CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Adroddiadau blynyddol

Adroddiad Blynyddol 2002/03


 

RHAGARWEINIAD

Cyflwynar Ymddiriedolwyr eu hadroddiad blynyddol ar cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2003 ar y fformat a argymhellwyd gan y Comisiwn Elusennau (SORP 2000).

 

Cwmni cyfyngedig gan warant a heb fod chyfalaf cyfrannau yw Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (Rhif Cofrestru 1212455) ac mae hefyd yn Elusen Gofrestredig (Rhif Cofrestru 508301). Y Memorandum and Articles of Association, fel y diwygiwyd hwy fis Medi 2001, ywr ddogfen lywodraethol.

 

Prif Weithgareddau

Addysgur cyhoedd ynghylch archeoleg trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol ir gymuned yw prif weithgarwch yr Ymddiriedolaeth.

 

Yr Ymddiriedolwyr a buddiannaur Ymddiriedolwyr

Mae Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys hefyd yn gweithredu fel cyfarwyddwyr y cwmni cyfyngedig. Gan nad oes gan y cwmni unrhyw gyfalaf cyfrannau, nid yw mater y cyfranddaliadau a ddelir gan y cyfarwyddwyr yn berthnasol. Tristwch ir Ymddiriedolaeth oedd clywed am farwolaeth Dr Dennis Petch fis Awst 2002. Yr oedd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i waith yr Ymddiriedolaeth fel Aelod or Pwyllgor ac fel Ymddiriedolwr ers y cychwyn. Etholwyd yr Ymddiriedolwyr canlynol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 20 Medi 2002, ac fe fuont yn eu swyddi trwy gydol blwyddyn ariannol 2002/03.

Mrs F M Lynch Llewellyn  (Cadeirydd)

Dr J L Davies  (Is gadeirydd)

Mr H H Jones

Mr D R Morgan

Mr C R Musson

Mr D W L Rowlands

 

Datganiad o gyfrifoldebaur Cyfarwyddwyr

Maen ofynnol ir cyfarwyddwyr, yn unol chyfraith cwmnau, baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr y cwmni ac o elw a cholled y cwmni ar gyfer y cyfnod hwnnw. Wrth baratoir datganiadau ariannol hyn, maen ofynnol ir cyfarwyddwyr: ddethol polisau cyfrifyddu addas ac ynau defnyddion gyson; gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon syn rhesymol a doeth; a pharatoi datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd y cwmnin parhau i fod mewn busnes.

 

Maer cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu priodol syn datgelu, chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa ariannol y cwmni, ac syn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio Deddf Cwmnau 1985. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion y cwmni ac felly am gymryd camau rhesymol i rwystro a datgelu twyll ac arferion afreolaidd eraill.

 

CRYNODEB O NODAUR YMDDIRIEDOLAETH

Un o bedair Ymddiriedolaeth Archeolegol a sefydlwyd yng Nghymru yn y 1970au ywr Ymddiriedolaeth. Maer Ymddiriedolaeth yn cydweithion agos chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i gofnodi, dehongli a diogelu pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol. Maen gweithredun bennaf yn ardal Clwyd-Powys yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, sef ardaloedd presennol Powys, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Wrecsam a rhan ddwyreiniol Conwy, er ei bod hefyd yn cynnal gwaith prosiect mewn siroedd cyfagos eraill yng Nghymru a Lloegr o bryd iw gilydd.

 

CRYNODEB O WEITHGAREDDAUR YMDDIRIEDOLAETH

YN YSTOD Y FLWYDDYN

 

Ymchwilio ac archwilio archeolegol

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau yn y maes, mewn ymateb i ddatblygiadau arfaethedig neu er mwyn estyn y cofnod archeolegol fel rheol. Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y rhain yn cynnwys cloddiadau adfer, cofnodi adeiladau, asesiadau pen-bwrdd, gwerthusiadau maes, arolygon maes a chynlluniau goruchwylio. Rhoddir enghreifftiau isod or mathau o brosiectau yr ymgymerwyd hwy yn ystod y flwyddyn. Defnyddir enwaur hen siroedd, sef Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn ym Mhowys er hwylustod yn y testun canlynol.

