CPAT logo
Cymraeg / English
Back Home
Adroddiadau blynyddol

Adroddiad Blynyddol 1998/99


RHAGARWEINIAD

Cwmni a gyfyngir gan warant a heb fod â chyfalaf cyfrannau yw Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (Rhif Cofrestru 1212455) ac y mae'n Elusen Gofrestredig (Rhif Cofrestru 508301). Y Memorandum and Articles of Association, fel yr ymgorfforwyd 14 Mai 1975, yw'r ddogfen lywodraethol.

Prif Weithgarwch
Addysgu'r cyhoedd mewn archeoleg a darparu gwasanaethau archeolegol i'r gymuned yw prif weithgarwch yr Ymddiriedolaeth.

CRYNODEB O AMCANION YR YMDDIRIEDOLAETH

Un Ymddiriedolaeth Archeolegol o bedair a sefydlwyd yng Nghymru yn y 1970au yw'r Ymddiriedolaeth. Mae'n gwmni cyfyngedig ac yn elusen gofrestredig fel ei gilydd.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cydweithio'n agos â chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i gofnodi, dehongli a diogelu holl agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae'n gweithredu'n bennaf yn ardal Clwyd-Powys, sef sir Powys a'r ardaloedd awdurdod lleol oedd yng Nghlwyd gynt - Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a rhan ddwyreiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

CRYNODEB O WEITHGAREDDAU'R YMDDIRIEDOLAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN

Ymchwilio ac archwilio archeolegol
Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau yn y maes, gan amlaf fel ymateb i ddatblygiadau arfaethedig neu er mwyn mwyhau'r cofnod archeolegol. Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y rhain yn cynnwys cloddiadau achub, cofnodi adeiladau, asesiadau penbwrdd, gwerthusiadau maes, arolygon maes a chynlluniau gwylio. Rhoddir enghreifftiau isod o'r mathau o brosiectau yr ymgymerwyd â hwy yn ystod y flwyddyn. Defnyddir enwau'r hen siroedd Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog er hwylustod yn y testun canlynol.

