|
|
||
|
||
|
Castell o waith cerrig yw Castell Trefaldwyn (SO 221 967) a saif ar benrhyn creigiog uwchlaw tref Trefaldwyn, Powys. Mae'r llethrau serth i'r gogledd a'r dwyrain yn ei wneud yn safle amddiffynnol ardderchog. Adeiladwyd y castell gan Harri'r III i atal grym cynyddol Llywelyn ap Gruffudd yn y rhan hon o'r Gororau. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladu yn wreiddiol o bren ym 1223 ond iddo gael ei ailadeiladu o gerrig bron ar unwaith a'i gwblhau ym 1234. Roedd castell Trefaldwyn yn cymryd lle yr hen gastell pren yn Hen Domen. Gellir mynd at gastell Trefaldwyn o gyfeiriad y de. Mae'r amddiffynfeydd sy'n aros yn cynnwys barbican (rhagfur allanol), ffos allanol lydan, iard ganol, ffos fewnol gul a iard fewnol.
Yn wreiddiol byddai'r iard fewnol, a amddiffynnid gan wal o'i chwmpas a gatws gyda dau dwr iddo, yn cynnwys yr ystafelloedd brenhinol yn ogystal â'r gegin a'r bragdy. Ar yr ochr orllewinol, roedd twr mawr ar ffurf D yn cynnwys y ffynnon. Dim ond amddiffynfeydd pren oedd i'r iard ganol yn wreiddiol ond roedd wal gerrig iddi yn ddiweddarach a chodwyd adeiladau maenoraidd o'i mewn. O ganlyniad i adeiladu'r castell ac i bwysigrwydd cynyddol y safle cliriwyd coedlannau helaeth yn y wlad o gwmpas, yn arbennig ar hyd y ffyrdd cyhoeddus. Yn fuan ar ôl i'r castell gael ei adeiladu sefydlwyd tref Trefaldwyn. Anogwyd masnachwyr i ymsefydlu yn y dref newydd a rhoddwyd iddi'r hawl i gynnal ffeiriau a marchnadoedd ac i'w hamddiffyn ei hun â mur a ffos. Yn raddol collodd y castell ei bwysigrwydd ac erbyn y 14eg ganrif roedd yn adfail. Fodd bynnag, ym 1538-43 atgyweiriwyd y castell gan yr Esgob Rowland Lee. Rhoes y teulu Herbert y gorau i ddefnyddio'r castell fel cartref ym 1580, ond ym 1622-5 codasant dy brics mawr yn y Iard Ganol. Yn ystod y Rhyfel Cartref, meddiannwyd y castell gan fyddin y Senedd, ac ym 1649 cafodd ei ddymchwel ar orchymyn y Senedd. Bu cloddio archeolegol gan J Knight yn chwedegau'r ganrif hon pan gafodd y castell ei atgyfnerthu a'i ailarddangos. Adferwyd deunyddiau organaidd gan gynnwys gweddillion esgidiau lledr o'r ffynnon. Cyhoeddwyd manylion y cloddio a hanes y castell gan J Knight yn Archaeologia Cambrensis 1992, 97-180. Mynediad a pharcio
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn..
|