 

Ariannwyd y prosiectau canlynol gan Cadw yn ystod y flwyddyn, ac roedd rhai prosiectau yn parhau darnau o waith y rhoddwyd cychwyn arnynt mewn blynyddoedd ariannol blaenorol. Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol  Ymwelwyd channoedd o safleoedd yn ne Sir Faesyfed ac yn nyffryn Dyfi yng ngorllewin Sir Drefaldwyn fel rhan o gynllun Cymru-gyfan yr oedd Cadw yn ei hybu. Bwriedir ir prosiect edrych ar amrywiaeth eang o henebion mewn caeau, gan gynnwys carneddi crynion a charneddi, meini hirion a chylchoedd cerrig, gyda golwg ar gofnodi eu cyflwr presennol a llunio argymhellion ar gyfer eu hamddiffyn au rheoli. Tirweddau Hanesyddol  Ymgymerwyd r gwaith o nodweddur tirlun hanesyddol yn ardal Maelor Saesneg, Wrecsam, fel y diffinnir ef yn Rhan Dau y Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, fel rhan o fenter Cymru-gyfan. Diffiniwyd cyfanswm o ddwy ar bymtheg o ardaloedd nodwedd ar sail defnydd tir yn y gorffennol ar presennol. Ymhlith elfennau mwyaf hynod y tirlun hanesyddol ceir ardaloedd helaeth lle mae olion tyfu cnydau mewn gwrymiau a rhychau, clwstwr o safleoedd canoloesol ffosydd ou hamgylch, a digonedd o hen byllau marl, rhai ohonynt wedi goroesi fel pyllau dwr, yn dyddio or cyfnod l ganoloesol. Cloddiadau Byr ar y Gororau Bwriedir ir prosiect edrych eto ar gyfres o gloddweithiau llinellol sydd, ynghyd u perthnasau mwy, sef Clawdd Offa a Chlawdd Wat, yn ffurfio elfen unigryw o archeoleg y gororau. Ymwelwyd ag un ar hugain o ffosydd, sef cyfanswm o 13 cilometr o hyd, er mwyn cofnodi eu ffurf au cyflwr cyfredol. Disgwylir y bydd y gwaith maes yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Safleoedd Eglwysig y Canol Oesoedd Cynnar  Yn dilyn yr astudiaeth pen-desg a wnaed yn ystod y flwyddyn flaenorol, nod pennaf 2002/03 oedd cychwyn rhaglen o waith maes, a disgwylir y bydd hyn yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fe ganolbwyntiodd y gwaith maes ar grwp o safleoedd eglwysi a chapeli segur, rhai ohonynt wedi eu gosod mewn llociau crynion. Gwnaed cynlluniau manwl o nifer o safleoedd gan gynnwys yr Hen Eglwys yn Y Clas-ar-Wy, Sir Frycheiniog, a adawyd yn segur pan newidiodd afonydd Gwy a Llynfi eu hynt yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ffyrdd Rhufeinig Roedd y gwaith a wnaed ar y prosiect yn ystod y flwyddyn yn cynnwys cwblhau map cyfrifiadurol or ffyrdd ledled ardal Clwyd-Powys a dechraur gwaith maes. Un o nodaur prosiect yw gwahaniaethu rhwng darnau profedig o ffyrdd a darnau damcaniaethol, a llunio argymhellion rheolaethol. Fframwaith Ymchwil Cymru Ymgymerwyd ag archwiliad o adnoddau archeolegol safleoedd y gwyddys amdanynt fel rhan o gynllun Cymru-gyfan syn cael ei gynnal gan nifer o asiantaethau archeolegol yng Nghymru. Mae archwiliad or ymchwil ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth (sef www.cpat.org.uk/projects/longer/research/index.htm).

 

Roedd y canlynol ymhlith y prosiectau yr oedd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru yn eu hariannu: Arolwg o Uwchdiroedd Cwm Elan  fel rhan or fenter uwchdiroedd. Cofnodwyd dros 280 o safleoedd archeolegol yn ardal yr arolwg, sef ychydig dan 14 cilometr sgwr a oedd yn cynnwys rhannau or uwchdiroedd heb eu hamgu syn ffurfio rhan o Rostir Cwmdeuddwr ac Ystd Elan.

