Cymraeg / English
|
|
Adroddiad Blynyddol 2001/02RHAGARWEINIAD Cwmni cyfyngedig gan warant a heb fod â chyfalaf
cyfrannau yw Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (Rhif Cofrestru 1212455)
ac mae’n Elusen Gofrestredig (Rhif Cofrestru 508301). Y Memorandum and
Articles of Association, fel yr ymgorfforwyd hwy ar 14 Mai 1975, yw’r
ddogfen lywodraethol. Prif Weithgareddau Addysgu’r cyhoedd ynghylch archeoleg trwy
ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol i’r gymuned yw prif weithgarwch yr
Ymddiriedolaeth. Yr Ymddiriedolwyr a buddiannau’r Ymddiriedolwyr Mae Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys hefyd yn
gweithredu fel cyfarwyddwyr cwmni cyfyngedig. Gan nad oes gan y cwmni unrhyw
gyfalaf cyfrannau, nid yw mater y cyfranddaliadau a ddelir gan y cyfarwyddwyr
yn berthnasol. Etholwyd yr Ymddiriedolwyr canlynol yn y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol a gynhaliwyd ar 14 Medi 2001, ac fe fuont yn eu swyddi trwy gydol
blwyddyn ariannol 2001/02: Mrs F M Lynch Llewellyn (Cadeirydd) Dr J L Davies
(Is-gadeirydd) Mr H H Jones Mr D R Morgan Mr C R Musson Mr D F Petch Mr D W L Rowlands Datganiad o gyfrifoldebau’r
Cyfarwyddwyr Mae’n ofynnol i’r cyfarwyddwyr, yn unol â
chyfraith cwmnïau, baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol,
sy’n rhoi darlun cywir a theg o gyflwr y cwmni ac o elw a cholled y cwmni ar
gyfer y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’n ofynnol
i’r cyfarwyddwyr: ddethol polisïau cyfrifyddu addas ac yna’u defnyddio’n gyson;
wneud penderfyniadau ac amcangyfrifon sy’n rhesymol a doeth; baratoi
datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol oni bai ei bod yn amhriodol
tybio y bydd y cwmni’n parhau i fod mewn busnes. Mae’r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion
cyfrifyddu priodol sy’n datgelu, â chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa
ariannol y cwmni, i’w galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn
cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 1985. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion
y cwmni ac felly hefyd am gymryd camau rhesymol i rwystro a datgelu twyll ac
arferion afreolaidd eraill. CRYNODEB O AMCANION YR YMDDIRIEDOLAETH Un o bedair Ymddiriedolaeth Archeolegol a
sefydlwyd yng Nghymru yn y 1970au yw’r Ymddiriedolaeth. Mae’n gwmni cyfyngedig
ac yn elusen gofrestredig. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydweithio’n agos â chyrff
cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i gofnodi, dehongli
a diogelu pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae’n gweithredu’n bennaf yn
ardal Clwyd-Powys yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, sef ardaloedd
presennol Powys, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Wrecsam a rhan ddwyreiniol Conwy,
er ei bod hefyd yn cynnal gwaith prosiect mewn siroedd cyfagos eraill yng
Nghymru a Lloegr o bryd i’w gilydd. CRYNODEB O WEITHGAREDDAU’R
YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN Ymchwilio ac archwilio
archeolegol Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymgymryd ag
amrywiaeth eang o brosiectau yn y maes, mewn ymateb i ddatblygiadau arfaethedig
neu er mwyn estyn y cofnod archeolegol fel rheol. Yn yr un modd ag yn y
blynyddoedd blaenorol, roedd y rhain yn cynnwys cloddiadau adfer, cofnodi
adeiladau, asesiadau pen-bwrdd, gwerthusiadau maes, arolygon maes a chynlluniau
goruchwylio. Rhoddir enghreifftiau isod o’r mathau o brosiectau yr ymgymerwyd â
hwy yn ystod y flwyddyn. Defnyddir enwau’r hen siroedd, sef Sir Frycheiniog,
Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn er hwylustod yn y testun canlynol. Amharwyd yn
anochel ar gynnydd nifer o brosiectau gwaith maes ar ddechrau’r flwyddyn
ariannol oherwydd clwy’r traed a’r genau. Mae manylion y prosiectau dan nawdd Cadw i’w gweld isod, nifer ohonynt
yn dilyn patrwm y blynyddoedd ariannol blaenorol ac yn rhan o’r rhaglen estyn y
cofnod. Mae’r Ymddiriedolaeth yn arbennig o ddiolchgar i Cadw am gytuno i
ganiatáu nifer o amrywiadau i’r rhaglen y cytunwyd arni am y flwyddyn, a hynny
oherwydd clwy’r traed a’r genau a ddechreuodd yn union cyn dechrau’r flwyddyn
ariannol. O ganlyniad, rhoddwyd mwy o bwyslais ar astudiaethau pen-bwrdd, a’r
gobaith yw y bydd gwaith maes yn dilyn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf: Aneddiadau
Gwledig Diffaith Cynhyrchu testun a darluniau ar gyfer
cyhoeddiad sydd ar y gweill a fydd yn crynhoi’r gwaith maes a wnaed ar y
prosiect yma ledled Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Safleoedd Angladdol
a Defodol Cynhanesyddol Astudiaeth pen-bwrdd o tua 1,680 o
safleoedd yn ne Sir Faesyfed, Dyffryn Dyfi yn Sir Drefaldwyn a Sir Frycheiniog.
Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn feddrodau crynion o’r Oes Efydd. Disgwyliwn
ymweld â’r rhan fwyaf o’r safleoedd, os nad pob un, yn ystod y 3 blynedd nesaf,
â’r bwriad o gofnodi eu cyflwr presenïol, ac o gynnig argymhellion yngl~n â’u
cofnodi. Tirluniau Hanesyddol Darlunio nodweddion
tirlun hanesyddol Mynydd Hiraethog yn ôl y diffiniad a geir yn Rhan Dau y
Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, fel rhan o fenter Cymru gyfan barhaus.
Diffiniwyd cyfanswm o 15 ardal nodweddion tirlun hanesyddol ar sail defnydd tir
yn y gorffennol a’r presennol. Casgliadau Mân-dameidiau Lithig Astudiaeth
pen-bwrdd yn ymwneud â nodi a chategoreiddio darganfyddiadau fflint a charreg
yn ardal Clwyd-Powys, fel rhan o fenter ehangach yn ymwneud ag aneddiadau
cynhanesyddol yng Nghymru. Crëwyd cronfa ddata yn rhestru lleoliadau’r
darganfyddiadau unigol a lleoliadau darganfyddiadau gwasgaredig, yn dyddio’n
bennaf o gyfnodau’r Oesoedd Cerrig Cynnar a Diweddar a’r Oes Efydd. Cloddiau
Byr yn ffindir Cymru Astudiaeth pen-bwrdd yn bennaf, yn ymwneud â
chasglu cofnodion yngl~n â chloddiau byr a gwrthgloddiau llinol eraill ar y
gororau. Plotiwyd yr holl gloddiau byr yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain
Cymru o gynlluniau oedd yn bodoli eisoes, a’u gosod ar GIS i ddarparu dyfais ar
gyfer dadansoddiadau pellach a gwaith maes y disgwylir ei gynnal yn ystod
2002/03. Safleoedd Eglwysig y Canol Oesoedd Cynnar Astudiaeth pen-bwrdd ragarweiniol o
safleoedd eglwysig y canol oesoedd cynnar yn ardal Clwyd-Powys fel rhan o
fenter Cymru-gyfan newydd. Mae ystod sylweddol ond amrywiol o wybodaeth ar gael
yngl~n â’r safleoedd hyn, sy’n cynnwys safleoedd eglwysi a chapeli cynnar,
safleoedd mynachdai a meudwyfeydd, cerrig ag arysgrifau neu groesau arnynt,
croesau unigol a ffynhonnau sanctaidd. Glan afon Tal-y-bont Gwaith
maes, sef cofnodi’r strwythurau pren o’r oesoedd canol a ddaeth i’r golwg ar
lan erydog afon Hafren. Mae dyddio ar sail cyfrif cylchoedd yn y pren wedi
dangos mai oddeutu 1175 y cawsant eu hadeiladu. Ffyrdd Rhufeinig Astudiaeth pen-bwrdd gychwynnol o dystiolaeth
a gofnodwyd ynghylch ffyrdd Rhufeinig yn ardal Clwyd-Powys lle nad oes ond
rhannau ohonynt wedi’u cofnodi. Disgwyliwn ymweld â detholiad o’r safleoedd hyn
mewn blwyddyn ariannol ddiweddarach. Roedd prosiectau dan nawdd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a
Hanesyddol yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:
Awyrluniau O ganlyniad i gymorth grant, fe lwyddodd
yr Ymddiriedolaeth i gynnal arolwg o’r awyr yn ardal Clwyd-Powys gan
ganolbwyntio ar Henebion Hynafol Rhestredig a nodi a chofnodi safleoedd na
chawsant mo’u nodi cynt. Menter Uwchdiroedd Cynhyrchu crynodeb o’r arolwg uwchdiroedd a
gynhaliwyd fel rhan o’r fenter genedlaethol hon. Bydd yn ymddangos mewn
monograff y mae’r Comisiwn Brenhinol yn bwriadu ei gyhoeddi. Cynhaliwyd llawer o brosiectau gwaith maes a phen-bwrdd yn ystod y
flwyddyn dan nawdd cyrff eraill, gan gynnwys y canlynol: Peiriandy
Weindio’r Lofa, Lôn Bannel, Bwcle
Astudiaeth pen-bwrdd a chofnod adeiladau manwl o’r peiriandy weindio a
