CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Ynghylch CPAT

Adroddiad Blynyddol 2005/06


Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cyflwyno ei adroddiad a’i ddatganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2006.

MANYLION GWEINYDDOL

Gwybodaeth gyfeirio
Enw Elusen: Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys
Rhif cofrestru elusen: 508301
Rhif cofrestru cwmni 1212455
Swyddfa Gofrestredig a chyfeiriad gweithredol:

7a Stryd yr Eglwys
Y Trallwng
Powys
SY21 7DL

Bwrdd yr ymddiriedolwyr
Rheolir yr ymddiriedolaeth elusennol gan fwrdd o ymddiriedolwyr sydd hefyd yn gweithredu fel cyfarwyddwyr y cwmni cyfyngedig. Gan nad oes gan y cwmni unrhyw gyfalaf cyfrannau, nid yw mater y cyfranddaliadau a ddelir gan y cyfarwyddwyr yn berthnasol. Cyfarfu’r ymddiriedolwyr ar bedwar achlysur yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw, ym mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Medi 2005 ac ym mis Ionawr 2006.

Etholwyd yr ymddiriedolwyr canlynol yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol a gynhaliwyd fis Medi 2005, ac fe fuont yn eu swyddi trwy gydol blwyddyn ariannol 2005/06.

Mrs Frances M Lynch Llewellyn (Cadeirydd)
Dr Jeffrey L Davies (Is Gadeirydd)
Mr H H Jones
Mr David R Morgan
Mr Chris R Musson
Mr David W L Rowlands

Pwyllgor Ymgynghorol ac Aelodau
Cyfarfu Pwyllgor Ymgynghorol yr ymddiriedolaeth, sy’n cynnwys yr ymddiriedolwyr, aelodau eraill y mae’r ymddiriedolwyr wedi’u cyfethol, a sylwedydd y mae Cadw wedi’i enwebu, ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn, ym mis Ebrill a mis Medi 2005. Gwahoddir enwebiadau ar gyfer aelodaeth yr ymddiriedolaeth oddi wrth awdurdodau lleol, amgueddfeydd, cymdeithasau hanesyddol ac archeolegol lleol, a chyrff eraill sydd â diddordeb yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel rheol, bydd yr aelodau’n cyfarfod unwaith y flwyddyn yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol. Ceir rhestr o'r aelodau ac aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol ar gyfer blwyddyn ariannol 2005/06 neu ran o’r cyfnod hwnnw, ar dudalennau 11-12.

Tîm Uwch Reolwyr
Rhoddir rheolaeth y sefydliad o ddydd i ddydd yng ngofal tîm uwch reolwyr sy’n cynnwys Mr W J Britnell (Cyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth), Mr R J Silvester (Dirprwy Gyfarwyddwr), Mr C H R Martin (Pennaeth Gwasanaethau Curadurol) a Mrs J E Britnell (Swyddog Gweinyddol)

Staff, cynghorwyr a’r defnydd o wirfoddolwyr
Ceir aelodau eraill o staff ac enwau a chyfeiriadau’r rheiny sy’n gweithredu fel cyfrifwyr, archwilwyr, cyfreithwyr a bancwyr ar dudalennau 11-12. Mae’r ymddiriedolaeth yn annog defnyddio gwirfoddolwyr mewn prosiectau swyddfa a phrosiectau yn y maes fel ei gilydd, yn unol â pholisi sydd â’r nod o greu cyn lleied o gystadleuaeth annheg â phosibl â chyrff eraill. Yn ystod y flwyddyn dan sylw, fodd bynnag, dim ond nifer gymharol fach o gyfleoedd ar gyfer cyfranogiad gwirfoddolwyr ddaeth i’r fei.