 

Cynhaliwyd llawer o brosiectau gwaith maes a pen-bwrdd eraill o wahanol faint a chymhlethdod yn ystod y flwyddyn gydag arian o gyrff eraill, gan gynnwys y canlynol:  Peiriandy Clive, Diserth, arolwg archeolegol ar ran Cyngor Sir Ddinbych cyn cynnal gwaith atgyweirio arfaethedig ar y rhan hon o Fwynglawdd Plwm Talar-goch.  Plas Newydd, Llangollen asesiad maes archeolegol o ran o erddi Merched Llangollen or bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ran Cyngor Sir Ddinbych.  Arolwg o Fannau Brycheiniog Arolwg or uwchdiroedd o ran o ogledd y Bannau, ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Ln Manthrig Caersws Cloddiadau bychain ar ran or anheddiad sifil Rhufeinig sydd wedii gysylltu r gaer Rufeinig, cyn codi mast radio newydd yno. Ln y Felin, Y Trallwng  Gwerthusiad archeolegol o fan y tybir iddo fod yn rhan o anheddiad canoloesol cynnar Y Trallwng, wedi ei ariannu gan ddatblygwr preifat a chan gynhyrchu rhywfaint o grochenwaith canoloesol ond dim tystiolaeth o strwythurau adeiledig. Arolwg o ardal Efyrnwy Gwaith maes archeolegol parhaus mewn rhan o Ystd Efyrnwy, gyda Chwmni Dwr Hafren-Trent yn ei ariannu. Maes Naylors Arddln Rhaglen cloddio gychwynnol ar safle lloc Rufeinig-Brydeinig ffos oi amgylch cyn codi tai, gyda datblygwr preifat yn ariannur gwaith. Ty-draw, Llanarmon Mynydd Mawr Cloddio plasty nenfforch or canol oesoedd hwyr cyn gwaith adfer, gyda datblygwr preifat yn ariannur gwaith. Y Graig, Y Fenni Mapio a chynnal arolwg or safle ag aneddiadau gwasgaredig mewn planhigfa goedwig, ar ran y Fenter Goedwigaeth. Ysgol y Llys, Prestatyn Gwerthusiad archeolegol o ardal y credir iddi fod o fewn caer Rufeinig, cyn codi neuadd newydd ir ysgol, ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun Gwerthusiad archeolegol eto o safle tybiedig caer Rufeinig cyn gwaith adeiladu arfaethedig, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn ariannur gwaith. Cock Yard, Y Trallwng Gwerthusiad archeolegol o ardal o fewn anheddiad canoloesol a gwaith diwydiannol diweddarach yn Y Trallwng. LANDMAP ar gyfer Brycheiniog Dechrau gwaith ar agweddau hanes ac archeoleg y cynllun Cymru-gyfan hwn, gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ariannur gwaith. Roedd cynrychiolydd or Ymddiriedolaeth hefyd ar grwp defnyddwyr gwybodaeth leol ar gyfer astudiaeth LANDMAP Wrecsam.

 

Addysg a chyhoeddiadau

Byddwn yn manteisio ar bob cyfle i wneud gwaith addysgol, er mai cyfran gymharol fechan or cymorth grant y maer Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn ar hyn o bryd syn cael ei ddyrannu yn benodol at y diben hwn. Fodd bynnag, mae holl weithgareddaur Ymddiriedolaeth yn cyfrannun uniongyrchol neun anuniongyrchol at ddealltwriaeth ehangach o amgylchedd hanesyddol ardal Clwyd-Powys. Bur gwaith datblygu yn parhau ar wefan yr Ymddiriedolaeth, sef www.cpat.org.uk. Maen boblogaidd ag aelodau or cyhoedd, ymarferwyr archeolegol a myfyrwyr. Maer wefan yn cynnwys gwybodaeth am yr Ymddiriedolaeth ai gweithgareddau ac maen parhau i fod yn bwysig wrth roi cyhoeddusrwydd i weithgareddaur Ymddiriedolaeth ar gwasanaethau y maen eu cynnig ir gymuned.

