|
|
||
|
||
Mae'r preswyliad cyntaf ar y safle wedi ei ddyddio i Oes Newydd y Cerrig pan adeiladwyd anheddiad yma. Mae fflint a chrochenwaith a ddarganfuwyd yma yn dangos ei fod yn safle teuluol. Adeiladwyd yr anheddiad amddiffynnol cyntaf yn gynnar yn Oes yr Haearn neu o bosibl, yn ddiweddar yn Oes yr Efydd. Nid oedd yr amddiffynfeydd yn ddim mwy na phalis pren dwbl gyda mynedfa mewndro. Yn ddiweddarach yn ystod Oes yr Haearn byddai'r preswylwyr wedi teimlo'r angen am amddiffynfeydd mwy. Adeiladwyd cloddiau pridd anferth oedd wedi eu hatgyfnerthu â fframwaith o goed. Roedd mynedfeydd ar ddau ben y gaer, gyda'r un deheuol yn fewndro. Wedi rhai blynyddoedd gadawyd y fryngaer yn wag, hwyrach ar ôl tân ynddi. Yng nghyfnod olaf ei phreswyliad, yn ddiweddar yn Oes yr Haearn, gwnaed y fryngaer yn sylweddol fwy gan ychwanegu 3.6 hectar arall ar yr ochr gogledd-orllewinol.
Roedd yr amddiffynfeydd yn cynnwys dwy res o gloddiau pridd wedi eu gorchuddio â cherrig a phalisau pren wedi eu gosod ar ben y cloddiau. Adeiladwyd mynedfa gymhleth ar ben de-orllewinol y gaer lle roedd yr amddiffynfeydd naturiol ar eu gwanaf. Y tu allan i'r fynedfa adeiladwyd clostir, o bosibl i gadw anifeiliaid. Ni wyddom lawer am yr adeiladau oddi mewn i'r gaer ond ymddengys fod adeiladau hirsgwar wedi eu gosod ar bedwar postyn, wedi eu hadeiladu ar fin y ffordd oddi mewn i'r gaer. Heddiw, mae cloddiau a ffosydd amddiffynnol y fryngaer olaf i'w gweld yn glir ar y ddaear. Tir pori yw'r safle yn awr gyda golygfeydd ysblennydd o gastell a thref Trefaldwyn a'r wlad o'u cwmpas. Mynediad a pharcio
Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|