STRWYTHUR, LLYWODRAETHIANT A RHEOLAETH

Dogfen Lywodraethu
Cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant yw’r ymddiriedolaeth, a ymgorfforwyd ar 14 Mai 1975 ac a gofrestrwyd fel elusen ar 4 Ionawr 1979. Sefydlwyd y cwmni dan femorandwm cymdeithasiad a sefydlodd amcanion a grymoedd y cwmni elusennol, ac erthyglau cwmni’r memorandwm hwn sy’n ei lywodraethu. Newidiwyd Memorandum and Articles of Association yr ymddiriedolaeth drwy gytundeb arbennig fis Hydref 1978, mis Tachwedd 1983 a mis Medi 2001. Pe byddai’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben fe fyddai gofyn i aelodau gyfrannu swm o £1 ar y mwyaf.

APenodi ymddiriedolwyr, a’u cyfrifoldeb
Bydd Aelodau’r ymddiriedolaeth yn ethol yr Ymddiriedolwyr. Manylir ar hawliau, dyletswyddau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr a mater hyfforddiant ymsefydlu ar gyfer ymddiriedolwyr yn ei Memorandum of Trustees’ Responsibilities and Duties.

Adolygu Risg
Mae’r risgiau o bwys y mae’r elusen yn agored iddynt, fel y’u nodwyd gan yr ymddiriedolwyr, wedi’u hadolygu ac mae systemau a gweithdrefnau wedi’u sefydlu i reoli’r risgiau hynny.

AMCANION A GWEITHGAREDDAU

Prif weithgareddau a maes gweithredu
Manylir ar brif amcan yr ymddiriedolaeth yn ei Memorandum of Association sef addysg y cyhoedd mewn archeoleg. Un o’r pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru yw’r ymddiriedolaeth, sy’n cydweithio’n agos â chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill ac aelodau o’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo i gofnodi, dehongli a diogelu pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae’r ymddiriedolaeth yn gweithredu’n bennaf yn ardal Clwyd-Powys yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, sef ardaloedd siroedd modern Powys, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Wrecsam a rhan ddwyreiniol Conwy, er ei bod hefyd yn cynnal gwaith prosiect mewn siroedd cyfagos eraill yng Nghymru a Lloegr o bryd i’w gilydd.

CRYNODEB O WEITHGAREDDAU’R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN DDIWETHAF

Mesur cyflawniadau a pherfformiad
Mae’r rhan fwyaf o'r gwaith y mae’r ymddiriedolaeth yn ei wneud naill ai ar ffurf gwasanaethau neu brosiectau sy’n derbyn grantiau oddi wrth gyrff y sector cyhoeddus, neu brosiectau a wneir i gyflawni contract masnachol â’r sector preifat. Cwblheir y gwaith hwn yn gyffredinol yn unol â nodau ac amcanion sydd wedi’u dogfennu. Bydd bwrdd yr ymddiriedolwyr yn adolygu perfformiad a chyflawniad targedau, bydd y tîm uwch reolwyr yn eu monitro’n fewnol a bydd cyrff sy’n dyfarnu grantiau a chleientiaid yn eu monitro’n allanol yn rheolaidd.

Ymchwilio ac archwilio archeolegol
Parhaodd yr ymddiriedolaeth i ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau yn y maes, naill ai mewn ymateb i ddatblygiadau arfaethedig a allai gael effaith ar yr amgylchedd hanesyddol neu er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r gorffennol. Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r prosiectau wedi cynnwys cloddiadau adfer, cofnodi adeiladau, asesiadau pen-bwrdd, gwerthusiadau maes, arolygon maes a chynlluniau goruchwylio. Rhoddir enghreifftiau isod o’r mathau o brosiectau yr ymgymerwyd â hwy yn ystod y flwyddyn. Defnyddir enwau’r hen siroedd ym Mhowys, sef Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn er hwylustod.

