CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Adroddiadau blynyddol

Adroddiad Blynyddol 2000/01


Adroddiad Blynyddol 2000/01

RHAGARWEINIAD

Cyflwyna'r Ymddiriedolwyr eu hadroddiad blynyddol a'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben 31 Mawrth 2001 yn y fformat a argymhellwyd gan y Comisiwn Elusennau (SORP 1995). Bydd yr adroddiad blynyddol a'r cyfrifon yn cael eu cyflwyno yn y fformat diwygiedig a argymhellwyd gan y Comisiwn Elusennol (SORP 2000) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cwmni cyfyngedig gan warant a heb fod ‚ chyfalaf cyfrannau yw Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (Rhif Cofrestru 1212455) ac mae'n Elusen Gofrestredig (Rhif Cofrestru 508301). Y Memorandum and Articles of Association, fel yr ymgorff-orwyd hwy ar 14 Mai 1975, yw'r ddogfen lywodraethol.

 

Prif Weithgareddau

Addysgu'r cyhoedd ynghylch archeoleg trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol i'r gymuned yw prif weithgarwch yr Ymddiriedolaeth.

 

 

CRYNODEB O AMCANION YR YMDDIRIEDOLAETH

Un o bedair Ymddiriedolaeth Archeolegol a sefydlwyd yng Nghymru yn y 1970au yw'r Ymddiriedolaeth. Mae'n gwmni cyfyngedig ac yn elusen gofrestredig fel ei gilydd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cydweithio'n agos ‚ chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i gofnodi, dehongli a diogelu pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae'n gweithredu'n bennaf yn ardal Clwyd-Powys, sef sir Powys a'r ardaloedd awdurdod lleol oedd gynt yng Nghlwyd - Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a rhan ddwyreiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

 

CRYNODEB O WEITHGAREDDAU'R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN

 

Ymchwilio ac archwilio archeolegol

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau yn y maes, wrth ymateb i ddatblygiadau arfaethedig neu er mwyn estyn y cofnod archeolegol fel rheol. Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y rhain yn cynnwys cloddiadau adfer, cofnodi adeiladau, asesiadau penbwrdd, gwerthusiadau maes, arolygon maes a chynlluniau goruchwylio. Rhoddir enghreifftiau isod o'r mathau o brosiectau yr ymgymerwyd ‚ hwy yn ystod y flwyddyn. Defnyddir enwau'r hen siroedd Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog er hwylustod yn y testun canlynol. Amharwyd yn anochel ar gynnydd nifer o brosiectau gwaith maes tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol gan Glwy'r Traed a'r Genau, a ddechreuodd ym Mhowys fis Chwefror 2001.

 