 

Cynhyrchwyd dros 60 o adroddiadau prosiect a themu yn ystod y flwyddyn, iw dosbarthu i restr gyfyngedig o bobl. Rhoddir crynodeb o adroddiadau byr ar brosiectau unigol yr Ymddiriedolaeth yn Archeoleg yng Nghymru, a gyhoeddir yn flynyddol gan y Cyngor Archeoleg Brydeinig: Cymru, gan gynnwys adroddiadau hwy ar y gwaith yn Abaty Glyn y Groes yn Sir Ddinbych ac Eglwys Sant Cyngar, Yr Hb, Sir Y Fflint, yn ogystal ag mewn nifer o gyfnodolion cenedlaethol. Ymhlith cyhoeddiadau eraill staff yr Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn oedd adroddiad helaeth ar Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn rhannau uchaf dyffryn Hafren, Sir Drefaldwyn, a gyhoeddwyd yn y Montgomeryshire Collections. Parhaodd y gwaith hefyd ar gynhyrchu adroddiadau eraill y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ymgymerwyd phrosiect ar ran Cyngor Sir Powys, yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu nifer o Deithiau Cerdded ar Glawdd Offa ym Mhowys.

 

Traddodwyd cyrsiau ar archeoleg yr ardal ar gyfer Dosbarthiadau Nos yn y Trallwng ar ran Cyngor Sir Powys, ac i Grwp Hanes Cegidfa, a thraddodwyd sgyrsiau mewn nifer o ysgolion lleol. Cyfrannodd aelodau o staff at raglenni BBC Radio Counties of Wales a rhaglenni Teledur BBC Inside Out a Timeflyers. Roedd y diwethaf yn cynnwys cloddio darn gwneud o Glawdd Offa gan grwp o wirfoddolwyr, ac mae wedi helpu i ennyn diddordeb sylweddol or newydd yn y Clawdd o dur cyhoedd. Cyflwynwyd cyfanswm o naw o sgyrsiau a darlithoedd cyhoeddus ynghylch cadwraeth ac archeoleg Clawdd Offa i amrywiol grwpiau ar y Gororau a thu hwnt.

 

Maer Ymddiriedolaeth yn ymwneud gwaith nifer o gymdeithasau hanes ac archeolegol lleol a chenedlaethol, ac fe fynychodd gyfarfodydd y cyrff canlynol yn ystod y flwyddyn. Cymdeithas Archeolegwyr Esgobaethol, Cymdeithas Brych-einiog, Cyngor Archeoleg Awyrennau Prydain, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, Cyngor Archaeoleg Prydain, Cymdeithas Hanes Cym-deithasol Llanfihangel yng Ngwynfa, Grwp Ymchwil i Anheddu Canoloesol, Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, Cymdeithas Clawdd Offa, Cymdeithas Archeoleg l-Ganoloesol, Clwb Powysland, Cymdeithas Hanesyddol Sir Faesyfed, Cymdeithas Astud-iaethaur Tirlun, Cymdeithas Archeoleg Eglwysig, Clwb Archeoleg Wrecsam. Mae aelodau o staff hefyd wedi bod yn olygyddion ar y Casgliadau Maldwyn, sef y cylchgrawn hanesyddol ac archeolegol a gyhoeddir yn flynyddol gan Glwb Powysland, ac ar Archaeologia Cambrensis, a gyhoeddir gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.

 

Cyngor a gwybodaeth archeolegol

Gyda chymorth nawdd y Comisiwn Brenhinol, maer Ymddiriedolaeth yn cynnal archif a chofnod cyfrifiadurol o safleoedd, darganfyddiadau, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, sef Cofnod Safleoedd a Henebion Rhanbarthol (CSH), syn cwmpasu Powys, dwyrain Conwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam. Prif ddibenion y cofnod yw darparu cyngor ar oblygiadau archeolegol polisau a datblygiadau cynllunio, a chyngor ar reoli safleoedd a thirluniau archeolegol. Mae hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell ar gyfer mentrau syn ymwneud chadwraeth, dehongli a chyflwyno archeoleg a thirluniau hanesyddol Cymru. 51,243 oedd cyfanswm yr eitemau ym mhrif gofnod cyfrifiadurol CSH ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Or rheiny, roedd oddeutu 5,158 yn gofnodion newydd wediu hychwanegu yn ystod y flwyddyn, wrth i wybodaeth newydd gael ei chasglu o waith maes diweddar ac o ffynonellau cyhoeddedig a gwaith na chyhoeddwyd mohono.

