Cymraeg / English
CPAT logo

Arweiniad byr i ddau o gestyll Sir Faesyfed: Castell Tinboeth a Chastell Maesyfed

gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

Motte and bailey


Bu i Gastell Maesyfed hanes cythryblus. Nodir gyntaf bod castell ym Maesyfed yn Llyfr Domesday a'i fod yn eiddo i'r goron a cheir cofnod diweddarach yn y 12fed ganrif. Fodd bynnag nid yw bob tro yn glir os yw'r cyfeiriad at gastell Maesyfed (New Radnor) neu gastell Pencraig (Old Radnor). Yn ystod y 12fed ganrif roedd castell Maesyfed ym meddiant Philip de Breose ond fei cipiwyd ym 1196 gan Rhys ap Gruffudd ac yn ddiweddarach bu ym meddiant Llywelyn ap Iorwerth. Ym 1216 fei cipiwyd a'i ddinistrio'n rhannol gan y Brenin John. Roedd castell Maesyfed yn cael ei ddefnyddio yn ystod y 13eg ganrif gan iddo gael ei ysbeilio gan Llywelyn ym 1231. Cafodd ei ailadeiladu gan iarll Cernyw ym 1233 a'i ddifrodi eto gan Llywelyn ap Gruffudd a Simon de Montford ym 1264. Ysbeiliwyd y castell a'r dref eto ym 1401 gan Owain Glyndwr.

New Radnor Town and Castle CPAT AP 88-C-50

Er iddo ddioddef difrod difrifol dros y blynyddoedd mae'r castell heddiw yn cynnwys tomen ac arni glostir hirgrwn o glawdd ac ynddo sylfaeni adeiladau gan gynnwys gorthwr. Goroesodd rhan o'r gorthwr mor ddiweddar 1815 a safai darn o'r cysylltfuriau ar ganol y 19eg ganrif. I'r gogledd-orllewin o'r domen ceir beili hirsgwr a elwir yn Beili Glas. Mae olion adeiladwaith hirsgwr i'w gweld yn erbyn amddiffynfeydd gogledd-orllewinol y beili. Torrwyd ar draws y beili gan gloddwaith diweddarach, gan gynnwys gweddillion cefnen a rhych, sy'n dangos bod y tir yn cael ei drin yn yr oesoedd canol neu mewn cyfnodau mwy diweddar.

O'r gorllewin y byddid yn nesu at y castell yn wreiddiol ond dinistriwyd y ffordd honno gan waith chwarel.

Gwyddom lai am Gastell Tinboeth sy'n sefyll ar lan afon Ieithon tua milltir i'r gogledd o eglwys Llananno. Gosodwyd y castell oddi mewn i fryngaer o Oes yr Haearn, bryngaer sydd fwy neu lai yn gron a thua 100 medr ar ei thraws. Mae'r gwrthglawdd o bridd a cherrig yn ymledu allan ar yr ochr ddwyreiniol a saif y fynedfa i'r de-ddwyrain. Y tu mewn i'r gwrthglawdd mae ffos ac fe'i defnyddid fel chwarel i ddarparu defnyddiau ar gyfer adeiladu'r clawdd. Cafodd y ffos hon ei dyfnhau yn ystod y cyfnod canoloesol, er mwyn cael cerrig i adeiladu'r castell.

Castell Tinboeth  CPAT AP 85-C-259

Mae'n debyg i'r castell canoloesol gael ei adeiladu yn hwyr yn y 13eg ganrif gan y teulu Mortimer. Mae'n bosibl iddo gael ei adeiladu gan Maud, gwraig Roger Mortimer, ar l ei farwolaeth ym 1282; ymddengys mai dyma'r union gyfnod pan roed y gorau i ddefnyddio un arall o gestyll y teulu Mortimer, sef Castell Cymaron. Mae'n debyg i amddiffynfeydd y fryngaer ffurfio beili neu ward allanol y castell, tra bod y ward fewnol yn cael ei diogelu chysylltfur o gerrig gyda'r fynedfa yn y gornel gogledd-orllewinol trwy gatws oedd tua 8 medr sgwr. Erbyn hyn cloddiau o rwbel yn unig sy'n weddill o'r waliau cerrig. Mae ffos ddofn yn amddiffyniad pellach i'r ward fewnol.

Mynediad a pharcio
Saif Castell Maesyfed o fewn tref Maesyfed ar SO 2117 6100. Mae mewn perchnogaeth breifat ond fe'i croesir gan lwybr cyhoeddus sy'n arwain o gefn yr eglwys. Mae lle i barcio yn y dref.
Saif Castell Tinboeth (SO 0901 7544) ar fryn yn union i'r dwyrain o'r A483, y ffordd o'r Drenewydd i Landrindod, ac uwchlaw afon Ieithon. Mae modd mynd ato ar hyd llwybr sy'n dringo'n serth o'r ffordd, ychydig cyn Pont Llananno a'r troad i'r dde oddi ar yr A483 a thua Bwlch-y-Sarnau. Dylid dilyn y llwybr i fyny o'r ffordd, trwy'r goedlan ac yna troi i'r dde ar derfyn y cae. Ewch i fyny'r bryn tua'r castell gan gadw i ochr dde y ffens. Mae angen esgidiau da i gerdded i fyny i'r castell, siwrnai o tua chwarter awr bob ffordd. Mae modd parcio mewn cilfan gyferbyn 'r llwybr. Mapiau Landranger 147 a 148 Yr Arolwg Ordnans

Map of Wales

Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter :-

Jeff Spencer
Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys
7a Church Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7DL

Ffn: (01938) 553670
Ffacs: (01938) 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys.

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.