CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Adroddiadau blynyddol

Adroddiad Blynyddol 1999/00


RHAGARWEINIAD

Cwmni a gyfyngir gan warant a heb fod chyfalaf cyfrannau yw Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (Rhif Cofrestru 1212455) ac y mae'n Elusen Gofrestredig (Rhif Cofrestru 508301). Y Memorandum and Articles of Association, fel yr ymgorfforwyd 14 Mai 1975, yw'r ddogfen lywodraethol.

Prif weithgarwch
Addysgu'r cyhoedd mewn archeoleg a darparu gwasanaethau archeolegol i'r gymuned yw prif weithgarwch yr Ymddiriedolaeth.

CRYNODEB O AMCANION YR YMDDIRIEDOLAETH

Un Ymddiriedolaeth Archeolegol o bedair a sefydlwyd yng Nghymru yn y 1970au yw'r Ymddiriedolaeth. Mae'n gwmni cyfyngedig ac yn elusen gofrestredig fel ei gilydd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cydweithio'n agos chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i gofnodi, dehongli a diogelu holl agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae'n gweithredu'n bennaf yn ardal Clwyd-Powys, sef sir Powys a'r ardaloedd awdurdod lleol oedd yng Nghlwyd gynt - Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a rhan ddwyreiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

CRYNODEB O WEITHGAREDDAU'R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN

Ymchwilio ac archwilio archeolegol
Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau yn y maes, wrth ymateb i ddatblygiadau arfaethedig neu er mwyn estyn y cofnod archeolegol fel rheol. Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y rhain yn cynnwys cloddiadau adfer, prosiectau cofnodi, asesiadau penbwrdd, gwerthusiadau maes, arolygon maes a chynlluniau goruchwylio. Rhoddir enghreifftiau isod o'r mathau o brosiectau yr ymgymerwyd hwy yn ystod y flwyddyn. Defnyddir enwau'r hen siroedd Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog er hwylustod yn y testun canlynol.

Roedd prosiectau dan nawdd Cadw yn cynnwys nifer o fentrau Cymru-gyfan, gan ddilyn patrwm y blynyddoedd ariannol blaenorol. Parhaodd prosiect Aneddiadau Gwledig Diffaith yn ardal Clwyd-Powys i'r bedwaredd flwyddyn. Prif amcan y prosiect oedd cynnal arolwg chwim o aneddiadau diffaith canoloesol a rhai diweddarach at ddibenion cadwraeth ac estyn cofnodion. Canolbwyntiwyd gwaith 1999/00 ar gwblhau, cyn belled phosibl, yr arolwg o safleoedd Sir Frycheiniog. Rhoddwyd cychwyn ar hwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol, ac roedd y prosiect yn golygu ymweld mwy na 360 o safleoedd yn y maes, a'u cofnodi. Gwnaed asesiad chwim o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn Sir Y Fflint a Wrecsam, gan barhau gwaith a wnaed yn nyffryn uchaf Hafren ym 1997/98 ac yn Sir Ddinbych a dwyrain Conwy ym 1998/99. Roedd hwn eto yn rhan o fenter Cymru-gyfan dan nawdd Cadw. Roedd y gwaith ym 1999/00 yn cynnwys asesiad chwim o oddeutu 340 o safleoedd, gan gynnwys beddrodau crynion, carneddau cylch, meini hirion, cylchoedd cerrig a rhesi cerrig, yn bennaf at ddibenion estyn y Cofnod Henebion Rhestredig. Fel rhan o Nodweddu'r Tirlun Hanesyddol, sef menter barhaus Cymru-gyfan, fe ymgymerwyd gwaith ar Ddyffryn Trefaldwyn ac ardal Comins Treffynnon-Mynydd Helygain - dwy o'r ardaloedd thirlun hanesyddol eithriadol sy'n cael eu diffinio yng Nghofrestr Tirluniau Hanesyddol a gynhyrchir gan Cadw ar y cyd Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac ICOMOS UK. Y nod yw dynodi elfennau hanesyddol arwyddocaol o'r tirlun a allai deilyngu cadwraeth neu reolaeth. Mae tirlun hanesyddol Dyffryn Trefaldwyn yn cwmpasu'r ardaloedd y ddwy ochr i'r ffin genedlaethol rhwng Cymru a Lloegr, ac mae'r ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Gyngor Sir Amwythig am ei gymorth wrth ddarparu gwybodaeth am safleoedd archeolegol ac adeiladau hanesyddol yn eu hardal hwy. Cafwyd help Comisiwn Brenhinol Cymru thystiolaeth awyrluniau yn achos tirlun hanesyddol Comins Treffynnon-Mynydd Helygain, sy'n dirlun mwyngloddio yn bennaf.