 

Maer holl awdurdodau cynllunio yn ardal Clwyd-Powys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Y Fflint, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach wedi mabwysiadur CSH yn ffurfiol at ddibenion cynllunio. Maer CSH yn parhau i gael ei ddefnyddio bob dydd wrth reoli datblygiad ac wrth ymateb i ymholiadau ynghylch Tir Gofal. Gyda chymorth nawdd Cadw, fe ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i dros 568 o ymholiadau allanol yn ystod y flwyddyn ynghylch materion eraill, gan gynnwys ymchwil breifat, sef cynnydd o 40% ar y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Parhaodd y gwaith o lunio thesawrws o dermau archeolegol mewn cysylltiad r Comisiwn Brenhinol ar CSH yr oedd y tair Ymddiriedolaeth Archeolegol arall yng Nghymru yn eu cynnal.

 

Gyda chymorth nawdd Cadw, fe barhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor Rheoli Datblygiad ar bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol ledled ardal Clwyd-Powys. Darparwyd y cyngor hwn i awdurdodau cynllunio lleol a chenedlaethol, i ddatblygwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat ac i sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth hysbysiadau ynglyn 6,725 o geisiadau cynllunio, ynghyd 560 o gynlluniau arfaethedig parthed priffyrdd a cheisiadau mwynau oddi wrth awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn. Gwiriwyd pob un or rhain i ddarganfod a oedd iddynt oblygiadau archeolegol o bwys. Roedd y gwaith achos nodedig a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys: Ffordd Salop, Y Trallwng, (cloddio rhan o weithiau diwydiannol a oedd yn gysylltiedig r gamlas yn y gorffennol, cyn codi datblygiad tai), Y Porth, Maesyfed (cloddio rhan or dref ganoloesol cyn codi datblygiad tai), a Chwarel Lechi Rhiw Gwreiddyn, Machynlleth (arolwg adeiladu or hen waith prosesu llechi cyn ei drosi).

 

Menter Clawdd Offa   Sefydlwyd y fenter hon, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth dan nawdd ar y cyd oddi wrth Cadw ac English Heritage, sawl blwyddyn yn l mewn ymateb i bryderon cynyddol am y dirywio yng nghyflwr y clawdd llinol hwn. Mae gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2002/03 wedi cynnwys cadwraeth ymarferol, rheoli datblygiadau a chyngor cynllunio a chyngor rheoli strategol. Ymhlith y prosiectau rheoli ymarferol oedd y gwaith mawr o symud coed ac ailffensio arwynebau amddiffynnol y llwybr ar rannau or Clawdd. Ar y cyfan, roedd gwaith ar y gweill neun cael ei ddatblygu mewn dau safle ar bymtheg, ar 4.1 cilometr or Clawdd yng Nghymru a Lloegr. Mae gwaith i ddatblygu gofal am Glawdd Wat hefyd yn elfen or prosiect sydd ar ei chynnydd, a chynhaliwyd seminarau Chynghorau Wrecsam a Sir Y Fflint yn sgl hynny. Cynhaliwyd cyfarfod lansio swyddogol Datganiad Cadwraeth Clawdd Offa a luniwyd gan Swyddog Clawdd Offa yr Ymddiriedolaeth yng Nghanolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo fis Ebrill 2002, gan ddenu cynulleidfa a oedd yn cynrychioli asiantaethau lleol a chenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal thirfeddianwyr a phobl leol diddordeb yn yr henebyn.