Ariannwyd y prosiectau canlynol, rhai ohonynt yn parhau o flynyddoedd ariannol blaenorol, gan Cadw yn ystod y flwyddyn, fel rhan o’r rhaglen o asesiadau sy’n ymwneud â bygythiadau y mae’r pedair ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru yn ymgymryd â hwy. Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol Ymwelwyd â safleoedd yn nwyrain Bannau Brycheiniog a gogledd Sir Frycheiniog, gan gwblhau’r arolwg cyflym o nifer o henebion Neolithig a rhai o’r Oes Efydd yn y maes sy’n cynnwys crugiau hirion, crugiau crynion a charneddi, meini hirion a chylchoedd cerrig yn ardal Clwyd-Powys, sef arolwg y dechreuodd yr ymddiriedolaeth ar ddiwedd y 1990au. Ymgymerwyd â’r prosiect fel rhan o fenter Cymru gyfan, yn rhannol gyda golwg ar gynyddu ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac yn rhannol o safbwynt eu hamddiffyn a’u rheoli yn y dyfodol. Tirweddau Hanesyddol Ymgymerwyd â’r gwaith o nodweddu’r dirwedd hanesyddol yn ardal Canol Dyffryn Wysg a amlinellir yn Rhan Dau y Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, fel rhan o fenter barhaus Cymru-gyfan. Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys tref hanesyddol Aberhonddu a Llyn Llan-gors yn ogystal â dyffryn Wysg ei hun. Nod yr astudiaeth oedd gwella ein dealltwriaeth o sut daeth y dirwedd neilltuol hon i fodolaeth, a sicrhau bod gwybodaeth amdani ar gael yn fwy eang. Cynhyrchwyd taflen ddwyieithog ar dirwedd hanesyddol Cwm Elan gyda chymorth grantiau oddi wrth Cadw ac ymddiriedolaeth Cwm Elan, ac hefyd gosodwyd tudalennau gwe dwyieithog am dirwedd hanesyddol Dyffryn Llangollen, a astudiwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, ar wefan yr ymddiriedolaeth. Cloddiau Byr ar y Gororau Ymgymerwyd â gwaith ar chwech pellach o’r cloddiau byr ar y Gororau. Pwrpas y prosiect fu dysgu mwy am yr henebion enigmatig hyn yn ogystal â threfnu iddynt gael eu diogelu yn barhaus. Sicrhawyd tystiolaeth dyddio radio carbon ar gyfer dau glawdd pellach, sef Clawdd Mawr ac Upper Short Ditch, a dangoswyd am y tro cyntaf eu bod yn dyddio o rhwng y chweched a’r wythfed ganrif OC. Ceyrydd Rhufeinig ac aneddiadau sifilaidd cysylltiedig Yn parhau â’r rhaglen o arolygu safleoedd mewn ceyrydd Rhufeinig ac o’u hamgylch yng nghanolbarth Cymru a ddechreuwyd yn 2004/05, ymgymerwyd ag arolwg geoffisegol ger Caer Aberhonddu a Phen-y-gaer (Sir Frycheiniog) a ger Caer Ffordun (Sir Drefaldwyn). Yn ogystal â hyn, ymgymerwyd ag arolwg tir pellach o gloddwaith y safle Rhufeinig a chanoloesol yng Nghastell Colwyn (Sir Faesyfed) ac o gloddiadau’r diweddar Athro Barri Jones, nad oedd ei ddarganfyddiadau wedi’u cyhoeddi, yn nyffryn Efyrnwy (Sir Drefaldwyn). Bwriad y prosiect yw gwella ein dealltwriaeth o natur meddiannaeth y Rhufeiniaid ar Gymru a chynorthwyo i reoli’r agwedd hon ar ein treftadaeth. Llociau amddiffynnol yn Sir Faesyfed TMae’r prosiect newydd hwn yn cynnwys asesu ffurf a chyflwr mwy na 50 o lociau amddiffynnol yn Sir Faesyfed, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hwyr, fel rhan o fenter Cymru gyfan. Mae’r safleoedd yr ymwelwyd â hwy yn cynnwys bryngeyrydd mwy fel Burfa Bank a llociau olion cnydau llai fel y rheiny yn Hindwell a Knapp Farm ym Masn Waltwn. Porthladdoedd a harbwrs yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru Mae’r prosiect hwn eto yn llunio rhan o fenter Cymru gyfan sydd, yn yr achos hwn, yn canolbwyntio ar y porthladdoedd a’r harbwrs hanesyddol ar arfordir gogledd Cymru ac aber afon Dyfrdwy yn Sir Y Fflint a Sir Ddinbych. Rhagwelir y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, a chynlluniwyd ef i ddarparu asesiad manwl o weddillion archeolegol a allai fod yn arwyddocaol, boed yn rhai sy'n dal i sefyll, wedi’u claddu, neu wedi’u boddi, fel sail ar gyfer datblygu strategaethau rheoli yn y dyfodol. Crug Crwn Cornatyn Cofnodwyd y crug crwn hwn o’r Oes Efydd, sy’n ffurfio rhan o glwstwr o henebion claddu cynhanesyddol yn ardal Bryn Cornatyn, ac adferwyd ef i’w safle yn dilyn difrod a achoswyd yn ystod gweithredoedd cwympo coed.

