Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Yr Oes Haearn, 600 CC - OC 50

Rywbryd yn ystod yr Oes Efydd ddiweddar daeth yn arferol i aneddiadau fod yn amgaedig ac mae dwyrain Cymru'n cynnwys rhai o'r enghreifftiau enwocaf o'r bryngaerau mawr a thrawiadol Y Breiddin, Moel y Gaer, Moel Hiraddug, a Dinorben lle mae cloddiadau CPAT a'i ragflaenwyr wedi datgelu llawer o fanylion hynod bywyd y tu ôl i'r amddiffynfeydd mwyfwy cymhleth hyn.

Roedd y bryngaerau hyn yn ganolfannau poblog iawn, roedd angen llawer o ddynion i'w codi ac roedd eu safle manteisiol yn symbol o rym gwleidyddol eu harweinwyr. Ond yn ymyl y bryngaerau pwysig hyn roedd sefydliadau llai fel Collfryn a oedd, yn amlwg, yn ffermydd, ond ffermydd cyfoethog a amddiffynnid mewn modd trawiadol mewn rhai achosion.

84-C-179

Chwith: caeadle ôl cnydau â ffos yn Varchoel Lane, Cegidfa, Sir Drefaldwyn, sy'n nodweddiadol o lawer o safleoedd tebyg a ganfuwyd gyda ffotograffiaeth awyr yn rhannau uchaf dyffryn yr Afon Hafren. © CPAT 84-C-179

Yn enwedig yn nyffryn yr Afon Hafren, mae'r ffermydd bychain hyn, yn ddieithriad i bob golwg, wedi eu hamgu gan gloddiau neu ffosydd, ac mae rhai'n dal i fodoli ar ffurf gwrthgloddiau. Dan yr amodau iawn gellir adnabod hyd yn oed y safleoedd hynny a aradwyd lawer gyda ffotograffiaeth awyr. Gwyddys am sawl can safle o'r fath eisoes yn nyffryn yr Afon Hafren, a pharhaodd rhai ohonynt i gael eu defnyddio neu fe ailadeiladwyd hwy o'r newydd yn dilyn y goresgyniad Rhufeinig rhwng canol a diwedd y ganrif 1af CC. Mae bron cymaint o safleoedd mewn rhai rhannau o'r dyffryn ag sydd o ffermydd modern ac mae hyn yn awgrymu bod yma boblogaeth fawr a ffyniannus. Mae'r arolwg parhaus o safleoedd yn Sir Drefaldwyn wedi ei gynllunio i daflu goleuni ar berthynas rhwng y caeadleoedd hyn a'r bryngaerau mawr sy'n ymgodi uwch eu pennau. Fel hyn, efallai y byddwn yn medru canfod y gwahanol lefelau mewn strwythur cymdeithasol a ddeuai'n fwyfwy cymhleth, a thrwy ddilyniannau a ddyddiwyd yn dda mewn safleoedd fel y Breiddin a Chollfryn, efallai y medrwn ddechrau deall effaith y byddinoedd Rhufeinig arnynt.

Ond hyd yn oed yn nyffryn yr Afon Hafren, nid yw'n sicr a ydym yn methu elfennau eraill o'r gymdeithas a oedd yn byw y tu allan i'r caeadleoedd a'r bryngaerau. Pren yw'r rhan fwyaf o'r adeiladau a gloddiwyd ar wahn i'r tai carreg crwn anarferol o fewn bryngaer Craig Rhiwarth er enghraifft, a buasent yr un mor anodd eu canfod pe baent ar eu pennau eu hunain ar safleoedd heb eu hamgu a heb eu hamddiffyn.

Mae'r caeadleoedd llai yn nyffryn yr Afon Hafren yn llai cyffredin mewn mannau eraill yng Nghlwyd a Phowys, hyd yn oed mewn ardaloedd lle ceir bryngaerau. Mae darganfyddiad damweiniol tai pren agored o'r Oes Haearn dan hafod ganoloesol yn Nant y griafolen, Brenig, a than yr anheddiad Rhufeinig ym Mhrestatyn yn awgrymu ein bod yn methu'r aneddiadau o'r un cyfnod â'r bryngaerau mewn rhai ardaloedd.