Roedd prosiectau dan nawdd Cadw yn cynnwys y canlynol, a nifer ohonynt yn dilyn patrwm y blynyddoedd ariannol blaenorol: Prosiect EglwysiCopÔo a lledaenu adroddiadau unigol ac arolygon rhanbarthol ar archeoleg tua 260 o eglwysi cyn-Fictoraidd yn ardal Clwyd-Powys. Dosbarthwyd copÔau o'r rhain i esgobaethau ac eglwysi unigol, Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi yr Eglwys yng Nghymru, awdurdodau lleol, Cadw, a'r Comisiwn Brenhinol. Aneddiadau Gwledig Diffaith Dyma bumed flwyddyn yr arolwg cyflym o aneddiadau diffaith canoloesol a rhai diweddarach at ddibenion cadwraeth ac estyn cofnodion, dan nawdd menter Cymru-gyfan. Dyma hefyd oedd y flwyddyn olaf. Roedd gwaith y flwyddyn yn cynnwys ymweliadau ‚ mwy na 460 o safleoedd yn Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn, Sir Ddinbych a dwyrain Conwy.Abaty Cwm‑hirCyfranodd yr Ymddiriedolaeth at adroddiad a gyhoeddwyd ynghylch olion yr abaty Sistersaidd yn Abaty Cwm-hir, Sir Faesyfed. Roedd yr adroddiad rhoi crynodeb o'r arolwg a gynhaliwyd yn ystod blynyddoedd ariannol cynt. Roedd yn trafod yr olion sy'n sefyll, arolwg o'r awyr ac arolwg geoffisegol, a gwasgariad amryw o dameidiau pensaernÔol yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd. Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yng Ngogledd Sir FaesyfedArolwg cyflym o oddeutu 270 o safleoedd, gan gynnwys beddrodau crynion, carneddau cylch, meini hirion, cylchoedd cerrig a rhesi cerrig, at ddibenion estyn y Cofnod Henebion Rhestredig. Roedd hyn yn parhau ‚'r gwaith a gyflawnwyd yn rhan uchaf Dyffryn Hafren ym 1997/98, yn Sir Ddinbych a Chonwy ym 1998/99, ac yn Sir y Fflint a Wrecsam ym 1999/2000. Cafodd cyfanswm o fwy na 50 o safleoedd eu hargymell ar gyfer eu rhestru. Tirluniau hanesyddolFel rhan o fenter newydd Cymru-gyfan, fe ymgymerwyd ‚ nodwedduCanol Dyffryn Gwyrhwng Talgarth a'r Gelli Gandryll, un o'r ardaloedd Tirlun Hanesyddol a ddiffiniwyd yn Rhan Un Cofrestr Tirluniau Hanesyddol a gynhyrchir gan Cadw ar y cyd ‚ Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac ICOMOS UK. Diffiniwyd un ardal ar bymtheg ‚ thirlun nodwedd hanesyddol yn y ddwy ardal tirlun hanesyddol, gan gynnwys anheddiad, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a chyfathrebu, diwydiant, amddiffynfa, safle angladdol, cymdeithas grefyddol, a phresenoldeb tirluniau addurnol a godidog. Mae'r prosiect yn cael ei gynnal ochr yn ochr ‚ rhaglen LANDMAP CCGC y mae awdurdodau lleol Cymru yn ei chynnal.Rhagwelir y bydd yr astudiaethau yn darparu gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol a fydd yn cyfrannu at amrywiol fentrau rheoli tirlun. Cyflwynwyd copÔau o adroddiad ar y prosiect i awdurdodau cynllunio lleol, Cadw a'r Comisiwn Brenhinol, a'r gobaith yw y bydd crynodeb ohono ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth maes o law.Castell Blaen Llynfi Cyhoeddwyd adroddiad a oedd yn crynhoi hanes ac archeoleg un o gestyll cerrig canoloesol llai adnabyddus Sir Frycheiniog. Fe fydd hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfer ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. Ymgymerwyd ‚'r gwaith mewn cysylltiad ‚ rhaglen o waith cadwraeth yr oedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ei gynnal ‚ chymorth ariannol Cadw.

 

Roedd prosiectau dan nawdd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:AwyrluniauO ganlyniad i gymorth grant, fe lwyddodd yr Ymddiriedolaeth i gynnal arolwg o'r awyr o oddeutu 100 o Henebion Hynafol Rhestredig a safleoedd eraill yn yr ardal rhwng Afon Llugwy ac Afon Gwy, hyd at Landrindod, Sir Faesyfed yn y gorllewin. Menter UwchdiroeddCynhyrchu crynodeb o'r arolwg uwchdiroedd a gynhaliwyd fel rhan o'r fenter genedlaethol hon. Bydd yn ymddangos ar wefan y Comisiwn Brenhinol. Hefyd, cynhyrchwyd astudiaeth dichonolrwydd ar gyfer cyhoeddi monograff o'r gwaith hwn.

 