Ymgymerwyd â nifer o brosiectau eraill yn y maes yn ystod y flwyddyn gyda nawdd oddi wrth amryw o gyrff eraill. Ymgymerwyd â gwaith cofnodi adeiladau yn Y Tŷ Brenhinol, Machynlleth, Sir Drefaldwyn, gyda nawdd oddi wrth Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth ac yn Nhŷ Nantclwyd, Rhuthun, ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Ymgymerwyd â gwaith cofnodi adeiladau helaeth a pheth gwaith cloddio ar Roundhouse Farm, Nantyglo, oar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac yn hen Wyrcws Llanfyllin ar ran ymddiriedolaeth Diogelu Adeilad Y Dolydd. Ymgymerwyd â rhaglen o gofnodi archeolegol yn ystod adeiladu Fferm Wynt Mynydd Clogau Sir Drefaldwyn a chyn adeiladu fferm wynt arfaethedig ar Fynydd Hiraethog, Sir Ddinbych. Ymgymerwyd â gwaith cloddio y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Sir Ddinbych, ar ran y Deon a’r Cabidwl cyn ail-lorio, ac yn Lôn y Rheithordy, Maesyfed, Sir Faesyfed, mewn ymateb i ddatblygiadau arfaethedig.

Ymgymerwyd ag arolwg topograffig o Foel Findeg, Maeshafn a gweddillion mwyngloddio plwm cysylltiedig ar ran Cyngor Sir Ddinbych mewn cysylltiad â chynigion i greu gwarchodfa natur leol. Ymgymerwyd ag arolwg dynodi o safleoedd ucheldirol mewn ardal o Beacon Hill, Llangunllo, Sir Faesyfed, gyda nawdd oddi wrth y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru. Ymgymerwyd hefyd â degfed tymor, a thymor olaf, arolwg maes ucheldirol yn Ystâd Efyrnwy yn Sir Drefaldwyn, gyda nawdd oddi wrth gwmni Dŵr Hafren-Trent at ddibenion gwella cofnodion a rheoli treftadaeth.

Ymgymerwyd â dadansoddiad tirwedd hanesyddol fel rhan o brosiectau TIRFAP Sir Drefaldwyn a THIRFAP Sir Y Fflint ar ran Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Y Fflint a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Parhaodd staff yr ymddiriedolaeth i eistedd ar banel sicrhau ansawdd CCGC ar gyfer agwedd tirwedd hanesyddol TIRFAP.

