Cymraeg / English
CPAT logo

Ffenestri ar y Gorffennol

Y Cyfnod Rhufeinig - OC 50 - 400

O 40au hwyr y ganrif gyntaf OC roedd byddin Rhufain yn archwilio ymylon dwyreiniol Cymru. Roedd yr afonydd Hafren, Wysg a Gwy'n fynedfeydd i'r berwfeddwlad ac yn yr iseldiroedd hyn a'r wlad fryniog y ceir y cofadeiliau a gysylltir chyfnod cynnar eu hymgychoedd gwersylloedd dros dro, pencadlysoedd ar gyfer cyrchoedd a chaerau. Yn ystod y goncwest derfynol yn y 70au sefydlwyd o'r diwedd rwydwaith o gaerau a gysylltwyd gan system o ffyrdd pob-tywydd.

Mae caerau Rhufeinig fel Forden a Chaersws yn nyffryn yn afon Hafren yn dangos i ni wyneb cyfarwydd y concwerwr. Medrodd CPAT, o ganlyniad i nifer o gloddoadau mn ond parhaol, daflu mwy a mwy o oleuni ar hanes y goresgyniad milwrol, ac yn enwedig ar y pentrefi (vici), a boblogwyd gan ddilynwyr y gwersylloedd, masnachwyr a chrefftwyr, ac a safai y tu allan i amddiffynfeydd y caerau. Yn wir bu CPAT mewn sefyllfa unigryw o ran taflu goleuni ar yr agwedd hon o oresgyniad y Rhufeiniaid twf pentrefi sylweddol, gyda gweithdai, tafarndai, temlau a mynwentydd, yr oedd eu bodolaeth economaidd yn gyfal gwbl ddibynnol ar bresenoldeb parhaol y gwarchodlu. Wrth i nifer y milwyr Rhufeinig ostwng o ganol yr 2il ganrif OC, dechreuodd y vici ddirywio; ac ychydig ohonynt sydd thystiolaeth o anheddiad ar l diwedd y 4edd ganrif OC.

Ni chafwyd datblygiad trefol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Y vici sy'n cyfateb agosaf, a hwy oedd y canolfannau masnach a chyfnewid lle deuai cymunedau brodorol dan ddylanwad y gwareiddiad Imperialaidd.

Manteisiodd Rhufain yn ddidrugaredd ar diroedd a oresgynnwyd ac nid oes gwell enghreifftiau o hyn na'r taleithiau hynny lle roedd cyfoeth o fwynau. Roedd Mynydd Helygain yng Nghlwyd, ymhlith mannau eraill yng Nghymru, yn meddu ar ddyddodion plwm ac arian gwerthfawr, a gwyddys i'r rhain gael eu gweithio yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Lluniwyd 'hychod' mawr o blwm ac arnynt stampiau bwrw sy'n dangos un ai gwaith uniongyrchol y wladwriaeth dan oruchwyliaeth asiantaethau imperialaidd (procuradur lleol) neu gan ddeiliaid prydles sifilaidd (conductores) a fyddai weithiau'n ffurfio partneriaethau busnes. Archwiliwyd un anheddiad pendant a dau anheddiad posibl a gysylltir chloddio am blwm ac arian gan CPAT Pentre Oakenholt ger y Fflint, Prestatyn, a'r Ffrith.

Mae cyfadeilad eang yn aber yr afon Dyfrdwy yn ardal Pentre Oakenholt yn Sir y Fflint nid yn unig wedi cynhyrchu tystiolaeth glir o brosesu mwynau ond hefyd enghraifft unigryw o adeilad a oedd, mae'n debyg, yn gyfuniad o ganolfan weinyddol a chartref i'r procuradur. Er bod union statws y cydadeiladau anheddol ym Mhrestatyn a'r Ffrith yn aneglur, mae presenoldeb baddondai a stampiau ar frics a theils yr 20fed Lleng Legio XX Valeria Victrix yn awgrymu cysylltiad swyddogol tra mae'r diffyg tysiolaeth o gaer a'u hagosrwydd at ardal sy'n gyfoethog mewn mwynau'n awgrymu canolfan ddiwydiannol. Yn dilyn ailarchwilio baddondy bychan ar ymylon yr anheddiad ym Mhrestatyn, fe'i diogelwyd a pheri ei arddangos, ac un darganfyddiad diddorol oedd cynheiliaid da eu cyflwr ar gyfer traphont ddwr bren a gludai ddwr i'r baddondai.