Roedd gwaith dan nawdd Cadw yn cynnwys y prosiectau canlynol, rhai ohonynt wedi'u dwyn ymlaen o flynyddoedd ariannol blaenorol:
Prosiect yr Arfordir - Fe gynorthwywyd i gynhyrchu cyhoeddiad poblogaidd ar dreftadaeth arfordirol, i'w gyhoeddi gan Cadw a'r pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymreig.
Prosiect Eglwysi - Ymgymerwyd â thair elfen wahanol o waith fel rhan o'r prosiect yma, sy'n fenter Cymru-gyfan at ddibenion cadwraeth a mwyhau cofnodion. Yn gyntaf, ymgymerwyd â gwaith i gwblhau adroddiadau unigol a gorolygon rhanbarthol o archeoleg tua 260 o eglwysi cyn-Fictoraidd yn ardal Clwyd-Powys. Yn ail, cynorthwywyd â chynhyrchu adroddiad cryno o'r prosiect eglwysi, i'w gyhoeddi maes o law. Yn drydydd, fe baratowyd drafft o lyfryn mwy poblogaidd ar archeoleg eglwysi yng Nghymru, i'w gyhoeddi gan Cadw a'r Ymddiriedolaethau Archeolegol.
Aneddiadau Gwledig Diffaith - Dyma drydedd flwyddyn arolwg chwim o aneddiadau diffaith canoloesol a rhai diweddarach, at ddibenion cadwraeth a mwyhau cofnodion, wedi'i ariannu fel rhan o fenter Cymru-gyfan, gan ganolbwyntio ar safleoedd yn ne Maesyfed a gogledd Brycheiniog.
Abaty Cwmhir - Dychwelodd yr Ymddiriedolaeth unwaith eto i wneud gwaith pellach ar weddillion yr abaty Sistersaidd yn Abaty Cwmhir, Maesyfed. Yn yr achos hwn, fe gomisiynwyd yr Ymddiriedolaeth i gynhyrchu arolwg geoffisegol o ran o'r safle. Ymgymerodd GeoQuest â hyn ar ran yr Ymddiriedolaeth. Daeth peth tystiolaeth i'r amlwg yn yr arolwg geoffisegol o gynllun y cloestrau, nad oes modd eu gweld bellach od uchaf i wastad y llawr. Cafwyd peth tystiolaeth bosibl hefyd o gynllun pen dwyreiniol eglwys yr abaty; mae'n bosibl na chwblhawyd hon erioed.
Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn Sir Ddinbych a dwyrain Conwy - Arolwg chwim o oddeutu 360 safle, gan gynnwys beddrodau crynion, carneddau cylch, meini hirion, cylchoedd cerrig a rhesi cerrig, at ddibenion mwyhau cofnod Henebion Rhestredig. Parhad oedd hyn o waith a wnaed yn nyffryn uchaf Hafren ym 1997/98. Rhagdybir y bydd yn ymestyn i Gymru gyfan maes o law.
Nodweddu'r Tirlun Hanesyddol - Fel rhan o fenter Cymru-gyfan newydd, fe ymgymerwyd â gwaith yn
Nyffryn Tanat a Dyffryn Clwyd - dwy ardal a ddiffiniwyd yng Nghofrestr Tirluniau Hanesyddol a gynhyrchir gan Cadw ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac ICOMOS UK. Y nod oedd dynodi elfennau hanesyddol arwyddocaol o'r tirlun a allai deilyngu cadwraeth a rheolaeth. Diffiniwyd nifer o ardaloedd â nodweddion tirlun hanesyddol yn y ddwy ardal tirlun hanesyddol, ar sail nifer o themâu tirlun hanesyddol. Ymhlith y rhain oedd anheddu, amaethyddiaeth, cludiant a chyfathrebu, diwydiant, amddiffyniad, safleoedd angladdol, cysylltiadau eglwysig a chwedlonol, ac yn olaf tirluniau addurnol a darluniadwy, a chysylltiadau diwylliannol. Gweithredir y prosiect ochr yn ochr â rhaglen LANDMAP CCGC y mae awdurdodau lleol Cymru yn ymgymryd â hi. Rhagwelir y bydd yr astudiaethau yn darparu gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol, a bydd hon yn cael ei bwydo i Dir Gofal, sef y cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru-gyfan newydd y bydd y Swyddfa Gymreig yn ei lansio ym 1999.
Cytiau Crynion - Prosiect newydd arall yr ymgymerwyd ag ef yn ystod y flwyddyn. Asesiad cychwynnol ydyw o gytiau crynion yn ardal Clwyd-Powys. Nid oes cymaint o'r safleoedd hyn, sy'n cynrychioli adeiladau cynhanesyddol a diweddarach, yn ardal Clwyd-Powys o'i chymharu ag ardaloedd eraill Cymru, ond maent yn darparu tystiolaeth werthfawr o'r anheddiad cynnar diamddiffyn yr astudiwyd ond ychydig ohono yn y gorffennol. Yn debyg i brosiectau asesu maes eraill o'r fath, un o brif amcanion y prosiect oedd mwyhau cofrestr Henebion Rhestredig.
Eglwys Llanelidan - Ymgymerwyd â gwaith cofnodi ar ran o sylfeini'r eglwys tra'r oedd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar yr eglwys.
Clostiroedd Neolithig Waltwn - Fe gyfrannodd Cadw arian yn hael at waith ar yr henebion cynhanesyddol pwysig hyn ym Maesyfed. Ymgymerwyd â hyn fel rhan o brosiect SEPAH a gynhaliwyd â nawdd y Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o Raglen Raphael (gweler isod).