Roedd prosiectau dan nawdd cyrff eraill yn cynnwys y canlynol: Eglwys Sant Cyngar, Yr Hob, WrecsamDatgelodd gwaith cloddio a chofnodi archeolegol dystiolaeth newydd ynglyn ‚ hanes a datblygiad strwythurol yr eglwys, ar ran cyngor eglwys y plwyf, yn ystod rhaglen atgyweirio helaeth yn yr eglwys bwysig ganoloesol hon. Yn ystod y prosiect darganfuwyd rhan o groes garreg, nad oedd neb yn gwybod amdani cynt. Roedd hon yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif. Croes Cricin, Rhuddlan, Sir DdinbychYmgymerwyd ‚ gwaith gwerthuso ar safle sylfaen y groes ganoloesol hon ar ran Cadw a Chyngor Sir Ddinbych fis Chwefror 2000, cyn bwrw ymlaen ‚ gwaith cadwraethol. Llandrinio, Sir DrefaldwynMae asesu a chloddio ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd ar arglawdd amddiffyn rhag llifogydd wedi cadarnhau presenoldeb castell mwnt a beili canoloesol, wedi ei erydu'n ddifrifol, sef 'Domen Gastell', ychydig i lawr yr afon o Gei'r Trallwng. Amlygodd y gwaith cloddio fod mwnt y castell pridd canoloesol wedi'i ddefnyddio fel ffynhonnell deunyddiau ar gyfer adeiladu'r arglawdd yn hwyr yn y 18fed ganrif. Rhos Trannon, Carno, Sir DrefaldwynYmgymerwyd ‚ gwaith cloddio ar raddfa fach ‚ chymorth nawdd National Windpower trwy Gyngor Sir Powys, ac ‚ chymorth tri archeolegydd o ddinas Zwolle yn yr Iseldiroedd. Roedd y rhaglen yn ein galluogi i werthuso chwe safle archeolegol y cafwyd eu bod yn rhan o safle angladdol a defodol cynhanesyddol helaeth o fewn ardal y fferm wynt bresennol. Fel rhan o'r prosiect, bu staff Prifysgol Llanbedr Pont Steffan hefyd yn asesu potensial palaeoamgylcheddol ardal y fferm wynt.Eglwys Sant Trillo, Llandrillo-yn-Rhos, ConwyCyflawnwyd gwaith cofnodi archeolegol ar ran cyngor eglwys y plwyf wrth atgyweirio waliau allanol yr eglwys, a oedd yn cynnwys cofnod manwl o'r rhodfa yn dyddio o'r 13eg ganrif a gaewyd ar ochr ogleddol yr eglwys, cofnodi tameidiau pensaernÔol a cherfluniol yn wal ddeheuol corff yr eglwys, ynghyd ag ailystyried hanes strwythurol yr adeilad. Gwarchodfeydd Natur Sir DrefaldwynCynhaliwyd asesiad archeolegol manwl o'r 16 o warchodfeydd natur mae Cymdeithas Byd Natur Sir Drefaldwyn yn berchen arnynt er mwyn cynorthwyo yn y broses o lunio cynlluniau rheoli ar gyfer pob gwarchodfa.Yr Hen Felin, Pont Faen, Sir FrycheiniogArolwg manwl o'r adeilad melin ddwr gynt lle roedd yd yn cael ei falu, ac a ddefnyddiwyd yn ddiweddar ar gyfer paratoi bwydydd anifeiliaid yn ystod y 1950au, cyn iddo gael ei drosi yn dy. Coedwig Warren, Sir FaesyfedAsesiad archeolegol ar ran y Fenter Goedwigaeth er mwyn cynorthwyo ‚ rheoli'r goedwig, sydd i'r gorllewin o Faesyfed, yn y dyfodol.Arolwg Amgylchoedd Afon Efyrnwy, Sir DrefaldwynArolwg systematig parhaus o'r uwchdiroedd o amgylch Llyn Llanwddyn ar ran Dwr Hafren Trent, sydd wedi amlygu tri beddrod crwn na chofnodwyd ynghynt, dau safle oedd yn llwyfannau adeiladu yn y canoloesoedd neu gyfnod diweddarach, a nifer o gerrig terfyn. Llanrhos, Conwy Asesiad archeolegol mewn ymateb i gynigion i ehangu'r fynwent gerllaw Eglwys y Santes Fair, gan gynnwys arolwg geoffisegol o olion archeolegol a allai fod wedi'u claddu yno.

 

Addysg a chyhoeddiadau

Rydym yn manteisio ar bob cyfle i wneud gwaith addysgol, er mai cyfran cymharol fechan o'r cymorth grant y mae'r Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn ar hyn o bryd sy'n cael ei ddyrannu yn benodol at y diben hwn. Sut bynnag, mae holl weithgareddau'r Ymddiriedolaeth yn cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at ddealltwriaeth ehangach o amgylchedd hanesyddol ardal Clwyd-Powys. Bu'r gwaith datblygu yn parhau arwefanyr Ymddiriedolaeth, ac mae ei chyfeiriad bellach wedi newid i www.cpat.org.uk. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a'i gweithgareddau, ac mae'n parhau i fod yn bwysig wrth roi cyhoeddusrwydd i weithgareddau'r Ymddiriedolaeth a'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig i'r gymuned.

