Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Y Canol Oesoedd Cynnar - 400 OC - 1100 OC

Yn dilyn diwedd rheolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn gynnar yn y 5ed ganrif, daw astudio'r gorffennol yn anodd eithriadol oherwydd diffyg tystiolaeth bendant. Daethpwyd o hyd i archaeoleg y canol oesoedd cynnar trwy ddamwain lawn cymaint â thrwy chwilio cynlluniedig, ond mae gwaith CPAT wedi dechrau cwblhau'r darlun.

Er bod safleoedd aneddiadau yn dal i'n hosgoi, darganfuwyd digonedd o dystiolaeth o wahanol ffyrdd o gael gwared o'r meirw. Darganfuwyd mynwentydd bychain yn ymyl twmpathau claddu cynhanesyddol cynharach yn Four Crosses a Threlystan, er enghraifft, ac yn Nhandderwen canfuwyd mynwent ehangach a'r beddau wedi eu trefnu'n rhesi ac wedi eu hamgáu â ffosydd sgwâr yn aml.

Nid yw'n glir a oedd y bobl hyn yn Gristnogion, ond dangosodd cloddiadau mewn nifer o safleoedd eglwysig o'r canol oesoedd eu bod wedi eu seilio ar fynwentydd cyn-Normanaidd tebyg. Dangosodd y gwaith cloddio a wnaed yng Nghapel Maelog ger Llandrindod - un o'r cloddiadau mwyaf eang a wnaed mewn eglwys a mynwent yng Nghymru - fod yno fynwent gynharach, cyn yr eglwys, ac a isrannwyd gan ffosydd.

Roedd gororau Cymru'n lle cythryblus iawn yr adeg honno, ac roedd y ffiniau rhwng teyrnasoedd cynnar Cymru a theyrnasoedd datblygol Lloegr yn newid yn barhaol oherwydd gwrthdaro gwleidyddol.

Mae'r ansefydlogrwydd yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei amlygu gan y gwaith cloddio a wnaed gan Wasanaeth Archaeolegol Clwyd yn y gaer Fersiaidd o'r 8fed ganrif a elwir Cledemutha, dan dref fodern Rhuddlan, y crannog neu ynys artiffisial o ddiwedd y 9fed ganrif neu ddechrau'r 10fed ganrif a godwyd yng nghanol Llyn Llangors, a archwiliwyd gan staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a chan gloddiadau a wnaed gan CPAT yn y gaer anarferol yng Nghwrt Llechrhyd, Sir Faesyfed.

Mae'n bosibl mai ymdrech oedd codi Clawdd Offa a Chlawdd Wat— yr heneb archaeolegol fwyaf ym Mhrydain— i sefydlu ffin wleiddol yn yr 8fed ganrif rhwng Cymru a'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd.

Mae gwaith ymchwil diweddar a wnaed gan nifer o gyrff, yn enwedig Prosiect Clawdd Offa, Prifysgol Manceinion, wedi helpu i egluro pa mor eang oedd y ffin hon a beth oedd ei chwrs. Mae CPAT wedi ymgymryd â gwaith cloddio achub ar raddfa fechan mewn nifer o fannau ar hyd y ffin, yn enwedig ar Glawdd Offa ger Trefyclawdd ac ar Glawdd Wat ger yr Hôb.

Tandderwen

Dangosodd gwaith cloddio mewn safleoedd ôl cnydau, a ddarganfuwyd gyda ffotograffiaeth awyr yn Nyffryn Clwyd i'r dwyrain o Ddinbych, fynwent gynnar a Christnogol o bosibl sydd yn perthyn i'r cyfnod rhwng tua 600–900 OC. Darganfuwyd agos i 40 o feddau wedi eu gosod mewn rhesi, ac roedd llawer ohonynt wedi eu hamgáu â ffosydd hirsgwar. Roedd eirch pren mewn nifer fawr o'r beddau, ac mae'n bosibl bod pridd o'r ffosydd wedi ei ddefnyddio i godi twmpathau isel uwchben rhai o'r claddfeydd.

Medieval cemetery

De: Beddau amgaeëdig ac agored sy'n rhan o'r fynwent o'r canol oesoedd cynnar yn Nhandderwen, yn Nyffryn Clwyd ger Dinbych. Mae'r ffos gron ar y chwith a nifer o bydewau at y canol yn rhan o fynwent gynharach o'r Oes Efydd sydd, i bob golwg, wedi dylanwadu ar leoliad y fynwent o'r canol oesoedd cynnar dros 2000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. © CPAT

Cloddiwyd mynwentydd gwahanedig tebyg ond llai, sy'n dyddio o'r canol oesoedd cynnar, gan CPAT ym Mharc Brynhyfryd ger Ruthin, ac yn Four Crosses a Threlystan yn nwyrain Sir Drefaldwyn. Fel yn Four Crosses a Threlystan, sefydlwyd mynwent Tandderwen yn ymyl nifer o dwmpathau claddu o'r Oes Efydd — patrwm a welir mewn lleoedd eraill yn Lloegr a Chymru yn ystod y cyfnod cyn i eglwysi Cristnogol â mynwentydd gael eu llwyr ddatblygu.

