Arweinlyfrau Byr i Safleoedd Archaeolegol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru
Paratowyd y rhestr ganlynol o daflenni arweiniol byrion i'w defnyddio gyda'r pecynnau addysgu a'r deunyddiau addysgol eraill a gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys i hybu'r defnydd o archaeoleg o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Eu nod yw darparu gwybodaeth gryno i athrawon (ac eraill) sy'n dymuno ymweld â safleoedd lleol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru fel rhan o'r maes llafur Hanes.
Dim ond at sampl o'r safleoedd yr hoffech ymweld â nhw, efallai, y mae'r taflenni arweiniol isod yn cyfeirio. Os ydych yn chwilio am enghreifftiau pellach o safleoedd lleol y gallech ymweld â nhw mae croeso i chi gysylltu â Chofnod o Safleoedd a Henebion a Gwasanaeth Rheoli Treftadaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys i drafod awgrymiadau.
Yr olion Archaeolegol ger Llyn Brenig
Arweiniad byr i'r claddfeydd cynhanesyddol a'r hafotai canoloesol a ailadeiladwyd o gwmpas cronfeydd Brenig ger Rhuthun yng ngogledd Cymru.
Bryngaer Caer Drewyn
Arweiniad byr i fryngaer Oes Haearn Caer Drewyn ger Corwen yng ngogledd Cymru
Bryngaer Ffridd Faldwyn
Arweiniad byr i fryngaer Oes Haearn Ffridd Faldwyn ger Trefaldwyn yng nghanolbarth Cymru
Bryngaer Moel Fenlli
Arweiniad byr i fryngaer Moel Fenlli a bryngaerau eraill o'r Oes Haearn ar Fryniau Clwyd yng ngogledd Cymru
Caer Rufeinig, Y Gaer, Aberhonddu
Arweiniad byr i'r Gaer Rufeinig ger Aberhonddu yng nghanolbarth Cymru
Bryngaer a Chastell Dinas Brân
Arweiniad byr i'r castell canoloesol a'r fryngaer o'r Oes Haearn ar safle Castell Dinas Brân ger Llangollen yng ngogledd Cymru
Castell Hen Domen
Arweiniad byr i'r mwnt a beili Normanaidd, Hen Domen ger Trefaldwyn yng nghanolbarth Cymru
Cestyll Tre-twr, Bronllys a Llanfair ym Muallt
Arweiniad byr i'r tri chastell canoloesol yn Sir Frycheiniog, canolbarth Cymru
Castell Trefaldwyn
Arweiniad byr i'r castell canoloesol yn Nhrefaldwyn yng nghanolbarth Cymru
Castell Tinboeth a Chastell Maesyfed
Arweiniad byr i'r ddau gastell canoloesol yn Sir Faesyfed yng nghanolbarth Cymru
Cestyll y Fflint, Rhuddlan a Dinbych
Arweiniad byr i dri chastell canoloesol yng ngogledd Cymru
Abaty Glyn y Groes a philer Eliseg
Arweiniad byr i'r Abaty Sistersaidd yng Nglyn y Groes a'r cofadail i Eliseg gerllaw o'r canol oesoedd cynnar, ger Llangollen yng ngogledd Cymru
I gael gwybodaeth a chyngor pellach cysylltwch â Swyddog SMR yr Ymddiriedolaeth yn y cyfeiriad yma os gwelwch yn dda.
|