Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Mesolithig - Neolithig gynnar, 8000 - 3000 CC

Hyd yma nid yw gwaith CPAT wedi cyffwrdd y cyfnodau sy'n cynnwys y dystiolaeth gynharaf oll o bresenoldeb pobl yng Nghymru, yr hyn a ddangoswyd gan waith cloddio Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Ogof Pontnewydd yng Nghlwyd. Fodd bynnag, mae helwyr symudol y cyfnod nesaf, yr oes Fesolithig, wedi eu canfod mewn nifer o safleoedd ac mae gwaith CPAT wedi ymestyn ein gwybodaeth trwy ddarganfod gwersylloedd mewndirol yn yr ucheldiroedd - fel yn Waun Fignen Felen a Llyn Aled - ac yn yr iseldiroedd, fel yng Ngwernvale a Thandderwen.

Cyflwyno economi amaethyddol yw un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes y ddynolryw, ond ychydig a ddeëllir am y broses o newid o fod yn ddefnyddiwr goddefol o'r amgylchedd i fod yn driniwr gweithredol planhigion ac anifeiliaid. Mae'n rhaid bod ymddangosiad cnydau newydd ac anifeiliaid domestig yn arwydd o ryw fath o wladychu gan bobl o Ewrop lle roedd ffermio wedi ei hen sefydlu ers dwy fil o flynyddoedd o leiaf cyn iddi gael ei fabwysiadu ym Mhrydain yn ystod y 4ydd mileniwm CC. Ond nid oes cytuno ynghylch maint y gwladychu hwn, oherwydd y mae'n bosibl bod grwpiau brodorol o helwyr wedi bod yn cymryd camau tuag at anheddu parhaol a rheoli anifeiliaid heb gael eu symbylu gan syniadau newydd o'r tu allan.

Bydd yr aneddiadau ffermio cynharaf mewn unrhyw ardal yn anodd eu darganfod ac ni fydd y dystiolaeth brin yn hawdd ei dehongli. Mae'r ty pren a ddarganfuwyd dan y garnedd yn Gwernvale gyda gwastraff domestig o'i gwmpas yn cynnig darlun prin o fferm o'r 4ydd-mileniwm CC. Mae darganfyddiadau o'r fath yn rhy brin i ni fedru ailadeiladu aneddiadau'r ardal gyda hyder, ond mae'n ymddangos mai ffermydd diarffordd oedd yr unedau anheddol nodweddiadol yng Nghymru gynhanesyddol fel yn y canol oesoedd; ni cheid pentrefi ac yn gyffredinol ni chanfuwyd yng Nghymru y math o ganolfannau ymgynnull 'cyhoeddus' a geir mewn rhannau mwy poblog o dde Lloegr.

Mae natur ddamweiniol y darganfyddiad yn Gwernvale yn dangos pa mor anodd yw llunio rhaglen ymchwil i archwilio dechrau'r cyfnod Neolithig, yn enwedig mewn ardaloedd lle na chodwyd beddrodau mawr o gerrig. Mae'r cyfnod Neolithig cynnar, yn enwedig yng Nghlwyd a gogledd Powys, yn dal i fod yn anodd ei ddiffinio hyd yn oed ar ôl agos i 20 mlynedd o waith. A fuom yn anlwcus, a fuom yn ddall, a fuom ni'n gweithio yn y lleoedd anghywir, ynteu a yw ein hardal ni yn un na chyffyrddwyd mohoni gan arwyddion yr economeg newydd? Mae'n bosibl mai'r esboniad olaf hwn yw'r un cywir, gan fod cryn dipyn o dystiolaeth o ail hanner y cyfnod i'w chael o ddarganfyddiadau a oedd yr un mor ddamweiniol.