Roedd prosiectau dan nawdd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:
Tir Comin Maesyfed - Arolwg dynodi chwim o adnodd archeolegol yn ucheldiroedd rhannau o Dir Comin Maesyfed, fel rhan o fenter ucheldiroedd Cymru-gyfan. Ei bwrpas oedd mwyhau cofnodion a rheoli'r tirlun hanesyddol.
Crynodeb o Arolygon Ucheldiroedd - Ymchwiliwyd i grynodeb o waith arolygon ucheldiroedd yr Ymddiriedolaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Gwnaed hyn dan nawdd gwahanol ffynonellau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Rhaglen Mapio o Awyrluniau - Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, fe barhaodd gwaith pwysig ar gywiro a phlotio safleoedd o ddiddordeb archeolegol ym Maldwyn, wedi'u cofnodi ar awyrluniau lletraws a fertigol. Y pwrpas oedd cadwraeth a mwyhau cofnodion, dan nawdd y Comisiwn Brenhinol fel rhan o fenter Cymru-gyfan. Daeth cyfran uchel o'r ffotograffau a astudiwyd o archif helaeth yr Ymddiriedolaeth o awyrluniau lletraws, sy'n drysorfa o wybodaeth am y tirlun hanesyddol sydd dal yn aros am astudiaeth lawn.

Roedd prosiectau dan nawdd cyrff eraill yn cynnwys y canlynol:
Arolwg Mynydd y Ffynnon - Arolwg chwim parhaus at ddibenion cadwraeth a mwyhau cofnodion yng ngorllewin Maldwyn, dan nawdd ADAS drwy'r Comisiwn Ewropeaidd, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Prosiect Asedion Treftadaeth Cymru - Archwiliad o safleoedd archeolegol yn neiliadaeth y Fenter Coedwigaeth yng Nghlwyd a Phowys, at ddibenion cadwraeth a mwyhau cofnodion. Dan nawdd y Fenter Coedwigaeth, mae'r archwiliad yn cynnwys arolygon yn ardaloedd Fforest Hafren, De Tywi, Crynant, Gwydyr, a Choed-y-Brenin.
Arolwg Efyrnwy - Arolwg dynodi chwim parhaus o safleoedd archeolegol yng nghyffiniau Llyn Efyrnwy, Maldwyn. Ei ddiben yw cadwraeth a mwyhau cofnodion, dan nawdd Dwr Hafren-Trent.
Rhos Trannon - Gwaith arolwg parhaus ar safleoedd archeolegol yn ardal y fferm wynt sy'n bodoli eisoes ym Maldwyn, dan nawdd datblygwr drwy Gyngor Sir Powys.
Erddig - Gwaith cofnodi manwl ar libart coblog yn Erddig, ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Piblinell Nwy Caersws-Machynlleth - Astudiaeth penbwrdd, a chloddio a chofnodi cyn i'r bibell groesi hynt y ffordd Rufeinig i'r dwyrain i'r gaer Rufeinig yng Nghaersws, Maldwyn. Darganfuwyd bod y ffordd yn gorwedd ar haenau mawn ar waelod y dyffryn. Fe samplwyd y rhain er mwyn i staff Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, allu gwneud astudiaeth baleoamgylcheddol ohonynt yn ddiweddarach.
Arolygon Archeolegol yr Ymddiriedolaeth Coedlannau - Archwiliad o safleoedd archeolegol mewn coedwigoedd, at ddibenion cadwraeth a mwyhau cofnodion, dan nawdd yr Ymddiriedolaeth Coedlannau, ym Mhlas Power, Coed Ystrad, a Choed-y-Foel.
SEPAH - Fel y nodwyd uchod, gweithredwyd y prosiect yma (Arolygu, Fforio a Diogelu'r Dreftadaeth Archeolegol) dan nawdd y Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o'r Rhaglen Raphael, gyda nawdd ychwanegol oddi wrth Cadw. Canolbwynt y prosiect oedd dau gylch coed Neolithig mawr ac enigmatig oedd yn sylfaen i geyrydd Rhufeinig ger Hindwell a Waltwn ym Masn Waltwn, Maesyfed. Gwyddys am berimedrau'r ddau safle yma, sy'n bwysig yn genedlaethol, yn rhannol trwy awyrluniau ac yn rhannol trwy gloddio. Prif amcanion y prosiect oedd ymgymryd ag arolwg geoffisegol ac arolwg tir pellach, a darparu tystiolaeth i ddyddio'r clostir yn Waltwn. Gobeithiwyd y byddai'r cyntaf o'r amcanion hyn yn helpu i ddiffinio maint clostir Hindwell. Ymgymerwyd â'r prosiect gyda chymorth cydweithwyr oedd yn arbenigo mewn arolygon tir ac arolygon geoffisegol o'r Iseldiroedd, Yr Almaen a Gweriniaeth Iwerddon.