 

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a thirfeddianwyr mewn perthynas cheisiadau i Tir Gofal, y cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru-gyfan. Prif ddiben y gwaith hwn yw darparu cyngor rheolaethol manwl ar nodweddion sydd o arwyddocd archeolegol neu hanesyddol ar y ffermydd syn ymuno r cynllun. Fe ddarparodd yr Ymddiriedolaeth wybodaeth archeolegol mewn ymateb i 225 o geisiadau gan ffermydd i Dir Gofal yn ystod y flwyddyn, yn ogystal chynhyrchu adroddiadau mwy manwl ar 18 o ffermydd penodol a dderbyniwyd i mewn ir cynllun yn dilyn ymweliadau maes. Hefyd, fe gyfrannodd yr Ymddiriedolaeth at sesiynau hyfforddi a drefnwyd ar gyfer staff CCGC.

 

Roedd gwaith Rheoli Treftadaeth yr ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth ag ef gyda nawdd Cadw yn cynnwys darparu cyngor cynllunio strategol, yn enwedig mewn perthynas Chynlluniau Datblygu Unedol. Rhoddwyd cyngor archeolegol mewn ymateb i lu o geisiadau datblygu y tu allan ir system gynllunio, gan gynnwys y canlynol: ceisiadau Caniatu Henebion Rhestredig; ceisiadau Cynllun Grant Coetiroedd; cynigion Cynllun Coetir Cynhenid Cenedlaethol; Cynlluniau Dylunio Fforestydd Preifat Tymor Hir; cynlluniau cyfalaf a rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd; cynlluniau yr oedd amryw o gwmnau gwasanaethau cyfleustodau yn eu cynnig, gan gynnwys Dwr Cymru, Cwmni Dwr Hafren-Trent a Chwmni Dwr Wrecsam, MANWEB, SWALEC, MEB, Nwy Prydain/Transco; a cheisiadau cyfadrannol a gyflwynwyd i Bwyllgorau Ymgynghorol Esgobaethol Cymru yn ardal yr Ymddiriedolaeth. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd cyswllt rheolaidd staff y Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i ymwneud Chynllun Hynafiaethau Symudol y maer Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn ei gefnogi yng Nghymru.

 

RHEOLAETH A THREFNIADAETH

Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan fwrdd o Ym-ddiriedolwyr a etholir o blith Aelodaur Ym-ddiriedolaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyfarfur Ymddiriedolwyr ar bedwar achlysur yn ystod y flwyddyn ariannol, ym misoedd Ebrill, Gorffennaf a Medi 2002 a mis Ionawr 2003. Maer Pwyllgor Ymgynghorol, syn cynnwys yr Ymddiriedolwyr, Aelodau eraill y maer Ymddiriedolwyr yn eu cyfethol, a sylwedydd y mae Cadw yn ei enwebu, wedi cyfarfod ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn, yn misoedd Ebrill a Medi 2002. Gwahoddir enwebiadau ar gyfer aelodaur Ymddiriedolaeth oddi wrth awdurdodau lleol, amgueddfeydd, cymdeithasau hanesyddol ac archeolegol lleol, a chyrff eraill sydd diddordeb yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel rheol, bydd yr aelodau yn cyfarfod unwaith y flwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ceir rhestr or Ymddiriedolwyr, Aelodaur Pwyllgor, Aelodau, Staff ac Ymgynghorwyr ar gyfer 2002/03 neu ran or cyfnod hwnnw, isod.

 

FFYNONELLAU CYLLID

Maer Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar am y cymorth ariannol y maen parhau iw dderbyn oddi wrth nifer o gyrff cenedlaethol gan gynnwys Cadw, sef Asiantaeth Weithredol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Heritage. Mae Cadw yn cyfrannu tuag at gostau gweinyddol yr Ymddiriedolaeth, o fewn amodau cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru i Fudiadaur Sector Gwirfoddol. Dawr rhan fwyaf o weddill incwm yr Ymddiriedolaeth ar ffurf cymorth grant a dyfarniadau contract oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat. Neilltuir hwn bron yn gyfan gwbl ar gyfer darparu gwasanaethau archeolegol ac ar gyfer prosiectau penodol yn y swyddfa, o fewn rhaglen waith flynyddol yr Ymddiriedolaeth.