Gwernvale

Rhwng 1977–78 gwnaed gwaith cloddio yn y beddrod siambr Neolithig yn union y tu allan i Grugywel cyn gwella'r ffordd A40. Yn y pridd a gladdwyd dan y beddrod cafwyd tystiolaeth o weithgarwch Mesolithig yn ystod y cyfnod rhwng tua 5900–5600 CC ar ffurf microlithau a blaenau fflint nodweddiadol. Mae'n ymddangos bod y gweithgarwch hwn wedi ei ddisodli tua 3750 CC gan anheddiad bychan a gynrychiolir gan nifer o bydewau ac olion adeiledd pren - ty mae'n debyg. Cafwyd grawn o'r pridd, sy'n dystiolaeth o amaethu cynnar.

Gwernvale

Mae'n ymddangos bod defnydd o'r beddrod Neolithig a orweddai dros yr anheddiad cynharach wedi parhau am tua 500 mlynedd, rhwng tua 3750–3200 CC. Roedd yr heneb ar ffurf twmpath trapesoid hir tua 45 metr o hyd, a oedd yn cynnwys pedair siambr garreg a gyrhaeddid o ochrau'r twmpath (mae un ohonynt i'w gweld yn y llun ar y dde) ac roedd blaengwrt seremonïol yn y pen dwyreiniol. Mae'r math hwn o feddrod yn dra hysbys o safleoedd eraill yn y Cotswolds a Mynydd Du Sir Frycheiniog, yn ogystal â nifer yng Ngogledd Cymru. Mae'r dystiolaeth a gafwyd o safleoedd eraill yn awgrymu bod y siambrau'n cael eu defnyddio ar gyfer claddedigaethau cymunedol gan wahanol grwpiau o deuluoedd o bosibl.

Noddwyd y gwaith cloddio gan y Swyddfa Gymreig.

Prestatyn

Datgelodd gwaith cloddio a wnaed cyn codi tai newydd yn Nant Hall Road yn 1991–93, i mewn o arfordir presennol Gogledd Cymru, nifer o domenni cregyn o'r cyfnodau Mesolithig a Neolithig, rhwng tua 4500–3300 CC. Roedd cloddiadau blaenorol wedi datgelu tystiolaeth o anheddiad Mesolithig cynharach byth, yn dyddio rhwng 7900–7500 CC, ychydig ymhellach i mewn i'r tir.

Neolithic shell midden

Chwith: tomen gregyn Neolithig a ddatgelwyd mewn toriad a wnaed drwy fawn yn ystod y gwaith adeiladu yn Nant Hall Road, Prestatyn. Trwy wneud dadansoddiad o olion planhigion mae modd ail-greu'n fanwl y newidiadau amgylcheddol a ddigwyddodd yn ystod y cyfnodau Mesolithig a Neolithig. © CPAT

Darganfuwyd y tomenni cregyn, a daflwyd wedi i'r pysgod cregyn gael eu bwyta, mewn dyddodion mawn a orweddai dros gleiau morol, ac maent yn dangos bod llawer o newidiadau wedi effeithio ar yr arfordir ers y cyfnod cynhanesyddol cynnar cyn i'r system bresennol o dwyni tywod ddatblygu. Roedd y tomenni Mesolithig yn cynnwys cregyn gleision yn bennaf, ac mae hyn yn awgrymu bod y forlin yn greigiog yn y 5ed mileniwm. Ond mae'r tomenni Neolithig yn cynnwys cocos yn bennaf, sy'n dangos bod traethau tywodlyd wedi datblygu erbyn y 4ydd mileniwm cynnar CC. Mae cysylltiad rhwng y tomenni hyn a thystiolaeth o amheddiad ychydig ymhellach i mewn i'r tir, a gynrychiolir gan arfau cornfaen a fflint gwasgaredig.

Ariannwyd y gwaith ar safleoedd tomenni Prestatyn gan Cadw yn bennaf. Gwnaed gwaith amgylcheddol gan staff Coleg y Brifysgol, Llanbedr Pont Steffan.

Nôl i'r dudalen gynnwys

Oes Neolithig Ddiweddar tan yr Oes Efydd