Cymraeg / English
|
|
Dewch i gwrdd â'r Staff !
Tîm Gweinyddol
- Mr Bill Britnell, Cyfarwyddwr/Ysgrifennydd y Cwmni
- Bill yw'r person sy'n gofalu am ein gwaith gweinyddu a rheoli, cydlynu polisïau, codi arian a rheoli prosiectau. Fe ddechreudodd gyda'r Ymddiriedolaeth ym 1975, ac mae ganddo radd BA (Anrh) a gradd MA mewn Archaeoleg o Brifysgol Cymru, Caerdydd. Mae'n Gymrawd o'r Royal Society of Antiquaries, ac yn Aelod o'r Institute of Field Archaeologists. Mae diddordebau archaeolegol arbennig Bill yn eang ond mae ganddo ddiddordeb neilltuol yn y cyfnodau cynhanesyddol diweddar a'r cyfnodau cyn-ddiwydiannol.
BillBritnell*at*cpat.org.uk
- Mrs Jenny Britnell, Swyddog Gweinyddol
- Rôl Jenny o fewn yr Ymddiriedolaeth yw gofalu bod ei gweinyddiad ariannol dyddiol yn ddidrafferth. Mae hi hefyd yn archaeolegydd a hi yw ein harchifydd. Fe ddechreuodd gyda'r Ymddiriedolaeth ym 1978, mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Archaeoleg (Prifysgol Cymru, Caerdydd) a'i diddordeb arbennig yw archaeoleg Rufeinig a chanoloesol.
JennyB*at*cpat.org.uk
- Mrs Merle Godsell, Cynorthwy-ydd Ariannol
- Mae'n debyg mai Merle fydd yn ateb eich galwad os ffoniwch ni. Mae hi hefyd yn cadw'r holl gyfrifon dyddiol o ran incwm a gwariant ac yn gofalu am ein cyflogau, archebu cyfarpar a deunyddiau ysgrifennu ac yn y blaen. Mae gan Merle TAU a bu'n gweithio mewn swyddfa am chwe mlynedd cyn ymuno â'r Ymddiriedolaeth (rhan-amser) ym mis Gorffennaf 1983. Ei diddordebau arbennig yw anifeiliaid anwes, cerdded, teithio a siocled.
Merle*at*cpat.org.uk
Tîm Curadurol
- Mr Chris Martin, Pennaeth Gwasanaethau Curadurol
- Chris sydd yn gyfrifol am y Gwasanaethau Curadurol yn CPAT. Mae'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli pob agwedd o'r Cofnod o Safleoedd a Henebion, Gwasanaeth Rheoli a Chynllunio Treftadaeth (ac atgyweirio cyfrifiaduron) - yr hyn sy'n cyfateb i Archaeolegydd Sir yn Lloegr. Fe ddechreuodd Chris gyda'r Ymddiriedolaeth ym 1980, mae ganddo radd BA (Anrh) mewn Archaeoleg (Prifysgol Cymru, Caerdydd), ac mae ganddo ddiddordeb archaeolegol mewn unrhyw beth "ar wahân i'r blydi Rhufeiniaid", yn ogystal â mynd adref i gysgu.
ChrisMartin*at*cpat.org.uk
- Mr Mark Walters, Swyddog Rheoli Datblygiad
- Mae Mark yn darparu Gwasanaethau Cynllunio, ac yn rhoi cyngor i ddatblygwyr, awdurdodau lleol a'r cyhoedd ar oblygiadau archaeolegol cynigion cynllunio, gan baratoi "brîff" ar gyfer pob prosiect a monitro gwaith y cytundebwyr archaeolegol. Bu Mark gyda ni ers mis Ionawr 1992, mae ganddo radd BA (Anrh) mewn Archaeoleg & Hanes yr Henfyd (Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ac mae'n Aelod Cyswllt o'r Institute of Field Archaeologists. Ymhlith ei ddiddordebau mae archaeoleg ddiwydiannol a mwyngloddio, gwaith haearn yr Oes Haearn-Rhufeinig-Brydeinig yn Fforest y Ddena, arian Rhufeinig, archaeoleg lifwaddodol, ac ogofa.
MarkWalters*at*cpat.org.uk
- Mr Jeff Spencer, Swyddog Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol
- Er mis Ebrill 2002, mae Jeff Spencer wedi bod yn gweithio’n galed fel Swyddog y Cofnod Rhanbarthol o’r Amgylchedd Hanesyddol gydag Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Clwyd-Powys, gan ychwanegu safleoedd newydd at y cofnod a gwneud gwaith addysgol ac allgymorth. Mae gan Jeff BSc (Anrh) mewn Archaeoleg o
Brifysgol Bournemouth, ac MA mewn Rheoli’r Dirwedd Ddiwylliannol o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Mae’n Ymarferwr y Sefydliad Archaeolegwyr
Maes ac mae’n ymddiddori’n benodol mewn gweddillion milwrol yr 20fed ganrif, ac archaeoleg ddiwydiannol. Ymhlith ei hobïau personol mae chwaraeon
(yn gwylio'n bennaf, ond hefyd yn cymryd rhan o bryd i'w gilydd), a diddordeb afiach mewn cerddoriaeth roc swnllyd.
Jeff*at*cpat.org.uk
- Ms Wendy Owen, Uwch Swyddog Prosiectau/ Cynorthwy-ydd DC
- Mae Wendy yn cynorthwyo gyda gwaith prosiect ac arolygu, mae'n delio ag ymholiadau ac yn gwirio'r rhestrau cynllunio yn erbyn ein cofnodion cyfrifiadurol. Fe ddechreuodd gyda'r Ymddiriedolaeth ym 1985, mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Archaeoleg (Prifysgol Cymru, Caerdydd), ac mae'n Aelod Cyswllt o'r Institute of Field Archaeologists. Ymhlith ei diddordebau arbennig mae tirfesur - yn enwedig cynllunio safleoedd, cloddio, astudio darganfyddiadau (pan fydd cyfle!), a garddio.