Gwnaed y cloddiadau yn Nhandderwen gydag arian a roddwyd gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, gyda chaniatâd y teulu Glazebrook. Gwnaed y cloddiadau oherwydd y difrod a achosid i'r archaeoleg gladdedig gan aredig ac isbriddo dwys parhaus yn yr ardal hon lle mae tir amaethu cyfoethog.

Clawdd Offa a Chlawdd Wat

Mae rhannau o'r ddau glawdd, a godwyd mae'n debyg yn ystod yr 8fed ganrif fel ffin fylchog rhwng Cymru a theyrnasoedd datblygol Lloegr, yn cael eu herydu'n barhaol yn anffodus gan aredig ac yn cael eu distrywio gan waith adeiladu. Dangosodd arolwg diweddar fod tua 300 metr o'r cloddiau hyn yn cael eu difrodi bob blwyddyn ac os bydd hyn yn parhau byddant yn diflannu o fewn y ganrif nesaf. Y gobaith yw y bydd modd diogelu cymaint â phosibl o'r rhannau hynny o'r cloddiau sy'n dal i fodoli rhag gwaith datblygu, fel yn achos y rhan yn ymyl yr Hôb.

Mae CPAT wedi cloddio nifer o rannau byrion mewn ymateb i ddatblygiadau tai, gosod pibelli a chynlluniau gwella ffyrdd —er enghraifft ar Glawdd Offa ger Trefyclawdd ym 1976 a ger Wrecsam ym 1990 ac ar Glawdd Wat ger Wrecsam ym 1990. Mae'r gwaith hwn wedi cadarnhau maint trawiadol y gwrthglawdd a'r nifer sylweddol o bobl roedd ei hangen i'w godi.

Cwrt Llechrhyd

Mae cloddiadau ar raddfa fechan yn y lloc amddiffynnol anarferol hwn ger Llanelwedd, Sir Faesyfed, yn atgyfnerthu awgrymiadau ei fod wedi ei godi yn gynnar yn y canol oesoedd, rhwng y 9fed ganrif a'r 10fed ganrif OC mae'n debyg.

Cwrt Llechrhyd

Chwith: Cwrt Llechrhyd, ger Llanelwedd, Sir Faesyfed. Gellir gweld clawdd allanol y gaer hirsgwar, a gafodd ei chodi yn gynnar yn y canol oesoedd mae'n debyg, yn amgáu fferm Court. © CPAT 86-C-36

Gorwedd y gaer yn Elfael, cantref mwyaf deheuol teyrnas Powys, yn yr ardal a elwir 'Rhwng Gwy a Hafren'. Cwrt Llechrhyd yw un o safleoedd posibl y llys cymydol cyn y Goncwest Normanaidd. Byddai angen gweithlu mawr, dan awdurdod pennaeth, i godi'r clawdd allanol 660-metr.

Gwnaed cloddiadau, a ariannwyd gan Cadw, ar draws amddiffynfeydd allanol y safle ym 1983 mewn ymateb i waith adeiladu ffordd fynediad i'r gweithfeydd concrit sydd erbyn hyn yn hafn gadawedig y rheilffordd sydd ar draws ei ochr orllewinol.

Capel Maelog

Capel Maelog

Dadorchuddiwyd sylfeini eglwys ganoloesol a mynwent (ar y dde) a adawyd yn yr 16eg ganrif pan wnaed gwaith cloddio rhwng 1984–87 cyn codi tai yn Llandrindod, Sir Faesyfed. Roedd gan yr eglwys, a godwyd yn y 12fed ganrif mae'n debyg, gromgafellau â chrymedd yn y pen gorllewinol a'r pen dwyreiniol hefyd. Rhywbeth yr un mor ddiddorol yw'r dystiolaeth o fynwent gynharach, yn rhagflaenu'r eglwys, ac yn dyddio o tua'r 10fed–11eg ganrif OC, gyda bedd canolog amlwg a ymgorfforwyd yng nghangell yr eglwys. Ariannwyd y cloddiadau gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr ac fe'u cwblhawyd gyda chaniatâd y datblygwr, Mr Michael Rowlands.

Forden Gaer timber hall

Forden Gaer

Datguddiwyd tyllau pyst neuadd bren fawr pan wnaed gwaith cloddio ym 1987 i'r gogledd o gaer Rufeinig Ffordun, Sir Drefaldwyn. Ar y dde dangosir un o'r rhain yn cael ei gynllunio yn ystod y cloddiadau. Roedd gan yr adeilad, a oedd tua 40 metr o hyd, ystlys canolog a waliau allanol o byst pren a osodwyd mewn ffos ddi-dor. Mae enghreifftiau eraill yn awgrymu ei bod yn breswylfa Frenhinol bwysig o'r cyfnod ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid. Ariannwyd y cloddiadau gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, ac fe'u cwblhawyd gyda chaniatâd y teulu Gethin yn fferm y Gaer.

Nôl i'r dudalen gynnwys

Canol Oesoedd