Dinorben

Round house reconstruction

De: Adluniad yn fferm Butser Iron Age, Hampshire, o un o'r tai crwn pren o Oes yr Haearn a gloddiwyd ym Moel y Gaer, Rhosesmor rhwng 197273. Ymgymerwyd â'r cloddio, a ariannwyd gan y Swyddfa Gymreig, cyn cychwyn ar waith adeiladu cronfa fechan. © CPAT

Ymgymerwyd â chloddiadau ar olion olaf bryngaer yr Oes Haearn Dinorben ger Abergele ym 197778 cyn iddi gael ei chwarelu'n derfynol. Roedd cloddiadau cynharach eisoes wedi dangos fod pobl yn byw yn y safle pwysig hwn o'r Oes Efydd Ddiweddar tan yn hwyr yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Roedd y cloddiadau ym 197778 yn canolbwyntio ar egluro dyddiad y dilyniant amddiffynnol ac ar adennill tystiolaeth o anheddiad mewn rhan o'r tu mewn. Mae dyddiadau radiocarbon yn dangos bod y rhagfur cynharaf a oedd yn amddiffyn yr anheddiad wedi ei godi rhwng y 7fed5ed ganrif CC. Ariannwyd y cloddio gan y Swyddfa Gymreig a Tilcon Quarries.

Collfryn

Ymgymerwyd â chloddiadau ar raddfa eang rhwng 198082 yn y lloc llethr hwn ger Llansantffraid Deuddwr oherwydd difrod a achosid gan aredig. Mae'n un o blith agos i 300 o gaeadleoedd â ffos yn rhannau uchaf dyffryn yr Afon Hafren, sy'n dyddio'n bennaf o'r Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig-Brydeinig, a astudir fel rhan o Brosiect Caeadleoedd Bychain Sir Drefaldwyn.

Collfryn aerial view

De: Llun o'r awyr o ran o'r tu mewn i loc llethr Collfryn, Llansantffraid Deuddwr yn ystod y gwaith cloddio ym 1982, sy'n dangos ffosydd draenio crwn o gwmpas safle tai crwn yr Oes Haearn. Mae rhai o'r pydewau, sydd hefyd i'w gweld, yn cynrychioli tyllau pyst adeileddau hirsgwar â phedwar neu chwe phostyn, sef adeiladau storio neu ydlofftydd. © CPAT

Dangosodd y cloddiadau mai fferm amddiffynedig oedd lloc llethr Collfryn, a godwyd yn gyntaf yn ystod y 4edd3edd ganrif CC. Roedd yr amddiffynfa'n cynnwys tair ffos gofod eang consentrig a oedd yn amgu anheddiad canolog a oedd yn cynnwys nifer o dai crwn pren, ac adeileddau â phedwar neu chwe phostyn, sef adeiladau storio mae'n debyg. Mae maint yr amddiffynfeydd yn awgrymu anheddiad statws uchel, a oedd yn perthyn i bennaeth lleol o bosibl. Mae presenoldeb esgyrn gwartheg, defaid a moch, a thystiolaeth o brosesu grawnfwyd, gan gynnwys gwenith, haidd a cheirch, yn awgrymu bod yma economi amaethyddol cymysg. Triniwyd haearn ac efydd ar raddfa fechan yma y tu mewn i'r anheddiad hefyd.