Addysg ac allgymorth
Ymhlith y mentrau addysg ac allgymorth yr ymgymerwyd â hwy yn ystod y flwyddyn oedd cyfrannu amser y staff at Ddiwrnod Archeolegol Cenedlaethol 2005 , Cyngor Archaeoleg Prydain, a drefnwyd gan Amgueddfa Powysland, Y Trallwng. Roedd sawl achlysur unwaith eto yn cynnwys arddangosiadau gan y grŵp ail-greu, Cwmwd Iâl. Ar ôl llwyddo i gwblhau Prosiect Archeoleg Cymunedol Bangor Is-y-coed y llynedd, bu’r ymddiriedolaeth yn ymwneud â darparu gwybodaeth ar gyfer yr eglwysi yn y Waun, Holt, Tallarn Green ac Wrddymbre [Worthenbury] ar ran Rhwydwaith Eglwysi Agored Wrecsam, gyda nawdd oddi wrth Gogledd Gororau Cymru. Darparwyd hyfforddiant mewn cloddio a thechnegau cofnodi yn Eglwys Sant Mihangel Abergele, ar gyfer myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn ardal Abergele. Darparwyd cyngor i staff Amgueddfa Llandrindod ar y model rhithwir arfaethedig o Fasn Waltwn i gyd-fynd ag arddangosfeydd yr amgueddfa oedd wedi’u hailwampio. Gwnaeth staff yr ymddiriedolaeth nifer o gyflwyniadau ar Agwedd Tirwedd Hanesyddol TIRFAP mewn seminarau hyfforddi a drefnwyd gan CCGC ar gyfer staff awdurdodau lleol yng Nghymru, a gwnaethant gyflwyniadau hefyd ar Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol fel rhan o gwrs ôl-raddedig Rheoli Treftadaeth yn Athrofa Ironbridge, Sir Amwythig. Cymerodd staff yr ymddiriedolaeth ran yn y gwaith o ffilmio Time Team at Ffrith, a ddarlledwyd fis Ebrill 2006.

Diweddarwyd ambell ran o wefan yr ymddiriedolaeth (www.cpat.org.uk) yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys ychwanegu tudalennau gwe dwyieithog am dirwedd hanesyddol Dyffryn Llangollen ac Arolwg o Gloddfeydd Metel Clwyd-Powys, a thudalennau gwe Eich Cymuned – Frith sydd wedi’u cysylltu i wefan Time Team Channel 4. Trefnwyd nifer o deithiau cerdded y dirwedd hanesyddol ar gyfer amryw o gyrff, gan gynnwys rhai ar hyd Clawdd Offa ac un yng Nghwm Elan. Trefnwyd yr un yng Nghwm Elan i ddigwydd ar yr un pryd â lansio Cymdeithas Mynyddoedd Cambria. Rhoddwyd anerchiadau ar amrywiaeth eang o bynciau archeolegol a hanesyddol hefyd i nifer o grwpiau yn ystod y flwyddyn.

Cynhyrchwyd cyfanswm o 87 (2004/05: 73) o adroddiadau prosiect a themâu yn ystod y flwyddyn, i’w dosbarthu i restr gyfyngedig o bobl. Rhoddir crynodeb o adroddiadau byr ar brosiectau unigol yr ymddiriedolaeth yn Archaeology in Wales, a gyhoeddir yn flynyddol gan Gyngor Archaeoleg Prydain. Ymhlith cyhoeddiadau y cyfrannodd yr aelodau o staff atynt yn ystod y flwyddyn oedd adroddiad ar gloddio safle tir gwlyb Neolithig yn Abercynafon, Talybont-ar-Wysg, a gyhoeddwyd yn Journal of Wetland Archaeology, ar gelc o wrthrychau o ddiwedd yr Oes Efydd o Fferm Trevalyn, Yr Orsedd Goch, a gyhoeddwyd yn Studia Celtica, ar henebion angladdol a defodol Cynhanesyddol Sir Faesyfed, a gyhoeddwyd yn Radnorshire Transactions, ar y Tiroedd Comin a Diffaith, a gyhoeddwyd mewn cyfrol o’r enw Society, Landscape and Environment in Upland Britain, ar Garreg adeiladu eglwysi, mewn cyfrol o’r enw Stone in Wales: Materials, Heritage and Conservation, ac ar Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd, mewn cyfrol o’r enw Lost Farmsteads: Deserted Rural Settlements in Wales a gyhoeddwyd gan Gyngor Archaeoleg Prydain.

Mae’r ymddiriedolaeth yn parhau i fynd ati i chwarae rhan yng ngwaith nifer o gymdeithasau a grwpiau hanesyddol ac archeolegol lleol a chenedlaethol.