oedd unwaith yn perthyn i lofeydd Bwcle, cyn ei drosi, ar ran datblygwr
preifat. Eglwys y Santes Fair, Llanrhos Gwerthusiad archeolegol cyn estyniad arfaethedig y fynwent, ar
ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Maes Golff Llanymynech Cynlluniau goruchwylio archeolegol yn ystod
adnewyddiad y grîn golff o fewn bryngaer restredig o’r Oes Haearn, ar ran Clwb
Golff Llanymynech. Castell Shrawardine Arolwg
topograffig a geoffisegol ar y castell canoloesol a’i amgylchoedd, mymryn dros
y ffin yn Sir Amwythig, fel rhan o’r Fenter Treftadaeth Leol ar ran Montford
Parish Millennium Green Trust a Chyngor Bwrdeistref Amwythig ac Atcham. Peiriandy
Clive Arolwg maes
ac astudiaeth pen-bwrdd o’r peiriandy carreg o’r 19eg ganrif sy’n gysylltiedig
â mwynglawdd plwm Talargoch, cyn gwaith ailatgyfnerthu arfaethedig gan Gyngor
Sir Ddinbych. Addysg a Chyhoeddiadau Byddwn yn manteisio ar bob cyfle i wneud gwaith addysgol, er mai cyfran
cymharol fechan o’r cymorth grant y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn ar hyn
o bryd sy’n cael ei ddyrannu yn benodol at y diben hwn. Sut bynnag, mae holl
weithgareddau’r Ymddiriedolaeth yn cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol
at ddealltwriaeth ehangach o amgylchedd hanesyddol ardal Clwyd-Powys. Bu’r
gwaith datblygu yn parhau ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y
cyfeiriad a ganlyn: www.cpat.org.uk. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am yr
Ymddiriedolaeth a’i gweithgareddau, ac mae’n parhau i fod yn bwysig wrth roi
cyhoeddusrwydd i weithgareddau’r Ymddiriedolaeth a’r gwasanaethau y mae’n eu
cynnig i’r gymuned. Cynhyrchwyd tua 50 o adroddiadau prosiect a
thema yn ystod y flwyddyn, i’w dosbarthu i restr gyfyngedig o bobl. Rhoddir crynodeb
o adroddiadau byr ar brosiectau unigol yr Ymddiriedolaeth yn Archaeology in
Wales, a gyhoeddir yn flynyddol gan y Cyngor Archeoleg Brydeinig: Cymru, yn
ogystal ag mewn nifer o gyfnodolion cenedlaethol, gan gynnwys Britannia
a Medieval Archaeology. Ymhlith cyhoeddiadau eraill staff yr
Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn oedd nifer o gyfraniadau at gyfrol ar neuadd
ystlysog ganoloesol yn Nh~-mawr, Castell Caereinion, a gyhoeddwyd
yn y Casgliadau Maldwyn, erthygl ar Medieval Upland Cultivation on
the Berwyns yng ngogledd Cymru, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Landscape
History, ac erthygl yn dadansoddi patrymau erydiad tymor hir ar Glawdd
Offa, a ymddangosodd yn Erosion Control on Archaeological
Earthworks and Recreational Paths, a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Northumberland. Cyngor a gwybodaeth archeolegol Gyda chymorth nawdd y Comisiwn Brenhinol, mae’r Ymddiriedolaeth yn
cynnal archif a chofnod cyfrifiadurol o safleoedd, darganfyddiadau, adeiladau
hanesyddol ac ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, sef Cofnod Safleoedd a
Henebion Rhanbarthol (CSH),
sy’n cwmpasu Powys, dwyrain Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Prif
ddibenion y cofnod yw darparu cyngor ar oblygiadau archeolegol polisïau a
datblygiadau cynllunio, a chyngor ar reoli safleoedd a thirluniau archeolegol.