Roedd prosiectau dan nawdd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn cynnwys Awyrluniau. Roedd hyn yn golygu cofnodi safleoedd olion cnydau yn ystod yr haf yn ardal Waltwn yn Sir Faesyfed a Dyffryn Tanat yn Sir Drefaldwyn, a hedfan yn ystod misoedd y gaeaf dros ogledd Sir Drefaldwyn ac ardaloedd Wrecsam a Mynydd Rhiwabon. Ein cyn Gyfarwyddwr, Mr Chris Musson, wnaeth llawer o'r gwaith cofnodi awyrluniau ar ran yr Ymddiriedolaeth. Er hynny, manteisiwyd ar y cyfle i gynnwys hyfforddiant mewn technegau tynnu awyrluniau i un aelod o staff yr Ymddiriedolaeth, fel rhan o'r rhaglen.

Roedd prosiectau dan nawdd cyrff eraill yn cynnwys y canlynol: Rhos Trannon Gwaith arolwg parhaus ar safleoedd archeolegol yn ardal fferm wynt yn Sir Drefaldwyn, dan nawdd datblygwr drwy Gyngor Sir Powys. Moel Findeg Asesiad archeolegol o warchodfa natur leol arfaethedig yn Sir Y Fflint, ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Arolwg Efyrnwy Arolwg adnabod chwim parhaus o safleoedd archeolegol yng nghyffiniau Llyn Efyrnwy, Sir Drefaldwyn. Ei ddiben yw cadwraeth ac estyn cofnodion, dan nawdd Dwr Hafren-Trent. Eglwys Gadeiriol Llanelwy Cofnodi llawr yr ale groes ddeheuol, ar ran Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol. Mynwent Wrddymbre Gwerthusiad archeolegol cyn bwrw ymlaen ag estyniad arfaethedig i Eglwys Sant Deiniol. Gwneir hyn ar ran y cyngor plwyf, o fewn ardal anheddiad Eingl-Seisnig a gofnodir yn Llyfr Domesday. Piblinell Nwy Talerddig-Machynlleth Asesiad penbwrdd, ac arolwg maes ar hyd hynt y piblinell arfaethedig. Maes Golff Llanymynech Gwerthusiad a chynllun goruchwylio cyn, ac yn ystod, gwaith gwella griniau 10, 13, 15 ac 16 o fewn ardal y bryngaer o Oes yr Haearn. Chwarel Borras Asesiad penbwrdd archeolegol ac arolwg maes o estyniad arfaethedig i chwarel cerrig, ar ran Tarmac ccc. Croes Criccin Mn gloddiadau ar safle'r groes ganoloesol, ar ran Cyngor Sir Ddinbych a Cadw, cyn dechrau ar raglen o waith atgyweirio.