Addysg a chyhoeddiadau
Bachir ar bob cyfle i wneud gwaith addysgol, er mai cymharol fychan yw'r gyfran o'r cymorth grant y mae'r Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn ar hyn o bryd sy'n benodol at y diben hwn. Mae holl weithgareddau'r Ymddiriedolaeth, fodd bynnag, yn cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at well dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol ardal Clwyd-Powys. Roedd y gwaith datblygu ar Wefan yr Ymddiriedolaeth yn brif fenter yn ystod ail hanner y flwyddyn. Bellach, gellir cyrraedd y Wefan ar y Rhyngrwyd yn www.cpat.demon.co.uk.. Mae'n cynnwys gwybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a'i hymwneud. Mae'r Wefan wedi bod yn ddefnyddiol eisoes wrth roi cyhoeddusrwydd i weithgareddau'r Ymddiriedolaeth a'r gwasanaethau mae'n eu darparu i'r gymuned.

Cynhyrchwyd oddeutu 40 o adroddiadau prosiect a phwnc yn ystod y flwyddyn, i'w dosbarthu yn gyfyngedig. Yn gyffredinol, rhoddir crynodeb o adroddiadau byr ar brosiectau unigol yr Ymddiriedolaeth yn Archaeoleg yng Nghymru, a gyhoeddir yn flynyddol gan Gyngor Archaeoleg Brydeinig: Cymru, yn ogystal ag mewn nifer o gyfnodolion cenedlaethol, gan gynnwys Britannia a Medieval Archaeology. Roedd cyhoeddiadau eraill staff yr Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn yn cynnwys adroddiadau ar waith cloddio ac arolygon ym Masn Waltwn (cyhoeddwyd y rhain yng nghylchgrawn Transactions of the Radnorshire Society ac fel monograff yng nghyfres adroddiadau ymchwil Cyngor Archaeoleg Brydeinig), a'r adroddiad terfynol ar y gwaith cloddio ar furiau'r dref yn Nhrefaldwyn (a gyhoeddwyd yng Nghasgliadau Maldwyn, cylchgrawn Clwb Powysland). Gwelwyd cyhoeddiadau eraill staff yr Ymddiriedolaeth yn ymddangos yn y cylchgrawn Church Archaeology ac mewn llyfryn o'r enw Archaeology and Landuse, three case studies: prehistoric links in modern Europe.

