Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 2: Elfennau Allweddol: ymwybyddiaeth gronolegol/ymchwiliad hanesyddol

Deall Archeoleg

Daw tystiolaeth am sut y byddai pobl yn byw yn y gorffennol o nifer o wahanol ffynonellau. Mae rhai o'r rhain y math o archeoleg y byddech yn debyg o'i weld wrth ymweld chloddfa; mae eraill yn cynnwys ymchwil mewn llyfrgell neu ymchwiliadau mewn labordy. Mae'r dulliau gwahanol a ddefnyddir yn dibynnu ar y cyfnod sydd dan sylw ac ar y math o safle neu dirwedd.

Y math o archeoleg sydd fwyaf adnabyddus yw cloddio. Golyga hyn symud ymaith yn ofalus yr haenau o ddefnyddiau sydd wedi crynhoi neu sydd wedi eu gadael yno tros gyfnod o amser, o ychydig flynyddoedd i filoedd lawer o flynyddoedd. Yn yr haenau hyn mae eiddo a sbwriel pobl y dyddiau gynt wedi ymgasglu. Dan bentyrrau blynyddoedd diweddarach gall fod waliau adeiladu gynt wedi eu claddu, neu dyllau polion a adawyd gan byst unionsyth sydd wedi hen bydru. Mewn rhai achosion, lle mae'r ddaear dan ddwr, gall y pren fod wedi goroesi. Trwy astudio a nodi'n ofalus batrwm cymhleth yr haenau a'r defnyddiau sydd ynddynt gall archeolegwyr benderfynu sut fath ar adeiladwaith oedd yn bodoli yn y gorffennol, y math o bobl oedd yn byw yno a sut fywyd oedd ganddynt.

Pollen

Gronyn paill - Gwernen (Ffynhonnell: Somerset Levels Project)

Wrth gloddio cedwir samplau o'r gwahanol bridd a'r haenau eraill. O'r rhain mae gweddillion hadau, cnau, esgyrn bychain, malwod, pryfed a phaill yn cael eu tynnu allan, eu dynodi a'u dadansoddi er mwyn galluogi'r archeolegydd amgylcheddol i benderfynu sut amgylchfyd oedd i'r safle gynt yn ogystal thaflu goleuni ar fwyd y boblogaeth a'r anifeiliaid gwyllt a dof a drigai ar y safle. Mae adnabod gronynnau bychain o baill, na ellir eu gweld ond chwyddwydr, yn ei gwneud yn bosibl gwybod y math o blanhigion dyfai yn y gwahanol gyfnodau. Er enghraifft, mae tystiolaeth paill yn dangos i ni mai rhai o'r coed cynharaf i wladychu Prydain ar ddiwedd yr oes i ddiwethaf (tua 12,000 o flynyddoedd yn l), oedd y corfedw a'r eithin pr. Erbyn i'r ffermwyr cyntaf ddod i Brydain (tua 6,000 o flynyddoedd yn l) roedd y rhan fwyaf o'r wlad wedi ei gorchuddio choedwig gollddail gymysg yn cynnwys coed megis pisgwydd, derw, ynn a llwyfen. Mewn rhai achosion anarferol cloddiwyd pren llawn dwr o'r cyfnodau hyn oedd yn dangos sut y defnyddiai dyn y coedwigoedd hyn i ddarparu coed ar gyfer tai, offer fferm, llwybrau a chelfi. Mae modd nodi y gwahanol rywogaethau o goed a ddefnyddiwyd a chymharu'r dystiolaeth hon 'r hyn a gafwyd o ddadansoddi paill.

