|
|
||
|
||
Saif Hen Domen (SO 214 981) i'r gorllewin o dref Trefaldwyn. Erbyn hyn mae beth fu unwaith yn gastell pren, yn domen fawr o bridd (tua 8 medr o uchder a 40 medr ar draws) gyda chloddweithiau'r beili. Y safle hwn, sydd erbyn hyn wedi ei orchuddio yn rhannol â choed, yw'r safle castell pren sydd wedi ei gloddio helaethaf ym Mhrydain. Roedd hwn yn lleoliad pwysig, i'r dwyrain o'r bron o'r rhyd dros afon Hafren, a elwir Rhyd Whyman. Adeiladwyd Hen Domen yn y 1070au (yn fuan ar ôl y goncwest Normanaidd) gan Roger, Iarll Amwythig, a'i galwodd yn Montgomery ar ôl enw ei gartref yn Ffrainc. Roedd Roger o Drefaldwyn yn arglwydd ar ddarnau helaeth o diroedd Powys ac yn uchelwr pwysig yn y byd Normanaidd newydd. Daeth y castell yn eiddo i'r goron ym 1102 pan wrthryfelodd Roger o Drefaldwyn yn erbyn y brenin. Yna bu'r castell ym meddiant teulu'r de Boulers hyd at 1207. Ym 1215 daeth yr ardal dan reolaeth y Cymry ac adfeiliodd y castell er iddo gael ei ailfeddiannu am gyfnod byr ym 1223 pan ddaeth yr ardal yn ôl dan reolaeth y Saeson ac adeiladwyd castell newydd Trefaldwyn. Heddiw mae'r safle yn cynnwys mwnt neu domen fawr o bridd y byddai'r twr pren yn sefyll arni, ac i'r dwyrain y beili, gyda'r cyfan yn cael eu hamddiffyn gan ragfuriau dwbl a ffosydd. Byddai palisau pren ar ben y rhagfuriau i amddiffyn y trigolion rhag ymosodwyr ac mae'n fwy na thebyg y byddai tyrrau pren wedi eu gosod bob hyn a hyn ar hyd y clawdd. Byddai adeiladau pren oddi mewn i'r beili. Roedd rhai yn anheddau ond roedd eraill, gan gynnwys adeilad enfawr ar ddeuddeg postyn, yn siwr o fod yn ysgubor. Mae'n debyg mai neuadd ddeulawr a chartref i Roger o Drefaldwyn oedd adeilad sylweddol arall o goed oedd wedi ei osod y tu ôl i'r bont a arweiniai at y mwnt. Yn ystod y ddeuddegfed ganrif addaswyd y castell gan adeiladu palis newydd a newid y modd yr oedd y beili wedi ei osod allan. Roedd rhan helaeth o'r beili wedi ei lenwi ag adeiladau pren, llawer ohonynt wedi eu gosod ar hyd ochr fewnol y clawdd a'r palis. Yn ogystal â thai annedd ac ystafelloedd gwaith roedd yno gapel, ysgubor a thanc dwr. Prin fu'r darganfyddiadau o'r cloddio, a dangosant nad oedd llawer o gysur na moethusrwydd ym mywyd teulu Trefaldwyn nac, yn ddiweddarach, teulu'r de Boulers oedd yn bwy yno. Yr argraff gref gafwyd o'r cloddio oedd o safle amddiffynnol pwysig yn rheoli darn o wlad a enillwyd drwy ymdrech. Byddai trigolion Hen Domen yn byw bywyd yn yr awyr agored ac yn bwyta cig eidion, cig dafad, porc a chig carw, heb ddanteithion wedi'u mewnforio a gydag ond ychydig o ffrwythau brodorol. Ychydig iawn o ddarnau arian ddarganfuwyd ac ni chafwyd dim a awgrymai fod y trigolion yn llythrennog. Mynediad a pharcio
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jeff SpencerYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|