Addysg a chyhoeddiadau
Bydd holl weithgareddau'r Ymddiriedolaeth yn cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at well dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol ardal Clwyd-Powys. Bachir ar bob cyfle i wneud gwaith addysgol ag ysgolion a'r cyhoedd. Cynorthwywyd i baratoi nifer o baneli arddangos ynghylch gwaith yr Ymddiriedolaeth ar gyfer arddangosfa yng Nghastell Bodelwyddan. Trefnwyd yr arddangosfa mewn cysylltiad Chyngor Sir Ddinbych i gyd-fynd Diwrnod Archeoleg Cenedlaethol y Cyngor Archaeoleg Brydeinig. Datblygwyd gwefan yr Ymddiriedolaeth yn sylweddol yn ystod y flwyddyn, a diolch i gymorth ariannol Cadw mae llawer o'r wefan yn ddwyieithog bellach. Mae'r wefan, ar www.cpat.org.uk, yn cynnwys swm sylweddol o wybodaeth am weithgareddau'r Ymddiriedolaeth, ac mae'n parhau i fod yn ddefnyddiol trwy ddarparu gwybodaeth archeolegol am ardal Clwyd-Powys a thrwy roi cyhoeddusrwydd i'r gweithgareddau a'r gwasanaethau y mae'r Ymddiriedolaeth yn eu cynnig i'r gymuned. Maes o law, fe fydd y wefan yn cynnwys manylion llawnach yr holl brosiectau a grybwyllir yn yr adroddiad hwn. Trefnwyd nifer o leoliadau myfyrwyr yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys myfyriwr l-raddedig oedd yn dilyn Diploma Prifysgol Rhydychen mewn Archeoleg Proffesiynol, dau o fyfyrwyr israddedig oedd yn astudio archeoleg ym Mhrifysgol Nottingham, a lleoliadau profiad gwaith o Hyfforddiant Powys ac Ysgol Uwchradd Amwythig. Ymhlith y gweithgareddau eraill cynigwyd profiad a hyfforddiant mewn defnyddio cyfrifiaduron ym maes cynnal a chadw a datblygu'r Cofnod Safleoedd a Henebion y mae'r Ymddiriedolaeth yn ei gynnal (gweler mwy isod).

Cynhyrchwyd mwy na 30 o adroddiadau prosiect a phwnc yn ystod y flwyddyn, i'w dosbarthu yn gyfyngedig. Rhoddir crynodeb o adroddiadau byr ar brosiectau unigol yr Ymddiriedolaeth yn Archaeoleg yng Nghymru, a gyhoeddir yn flynyddol gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig: Cymru, yn ogystal ag mewn nifer o gyfnodolion cenedlaethol, gan gynnwys Britannia a Medieval Archaeology. Ymhlith cyhoeddiadau eraill staff yr Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn oedd llyfryn ar waith arolwg pellach ar gylch pant yn Hindwell, Sir Faesyfed (cyhoeddwyd gan yr Ymddiriedolaeth gyda chymorth grant y Comisiwn Ewropeaidd a Cadw), adroddiad terfynol ar y cloddiadau yn nhref ganoloesol Maesyfed (cyhoeddwyd yn Archaeological Journal), ac adroddiad ar ddarganfyddiadau o Oes Newydd y Cerrig ac o Oes yr Efydd yn Hendre, Rhydymwyn, Sir Y Fflint, a ymddangosodd mewn llyfr o'r enw Grooved Ware in Britain and Ireland a gyhoeddwyd gan y Neolithic Studies Group ac Oxbow Books.