 

GWELLA MYNEDIAD

Maer Ymddiriedolaeth yn parhau i edrych am well swyddfeydd yn ardal Y Trallwng er mwyn gallu dod r gweithlu sydd ar hyn o bryd mewn dau adeiladu, at ei gilydd, i ddarparu mynediad i bobl anabl, a sefydlu gwell cyfleusterau i gyrff allanol ac aelodau or cyhoedd. Maer Ymddiriedolaeth wedi bod yn casglu cyllid tuag at gaffael a throsi adeilad newydd dros gyfnod o nifer o flynyddoedd (gweler yr Adolygiad Ariannol). Ymgymerwyd ag archwiliad o gyfrifoldebaur Ymddiriedolaeth dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, gan arwain at ddiwygio polisau a gweithdrefnau.

 

Mrs F M Lynch Llewellyn

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

11 Gorffennaf 2003

 

YMDDIRIEDOLWYR, Y PWYLLGOR, AELODAU, STAFF AC YMGYNGHORWYR 2002/03

Ymddriedolwyr/Cyfarwyddwyr y Cwmni

Mrs F M Lynch Llewellyn, Cadeirydd, Bangor

Dr J L Davies, Is-Gadeirydd, Aberystwyth

Mr H Jones, Holt

Mr C R Musson, Llanfihangel y Creuddyn

Mr D W L Rowlands, Llanerfyl

Mr D Morgan, Aberhonddu

 

Pwyligor Ymgynghorol

Dr S H R Aldhouse-Green, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd

Mr K S Brassil, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Mr P Dorling, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dr E Plunkett Dillon, The National Trust

Mr D M Evans, Cymdeithas Hynafieithwyr Llundain

Mrs F Gale, Cyngor Sir Ddinbych

Mr D F Keast, Cyngor Sir Powysgor Sir Ddinbych

Ms K Kucharski, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mrs Hilary Malaws, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Dr S Rees, sylwedydd i Cadvv: Welsh Historic Monuments

Mr C J Spurgeon, Aberystwyth

 

Aelodau

Miss J Ashton, Cymdeithas Sir Faesyfed

Y Cynghorydd G R Banks, Cyngor Sir Powys

Miss E Bredsdorff, Amgueddfa Powysland

Mr R Brewer, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Y Cynghorydd P C Evans, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Y Cynghorydd Mrs S D Francis, Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Mr D Rogers, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Y Cynghorydd Mr J H Hughes, Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Mrs I B Lewis, Cyngor Sir Powys

Mrs N P Parker, Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint

Mr D Pratt, Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych

Y Cynghorydd D Rogers, Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

Staff

Tim Gweinyddol

Mr W J Britnell, Cyfarwyddwr/Ysgrifennydd y Cwmni

Mrs J E Britnell, Swyddog Gweinyddol

Mrs M Godsell, Cynorthwy-ydd Cyllid

 

Tm Prosiect

Mr R J Silvester, Dirprwy Gyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaethau Maes

Mr N W Jones, Uwch Archeolegwr Prosiect

Mr R Hankinson, Archeolegwr Prosiect

Mr I Grant, Archeolegwr Prosiect

Ms W J Owen, Archeolegwr Prosiect

 

Tm Curadurol

Mr C H R Martin, Prif Swyddog Curadurol

Mr I Bapty, Swyddog Clawdd Offa

Mr D Bull, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth/Tir Gofal

Ms A Kennedy, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth/Tir Gofal

Mr J Spencer, Swyddog Cofnodion Safleoedd a Henebion

Mr M Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad

 

Cyfrifyddion

Tranter Lowe, Oakengates

 

Archwilwyr

Whiftingham Riddell, Y Trallwng

 

Cyfreithwyr

Turnbull Garrard, Amwythig

 

Bancwrwyr

National Westminster Bank, Broad Street, Y Trallwng

 


Adroddiad Blynyddol, 2001/02

Adroddiad Blynyddol, 2000/01

Adroddiad Blynyddol, 1999/2000

Adroddiad Blynyddol, 1998/99

Adroddiad Blynyddol, 1997/98