|
|
||
|
||
Heddiw mae'r fryngaer yn cynnwys gwrthglawdd anferth o gerrig gyda mynedfeydd ar yr ochr orllewinol a'r ochr gogledd-ddwyreiniol. Mae gwarchotgell-oedd wedi eu hailadeiladu i mewn i fynedfa'r gogledd-ddwyrain ac fe'i hamddiffynnir gan ffos ddofn. Ychwanegwyd clostir trionglog ar ochr y gaer yn ddiweddarach, yn ôl pob tebyg yn ystod y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig neu gyfnod yr Oesoedd Tywyll. Oddi mewn i'r clostir mae gweddillion adeiladau crwn o gerrig. Ni chloddiwyd y tu mewn i'r fryngaer ond mae'n debyg y byddai wedi cynnwys tai crwn o gerrig neu bren yn ogystal ag adeiladau hirsgwâr ar bedwar postyn. Gellir gweld gweddillion nifer o adeiladau o gerrig a gweddillion llwyfannau tai yn y gornel gogledd-ddwyreiniol ac ar ben deheuol y gaer. Cyn i'r fryngaer clawdd cerrig gael ei hadeiladu, roedd clostir cynharach o Oes y Cerrig wedi ei adeiladu ar y bryn. Mae ychydig weddillion ohono i'w gweld ar yr ochr ddwyreiniol. Mae gweddillion nifer o dai canoloesol wedi eu gosod ar lwyfannau wrth fynedfa orllewinol y fryngaer yn dangos bod defnydd yn cael ei wneud o'r ardal hon ar ôl rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gaer. Mae ffotograffau o'r awyr o'r ardal y tu draw i'r fryngaer yn dangos bod yno weddillion cloddiau pridd a chlostir hirsgwâr islaw ar ochr y bryn. Ni wyddys dyddiadau'r rhain ond mae'n bosibl fod iddynt gysylltiad â'r fryngaer. Ymhellach tua'r gogledd ceir clostir gyda ffos ddwbl iddo ac mae'n bosibl ei fod yn dyddio o Oes yr Haearn.
Adluniad o fryngaer Caer Drewyn fel y gallai fod wedi edrych yn yr Oes Haearn Mynediad a pharcio
Mae hon yn daith 25 i 35 munud i un cyfeiriad gan ychwanegu amser ar gyfer archwilio'r fryngaer. Mae'r allt yn serth at y gaer. Map Landranger 125 Yr Arolwg Ordnans Bala a Llyn Efyrnwy
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|