Cyngor a gwybodaeth archeolegol
Gyda chymorth nawdd oddi wrth y Comisiwn Brenhinol, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnal archif a chofnod cyfrifiadurol o safleoedd, darganfyddiadau, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, o'r enw Cofnod Safleoedd a Henebion Rhanbarthol (CSH), sy'n cwmpasu Powys, rhan o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam. Prif ddibenion y cofnod yw darparu cyngor ar oblygiadau archeolegol polisau a datblygiadau cynllunio, a chyngor ar reoli safleoedd a thirluniau archeolegol. Mae hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell ar gyfer ymchwil academaidd a mentrau sy'n ymwneud chadwraeth, dehongli a chyflwyno archeoleg a thirluniau hanesyddol Cymru. 37,300 yw cyfanswm yr eitemau ym mhrif gofnod cyfrifiadurol CSH ar hyn o bryd. O'r rheiny, ychwanegwyd 2,250 o gofnodion newydd, ac yn ystod y flwyddyn golygwyd 2,730 o gofnodion a oedd yn bodoli eisoes, wrth i wybodaeth newydd gael ei chasglu o waith maes diweddar ac o ffynonellau cyhoeddedig. Mae'r cofnod bellach wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol at ddibenion cynllunio gan yr awdurdodau cynllunio yn ardal Clwyd-Powys - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Y Fflint, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Rydym yn parhau i gyfnewid data archeolegol 'r Comisiwn Brenhinol a thair Ymddiriedolaeth arall Cymru, sy'n cyfrannu ar hyn o bryd i ENDEX, sef mynegai ar y cyd o adroddiadau'r prif bartneriaid ar safleoedd archeolegol, darganfyddiadau ac adeiladau hanesyddol a henebion diwydiannol yng Nghymru.

Gyda chymorth nawdd Cadw, fe barhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu rheolaeth, ar ffurf Rheoli Datblygiad a Chyngor Cynllunio Strategol ar bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol ledled ardal Clwyd-Powys. Darparwyd hyn i awdurdodau cynllunio lleol a chenedlaethol, i ddatblygwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac i sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth hysbysiadau yngl~n 6,400 o geisiadau cynllunio, cynlluniau arfaethedig parthed priffyrdd a cheisiadau mwynau oddi wrth awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn. Gwiriwyd pob un o'r rhain i ganfod a oedd iddynt oblygiadau archeolegol o bwys. Ymgynghorwyd 'r Ymddiriedolaeth hefyd ar fwy na 340 o gynigion datblygu eraill y tu allan i'r system gynllunio, gan gynnwys y canlynol: ceisiadau Caniatd Henebion Rhestredig; cynllun Tir Gofal; ceisiadau Cynllun Grant Coetiroedd; cynlluniau cyfalaf a rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd; cynllun Bracken Challenge; ceisiadau trwydded sy'n effeithio ar eglwysi, yn bennaf yn esgobaethau Llanelwy ac Aberhonddu ac Abertawe; cynlluniau a roddwyd gerbron gan wahanol gwmnau gwasanaethau, gan gynnwys Dwr Cymru, Dwr Hafren-Trent a Chwmni Dwr Wrecsam, MANWEB, SWALEC, MEB, Nwy Prydain/Transco. Cynhaliwyd cyfarfodydd cysylltu rheolaidd hefyd gyda staff yr Awdurdod Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Parhawyd i neilltuo llawer o amser y staff i ymgynghoriadau ar Gynlluniau Dylunio Fforestydd, Cynlluniau Dylunio Fforestydd Preifat Tymor Hir, a Chynlluniau Dylunio Lleol Asiantaeth yr Amgylchedd (LEAP) roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn eu paratoi, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer afonydd Tefeidiad a Hafren Ganol.

Parhaodd awdurdodau lleol hefyd i ymgynghori 'r Ymddiriedolaeth ar nifer o ddogfennau cynllunio strategol, gan gynnwys ymgynghoriadau cychwynnol ar Gynlluniau Datblygu Unedol Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ddinbych. Ymhlith yr ymgynghoriadau eraill yn ystod y flwyddyn oedd cynigion Mynediad i Gefn Gwlad y DETR/Cynulliad Cenedlaethol. Rhoddwyd cymorth a chyngor hefyd i raglen LANDMAP Cyngor Sir Ddinbych ar y cyd Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Diolch i gymorth ariannol Cadw a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, fe barhawyd i ymrwymo'n helaeth i ddarparu cyngor archeolegol yn sgl ceisiadau i Tir Gofal, sef y cynllun amaeth-amgylchedd Cymru-gyfan newydd. Cyflwynwyd y rownd gyntaf o geisiadau fis Ebrill 1999. Yn ystod y flwyddyn cynigiwyd sylwadau ar oddeutu 85 o geisiadau ledled ardal Clwyd-Powys, a lluniwyd cynlluniau rheoli manwl o ran agweddau ar reoli tirlun hanesyddol rhyw 35 o ffermydd.

