yn cyrraedd eu llawn dwf, a’r gobaith yw dod o hyd i fodd o ddychwelyd tu mewn y safle i fod yn ddolydd ucheldirol, yn union fel yr oedd cyn dechrau’r 1950au. Ymddengys mai ychydig a wyddys am y fryngaer – gan gynnwys tarddiad ei henw. Byddai’n ddi-os wedi bod yn safle da i goelcerth, gyda’i golygfeydd eang ymhell dros ganolbarth Cymru a Swydd Amwythig. Enw’r mynydd, Cefn Digoll yw tarddiad enw Cymraeg y fryngaer. Ni fu cloddio ar y safle, ond yn ddiamau fe’i hadeiladwyd yn gyntaf rhywbryd yn y cyfnod rhwng diwedd Oes yr Efydd a dechrau Oes yr Haearn, fel y bryngaerau lleol adnabyddus ym Mreiddin a Ffridd Faldwyn. Byddai pobl yn byw yno yn y cyfnod hwn, ar ôl 1000 CC a chyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd, tua 50 OC. Gorwedda’r fryngaer gerllaw’r ffin hynafol rhwng Cymru a Lloegr, ac mae sôn amdani mewn nifer o fythau a chwedlau cynnar. Gwelir un o’r cynharaf o’r rhain yng Nghanu Llywarch Hen, sef saga’n dyddio o’r 9fed neu’r 10fed ganrif, mewn darn am yr elyniaeth yn y 7fed ganrif rhwng Cadwallon, y tywysog Prydeinig ac Edwin, brenin Eingl-Sacsonaidd Northumbria. Caiff Caer Digoll ei disgrifio’n farddonol braidd fel lluest neu wersyll Cadwallon, lle bu’n aros am saith mis, ac yn cynnal saith ysgarmes bob dydd. Yn y tymor hir, daw’r safle’n ganolbwynt ystod eang o weithgareddau addysgol y bydd yr Ymddiriedolaeth yn eu noddi. Yn wyneb pryder ynghylch y difrod y gall tyfiant coed a chynhaeafu eu hachosi i ddyddodion archaeolegol claddedig, un o’n pryderon mwyaf dybryd ac enbyd yw edrych ar y ffordd orau o ddychwelyd y safle i drefn defnydd tir mwy cydnaws. Yn ffodus, rydym eisoes wedi ennill cefnogaeth frwd cydweithwyr archaeolegol o’r Iseldiroedd, o Sefydliad Ruud van Beek, wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Roeddent wedi’u tywys o amgylch y safle rai blynyddoedd yn ôl pan ar ymweliad â Chymru, a daethant i bryderu ynghylch y cwestiwn o reoli safleoedd archaeolegol yng nghefn gwlad mewn modd cynaliadwy. Bellach maent wedi’n comisiynu ni i gynnal astudiaeth o’r gwahanol faterion sy’n ymwneud â chaffael a rheoli’r safle. Dilynwch y cysylltau hyn i gael mwy o fanylion
|