|
|
||
|
||
|
Saif Castell a Chwrt Tretwr (SO 1846 2125) yn nyffryn Wysg rhwng Y Fenni ac Aberhonddu, 3 milltir i'r gogledd-orllewin o Grucywel. Mae'r gweddillion yn cynnwys castell mwnt a beili gyda thwr crwn diweddarach a maenordy o'r 15fed ganrif sydd wedi ei adnewyddu. Mae'r castell yn cynnwys mwnt a beili a adeiladwyd yn ystod y Goncwest Normanaidd ar Frycheiniog. Yn y 12fed ganrif codwyd adeiladau o gerrig yn lle'r rhai pren. Adeiladwyd cragen gorthwr tua 1150, codwyd neuadd a goruwchystafell ar ochr de-orllewinol y mwnt ac adeiladwyd cegin ar lefel ychydig yn is. Yn gynnar yn y 13eg ganrif dymchwelwyd waliau mewnol yr adeiladau hyn a chodwyd twr crwn. Heddiw, y twr hwn sy'n ymddyrchafu dros safle'r castell. Mae i'r twr dri llawr, pob un gydag un ystafell iddo a lle tân a ffenestr. Mae sylfaeni'r twr yn cynnwys islawr. Oddi mewn i gysylltfur y castell mae gweddillion gatws bychan, hirsgwâr. Adeiladwyd Cwrt Tretwr yn ystod y 14eg ganrif gyda rhai newidiadau iddo yn y 15fed ganrif. Mae'r adeiladau wedi eu gosod o gwmpas cwrt gyda'r hynaf ohonynt ar hyd yr ystlys ogleddol. Mae'r adain hon o'r 14eg ganrif yn cynnwys adeilad hirsgwâr ar ddeulawr. Mae'r prif ystafelloedd ar y llawr uchaf. Yn yr adain orllewinol sy'n perthyn i'r 15fed ganrif mae neuadd, goruwchystafell ac ystafelloedd byw. Gwnaed newidiadau i'r adeilad yn yr 17eg ganrif. Saif gatws o'r 15fed ganrif ar yr ochr ddwyreiniol a childdor i'r gogledd. Adnewyddwyd cryn dipyn ar y ty a'i fur allanol mewn cyfnodau diweddar.
Mae Castell Bronllys (SO149347) yn dyddio o ganol y 12fed ganrif. Ar ben y mwnt bychan ceir twr crwn o gerrig, digon tebyg i'r un yn Nhretwr. I'r gogledd mae dau ragfur neu feili, y naill a'r llall gyda chlawdd a ffos. Lle mae bylchau yng nghlawdd a ffos y beili allanol, gwelir olion tyrrau bastion. Saif Castell Llanfair-ym-Muallt (SO 0439 5103) ar ymyl clogwyn uchel yn nhref Llanfair-ym-Muallt. Fe'i adeiladwyd gan Philip de Braose yn nawdegau'r 11eg ganrif fel mwnt a beili o bridd a phren. Yn y ganrif olynol newidiodd ddwylo rhwng perchnogion Cymreig a Normanaidd ac fe'i ailadeiladwyd â cherrig ym mhedwardegau'r 13eg ganrif. Fe'i cipiwyd a'i ddinistrio gan y Cymry ym 1260. Rhwng 1277 a 1282 fe’i hailadeiladwyd yn gyfan gwbl gan Edward I. Ym 1282 fe'i daliwyd dros y brenin gan John Giffard a oedd o bosibl â rhywbeth i wneud â marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf, a gafodd ei ladd gerllaw yn Rhagfyr 1282.
Roedd i'r castell hwn o gerrig dwr gorthwr wedi ei amgylchynu â chysylltfur a chwech tyred. Roedd gatws a dau dwr iddo yn diogelu'r ward fewnol. Yn anarferol mae i'r castell ddau feili, a'r ddau ohonynt yn wreiddiol gyda waliau cerrig iddynt. Yn dilyn tân yn y dref tua diwedd yr 17eg ganrif defnyddiwyd cerrig o'r castell i adeiladu tai newydd. Heddiw, dim ond y mwnt mawr o bridd a'r ddau feili sydd wedi goroesi. Mynediad a pharcio
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|