Cymraeg / English
CPAT logo

Arweiniad byr i weddillion archeolegol Brenig, Sir Ddinbych

gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

Hafod at Brenig

Rhwng 1973 a 1976 adeiladodd Dwr Cymru gronfa ddwr Llyn Brenig i reoli llif afon Dyfrdwy. O ganlyniad i'r aflonyddu hwn ar y dirwedd, cynhaliwyd ymchwiliadau archeo-legol o tua hanner cant o safleoedd yn y dyffryn. Roedd y rhan fwyaf o'r safleoedd gloddiwyd o gyfnod yr Oes Efydd er i wersyll a ddefnyddid gan helwyr mesolithig gael ei ddarganfod hefyd. Dyddiwyd hwn trwy ddadansoddiad radio-carbon o'r golosg o'u tanau i tua 5,700CC.

Er mwyn galluogi'r ymwelydd i ddeall yn well archeoleg yr ardal diogelwyd nifer o safleoedd ac, mewn rhai achosion, fe'u hailadeiladwyd yn rhannol. Gellir eu gweld ar hyd dau lwybr. Mae'r byrraf o'r ddau yn cynnwys carnedd gylchog, tomen gladdu o'r Oes Efydd, nifer o feddrodau a hafoty yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif OC. Cartrefi dros fisoedd yr haf oedd yr hafotai, lle byddai pobl yn byw tra byddai'r gwartheg a'r defaid yn pori'r rhostiroedd. Mae'r llwybr hwyaf yn cynnwys carneddi o'r Oes Efydd, cloddiau caeau canoloesol ac adeilad o gerrig sydd o bosibl yn weddillion fferm a hafoty arall a ailadeiladwyd ym 1881.

Mae prif safleoedd yr Oes Efydd yn ffurfio mynwent sy'n gorwedd y naill ochr i Afon Fechan. Un o'r prif safleoedd yw tomen gladdu oedd wedi ei hadeiladu dros gyfres o dyllau stanciau a wal gerrig sych oedd yn amgylchynu bedd canolog, yn perthyn i tua 1600OC. Yn ddiweddarach gosodwyd gweddillion corfflosgi yn y domen. Safle pwysig arall, ar y llwybr byr, yw carnedd gylchog sy'n cynnwys cylch isel o gerrig gyda chylch o bolion o'i gwmpas. Ni wyddom pa ddefodau oedd yn cael eu harfer yma ond fe ddefnyddid y cylch am y 400 mlynedd tra defnyddid y fynwent ac mae'n bosibl fod y cylch yn gweithredu fel math ar eglwys, er bod rhai wedi eu claddu y tu mewn iddi.

Llyn Brenig CPAT AP 85-C-302

Mae canolfan Llyn Brenig ar ben deheuol y llyn ger yr argae yn cynnwys canolfan ddehongli gyda fideo, caffi, canolfan chwaraeon dwr a dyma hefyd fan cychwyn nifer o deithiau cerdded a llwybrau natur. Mae'r ganolfan ddehongli yn darparu gwybodaeth gefndirol ac arddangosfa dri dimensiwn o adeiladu'r gronfa, ecoleg yr ardal a'r gweddillion archeolegol. Ceir hefyd fideo sy'n darlunio'r gwahanol agweddau hyn.

Mae taflenni ar gael ar y gweithgareddau yn y ganolfan ac ar y llwybrau archeolegol.

Mae'r ganolfan yn lle delfrydol ar gyfer ymweliad cyfun i astudio'r ecoleg / amgylchfyd / archeoleg / byd natur.
Rhif ffôn y ganolfan: 01490 420463.

Mynediad a pharcio
Mae modd mynd ato ar y B4501, trwy droi tua'r gogledd oddi ar yr A5 yng Ngherrigydrudion, neu droi tua'r de oddi ar yr A543. Saif y ganolfan ar ben deheuol Llyn Brenig. Mae'r llwybrau archeolegol ar ochr gogledd-ddwyreiniol y llyn gydag arwyddbost o'r B4501 (y ffordd i Ddinbych). Gellir parcio am ddim ger man cychwyn y llwybrau archeolegol. Map Landranger 116 Yr Arolwg Ordnans Dinbych a Bae Colwyn.

Map of Wales

Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:-

Jeff Spencer
Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys
7a Church Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7DL

Ffôn: (01938) 553670
Ffacs: (01938) 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys.

Cewch atgynhyrchu’r deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.