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymwneud chydlynu cynllun adrodd arbrofol Hynafion Cludadwy yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Mae amryw o gyrff yng Nghymru yn cefnogi'r cynllun, gan gynnwys y Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys mwy o fanylion ar y cynllun a goblygiadau'r Ddeddf Trysor.

Roedd penodi Swyddog Rheoli Archeolegol Clawdd Offa yn ddatblygiad pwysig yn ystod y flwyddyn. Ariennir y swydd gan Cadw ac English Heritage ar y cyd. Yn dilyn sefydlu'r swydd fis Awst 1999 bu'r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo Menter Clawdd Offa. Mae'r fenter yn cynnwys asiantaethau amrywiol o bobtu'r clawdd, ac o'r naill ben i'r llall, gan gynnwys English Heritage, Cadw, y Countryside Agency, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Amwythig, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Henffordd, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Gaerloyw, Gwasanaeth Rheoli Llwybr Clawdd Offa, a Chymdeithas Clawdd Offa. Mae yna dri nod bras i'r fenter _ codi ymwybyddiaeth o arwyddocd archeolegol y clawdd hynod hwn o'r canoloesoedd cynnar, hyrwyddo cynlluniau gwaith cadwraeth ymarferol ar y clawdd, ac annog ymagwedd mwy strategol ac integredig tymor hir tuag at reoli'r clawdd fel un henebyn. Mae'r prosiect yn cwmpasu'r holl adrannau o Glawdd Offa sy'n goroesi yng Nghymru a Lloegr, ynghyd Henebion Rhestredig eraill ar hyd hynt Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Cododd Menter Clawdd Offa yn sgl pryder cynyddol ynghylch dyfodol Clawdd Offa yn y tymor hir yng ngoleuni nifer o arolygon o gyflwr archeolegol y clawdd dros y degawd diwethaf. Er gwaethaf arwyddocd yr henebyn o ran tirlun a hanes, mae erydiad yn bygwth yr 80 milltir o glawdd sy'n goroesi. Ymhlith y ffactorau sy'n achosi erydiad mae mynediad ymwelwyr (yn gysylltiedig 'r Llwybr Cenedlaethol sy'n dilyn hynt y clawdd i raddau helaeth iawn), gweithgareddau amaethyddol, cynigion datblygiadau a difrod gan anifeiliaid yn tyllu. Mae maint a chwmpas daearyddol y clawdd yn gwaethygu problem cadwraeth, gan ei fod yn rhedeg trwy ddwy wlad ac ar draws amrywiaeth eang o wahanol gyd-destunau amgylcheddol modern. Yn ystod y flwyddyn rhoddwyd cychwyn ar waith cynllunio cadwraeth, rheolaeth ac atgyweiriad ar fwy nag 20 safle ar hyd y clawdd yng Nghymru a Lloegr, ac ar ddau Henebyn Rhestredig arall ar Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

RHEOLAETH A THREFNIADAETH

Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan fwrdd o Ymddiriedolwyr a etholir o blith aelodau'r Ymddiriedolaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyfarfu'r Ymddiriedolwyr ar bedwar achlysur yn ystod y flwyddyn ariannol, ym misoedd Ebrill, Mehefin a Medi 1999 a mis Ionawr 2000. Mae'r Pwyllgor Ymgynghorol yn cynnwys yr Ymddiriedolwyr, Aelodau eraill y mae'r Ymddiriedolwyr yn eu cyfethol, a sylwedydd y mae Cadw yn ei enwebu. Cyfarfu'r Pwyllgor Ymgynghorol ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn, ym mis Ebrill a Medi 1999. Gwahoddir enwebiadau aelodau oddi wrth awdurdodau lleol, amgueddfeydd, cymdeithasau hanesyddol ac archeolegol lleol, a chyrff eraill sydd diddordeb yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel rheol, bydd yr aelodau yn cyfarfod unwaith y flwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