Cyngor a gwybodaeth archeolegol
Gyda chymorth nawdd y Comisiwn Brenhinol a Cadw, mae’r ymddiriedolaeth yn parhau i gynnal cofnod dynamig o safleoedd, darganfyddiadau, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, sef y Cofnod Rhanbarthol o'r Amgylchedd Hanesyddol (CAH), sy’n cwmpasu Powys, dwyrain Conwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam. Prif amcanion y cofnod yw darparu cyngor ar oblygiadau archeolegol polisïau a datblygiadau cynllunio, a chyngor ar reoli safleoedd a thirweddau archeolegol. Mae hefyd yn ffynhonnell ar gyfer mentrau sy’n ymwneud â chadwraeth, dehongli a chyflwyno archeoleg a thirweddau hanesyddol Cymru. Ychwanegir gwybodaeth newydd o brosiectau gwaith maes diweddar ac o ffynonellau sydd wedi’u cyhoeddi a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.

Mae’r holl awdurdodau cynllunio yn ardal Clwyd-Powys – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Y Fflint, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – bellach wedi mabwysiadu’r CAH at ddibenion cynllunio. Gyda help cymorth ariannol oddi wrth Cadw fe ymatebodd CAH i 8,430 o ymholiadau mewnol ac allanol yn ystod y flwyddyn. Mae’n parhau i gael ei ddefnyddio yn bennaf ar sail o ddydd i ddydd ar gyfer rheoli datblygiad a Thir Gofal, ond mae hefyd wedi darparu gwybodaeth i ymchwilwyr preifat, contractwyr ac ymgynghorwyr archeolegol. Hefyd, parhawyd â’r gwaith yn ystod y flwyddyn ar ddatblygu thesawrws Cymraeg o dermau archeolegol ar y cyd â’r Comisiwn Brenhinol a phartneriaid eraill.

Gyda chymorth nawdd Cadw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Y Fflint a Chyngor Sir Powys, fe barhaodd yr ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor Rheoli Datblygiad ar bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol ledled ardal Clwyd-Powys. Darparwyd y cyngor hwn i awdurdodau cynllunio lleol a chenedlaethol, i ddatblygwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat ac i sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Yn ystod y flwyddyn rhoddwyd gwybod i’r ymddiriedolaeth am 7,770 (2004/05: 8,269) cais cynllunio, yn ogystal ag ymgynghoriadau ar gynigion heb fod yn ymwneud â chynllunio, er enghraifft cynigion ynghylch priffyrdd a cheisiadau i gloddio am fwynau gan awdurdodau lleol. Gwiriwyd pob un i weld a oedd yna unrhyw oblygiadau arwyddocaol o ran archeoleg. Roedd y gwaith achos nodedig a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys datblygiadau yn Domgay Lane, Four Crosses (Sir Drefaldwyn), Chwarel St George, Abergele (Conwy), Maesyfed (Sir Faesyfed), Ffordd Osgoi Talgarth (Sir Frycheiniog), a Smithfield Y Trallwng (Sir Drefaldwyn).

