|
|
||
|
||
Ar hyd crib Bryniau Clwyd mae cadwyn o fryngaerydd o Oes yr Haearn ac mae modd mynd atynt ar hyd llwybrau cyhoeddus. Saif rhai ohonynt o fewn Parc Gwledig Moel Famau. Saif Moel Fenlli tua phen deheuol Bryniau Clwyd. Gyda'r maes parcio islaw'r fryngaer mae hwn yn fan cychwyn da i archwilio nifer o'r bryngaerydd. Bryngaer Moel Fenlli (NGR SJ 163 601). Fe'i hamddiffynnir gan gyfres o gloddiau a ffosydd sy'n amgylchynu tua 9.7 hectar. Mae'n debyg i'r rhagfuriau fod yn symlach yn wreiddiol ond iddynt gael eu hailadeiladu lawer gwaith. Mae'r unig fynedfa ar ochr orllewinol y gaer; mae i'r ochr hon glawdd mewndro er mwyn rhoi diogelwch ychwanegol i'r amddiffynwyr. Wrth gloddio yma ym 1879 darganfuwyd wyneb ffordd a arweiniai drwy'r porth gorllewinol. Ceir nifer o lwyfannau crwn oddi mewn i'r gaer ac arnynt byddid wedi adeiladu tai, o bren neu o gerrig. Hefyd mae ffynnon ger canol y gaer ac yn y pen dwyreiniol mae carnedd sy'n dyddio'n ôl cyn Oes yr Haearn. Parheid i feddiannu Moel Fenlli yn ystod y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig. Wrth gloddio yma ym 1879 cafwyd darganfyddiadau Rhufeinig yn dyddio'n ôl mor bell â'r 4edd ganrif OC. Mae bryngaerydd eraill o Oes yr Haearn ar fryniau Clwyd yn cynnwys:- Moel y Gaer (NGR SJ 148 617) - saif ar bentir a gellir mynd ati o gyfeiriad y dwyrain ar hyd culdir sydd wedi ei amddiffyn â gwrthglawdd ychwanegol. Moel Arthur (NGR SJ 145 660) - bryngaer gyda dau wrthglawdd a mynedfa fewndro yn y gogledd-ddwyrain. Fe'i cloddiwyd yn rhannol ym 1849 pan ddadorchuddiwyd waliau cerrig a darganfyddiadau o Oes yr Haearn. Pen y Cloddiau (NGR SJ 128 676) - rhagfuriau amlgloddiog o gwmpas arwynebedd o tua 20 hectar. Mae dau glwstwr o gytiau yn rhan gogledd-ddwyreiniol y gaer a mynedfa ddeheuol gyda siamberi gwarchod. Mynediad a Pharcio
Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|