FFYNONELLAU CYLLID

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar am y cymorth ariannol mae'n parhau i'w dderbyn oddi wrth Cadw, sef Asiantaeth Weithredol o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru. Mae Cadw yn cyfrannu tuag at gostau gweinyddol yr Ymddiriedolaeth, o fewn amodau cymorth y Cynulliad Cenedlaethol i Fudiadau'r Sector Gwirfoddol. Ariannwyd costau swydd Swyddog Archeolegol Clawdd Offa gan Cadw ac English Heritage ar y cyd. Daw'r rhan fwyaf o weddill incwm yr Ymddiriedolaeth ar ffurf cymorth grant a dyfarniadau contract oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gwariwyd hwn i raddau helaeth ar ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol ac ar gyfer prosiectau maes penodol neu brosiectau penodol yn y swyddfa, o fewn rhaglen waith flynyddol yr Ymddiriedolaeth.

YMDDIRIEDOLWYR, Y PWYLLGOR, AELODAU, STAFF AC YMGYNGHORWYR 1999/00

Ymddiriedolwyr/Cyfarwyddwyr y Cwmni
Mrs F M Lynch Llewellyn, Cadeirydd, Prifysgol Cymru, Bangor
Dr J L Davies, Is-Gadeirydd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Dr C J Arnold, Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Mr D F Petch, Prifysgol Lerpwl
Mr D W L Rowlands, Llanerfyl

Pwyllgor Ymgynghorol
Dr S H R Aldhouse-Green, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd
Mr K S Brassil, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
Mr P Dorling, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mr D M Evans, Cymdeithas Hynafieithwyr Llundain
Mrs F Gale, Cyngor Sir Ddinbych
Mr S Grenter, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mr D F Keast, Cyngor Sir Powys
Mrs Hilary Malaws, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Dr S Rees, sylwedydd i Cadw: Welsh Historic Monuments
Mr C J Spurgeon, Aberystwyth

Aelodau
Miss J Ashton, Cymdeithas Sir Faesyfed
Y Cynghorydd G R Banks, Cyngor Sir Powys
Miss E Bredsdorff, Amgueddfa Powysland
Mr R Brewer, Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Y Cynghorydd Mrs S D Francis, Cyngor Sir Powys
Y Cynghorydd Mrs B Greenaway, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Y Cynghorydd Mr J H Hughes, Cyngor Sir Powys
Mr C R Musson, Cyn Gyfarwyddwr, YACP
Mrs N P Parker, Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint
Mrs J Pierson Jones, Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru
Mrs M T Read, Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych
Y Cynghorydd K A Stevens, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Staff
Tm Gweinyddol
Mr W J Britnell, Cyfarwyddwr/Ysgrifennydd y Cwmni
Mrs J E Britnell, Swyddog Gweinyddol
Mrs M Godsell, Cynorthwy-ydd Cyllid

Tm Curadurol
Mr C H R Martin, Prif Swyddog Curadurol
Mr I Bapty, Swyddog Clawdd Offa
Mr P Copleston, Swyddog Rheoli Treftadaeth
Ms J L Mitcham, Swyddog Cofnodion Safleoedd a Henebion
Ms W J Owen, Uwch Gynorthwy-ydd Prosiect/Cynorthwy-ydd RhD
Mr M Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad

Tm Prosiect
Mr R J Silvester, Is-Gyfarwyddwr
Mr N W Jones, Swyddog Prosiectau
Mr W G Owen, Uwch Gynorthwy-ydd Prosiect
Mr R Hankinson, Cynorthwy-ydd Prosiect

Cyfrifyddion
Tranter Lowe, Oakengates

Archwilwyr
Whittingham Riddell, Y Trallwng

Cyfreithwyr
Garrard Mitchell, Amwythig