Menter Clawdd Offa Sefydlwyd y fenter hon, a reolir gan yr ymddiriedolaeth dan nawdd ar y cyd oddi wrth Cadw ac English Heritage, sawl blwyddyn yn ôl mewn ymateb i bryderon cynyddol am y dirywio yng nghyflwr y clawdd llinol hwn o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2005/06 wedi cynnwys cadwraeth ymarferol, rheoli datblygiadau a chyngor cynllunio a chyngor rheoli. Ymgymerwyd â pheth gwaith rheoli yng Nghymru fel rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal CCGC, yn arbennig ym Mhlas Offa, Wrecsam, Caeaugwynion, Hawthorn Hill, Powys ac maent, gyda’i gilydd, wedi dod â rheolaeth ar adran proffil hir ac uchel o’r clawdd. Parhaodd y gwaith hefyd, â nawdd Cadw, ar ddarnau o’r clawdd yn Ffordd Tatham, Rhiwabon ac ar Glawdd Wat yn Dyke Farm, Sir Y Fflint. Ymgymerwyd â chynlluniau clirio llystyfiant eraill gan weithio gydag asiantaethau allanol yng Nghoedwig Granner ac yn Four Crosses, Powys. Mae cynlluniau rheoli ymarferol yn Lloegr wedi cynnwys clirio coetir ar hyd y clawdd yn Racecourse Wood, Swydd Amwythig a gwaith tebyg mewn cysylltiad â Coed Cadw (ynghyd â dehongli a diogelu llwybrau troed) yn Creeping Tree Wood, Swydd Gaerloyw. Bu gwireddu gwaith clirio ym mhen deheuol pellaf y clawdd yn Swydd Gaerloyw yn Sedbury (gyda nawdd English Heritage a’r Countryside Agency ar y cyd) yn brosiect symbolaidd pwysig wrth ailagor yr olygfa o ben y clawdd dros Aber afon Hafren, oedd i bob pwrpas wedi diflannu ers y 1950au. Mae cadwraeth effeithiol tirwedd Clawdd Offa yn parhau i fod yn fater allweddol o ran rheoli datblygiad.

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu cyngor a gwybodaeth archeolegol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru a thirfeddianwyr mewn perthynas â cheisiadau i Tir Gofal, y cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru-gyfan. Prif ddiben y gwaith hwn yw darparu cyngor rheolaethol manwl ar nodweddion sydd o arwyddocâd archeolegol neu hanesyddol ar y ffermydd sy’n ymuno â’r cynllun. Darparodd yr ymddiriedolaeth wybodaeth archeolegol mewn ymateb i 180 (2004/05: 202) o geisiadau gan ffermydd i Tir Gofal yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chynhyrchu arolygon ac adroddiadau mwy manwl ar 39 (2004/05: 42) o ffermydd penodol a dderbyniwyd i’r cynllun yn dilyn ymweliad â’r fferm.

Roedd gwaith Rheoli Treftadaeth yr ymgymerodd yr ymddiriedolaeth ag ef gyda nawdd Cadw yn cynnwys darparu cyngor cynllunio strategol, yn enwedig mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol. Rhoddwyd cyngor archeolegol mewn ymateb i lu o geisiadau datblygu y tu allan i’r system gynllunio, gan gynnwys y canlynol: ceisiadau Caniatáu Henebion Rhestredig; ceisiadau Cynllun Grant Coetiroedd; cynigion Cynllun Coetir Cynhenid Cenedlaethol; Cynlluniau Dylunio Fforestydd Preifat Tymor Hir; cynlluniau cyfalaf a rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd; cynlluniau yr oedd amryw o gwmnïau gwasanaethau cyfleustodau yn eu cynnig, gan gynnwys Dŵr Cymru, Cwmni Dŵr Hafren-Trent a Chwmni Dŵr Wrecsam, MANWEB, SWALEC, MEB, Nwy Prydain/Transco; a cheisiadau cyfadrannol a gyflwynwyd i Bwyllgorau Ymgynghorol Esgobaethol Cymru yn ardal yr ymddiriedolaeth. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd cyswllt rheolaidd â staff y Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn parhau i ymwneud yn weithredol â’r Cynllun Hynafiaethau Symudol yng Nghymru y mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol yn ei redeg, gan gofnodi darganfyddiadau newydd y mae aelodau’r cyhoedd yn dod â hwy i mewn.