Wendy*at*cpat.org.uk
- Mrs Abi McCullough, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth
- Ymunodd Abi â’r Ymddiriedolaeth ym mis Chwefror 2001 i weithio ar y Cynllun Amaethyddol-Amgylcheddol Tir Gofal, gan gyflawni arolygon pen-desg ac arolygon maes o ffermydd sydd yn ymuno â’r cynllun. Mae gan Abi radd BSc (Anrh) mewn Cadwraeth Treftadaeth (Archaeoleg) o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac mae’n ymddiddori ymron pob agwedd o archaeoleg yn enwedig astudiaethau’r tirwedd, adeiladau hanesyddol ac archaeoleg ‘gyhoeddus’, ac yn enwedig gweithio efo phlant. Mae Abi’n honni ei bod yn hoff o grefftau fel brodwaith, paentio gwydr a gwneud gemwaith. Mae hi hefyd yn mwynhau teithiau cerdded hamddenol yn y wlad.
Abi*at*cpat.org.uk
- Miss Sophie Watson, Cynorthwy-ydd Rheoli Treftadaeth
- Dechreuodd Sophie â’r Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill 2008 ac mae’n gweithio ar gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru a chynllun Tir Gofal. Mae hefyd yn
delio ag ymholiadau o du’r cyhoedd a masnach ynglyn â’r CAH ac yn defnyddio ein cronfa ddata newydd hynod i ddiweddaru cofnodion. Mae ganddi radd BA
(Anrh) mewn Archaeoleg o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a buasai’n dweud ei bod yn ymddiddori ym mhob math o archaeoleg – ond Cynhanesyddol a
Diwydiannol yn benodol. Ei hobïau personol yw seiclo a phobi cacenni.
Sophie*at*cpat.org.uk
Tîm Prosiectau
- Mr Bob Silvester, Dirprwy Gyfarwyddwr
- Rôl Bob mewn bywyd yw dirprwy arweinydd yr Ymddiriedolaeth, ac mae'n goruchwylio gwaith maes a phrosiectau, a chadw pawb ar flaenau eu traed. Fe ddechreuodd gyda'r Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill 1989, ac mae ganddo radd BA (Anrh) mewn Hanes ac Archaeoleg (Prifysgol Exeter), ac mae'n Aelod o'r Institute of Field Archaeologists. Ymhlith diddordebau arbennig Bob mae aneddiadau gwledig canoloesol, mapiau cynnar - yn enwedig mapiau ystad, eglwysi a chofadeiliau eglwysig, adfer tir yn y canol oesoedd ac ers hynny, a rhedeg o gwmpas yn "gwneud" llawer o waith maes yn yr ucheldir.
BobSilvester*at*cpat.org.uk
- Mr Nigel Jones, Swyddog Prosiectau
- Mae gwaith Nigel yn cynnwys rheoli prosiectau, rheoli cytundebau, cynnal arolygon EDM, a chyfarwyddo cloddiadau. Fe ddechreuodd Nigel gyda'r Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill 1983, ac mae ganddo radd BA (Anrh) mewn Daearyddiaeth (Prifysgol Sheffield), Tystysgrif mewn Archaeoleg Maes (Prifysgol Rhydychen). Mae hefyd yn Aelod Cyswllt o'r Institute of Field Archaeologists. Dywed Nigel mai ei ddiddordebau arbennig yw arolygu EDM, cloddiadau Rhufeinig a chanoloesol, crochenwaith canoloesol, mwyngloddiau metel a mynyddoedd.
Nigel*at*cpat.org.uk
- Mr Richard Hankinson, Uwch Gynorthwy-ydd Prosiectau
- Ers mis Tachwedd 1987 bu Richard yn gwneud llawer o waith arolygu a chloddio yn y maes, ac nid yw'n syndod mai ei ddiddordebau arbennig yw
archaeoleg ucheldirol. Mae'n Ymarferydd gyda'r Institute of Field Archaeologists ac mae'n mwynhau marchogaeth ei feic.
Richard*at*cpat.org.uk
- Mr Ian Grant, Uwch Gynorthwy-ydd Prosiectau
- Ymunodd Ian â ’r Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill 2002 ar ôl gweithio am flynyddoedd fel archaeolegwr maes yng Nghymru ac yng ngogledd-orllewin Lloegr ar
amrywiaeth eang o safleoedd. Fe ddechreuodd ei yrfa yn archaeoleg ar “ei” gastell yng Nghaergwrle ym 1985, er ei fod yn dal i ddyfynnnu ei dad (Mike) yn
ddylanwad anochel ar ei yrfa, wedi treulio llawer o flynyddoedd efo fo yn cofnodi safleoedd damweiniau awyrennau yr ail ryfel byd yn yr ucheldiroedd. Prif
diddordebau Ian ydy’r cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod cynhanesyddol, yn ogystal a’r crochenwaith sy’n eu cyd-fynd. Mae’n mwynhau gweithio ar prosiectau
yn y cymuned sy’n cynnwys gweithio’n uniongyrchol efo’r cyhoedd, yn esbonio ac yn dehongli ei waith-maes. Yn ei amser rhydd mae’n gweithio fel trefnydd
digwyddiadau i Gymdeithas ail –berfformio canoloesoedd cynnar Cymru. Mae hefyd yn canu ac yn chwarae mandolin/gitar mewn band roc celtaidd (archebwch......).
Ian*at*cpat.org.uk
|