|
|
||
|
||
Saif Abaty Glyn y Groes a Philer Eliseg nid nepell o'i gilydd ychydig i'r gogledd-orllewin o Langollen, mewn dyffryn sydd wedi ei osod rhwng bryniau serth, dyffryn a fyddai'n eithaf anhygyrch yn yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd Abaty Glyn y Groes (NGR SJ 2045 4415) gan Madog ap Gruffydd Maelor ym 1201 ar gyfer Urdd y Mynaich Gwynion, ac fel 'merch' i Ystrad Marchell. Yn ystod cyfnod ei adeiladu niweidiwyd yr adeilad gan dân. Hefyd mae yna arwyddion fod yr eglwys wedi ei hatgyweirio yn y 15fed ganrif, o bosibl yn dilyn difrod wnaed iddi yn ystod gwrthryfel Glyndwr. Megis tai crefyddol eraill diddymwyd yr abaty gyda Diddymiad y Mynachlogydd ym 1538. Mae'r eglwys wedi ei chynllunio ar ffurf croes, tua 56 medr o hyd, gyda chapel ym mhob transept. Roedd ystlysau ar naill ochr i gorff yr eglwys. Byddai'r adeiladau cwfeiniol yn rhesi i'r gorllewin, y dwyrain a'r de, gan ffurfio clostir amddiffynedig. Roedd ffreutur y brodyr lleyg (neuadd fwyta aelodau lleyg yr abaty) yn y rhes orllewinol gyda chegin yn y gornel dde-orllewinol rhyngddo a'r ffreutur (neuadd fwyta'r mynachod) a ffurfiai ochr ddeheuol yr adeiladau. Yn y rhes ddwyreiniol ceid y gysegrfa, y cwpwrdd llyfrau, y fynedfa i'r cabidyldy a'r grisiau i'r ystafell gysgu. Roedd llety'r Abad rhwng pen y rhes ddwyreiniol a'r eglwys. Roedd tai bach wedi eu darparu ar ben deheuol y rhes ddwyreiniol. Mae'r abaty dan warchodaeth ac mae taflen fanylach ar gael ar y safle. Piler Eliseg (NGR SJ 203 445) - colofn unionsyth a chroes arni gydag arysgrif Lladin yn coffáu Cyngen ac Eliseg, aelodau o deulu llywodraethol teyrnas Powys yn ystod y 7fed i'r 9fed ganrif. Codwyd y golofn yn hanner cyntaf y 9fed ganrif OC gan Cyngen, gor-wyr Eliseg "a achubodd dreftadaeth Powys drwy'r naw mlynedd (?) rhag pwer y Saeson, a throi'r wlad honno, trwy dân, yn dir y cledd. Pwy bynnag a ddarlleno y garreg hon a arysgrifennwyd â llaw, bydded iddo roi bendith ar enaid Eliseg". Mae'r golofn yn sefyll ar godiad tir a phan gloddiwyd y twmpath ym 1779, roedd ynddo flwch neu arch o garreg yn cynnwys gweddillion claddedigaeth mewn pridd. Mynediad a Pharcio
Mae'r cofnod safleoedd a henebion (CSH) ar gyfer Powys a gogledd-ddwyrain Cymru (Clwyd gynt) yn cael ei chasglu a'i chynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae'n amcanu at ddarparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr Archif yn uniongyrchol berthnasol i feysydd astudiaeth mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd angen gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Am wybodaeth a chyngor pellach cysyllter â:- Jenny MitchamYmddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Church Street Y Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn: (01938) 553670
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi cyfrannu tuag at gost y cyhoeddiad hwn.
|