AMCANION ALLWEDDOL AR GYFER Y FLWYDDYN ARIANNOL SYDD AR DDOD

Nod yr ymddiriedolaeth yw parhau â’r gweithgareddau a amlinellir uchod yn ystod y flwyddyn ariannol sydd ar ddod, cyn belled â bod trefniadau ariannu boddhaol ar waith. Bydd hyn yn cynnwys cynnal a datblygu’r amrywiol wasanaethau archeolegol a nodir uchod yn barhaus, yn ogystal â llwyddo i gwblhau prosiectau yn y maes ac yn y swyddfa sy’n parhau i’r flwyddyn sydd ar ddod. Mae’r angen am fwy o le swyddfa amgen (y mae rhywfaint o arian wedi’i neilltuo ar ei gyfer) yn parhau i fod yn broblem enbyd, ond nid yw’n debygol o gael ei datrys yn y tymor byr neu ganolig, yn ôl pob golwg. Rhagwelir y bydd Meddalwedd Cofnodion o’r Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru yn gwella’r gwasanaethau mae’r ymddiriedolaeth yn eu darparu i’r gymuned yn sylweddol. Y disgwyl yw y bydd hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn sydd ar ddod, ac mae darpariaeth ariannol yn parhau ar ei gyfer. O ran materion ariannol, mae’n debygol y cymerir camau yn ystod y flwyddyn gyfredol i wneud yr ymddiriedolaeth yn llai agored i niwed o ran atebolrwydd y cynllun pensiwn.

Trwy orchymyn Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Mrs F M Lynch Llewellyn
Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr
21 Gorffennaf 2006


YMDDIRIEDOLWYR, Y PWYLLGOR, AELODAU, STAFF AC YMGYNGHORWYR 2005/06

Ymddriedolwyr
Mrs F M Lynch Llewellyn, Chairman, Bangor
Dr J L Davies, Vice Chairman, Aberystwyth
Mr H Jones, Holt
Mr C R Musson, Aberystwyth
Mr D W L Rowlands, Llanerfyl
Mr D Morgan, Brecon

Pwyligor Ymgynghorol
Professor S H R Aldhouse-Green, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd
Mr K S Brassil, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
Mr P Dorling, Clyro
Dr E Plunkett Dillon, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Mr D M Evans, Llundain a Llanerfyl
Mrs F Gale, Cyngor Sir Ddinbych
Ms K Kucharski, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mrs Hilary Malaws, Comisiwn Brenhinol Henbion Cymru
Dr S Rees, sylwedydd i Cadw
Dr S Semple, Dept of Archaeology and History, University of Chester
Mr C J Spurgeon, Aberystwyth

Aelodau
Miss J Ashton, Cymdeithas Sir Faesyfed
Councillor G R Banks, Cyngor Sir Powys
Miss E Bredsdorff, Amgueddfa Powysland
Mr R Brewer, Amgueddfeydd ac Orielau Genedlaethol Cymru
Councillor D M D Clayton, Cyngor Sir y Fflint
Councillor P C Evans, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Councillor R W Morgan, Cyngor Sir Powys
Mrs N P Parker, Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint
Mr D Pratt, Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych
Councillor T J Van Rees, Cyngor Sir Powys
Councillor D Rogers, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Staff
Tim Gweinyddol
Mr W J Britnell, Cyfarwyddwr/Ysgrifennydd y Cwmni
Mrs J E Britnell, Swyddon Gweinyddol
Mrs M Godsell, Cynorthwy-ydd Cyllid

Tim Prosiect
Mr R J Silvester, Dirprwy Gyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaethau Maes
Mr N W Jones, Uwch Archeolegwr Prosiect
Mr I Grant, Archeolegwr Prosiect
Mr R Hankinson, Archeolegwr Prosiect
Ms W J Owen, Archeolegwr Prosiect

Tim Curadurol
Mr C H R Martin, Prif Swyddog Curadurol
Mr I Bapty, Swyddog Clawdd Offa
Ms C Baxter, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth
Mr D Bull, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth/Tir Gofal
Ms A McCullough, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth/Tir Gofal
Mr J Spencer, Swyddog Cofnodion Safleoedd a Henebion
Mr M Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad

Cyfrifyddion
Tranter Lowe, Oakengates

Archwilwyr
Whittingham Riddell LLP, Welshpool & Shrewsbury

Cyfreithwyr
Turnbull Garrard, Shrewsbury

Bancwrwyr
National Westminster Bank, Broad Street, Y Trallwng