Mae Clwyd a Phowys yn ardal lle nad oes olion amlwg o'r gwareiddiad Rhufeinig. Nid oes filâu i'w cael ac mewn aneddiadau sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hwyr y ceir deunydd Brythonig-Rufeinig gan amlaf mewn bryngaerau fel y Breiddin a chaeadleoedd amddiffynadwy fel Collfryn, ac mewn caeadleoedd tebyg a godwyd yn ystod y cyfnod Rhufeinig, fel Arddln.

Un o'r heriau mwyaf yw penderfynu a yw'r aneddiadau 'brodorol' hysbys hyn yn nodweddiadol o'r ardal gyfan, ac a ydynt yn cynrychioli dilyniant hanfodol o ran anheddiad, cymdeithas ac economeg, heb brin eu cyffwrdd gan Rufain, o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar i'r cyfnod ar l i'r Rhufeiniaid ymadael.

Caersws

Roman tile kiln

De: Odyn deils Rufeinig a ddarganfuwyd yn anecs gogleddol y gaer yng Nghaersws yn ystod y cloddiadau cyn y cynllun i wella'r ffordd ym 1990. Roedd yr odyn yn cynhyrchu teils ar gyfer lloriau o fewn y prif adeiladau y tu mewn i'r gaer ac yn y baddondy ger yr afon, ymhellach i'r de. Roedd ceg ffwrnais yn yr odyn (sydd i'w weld yn y cefndir) a oedd yn cynhesu'r siambr danio trwy'r ffliwiau (sydd i'w gweld yn y blaendir). © CPAT

Gwyddys fod dwy gaer Rufeinig yng Nghaersws, caer ymgyrch gynharach i'r dwyrain o'r pentref sy'n perthyn i gyfnod y goresgyniad a chaer ddiweddarach ychydig i'r gogledd sy'n dyddio o tua 70 OC. Mae gwaith cloddio a chofnodi a wnaed mewn ymateb i waith ffordd, cloddio ffosydd ar gyfer pibellau a datblygiadau tai wedi datguddio rhannau o anheddiad sifilaidd Rhufeinig eang yn gorwedd dan y pentref presennol.

90-C-298

Chwith: Caersws, Sir Drefaldwyn, o'r gaer Rufeinig sydd yng Nghaersws dan fferm Pendre yng nghanol y llun. Dangoswyd bod anheddiad sifilaidd Rhufeinig cysylltiedig yn gorwedd dan y pentref presennol, rhwng y gaer a'r afon Hafren. © CPAT 90-C-298

Ariannwyd y gwaith yng Nghaersws a'r cyffiniau ers canol yr 1980au gan nifer o gyrff, ac yn bennaf Cadw, y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, Priffyrdd y Swyddfa Gymreig, ac fe'i gwnaed gyda chydweithrediad nifer o wahanol dirfeddianwyr gan gynnwys Cyngor Sir Powys a Mr Brian Brown.

Best dressed Roman soldier

De: Aelodau o'r Ermine Street Guard yn beirniadu cystadleuaeth 'milwr Rhufeinig mwyaf trwsiadus' a gynhaliwyd yn ystod y gwaith cloddio yn Melyd Avenue, Prestatyn ym 1984. Medrodd CPAT wneud llawer o waith gydag ysgolion yn ystod yr 1970 a'r 1980au oherwydd gwahanol gynlluniau hyfforddi a ariannwyd gan y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr. Yn anffodus, ychydig o adnoddau sydd ar gael ar gyfer y gwaith hwn heddiw, yn enwedig o gofio'r pwyslais cynyddol ar safleoedd a darganfyddiadau archaeolegol lleol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer hanes a ddysgir yn ysgolion Cymru. © CPAT

Fferm Pentre

Gwnaed gwaith cloddio yn fferm Pentre, y Fflint, ger aver yr afon Dyfrdwy ym Mwrdeistref Rhuddlan rhwng 197681 cyn gwaith codi tai. Roedd darganfyddiadau damweiniol blaenorol yn dangos gweithgarwch cymharol ddwys yn ardal Pentre Oakenholt yn ystod y cyfnod Rhufeinig, a hynny'n gysylltiedig â chloddio am fwynau plwm ac arian ar Fynydd Helygain, yn y de, mae'n debyg.

