|
|
||
|
||
Saif Caer Rufeinig Aberhonddu (SO 0033 2966) (a elwir hefyd Y Gaer) mewn caeau sy'n perthyn i fferm Y Gaer, ger Aberysgir i'r gogledd o afon Wysg. Mae prif ran y gaer dan ofal Cadw ond mae'r tir o'i chwmpas a'r ty fferm yn breifat. Adeiladwyd y gaer gynharaf tua 75 OC gyda chloddiau amddiffynnol o glai yn gorwedd ar gerrig crynion. Byddai palisâd coed yn diogelu'r amddiffynwyr. Roedd yr adeiladau oddi mewn hefyd wedi eu gwneud o bren ac mae'n bosibl mai stablau fyddai un ohonynt. Ar y pryd roedd y milwyr yn Y Gaer yn cynnwys gwyr meirch Vettonian o Sbaen. Darganfuwyd carreg fedd gwr march ifanc, Candidus, filltir i'r gogledd o'r gaer ac mae nawr ar gadw yn Amgueddfa Brycheiniog yn Aberhonddu. Ailadeiladwyd y gaer â cherrig yn ystod ail hanner yr ail ganrif OC gan wyr Ail Leng Augusta. Fel y rhan fwyaf o geyrydd Rhufeinig, roedd Y Gaer, Aberhonddu yn hirsgwâr gyda mynedfa ar ganol pob ochr iddi. Mae darn sylweddol o fur y rhagfur ar yr ochr ogleddol wedi goroesi i uchder o tua 3 medr. Mae'r cerrig trymach, mwy di-siâp a osodwyd ynddo yn dangos lle cafodd ei drwsio yn y 4edd ganrif. Y tu hwnt i'r mur amddiffynnid y gaer gan ffos hyd at 9 medr o led a bron medr o ddyfnder.
Mae sylfeini'r pyrth a'r gwarchodfeydd wedi goroesi gan gynnwys y tyllau colyn yn y rhiniogau y byddai'r gatiau pren yn troi arnynt. Ar bob cornel roedd tyred wedi ei adeiladu yn erbyn cefn y mur. Oddi mewn i'r gaer cloddiwyd gweddillion y prif adeiladau gan gynnwys y principia a'r praetorium. Ystafelloedd byw y pennaeth milwrol oedd y praetorium, a'r principia oedd pencadlys y lleng lle cedwid baneri'r eryr ochr yn ochr â chreirfa'r lleng. Roedd yr adeilad hwn yn cynnwys seler fechan lle cedwid trysorau'r lleng. Roedd yr iard ganolog yn cynnwys lle tân a ffynnon. Adeilad pwysig arall oedd y granar o gerrig a safai i'r gogledd o'r principia. Mae'n debyg fod y baddon-dy gwreiddiol wedi ei adeiladu y tu allan i'r gaer ond adeiladwyd un diweddarach yng nghornel gogledd-orllewinol y gaer. Roedd hwn yn cynnwys pedair ystafell boeth neu gynnes, nifer o ystafelloedd heb wres a phlymbwll oer. Roedd y barics yn ymestyn dros y rhan fwyaf o'r gaer i'r dwyrain o'r principia a'r praetorium. I'r gogledd o'r gaer roedd aneddiad sifil neu vicus ynghyd ag adran fasnachol a gynhwysai weithdai i ofaint a barceriaid. Beth pellter oddi wrth y vicus roedd mansio neu dy swyddogol a ddefnyddid ar gyfer swyddogion fyddai'n ymweld, ac ar gyfer y Post Ymerodrol. Roedd hwn yn cynnwys ei ystafell faddon a'i dy bach ei hun. Darganfuwyd tair carreg fedd arysgrifedig yng nghyffiniau'r gaer, gan gynnwys carreg fedd y gwr march ifanc. Mae'r ddwy arall yn coffáu un Valerius Primus a chwpl a ddangosir mewn maint llawn. Adnabyddir y garreg olaf hon, sydd yn Amgueddfa Brycheiniog, fel Maen y Morwynion. Mynediad a pharcio
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jeff SpencerYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|