|
|
||
|
||
Mae Castell Dinas Bran (NGR SJ 222 430) yn fryngaer ac yn gastell canoloesol. Saif yr amddiffynfeydd o Oes yr Haearn a'r castell canoloesol yn uchel uwchlaw dyffryn Dyfrdwy gan edrych dros Langollen. Saif y castell ar lwyfan hirsgwâr hir a allai fod wedi ei lefelu â llaw. Mae'r tir yn syrthio'n serth o bobtu ond yn arbennig felly tua'r gogledd gyda'i glogwyni a'i greigiau. Mae'r safle yn henebyn rhestredig. Mae i'r Fryngaer un clawdd a ffos yn amgylchynu arwynebedd o tua 1.5 hectar. I'r de ac i'r gorllewin ceir yr amddiffynfeydd mwyaf sylweddol, gymaint ag 8 medr o uchder mewn mannau. Saif y fynedfa yng nghornel de-orllewinol y gaer ac fe'i hamddiffynnir â chlawdd sy'n troi at i mewn. Tua'r gogledd amddiffynnir y gaer gan serthrwydd naturiol y tir ac nid oedd angen gwrthgloddiau amddiffynnol. Adeiladwyd y Castell tua diwedd y 13eg ganrif gan dywysogion Powys Fadog a hwn oedd safle cyfarfod rhwng meibion Gruffudd Maelor ym 1270 pan roesant diroedd Maelor Saesneg i gadw eu mam, Emma Audley. Yn ystod y rhyfeloedd rhwng Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru ac Edward I, brenin Lloegr, llosgwyd y castell gan y Cymry cyn iddo gael ei gipio ym 1277 gan Henry de Lacy, iarll Lincoln. Ni chafodd ei atgyweirio ac ni chafodd ei ddefnyddio ar ôl wythdegau'r 13eg ganrif. Mae'r castell yn cynnwys iard neu feili gyda'r prif adeiladau wedi eu gosod ar hyd y pen dwyreiniol a chyda thwr wedi ei godi ran o'r ffordd ar hyd y cysylltfur deheuol. Y twr yw'r rhan mwyaf trawiadol o'r gweddillion sy'n sefyll; yn wreiddiol ymestynnai i'r de o'r cysylltfur. I'r dwyrain o'r twr roedd adeilad hirsgwâr mawr gyda ffenestri tua'r de. Efallai mai neuadd neu gapel oedd hwn. Adeilad sgwâr mawr yw'r gorthwr wedi ei osod yn rhan de-ddwyreiniol y castell; dim ond y mur gorllewinol a rhan o'r un deheuol sydd wedi goroesi i unrhyw uchder. Ar y tu allan i'r mur deheuol mae bwtres llydan sy'n cynnwys tyllau tywallt ar gyfer pâr o dai bach. Saif y fynedfa wreiddiol i'r gorthwr ar yr ochr orllewinol lle mae olion grisiau i'w gweld o hyd. Mae'r gatws yn y gornel gogledd-ddwyreiniol gyda thyrrau crwn o bobtu iddo. Amddiffynnid y castell gan ffos ddofn wedi ei thorri i'r graig ar yr ochrau dwyreiniol a deheuol.
Adluniad o gastell Dinas Brân fel y gallai fod wedi edrych yn yr Oesoedd Canol Mynediad a pharcio
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jeff SpencerYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|