Pentre Farm

Chwith: Adluniad o gyfadeilad pren cynnar yn Fferm Pentre, a godwyd tua 120 OC mae'n debyg fel cartref a chanolfan weinyddol swyddog a oedd yn goruchwylio'r diwydiant plwm lleol. © CPAT

Dangosodd y cloddiadau fod cyfadeilad o adeiladau pren trawiadol wedi ei godi yn fuan wedi 120 OC, fel cartref i'r swyddog oedd yn goruchwylio'r diwydiant plwm ac arian lleol mae'n debyg. Canol y cyfadail oedd iard gyda phwll addurnol ar ffurf y llythyren D. Gwnaed gwaith ailfodelu ac ailadeiladu mewn carreg yn hwyr yn yr 2il ganrif a dechrau'r 3edd ganrif OC, gan gynnwys ychwanegu ystafelloedd phlaster wal paentiedig, gwresogi dan y llawr a baddondy bychan gyda phlymfaddon. Dymchwelwyd llawer o'r cyfadeilad tua 250 OC.

Roedd gwaith cloddio a phrosesu plwm wedi dechrau yn yr ardal erbyn 70 OC, ar gyfer gofynion milwrol a sifilaidd cyn belled Chaer a'r tu hwnt yn ddi-au. Er nad yw safleoedd y pyllau eu hunain wedi eu darganfod hyd yn hyn, cafwyd tystiolaeth o brosesu plwm o sawl safle yn ardal Oakenholt. Gwyddys am nifer o 'hychod' plwm ac arnynt arysgrifiad 'r llythrennau DECEANGL, o enw'r llwyth brodorol lleol, y Deceangli. Ymgymerwyd 'r gwaith cloddio yn fferm Pentre ag arian gan Cadw: Cofadeiliad Hanesyddol Cymru. Ymgymerwyd â'r gwaith cloddio yn fferm Pentre ag arian gan Cadw: Cofadeiliad Hanesyddol Cymru.

Melyd Avenue, Prestatyn

Roman bath house

Chwith: baddondy sifilaidd Rhufeinig, a ddarganfuwyd gyntaf yn yr 1930au, yn ystod y gwaith ailgloddio ym 1984. Roedd gan y baddondy, a godwyd tua 120 OC ac a estynnwyd tua 150 OC, blymfaddon oer yn y pen pellaf a fwydwyd gan ffynhonnau lleol ar hyd pont ddwr bren. Gwnaed y lloriau a'r to theils a gludwyd yr holl ffordd o weithdai'r 20fed Lleng yn Holt ger Wrecsam, dros 40 milltir i'r de-ddwyrain, sy'n awgrymu iddo gael ei godi chymorth swyddogol. © CPAT

Opening ceremony

De: Seremoni agor baddondy Prestatyn, ar ôl gwaith cyfnerthu a thirlunio gan Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan. © CPAT

Dangosodd y cloddiadau a wnaed rhwng 198485 ym Melyd Avenue, Prestatyn, cyn codi tai arfaethedig, ran o amheddiad sifilaidd a sefydlwyd yn fuan wedi 70 OC, ar ben anheddiad cynharach o'r Oes Haearn sy'n dyddio o'r 2il ganrif neu'r ganrif 1af CC. Ychwanegwyd baddondy ac adeiladau eraill rhwng 120150 OC, ac mae tystiolaeth iddo fod yn gyfannedd yn ddi-dor tan yn hwyr y 3edd ganrif neu'n gynnar yn y 4edd ganrif OC. Ar wahn i'r baddondy carreg, rhai pren oedd yr holl adeiladau a ganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio. Cadwyd olion organaidd yn dda oherwydd bod y lle'n ddyfrlawn, ac mewn rhai achosion roedd rhannau o goed yr adeiladau Rhufeinig wedi eu cadw. Dangosir bod adeiladau carreg mwy trawiadol eraill o fewn yr anheddiad gan y ffaith bod darnau o golofnau carreg a sylfeini colofnau carreg wedi eu darganfod yn ymyl.

Clay moulds

Chwith: Mowldiau clai ar gyfer bwrw tlysau efydd, a ddarganfuwyd yn ystod cloddiadau ym Melyd Avenue. Mae'r gweddillion hyn a gweddillion gwaith metel eraill yn dangos bod nifer o'r adeiladau pren yn yr anheddiad yn weithdai i ofaint efydd, a gynhyrchai nwyddau i'w gwerthu ymhellach i ffwrdd.© CPAT

Gwnaed y gwaith cloddio ym Melyd Avenue gydag arian a ddarparwyd gan Cadw: Welsh Historic Monuments a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr.

Nôl i'r dudalen gynnwys

Canol Oesoedd Cynnar