Mae hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell ar gyfer mentrau sy’n ymwneud â
chadwraeth, dehongli a chyflwyno archeoleg a
thirluniau hanesyddol Cymru. 46,085 oedd cyfanswm yr eitemau ym mhrif gofnod
cyfrifiadurol CSH ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. O’r rheiny, roedd oddeutu
1,500 o gofnodion newydd wedi’u hychwanegu yn ystod y flwyddyn, wrth i
wybodaeth newydd gael ei chasglu o waith maes diweddar ac o ffynonellau
cyhoeddedig. Mae’r holl awdurdodau cynllunio yn ardal Clwyd-Powys — Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir
Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam — bellach wedi mabwysiadu’r cofnod yn ffurfiol at ddibenion cynllunio.
Mae’r CSH yn parhau i gael ei ddefnyddio bob dydd wrth reoli datblygiad ac wrth
ymateb i ymholiadau ynghylch Tir Gofal. Yn ogystal â hyn, fe ymatebodd yr
Ymddiriedolaeth i dros 400 o ymholiadau allanol yn ystod y flwyddyn ynghylch
materion eraill, gan gynnwys ymchwil breifat. Un datblygiad arwyddocaol yn
ystod y flwyddyn oedd creu tudalennau HTML ar gyfer pob cofnod CSH ac mae hyn
wedi gwella gallu’r Ymddiriedolaeth i ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol fel
ei gilydd. Gyda chymorth nawdd Cadw, fe barhaodd yr
Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor Rheoli Datblygiad ar
bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol ledled ardal Clwyd-Powys. Darparwyd y
cyngor hwn i awdurdodau cynllunio lleol a chenedlaethol, i ddatblygwyr y
sectorau cyhoeddus a phreifat, ac i sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Derbyniodd
yr Ymddiriedolaeth hysbysiadau yngl~n â 5,977 o geisiadau cynllunio, cynlluniau
arfaethedig parthed priffyrdd a cheisiadau mwynau oddi wrth awdurdodau lleol yn
ystod y flwyddyn. Gwiriwyd pob un o’r rhain i ddarganfod a oedd iddynt
oblygiadau archeolegol o bwys. Ymhlith
y gwaith achos nodedig a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn oedd y canlynol: Y
Trallwng (Sir Drefaldwyn), datblygu hen garej yn Salop Road, Llandeilo
Graban (Sir Faesyfed), maes parcio arfaethedig ger yr eglwys, Arddlîn
(Sir Drefaldwyn), ailwampio New Cut Argae, Maesyfed (Sir
Faesyfed), datblygiad tai arfaethedig yn Y Porth, Dinbych, datblygu tir ger
Ysgol Howell, Machynlleth (Sir Drefaldwyn), ffatri newydd
arfaethedig yn chwarel lechi Rhiw Gwreiddyn, Llanidloes (Sir Drefaldwyn),
cais i drosi hen ffatri yng Nghwm Belan. Menter Clawdd Offa Sefydlwyd y fenter hon, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth dan nawdd
ar y cyd oddi wrth Cadw ac English Heritage, yn ystod y flwyddyn ariannol
flaenorol mewn ymateb i bryderon cynyddol am y dirywiad yng nghyflwr y clawdd
llinol hwn sydd o bwys cenedlaethol. Mae gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2001/02
wedi cynnwys cadwraeth ymarferol, rheoli datblygiadau a chyngor cynllunio, a
chyngor rheoli strategol. Fel mewn meysydd eraill o waith yr Ymddiriedolaeth,
roedd y flwyddyn ariannol hon yn un anodd oherwydd effaith clwy’r traed a’r
genau ac, i bob pwrpas, nid oedd modd ymweld â’r clawdd o fis Mawrth hyd
ddiwedd yr haf 2001. Er gwaetha’r
anawsterau hyn, roedd yn bosibl gwneud gwaith atgyweirio o’r hydref ymlaen, gan
gynnwys cynlluniau ger Trefyclo, Ffordun a Melltun (Powys) ac ym Mryndreinog a
Mardu (Sir Amwythig) a chynnal gwaith archwilio cyn atgyweirio ar Fryn Llanfair
(Sir Amwythig). Cynhaliwyd ymchwil sylweddol i faterion cadwraeth penodol yn ystod
y flwyddyn. Mae arolwg a gomisiynwyd ar effaith tyrchu moch daear wedi dangos
gwir raddau’r broblem ar ambell ran o Glawdd Offa a’r angen am ddull integredig
a rheoledig o drin hyn os ydym i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng buddiannau
anifail gwarchodedig a henebyn gwarchodedig. Paratowyd taflen i gyflwyno’r
Clawdd yn Sir Amwythig a Phowys, a rhagwelir mai’r cyntaf fydd hwn o bedair
taflen o’i bath fydd yn sôn am yr henebyn cyfan. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol i
Gyngor Cefn Gwlad Cymru a thirfeddianwyr mewn perthynas â cheisiadau i Tir
Gofal, y cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru-gyfan. Prif ddiben y gwaith
hwn yw darparu cyngor rheolaethol manwl ar nodweddion sydd o arwyddocâd
archeolegol neu hanesyddol ar y ffermydd sy’n ymuno â’r cynllun. Fe ddarparodd
yr Ymddiriedolaeth wybodaeth archeolegol mewn ymateb i 130 o geisiadau i Dir
Gofal yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chynhyrchu adroddiadau mwy manwl ar 8 o
ffermydd penodol a dderbyniwyd i mewn i’r cynllun yn dilyn ymweliadau maes.