 

Cynhyrchwyd mwy na 60 o adroddiadau prosiect a thema yn ystod y flwyddyn, i'w dosbarthu i restr gyfyngedig o bobl. Rhoddir crynodeb o adroddiadau byr ar brosiectau unigol yr Ymddiriedolaeth yn Archaeoleg yng Nghymru, a gyhoeddir yn flynyddol gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig: Cymru, yn ogystal ag mewn nifer o gyfnodolion cenedlaethol, gan gynnwys Britannia a Medieval Archaeology. Ymhlith cyhoeddiadau eraill staff yr Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn roedd adroddiadau ar ddarganfyddiadau diweddar yng nghyffiniau Castell Collen, Llandrindod (cyhoeddwyd yn Studia Celtica) ac adroddiad ar Aneddiadau Gwledig Diffaith canoloesol neu ddiweddarach (cyhoeddwyd mewn monograff yn y gyfres British Archaeological Reports).

 

Cyngor a gwybodaeth archeolegol

Gyda chymorth nawdd y Comisiwn Brenhinol, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnal archif a chofnod cyfrifiadurol o safleoedd, darganfyddiadau, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, sef Cofnod Safleoedd a Henebion Rhanbarthol (CSH), sy'n cwmpasu Powys, dwyrain Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Prif ddibenion y cofnod yw darparu cyngor ar oblygiadau archeolegol polisÔau a datblygiadau cynllunio a chyngor ar reoli safleoedd a thirluniau archeolegol. Mae hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell ar gyfer mentrau sy'n ymwneud ‚ chadwraeth, dehongli a chyflwyno archeoleg a thirluniau hanesyddol Cymru. 44,556 oedd cyfanswm yr eitemau ym mhrif gofnod cyfrifiadurol CSH ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. O'r rheini roedd oddeutu 7,247 o gofnodion newydd wedi'u hychwanegu yn ystod y flwyddyn, wrth i wybodaeth newydd gael ei chasglu o waith maes diweddar ac o ffynonellau cyhoeddedig. Mae'r awdurdodau cynllunio yn ardal Clwyd-Powys - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - bellach wedi mabwysiadu'r cofnod yn ffurfiol at ddibenion cynllunio. Defnyddio CSH trwy'r Rhyngrwyd Arweiniodd un o'r prif fentrau yn ystod y flwyddyn at ddefnyddio CSH trwy gyfrwng y Rhyngrwyd. Yn dilyn trafodaethau ‚ Gwasanaeth Data Archeoleg (elfen o'r Gwasanaeth Data Celfyddydau a Dyniaethau), daeth cronfa ddata helaeth o gofnodion yn ardal Clwyd-Powys ar gael trwy'r catalog ar-lein ArchSearch (www.ads.ahds.ac.uk) yn ystod yr hydref 2000. Yn ogystal ‚ hyn, daeth mynegai o wefannau ar gael trwy gronfa ddata CARN o wefannau Cymreig roedd y Comisiwn Brenhinol yn eu gwesteio (www.rcahmw.org.uk). Ar gyfer ymchwilio goblygiadau cynllunio y bydd y CSH yn cael ei ddefnyddio fwyaf o hyd, er i 396 o ymholiadau eraill godi yn ystod y flwyddyn parthed dibenion eraill, gan gynnwys ymchwil breifat. Codwyd nifer cynyddol o ymholiadau dros yr e-bost, ac o ganlyniad i hyn fe ychwanegwyd ffurflen ymholiadau ar-lein at wefan yr Ymddiriedolaeth yn ystod y flwyddyn.

 