Round house excavation

Chwith: Un o blith nifer o safleoedd tai crwn pren o'r Oes Haearn a gloddiwyd y tu mewn i loc llethr Collfryn, Llansantffraid Deuddwr, Sir Drefaldwyn. Byddai'r ffos gron wedi dal dwr glaw yn rhedeg oddi ar y to gwellt. Yn y blaendir gwelir tyllau pyst sy'n dangos lle yr arferai pyst y drws fod. Mae tyllau stanc a man coch at y canol yn dangos safle'r lle tân. Roedd y gwaith cloddo'n awgrymu ei bod yn bosibl bod hyd at dri neu bedwar o dai crwn yn sefyll yn y fan hon ar y tro, a bod rhai ohonynt yn gartrefi ac eraill yn adeiladau ategol neu weithdai o bosibl. Gwyddys am dai crwn ac adeiladau storio tebyg y tu mewn i safleoedd bryngaerau eraill a gloddiwyd. © CPAT

Gwyddys am adeiladau pren tebyg y tu mewn i fryngaerau lleol eraill fel yr un ar fryniau'r Breiddin. Mae amrediad y safleoedd cyfannedd yn ystod y cyfnod hwn yn awgrymu math o gymdeithas hierarchaidd y gwyddys ei bod yn bodoli yn y byd Celtaidd Ewropeaidd ac roedd y bryngaerau'n ganolfannau llwythol pwysig ac roedd y caeadleoedd llai yn ffermydd bychain a gynhaliai un grwp teulu a dim mwy.

Outer gate

De: Twll ac ynddo gerrig i ddal coed, sef giât allanol y lloc yng Nghollfryn. Mae'n amlwg bod gan rai o'r safleoedd caedig ar yr iseldiroedd, fel y bryngaerau, amddiffynfeydd arswydus. © CPAT

Lleihawyd maint yr ardal a amgaeid gan yr anheddiad yng Nghollfryn erbyn tua'r ganrif 1af CC, ond roedd pobl yn dal i gyfaneddu yno i bob golwg yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig, tan y 4edd ganrif OC o leiaf.

Ariannwyd y gwaith cloddio gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr ac fe'i cyflawnwyd gyda chaniatâd y tirfeddianwyr, Mr E.H. Edwards a Mr D.V. Wigley.

Llwyn Bryn-dinas

Llwyn Bryn-dinas hillfort

De: Bryngaer Llwyn Bryn-dinas yn Nyffryn Tanat, Llangedwyn. © CPAT

Gwnaed gwaith cloddio ar draws amddiffynfeydd bryngaer Llwyn Bryn-dinas, Llangedwyn ym 1983, cyn agor y ffordd fynediad. Fel yn achos y Breiddin, codwyd amddiffynfa ar ben y bryn am y tro cyntaf yn ystod yr Oes Efydd ddiweddar, tua'r 10fed9fed ganrif CC. Yn ddiweddarach, gwnaed yr amddiffynfeydd yn fwy yn ystod yr Oes Haearn, rhwng y 4edd3edd ganrif CC, ar ôl cyfnod o fod yn anghyfannedd o bosibl.

bronze-casting crucible

Chwith: Un o blith nifer o dawddlestri bwrw efydd Oes Haearn mewn gefail trin efydd a haearn a godwyd yng nghefn rhagfur o'r Oes Haearn ym mryngaer Llwyn Bryn-dinas. © CPAT

Sefydlwyd gefail Oes Haearn at bob galw i fwrw efydd ac i drin haearn mewn adeiledd a godwyd yng nghefn y rhagfur. Mae gweddillion metelegol yn awgrymu mai ar raddfa fechan y gwnaed hyn, a hynny at ddibenion yr anheddiad yn unig. Mae dadansoddiad o'r darnau o efydd a gafwyd yn ystod y cloddiadau'n awgrymu eu bod wedi cael mwyn copor o fryn Llanymynech yn nwyrain Sir Drefaldwyn. Cafwyd hyd i dystiolaeth debyg o drin efydd mewn safleoedd cyfagos eraill gan gynnwys lloc llethr Collfryn, y Breiddin, a bryngaer Llanymynech.

Noddwyd y gwaith cloddio gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr ac fe'i cyflawnwyd gyda chaniatâd Mr Henry Davies a Sir Watkin Williams Wynne.

Nôl i'r dudalen cynnwys

Cyfnod Rhufeinig