Darpariaeth gwasanaethau archeolegol
Gyda chymorth nawdd oddi wrth y Comisiwn Brenhinol, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnal archif a chofnod cyfrifiadurol o safleoedd, darganfyddiadau, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, o'r enw Cofnod Safleoedd a Henebion Rhanbarthol (CSH), sy'n cwmpasu Powys, rhan o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, a Wrecsam. Prif ddibenion y cofnod yw darparu cyngor ar oblygiadau archeolegol polisau a datblygiadau cynllunio, a chyngor ar reoli safleoedd a thirluniau archeolegol. Mae hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell ar gyfer mentrau sy'n ymwneud â chadwraeth, dehongli a chyflwyno archeoleg a thirluniau hanesyddol Cymru. 35,058 yw cyfanswm yr eitemau ym mhrif gofnod cyfrifiadurol CSH ar hyn o bryd. O'r rheiny, ychwanegwyd tua 1,167 o gofnodion newydd, ac yn ystod y flwyddyn golygwyd 2,116 o gofnodion a oedd yn bodoli eisoes, wrth i wybodaeth newydd gael ei chasglu o waith maes diweddar ac o ffynonellau cyhoeddedig. Mae'r cofnod bellach wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol at ddibenion cynllunio gan yr awdurdodau cynllunio yn ardal Clwyd-Powys - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Y Fflint, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gyda chymorth nawdd Cadw, fe barhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu rheolaeth, ar ffurf Rheoli Datblygiad a Chyngor Cynllunio Strategol ar bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol ledled ardal Clwyd-Powys. Darparwyd hyn i awdurdodau cynllunio lleol a chenedlaethol, i ddatblygwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac i sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth hysbysiadau ynglyn â 6,628 o geisiadau cynllunio, cynlluniau arfaethedig priffyrdd a cheisiadau mwynau oddi wrth awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn. Gwiriwyd pob un o'r rhain i ganfod a oedd iddynt oblygiadau archeolegol o bwys. Ymgynghorwyd â'r Ymddiriedolaeth hefyd ar oddeutu 330 o gynigion eraill y tu allan i'r system gynllunio, gan gynnwys y canlynol: ceisiadau Caniatâd Henebion Rhestredig; cynlluniau rheoli Ardal Amgylcheddol Sensitif; ceisiadau Cynllun Grant Coedlannau; cynlluniau Dylunio Fforestydd; cynlluniau cyfalaf a rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd; cynlluniau a roddwyd gerbron gan wahanol gwmnau gwasanaethau, gan gynnwys Dwr Cymru, Dwr Hafren-Trent a Chwmni Dwr Wrecsam, MANWEB, SWALEC, MEB, Nwy Prydain/Transco. Cynhaliwyd cyfarfodydd cysylltu rheolaidd hefyd gyda staff yr Awdurdod Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Parhaodd awdurdodau lleol hefyd i ymgynghori â'r Ymddiriedolaeth ar nifer o ddogfennau cynllunio strategol. Roedd cyflwyniadau wedi'u paratoi yn ystod y flwyddyn ar ddogfen Canllawiau Cynllunio Strategol Sir Ddinbych, Cynllun Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cynllun Lleol Gogledd Sir Y Fflint, ac ar Ganllawiau Cynllunio Interim ar gyfer Cymunedau Llangedwyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin yn dilyn eu hymgorffori yng Nghynllun Strwythurol Powys a Chynllun Lleol Maldwyn. Neilltuwyd amser sylweddol y staff hefyd i ymgynghori ar Gynlluniau Dylunio Fforestydd, yn enwedig ar gyfer coedlannau preifat, ac ar Gynlluniau Dylunio Lleol Asiantaeth yr Amgylchedd (LEAP) a baratoir gan Asiantaeth yr Amgylchedd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer Dyfrdwy, Meirionnydd, Conwy, Wysg, Gwy ac Ucheldiroedd Hafren.

Penodwyd Swyddog Rheoli Treftadaeth yn ystod y flwyddyn, ac roedd hyn yn brif ddatblygiad. Fe fydd y swydd newydd hon, a grwyd â chefnogaeth ariannol Cadw, yn achosi mewnbwn arwyddocaol i agweddau rheoli tirlun hanesyddol o gynllun Tir Gofal, sef cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru-gyfan sydd ar fin cychwyn ym mlwyddyn ariannol 1999/00.

RHEOLAETH A THREFNIADAETH

Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan fwrdd o Ymddiriedolwyr a etholir o blith aelodau'r Ymddiriedolaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyfarfu'r Ymddiriedolwyr ar bedwar achlysur yn ystod y flwyddyn ariannol, ym mis Ebrill, Mehefin, Medi 1998 a mis Ionawr 1999. Mae Pwyllgor yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys yr Ymddiriedolwyr, Aelodau eraill a gyfetholir gan yr Ymddiriedolwyr, a sylwedydd a enwebir gan Cadw. Cyfarfu'r Pwyllgor ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn, ym mis Ebrill a Medi 1998. Gwahoddir enwebiadau aelodau oddi wrth awdurdodau lleol, amgueddfeydd, cymdeithasau hanesyddol ac archeolegol lleol, a chyrff eraill sydd â diddordeb yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel rheol, mae'r aelodau yn cyfarfod unwaith y flwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ceir rhestr o'r Ymddiriedolwyr, Aelodau'r Pwyllgor, Aelodau, Staff ac Ymgynghorwyr yn ystod 1998/99, neu ran o'r flwyddyn. Mae'n dristwch cofnodi marwolaeth dau Aelod y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn, sef Mr James Barfoot o Fachynlleth a Ms Diana Morgan o Sir Y Fflint.

