Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Oes Efydd Ganol a Diweddar - 1500 - 600 BC

Fel y gwelsom, hyd yma nid ydym wedi canfod tystiolaeth o anheddiad ar yr ucheldir yn yr Oes Efydd Gynnar er bod llawer ohoni wedi ei chael mewn rhannau eraill o Brydain. Mewn ardal lle mae cerrig adeiladu addas yn brin gallai'r ymchwil fod yn anodd, ond rhaid gobeithio y bydd y rhaglenni arolygu ucheldrioedd presennol a noddir gan y Comisiwn Brenhinol yn helpu i ganfod safleoedd posibl o'r cyfnod hwn y gellir rhoi prawf ar eu dyddiadau trwy gloddio. Bwlch annisgwyl arall yn y cofnod archaeolegol lleol yw absenoldeb ymddangosiadol twmpathau llosg twmpathau o gerrig llosg o ganlyniad i goginio neu weithgarwch diwydiannol efallai, yn ystod yr Oes Efydd y ceir enghreifftiau ohonynt mewn rhannau eraill o Gymru a mannau eraill ym Mhrydain ac Iwerddon.

Daeth y traddodiadau angladdol cyfarwydd i ben yn ystod yr Oes Efydd Gynnar mewn llawer rhan o Brydain, ac er bod peth tystiolaeth eu bod wedi parhau yn Nhrelystan a Four Crosses, a thystiolaeth o fynwent corfflosgi dan eglwys ganoloesol Pennant Melangell, ychydig a wyddys am y ffyrdd y cafwyd gwared o'r meirwon.

Cododd cyfnod o argyfwng tua 1200 CC pan oedd amaethyddiaeth yn amhosibl ar dir uwch oherwydd cyfuniad o lawiad ac ansawdd wael y pridd. Mae'n debyg y bydd dyffryn yr Afon Hafren, gyda'i gyfuniad o amgylcheddau ucheldirol ac iseldirol, yn lle arbennig o werthfawr i astudio'r broses hon. Ond mae'r darganfyddiad damweiniol diweddar yng Nglanfeinion o'r safle ty cyntaf yng Nghanolbarth Cymru o'r Oes Efydd Ganol yn pwysleisio pa mor anodd yw adnabod aneddiadau o'r cyfnod hwn. Yn ddamweiniol hefyd y darganfuwyd crochenwaith mewn cyd-destunau domestig, fel yn achos nifer o bydewau mewn cloddiadau yn y Porth, Maesyfed. Oni ddigwydd yn ddamweiniol, mae'n ymddangos na ddarganfyddir aneddiadau llwyfan agored fel hyn ar dir isel ond o ôl cnydau a ddarganfyddir trwy chwilio pellach o'r awyr.

Ni raid i'r dirywiad yn yr hinsawdd olygu bod dadleoli a methiant economaidd wedi digwydd mewn rhannau o Brydain fel y mae rhai'n honni, ond mae datblygiad cynnar aneddiadau amddiffynedig ar y gororau - fel a welir yn y Breiddin a Llwyn-Bryn-dinas, er enghraifft - yn awgrymu cymdeithas nerfus lle byddai'n ddoeth cadw'ch gwartheg a'ch merched dan glo. Crybwyllwyd ffermwyr ucheldirol a ddadfeddiannwyd neu ddieithriaid yn dianc trafferthion Ewrop terfysglyd i esbonio'r awyrgylch pryderus newydd a'r ofn sy'n amlwg mewn llawer rhan o Brydain, lle mae pobl yn awr yn dechrau byw y tu ôl i balisadau amddiffynnol.

Glanfeinion

Darganfyddiad cyffrous newydd oedd safle ty o'r Oes Efydd Ganol a wnaed wrth osod pibell nwy ger Llandinam, Sir Drefaldwyn. Mae'n bosibl bod y ty, a gynrychiolid gan gylch o byst coed a ffos draeniad o'i gwmpas, yn cynrychioli olion rhan o anheddiad llwyfan agored bychan. Mae nifer o ddarnau o grochenwaith o bwced addurnedig ac yrnau baril yn dangos bod y ty'n dyddio o tua 1200 CC. Mae olion grawnfwyd rhuddedig yn awgrymu bod yma anheddiad ffermwyr.

Glanfeinion

Chwith: Mr Ron Roberts (chwith), Peiriannydd Prosiectau British Gas, ac aelodau o'r tm cloddio ar y safle ty o'r Oes Efydd Ganol a ddarganfuwyd yn ddamweiniol wrth osod pibell nwy yng Nglanfeinion, ger Llandinam, ym 1994. © CPAT

Mae aneddiadau o'r Oes Efydd yn dal i fod yn anodd eu darganfod yn y rhanbarth hwn, er gwaetha'r dystiolaeth ddigonol o weithgarwch a awgrymir gan ddarganfyddiadau damweiniol yn cynnwys gwaith metel o'r Oes Efydd Ganol gan gynnwys bwyeill a gwaywffyn. Gall monitro'r gwaith o godi'r uwchbridd wrth osod pibellau nwy a gwaith peiriannol o fathau eraill gynnig cyfleoedd da i ddarganfod y math hwn o safle a mathau eraill nad oes llawer ohonynt yn y cofnod archaeolegol.

Noddwyd y cloddiadau gan British Gas (Wales), ac fe'u gwnaed gyda chaniatâd y tirfeddiannwr.

Y Breiddin

Breddin socketed axe

De: Late Bronze Age socketed axe found at the Breiddin hillfort. © CPAT

Gwnaed gwaith cloddio helaeth ar ran o'r fryngaer fawr a thrawiadol hon cyn dechrau chwarelu cerrig ym 196976. Anheddwyd ac amddiffynnwyd pen y bryn am y tro cyntaf yn hwyr yn ystod yr Oed Efydd, tua'r 10fed9fed ganrif CC. Mae tystiolaeth o drin efydd ar y safle hwn yn ystod y cyfnod hwn.

Parhawyd i fyw ar ben y bryn yn ystod yr Oes Haearn a hefyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, ar ôl cyfnodau o'i adael yn anghyfannedd o bosibl. Cloddiwyd pwll naturiol ar y safle y tu mewn i'r fryngaer a chafwyd casgliad trawiadol a phwysig o arteffactau pren o'r Oes Haearn gan gynnwys cawgiau pren, pen gordd bren a chleddyf tegan.

Breddin hills

Chwith: Bryniau Breiddin, i'r gogledd o'r Trallwng, Sir Drefaldwyn o'r de-orllewin, un o'r prif fynedfeydd i rannau uchaf dyffryn yr Afon Hafren. Mae'r brif fryngaer ar y bryn uwch y clogwyni ar y chwith. © CPAT

Ariannwyd y cloddiadau gan y Swyddfa Gymreig ac fe'i gwnaed gyda chaniatâd Criggion Estates ac ARC Western.

Nôl i'r dudalen gynnwys

Oes Haearn