Hefyd, fe gyfrannodd yr Ymddiriedolaeth at sesiynau hyfforddi a drefnwyd ar
gyfer staff CCGC. Roedd gwaith Rheoli Treftadaeth yr
ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth ag ef gyda nawdd Cadw yn cynnwys darparu cyngor
cynllunio strategol, yn enwedig mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol.
Rhoddwyd cyngor archeolegol mewn ymateb i 179 o geisiadau datblygu y tu allan
i’r system gynllunio, gan gynnwys y canlynol: ceisiadau Caniatáu Henebion
Rhestredig; ceisiadau Cynllun Grant Coetiroedd; Cynlluniau Dylunio Fforestydd
Preifat Tymor Hir; cynigion Cynllun Coetir Cynhenid Cenedlaethol; cynlluniau
cyfalaf a rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd; cynlluniau yr oedd amryw o gwmnïau
gwasanaethau cyfleustodau yn eu cynnig, gan gynnwys D@r Cymru, Cwmni D@r Hafren
Trent a Chwmni D@r Wrecsam, MANWEB, SWALEC,
MEB, Nwy Prydain/Transco; a cheisiadau cyfadrannol a gyflwynwyd i Bwyllgorau
Ymgynghorol Esgobaethol Cymru yn ardal yr Ymddiriedolaeth. Hefyd, cynhaliwyd
cyfarfodydd cyswllt rheolaidd â staff y Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr
Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymwneud â Chynllun Hynafiaethau
Symudol y mae’r Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru ac Amgueddfeydd ac
Orielau Cenedlaethol Cymru yn ei gefnogi yng Nghymru. RHEOLAETH A THREFNIADAETH
Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan fwrdd o Ymddiriedolwyr a etholir o blith
Aelodau’r Ymddiriedolaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyfarfu’r
Ymddiriedolwyr ar bedwar achlysur yn ystod y flwyddyn ariannol, ym misoedd
Ebrill, Mehefin a Medi 2000 a mis Ionawr 2001. Mae’r Pwyllgor Ymgynghorol, sy’n
cynnwys yr Ymddiriedolwyr, Aelodau eraill y mae’r Ymddiriedolwyr yn eu
cyfethol, a sylwedydd y mae Cadw yn ei enwebu, wedi cyfarfod ar ddau achlysur
yn ystod y flwyddyn, ym misoedd Ebrill a Medi 2000. Gwahoddir enwebiadau ar
gyfer aelodau’r Ymddiriedolaeth oddi wrth awdurdodau lleol, amgueddfeydd,
cymdeithasau hanesyddol ac archeolegol lleol, a chyrff eraill sydd â diddordeb
yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel rheol, bydd yr aelodau yn cyfarfod unwaith
y flwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ceir rhestr o Ymddiriedolwyr,
Aelodau’r Pwyllgor, Aelodau, Staff ac Ymgynghorwyr ar gyfer 2001/02 neu ran o’r
cyfnod hwnnw, isod. FFYNONELLAU CYLLID Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar am y cymorth
ariannol mae’n parhau i’w dderbyn oddi wrth Cadw, sef Asiantaeth Weithredol o
fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a
Hanesyddol yng Nghymru. Mae Cadw yn cyfrannu tuag at gostau gweinyddol yr
Ymddiriedolaeth, o fewn amodau cymorth y Cynulliad Cenedlaethol i Fudiadau’r
Sector Gwirfoddol. Daw’r rhan fwyaf o weddill incwm yr Ymddiriedolaeth ar ffurf
cymorth grant a dyfarniadau contract oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Neilltuir hwn bron yn gyfangwbl ar gyfer darparu gwasanaethau archeolegol ac ar
gyfer prosiectau maes penodol neu brosiectau penodol yn y swyddfa, o fewn