Gyda chymorth nawdd Cadw, fe barhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor Rheoli Datblygiad ar bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol ledled ardal Clwyd-Powys. Darparwyd y cyngor hwn i awdurdodau cynllunio lleol a chenedlaethol, i ddatblygwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac i sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth hysbysiadau ynglyn ‚ 5,800 o geisiadau cynllunio, cynlluniau arfaethedig parthed priffyrdd a cheisiadau mwynau oddi wrth awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn. Gwiriwyd pob un o'r rhain i ddarganfod a oedd iddynt oblygiadau archeolegol o bwys. Ymgynghorwyd ‚'r Ymddiriedolaeth hefyd ar oddeutu 330 o gynigion datblygu eraill y tu allan i'r system gynllunio, gan gynnwys y canlynol: ceisiadau Caniat‚d Henebion Rhestredig; cynlluniau rheoli Ardaloedd Amgylcheddol Sensitif; ceisiadau i'r Cynllun Grant Coetiroedd; Cynlluniau Cynllunio Coedwigoedd; cynlluniau cyfalaf a rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd; cynlluniau a gynigwyd gan amrywiol gwmnÔau gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys Dwr Cymru, Dwr Hafren-Trent a Chwmni Dwr Wrecsam, MANWEB, SWALEC, MEB, a Nwy Prydeinig/Transco. Cynhaliwyd cyfarfodydd cysylltu rheolaidd hefyd ‚ staff yr Awdurdod Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Roedd gwaith achos nodedig yn ystod y flwyddyn yn cynnwys Llestri Gleision Eglwys yr Hob, Bwcle a Thy Peiriant Gwaith Glo LŰn Bannel (Sir y Fflint), Einsiob a Llanandras (Sir Faesyfed), Ffrith (Wrecsam), pibell nwy Talerddig i Fachynlleth a fferm wynt arfaethedig Mynydd y Cemmaes, Y Trallwng ac amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Ffordd Amwythig a Llandrinio (Sir Drefaldwyn), Melin Pontfaen a'r Ffordd Gylchol Fewnol arfaethedig yn Aberhonddu (Sir Frycheiniog)

 

Menter Clawdd OffaSefydlwyd y fenter hon, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth dan nawdd ar y cyd oddi wrth Cadw ac English Heritage, yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol mewn ymateb i bryderon cynyddol am y dirywiad yng nghyflwr y clawdd hynod hwn. Mae gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2000/01 wedi cynnwys cadwraeth ymarferol, rheoli datblygiadau a chyngor cynllunio, a chyngor rheoli strategol. Datblygwyd y cynigion ar gyfer gwaith cadwraeth ymarferol mewn 39 safle yng Nghymru a Lloegr, gan effeithio ar oddeutu 10 cilometr o'r clawdd. Mae'r gwaith wedi dechrau ar 13 o'r safleoedd hyn yn ystod y flwyddyn. Roedd gwaith cadwraeth arall yn cynnwys dau henebyn archeolegol arall ar hynt Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a darn o Glawdd Wat yng ngogledd Cymru. Agwedd arwyddocaol arall ar y gwaith datblygu strategol yn ystod y flwyddyn oedd paratoiDatganiad Cadwraeth Clawdd Offa sy'n amlinellu arwyddoc‚d yr henebyn, y problemau y mae erydiad yn ei achosi i'r clawdd, a'r egwyddorion cadwraethol a fydd yn rheoli ei gadwraeth yn y dyfodol. Mae menter Clawdd Offa wedi gwneud cynnydd da yn ystod blwyddyn gyntaf ei bodolaeth. Yn ogystal ‚ llwyddo wrth gynllunio a gweithredu gwaith cadwraeth ymarferol ar hyd y clawdd, cafwyd dechreuad arwyddocaol wrth ddatblygu strategaeth cadwraeth ar gyfer yr henebyn diddorol hwn.

 

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru a thirfeddianwyr mewn perthynas ‚ cheisiadau i Tir Gofal, y cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru-gyfan a ddechreuodd ym 1999. Prif ddiben y gwaith yw darparu cyngor rheolaethol manwl ar nodweddion sydd o arwyddoc‚d archeolegol neu hanesyddol ar y ffermydd sy'n ymuno ‚'r cynllun. Ymhlith y tasgau Rheoli Treftadaeth eraill yr ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth ‚ hwy trwy nawdd Cadw oedd darparu cyngor cynllunio strategol, yn enwedig mewn perthynas ‚ Chynlluniau Datblygiad Unedol. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymwneud ‚ chynllun Hynafiaethau Symudol y mae Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn ei gefnogi yng Nghymru.

