|
|
||
|
||
|
Adeiladwyd cestyll Y Fflint (SJ 24717333), a Rhuddlan (SJ 02467791) ar orchymyn Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei ymgyrch yng ngogledd Cymru. Adeiladwyd castell Dinbych (SJ 051657) gan Henry de Lacy, Iarll Lincoln a dderbyniodd Rhos a Rhufoniog yn dilyn buddugoliaeth Edward ar Llywelyn ap Gruffydd. Castell Y Fflint, oedd y cyntaf i'w adeiladu, ym 1277. Saif ar frig creigiog ar aber afon Dyfrdwy ac mae'n bosibl iddo fod yn safle i gastell cynharach. Clostir caerog syml oedd ward allanol y castell ond roedd y ward fewnol yn glostir cryno gyda thwr cadarn ym mhob cornel iddo. Mae'r twr mwyaf, na chafodd ei gwblhau, yn edrych dros y porth bychan. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gestyll, ychydig dystiolaeth gafwyd o adeiladau domestig oddi mewn i'r wardiau. Amgylchynid y castell â ffos ddofn.
Gyda chanolfan sefydlog yn Y Fflint gorchmynnodd Edward I adeiladu ail gastell pwerus, y tro hwn yn Rhuddlan ar lannau afon Clwyd, safle fyddai'n rhoi iddo fynediad i'r môr. Adeiladwyd y castell rhwng 1277 a 1282 a'r un pryd sythwyd yr afon a'i charthu er mwyn hwyluso mordwyaeth. Cynllun consentrig sydd i'r castell gyda ward fewnol sgwâr a gatws mewn tyrau dwbl gyferbyn â'i gilydd yn y corneli. Mae'r ward allanol, sydd â thyrau bychain sgwâr a thyredau o'i deutu, yn wythonglog o ran siâp oddigerdd lle mae'n ffinio â'r afon. Yno mae'n ymestyn i lawr y llechwedd i amgylchynu fflodiart a doc i'r llongau. Mae muriau'r ward allanol wedi eu dinistrio ond mae olion y ffos i'w gweld o hyd ar yr ochr sydd bellaf o'r afon.
Gerllaw mae gweddillion Twtil, sef castell o bren a phridd a adeiladwyd gan Robert o Ruddlan ym 1086. Cafodd Castell Dinbych ei adeiladu gyda chymorth y Brenin Edward a'i benseiri meini ym 1282. Pan adeiladwyd ef gyntaf roedd ei amddiffynfeydd yn cydio â rhai'r dref gaerog ei hun ond newidiwyd y cynllun i gynnwys croes-amddiffyniadau gyda thyrau amlochrog i roi diogelwch ychwanegol ar ochr y dref. Mae'r gatws yn anarferol gan fod iddo dri llawr. Mynediad a Pharcio
Dylid holi Cadw ynglyn â'r oriau agor. Gall partïon ysgol gael mynediad am ddim i safleoedd Cadw trwy archebu ymlaen llaw. Ffôn 01222 450859. Mapiau Landranger 116 a 117 Yr Arolwg Ordnans Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|