rhaglen waith flynyddol yr Ymddiriedolaeth. SWYDDFEYDD NEWYDD Fe fu’r Ymddiriedolaeth yn chwilio am swyddfeydd
newydd yn ardal Y Trallwng ers nifer o flynyddoedd er mwyn dod â’u gweithlu
sydd ar hyn o bryd mewn dau adeilad, at ei gilydd, gan ddarparu mynediad i bobl
anabl a sefydlu gwell cyfleusterau i gyrff allanol ac aelodau o’r cyhoedd. Un
o’r dewisiadau rydym yn edrych arno ar hyn o bryd yw rhannu adeilad ar y cyd ag
Ymddiriedolaeth Llyfrgell Powysland, elusen gofrestredig sydd hefyd yn Y
Trallwng. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn casglu cyllid tuag at gaffael a
throsi adeilad newydd dros gyfnod o nifer o flynyddoedd (gweler yr Adolygiad
Ariannol). Mrs F M Lynch Llewellyn Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr 5 Gorffennaf 2002 YMDDIRIEDOLWYR, Y PWYLLGOR, AELODAU, STAFF
AC YMGYNGHORWYR 2000/01 Ymddriedolwyr/Cyfarwyddwyr y Cwmni Mrs F M Lynch Llewellyn, Cadeirydd, Prifysgol Cymru, Bangor Dr J L Davies, Is-Gadeirydd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth Mr H Jones, Holt Mr C R Musson, Llanfihangel y Creuddyn Mr D F Petch, Prifysgol Lerpwl Mr D W L Rowlands, Llanerfyl Mr D Morgan, Christ College, Aberhonddu Pwyligor Ymgynghorol Dr S H R Aldhouse-Green, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd Mr K S Brassil, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Mr P Dorling, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Dr E Plunkett Dillon, The National Trust Mr D M Evans, Cymdeithas Hynafieithwyr Llundain Mrs F Gale, Cyngor Sir Ddinbych Ms K Kucharski, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam Mr D F Keast, Cyngor Sir Powys Mrs Hilary Malaws, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Dr S Rees, sylwedydd i Cadvv: Welsh Historic Monuments Mr C J Spurgeon, Aberystwyth Aelodau Miss J Ashton, Cymdeithas Sir Faesyfed Y Cynghorydd G R Banks, Cyngor Sir Powys Miss E Bredsdorff, Amgueddfa Powysland Mr R Brewer, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Y Cynghorydd Mrs S D Francis, Cyngor Sir Powys Y Cynghorydd Mr D Rogers, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Y Cynghorydd Mr J H Hughes, Cyngor Sir Powys Y Cynghorydd Mrs I B Lewis, Cyngor Sir Powys Mrs N P Parker, Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint Mrs J Pierson Jones, CyngorAmgueddfeyddyng Nghymni Mr D Pratt, Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych Y Cynghorydd P C Evans, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Staff Tim Gweinyddol Mr W J Britnell, CyfarwyddwrlYsgrifennydd y Cwmni Mrs J E Britnell, Swyddog Gweinyddol Mrs M Godsell, Cynorthwy-ydd Cyllid Tim Prosiect Mr R J Silvester, Is-Gyfarwyddwr Mr N W Jones Mr W G Owen Ms W J Owen Mr R Hankinson TI’m Curadurol Mr C H R Martin, Prif Swyddog Curadurol Mr I Bapty, Swyddog Clawdd Offa Mr P Copleston, Swyddog Rheoli Treftadaeth Ms J M Mitcham, Swyddog Cofnodion Safleoedd a Henebion Mr M Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad Ms A Kennedy Cyfrifyddion Tranter Lowe, Oakengates Archwilwyr Whiftingham Riddell, Y Trallwng Cyfreithwyr Turnbull Garrard, Amwythig Bancwrwyr National Westminster Bank, Broad Street, Y Trallwng
|