 

RHEOLAETH A THREFNIADAETH

Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan fwrdd o Ymddiriedolwyr a etholir o blith aelodau'r Ymddiriedolaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyfarfu'r Ymddiriedolwyr ar bedwar achlysur yn ystod y flwyddyn ariannol, ym misoedd Ebrill, Mehefin a Medi 2000 a mis Ionawr 2001. Mae'r Pwyllgor Ymgynghorol, sy'n cynnwys yr Ymddiriedolwyr, Aelodau eraill y mae'r Ymddiriedolwyr yn eu cyfethol, a sylwedydd y mae Cadw yn ei enwebu, wedi cyfarfod ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn, ym misoedd Ebrill a Medi 2000. Gwahoddir enwebiadau ar gyfer aelodau'r Ymddiriedolaeth oddi wrth awdurdodau lleol, amgueddfeydd, cymdeithasau hanesyddol ac archeolegol lleol, a chyrff eraill sydd ‚ diddordeb yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel rheol, bydd yr aelodau yn cyfarfod unwaith y flwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

FFYNONELLAU CYLLID

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar am y cymorth ariannol mae'n parhau i'w dderbyn oddi wrth Cadw, sef Asiantaeth Weithredol o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru. Mae Cadw yn cyfrannu tuag at gostau gweinyddol yr Ymddiriedolaeth, o fewn amodau cymorth y Cynulliad Cenedlaethol i Fudiadau'r Sector Gwirfoddol. Daw'r rhan fwyaf o weddill incwm yr Ymddiriedolaeth ar ffurf cymorth grant a dyfarniadau contract oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat, Neilltuir hwn bron yn gyfangwbl ar gyfer darparu gwasanaethau archeolegol ac ar gyfer prosiectau maes penodol neu brosiectau penodol yn y swyddfa, o fewn rhaglen waith flynyddol yr Ymddiriedolaeth.

 

 

 

YMDDIRIEDOLWYR, Y PWYLLGOR, AELODAU, STAFF AC YMGYNGHORWYR 2000/01

 

Ymddriedolwyr/Cyfarwyddwyr y Cwmni

Mrs F M Lynch Llewellyn, Cadeirydd, Prifysgol Cymru, Bangor

Dr J L Davies, Is-Gadeirydd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Dr C J Arnold, Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Mr D F Petch, Prifysgol Lerpwl

Mr D W L Rowlands, Llanerfyl

 

Pwyligor Ymgynghorol

Dr S H R Aldhouse-Green, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd

Mr K S Brassil, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Mr P Dorling, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dr E Plunkett Dillon, The National Trust

Mr D M Evans, Cymdeithas Hynafieithwyr Llundain

Mrs F Gale, Cyngor Sir Ddinbych

Mr S Grenter, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mr D F Keast, Cyngor Sir Powys

Mrs Hilary Malaws, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Dr S Rees, sylwedydd i Cadvv: Welsh Historic Monuments

Mr C J Spurgeon, Aberystwyth

 

Aelodau

Miss J Ashton, Cymdeithas Sir Faesyfed

Y Cynghorydd G R Banks, Cyngor Sir Powys

Miss E Bredsdorff, Amgueddfa Powysland

Mr R Brewer, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Y Cynghorydd Mrs S D Francis, Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Mrs B Greenaway, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Y Cynghorydd Mr J H Hughes, Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Mrs I B Lewis, Cyngor Sir Powys

Mr C R Musson, Cyn Gyfarwyddwr, YACP

Mrs N P Parker, Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint

Mrs J Pierson Jones, CyngorAmgueddfeyddyng Nghymni

Mrs M T Read, Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych

Y Cynghorydd P C Evans, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Staff

Tim Gweinyddol

Mr W J Britnell, CyfarwyddwrlYsgrifennydd y Cwmni

Mrs J E Britnell, Swyddog Gweinyddol

Mrs M Godsell, Cynorthwy-ydd Cyllid

 

TI'm Curadurol

Mr C H R Martin, Prif Swyddog Curadurol

Mr I Bapty, Swyddog Clawdd Offa

Mr P Copleston, Swyddog Rheoli Treftadaeth

Ms J M Mitcham, Swyddog Cofnodion Safleoedd a Henebion

Mr M Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad

Ms C Waller, Heritage [Mai-Rhagfyr 2000]

Ms A Kennedy [Mawrth 2001]

 

Tim Prosiect

Mr R J Silvester, Is-Gyfarwyddwr

Mr N W Jones

Mr W G Owen

Ms W J Owen

Mr R Hankinson

 

Cyfrifyddion

Tranter Lowe, Oakengates

 

Archwilwyr

Whiftingham Riddell, Y Trallwng

 

Cyfreithwyr

Turnbull Garrard, Amwythig

 

Bancwrwyr

National Westminster Bank, Broad Street, Y Trallwng