FFYNONELLAU CYLLID

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol mae'n parhau i'w derbyn oddi wrth Cadw, sef Asiantaeth Weithredol y Swyddfa Gymreig, a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru. Mae Cadw yn cyfrannu tuag at gostau gweinyddol yr Ymddiriedolaeth, o fewn amodau cefnogaeth y Swyddfa Gymreig i Fudiadau'r Sector Gwirfoddol. Daw'r rhan fwyaf o weddill incwm yr Ymddiriedolaeth ar ffurf cymorth grant a dyfarniadau contract oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac fe'i bwriedir bron yn llwyr ar gyfer darparu gwasanaethau archeolegol ac ar gyfer prosiectau maes penodol neu brosiectau penodol yn y swyddfa, o fewn rhaglen waith flynyddol yr Ymddiriedolaeth.

YMDDIRIEDOLWYR, Y PWYLLGOR, AELODAU, A STAFF 1998/99

Ymddiriedolwyr/Cyfarwyddwyr y Cwmni
Mrs F M Lynch Llewellyn, Cadeirydd, Prifysgol Cymru, Bangor
Dr J L Davies, Is-Gadeirydd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Dr C J Arnold, Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Mr D F Petch, Prifysgol Lerpwl
Mr D W L Rowlands, Llanerfyl

Pwyllgor Ymgynghorol
Dr S H R Aldhouse-Green, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd
Mr J Barfoot, Machynlleth
Mr K S Brassil, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
Mr P Dorling, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mr D M Evans, Cymdeithas Hynafieithwyr Llundain
Mrs F Gale, Cyngor Sir Ddinbych
Mr S Grenter, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mr D F Keast, Cyngor Sir Powys
Ms D Morgan, Cyngor Sir y Fflint
Dr S Rees, sylwedydd i Cadw: Welsh Historic Monuments
Mr C J Spurgeon, Aberystwyth

Aelodau
Miss J Ashton, Cymdeithas Sir Faesyfed Y Cynghorydd G R Banks, Cyngor Sir Powys
Miss E Bredsdorff, Amgueddfa Powysland
Mr R Brewer, Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Y Cynghorydd Mrs S D Francis, Cyngor Sir Powys
Y Cynghorydd Mrs B Greenaway, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ms J Henderson, Cyngor Amgueddfeydd yng Nghymru
Y Cynghorydd Mr J H Hughes, Cyngor Sir Powys
Mr C R Musson, Cyn Gyfarwyddwr, YACP
Mrs N P Parker, Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint
Mrs M T Read, Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych
Y Cynghorydd Mrs L Thorpe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Staff
Tm Gweinyddol
Mr W J Britnell, Cyfarwyddwr/Ysgrifennydd y Cwmni
Mrs J E Britnell, Swyddog Gweinyddol
Mrs M Godsell, Cynorthwy-ydd Cyllid

Tm Curadurol
Mr C H R Martin, Prif Swyddog Curadurol
Ms J M Mitcham, Swyddog Cofnodion Safleoedd a Henebion
Mr M Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad
Mr P Copleston, Swyddog Rheoli Treftadaeth
Ms W J Owen, Uwch Gynorthwy-ydd Prosiect/Cynorthwy-ydd RhD

Tm Prosiect
Mr R J Silvester, Is-Gyfarwyddwr
Dr A M Gibson, Rheolwr Prosiectau
Mr N W Jones, Swyddog Prosiectau
Mr D Thomas, Swyddog Prosiectau
Mr W G Owen, Uwch Gynorthwy-ydd Prosiect
Ms P Frost, Cynorthwy-ydd Prosiect
Mr R Hankinson, Cynorthwy-ydd Prosiect