Arrow

Pen saeth fflint

Mae darganfyddiadau o gloddfeydd yn cynnwys unrhyw beth ddefnyddid yn y gorffennol. Rhai o'r prif fath o ddarganfyddiadau o'r cyfnod cynhanesyddol yw llestri metel, celfi ac arfau, crochenwaith, celfi o garreg ac yn llai cyffredin defnydd organig, megis lledr esgidiau, tecstiliau neu waith llaw o bren. Yn ogystal bod yn ddiddorol fel pethau a ddefnyddid gan y bobl gynt mae modd astudio sut y gwnaed y rhain ac felly ddatblygiad y gwahanol grefftau a diwydiannau. Yn ystod y cyfnod neolithig, o garreg yn unig y gwneid celfi torri. O tua 4,000 o flynyddoedd yn l dysgodd pobl Prydain gyntaf ddulliau gweithio metel, yn gyntaf copr ac yn ddiweddarach haearn. Mae defnyddiau eraill megis coed wedi bod yn gyffredin ers i ddyn ddechrau defnyddio celfi ond parhawyd i ddatblygu dulliau newydd o weithio hyd y dydd heddiw.

Mae steil a dulliau cynhyrchu'r fath bethau wedi newid tros amser a gwnaeth hyn hi'n bosibl dyddio darganfyddiadau yn l eu teipoleg. Mae'r dull hwn o ddyddio yn arbennig o ddefnyddiol mewn cyfnodau pan oedd ffasiynau, mewn er enghraifft crochenwaith, yn newid yn gyflym. Mae felly yn bosibl dyddio rhai safleoedd Rhufeinig o fewn ychydig flynyddoedd o steil y crochenwaith a ddarganfuwyd arnynt. Math arall o ddarganfyddiad sy'n ddefnyddiol ar gyfer dyddio mewn cyfnod hanesyddol yw arian bath. Mae darnau arian fel arfer yn nodi yr ymerawdwr, y brenin neu'r frenhines oedd ar yr orsedd pan gawsant eu bathu yn ogystal gwybodaeth y gellir ei dyddio i flynyddoedd penodol.

Lle nad oes yna bethau y gellir eu dyddio yn weddol agos rhaid defnyddio dulliau eraill o ddyddio. Erbyn hyn mae dewis o ddulliau gwyddonol ar gael: y rhai ddefnyddir amlaf yw dyddio radio carbon a dendrocronoleg. Techneg sy'n mesur swm y carbon 14 yw dyddio radio carbon. Ceir carbon ym mhob peth wnaed o ddefnydd oedd unwaith yn fyw h.y. gweddillion planhigion neu anifeiliaid. O'r amser pan fydd farw mae swm y carbon yn lleihau yn l graddfa benodol, fesuradwy. Mae mesur swm y carbon 14 yn rhoi i ni amrediad dyddiad yn hytrach na dyddiad penodol. Mae dendrocronoleg yn golygu mesur a dadansoddi patrwm cylchoedd tyfiant coeden, patrwm sy'n bresennol yn y rhan fwyaf o goed sy'n tyfu mewn hinsoddau tyner. Ym Mhrydain y goeden sy'n rhoi'r canlyniad mwyaf llwyddiannus yw'r dderwen. Mae'r patrymau tyfiant yn adlewyrchu'r hinsawdd a fodolai pan oedd y goeden yn fyw, ac o astudio'r patrymau hyn mewn miloedd o wahanol goed, o'r dydd heddiw yn l i'r fforestydd ddilynodd oes yr i, gall dendrocronolegwyr heddiw ddyddio samplau o goed a dyfai yn ystod y 10,000 o flynyddoedd diwethaf. Os yw'r gwynnin (y cylchoedd allanol) yn bresennol yn y sampl mae modd dynodi yr union flwyddyn y torrwyd y goeden.

Dendrochronology
(ailargraffwyd gyda chaniatd o Archaeology: Theories, Methods and Practice, gan Colin Renfrew a Paul Bahn. Thames and Hudson, Llundain 1991)

Cropmarks

Mae dulliau eraill o ddysgu am y gorffennol yn dod yn gynyddol bwysig wrth i ni geisio diogelu'r dystiolaeth ffisegol am ein gorffennol. Mae nifer o safleoedd na ellir eu gweld o'r ddaear ond sy'n dod yn amlwg o'r awyr fel olion cnydau. Er enghraifft bydd cnwd o wenith yn tyfu'n dalach a chryfach dros ffos sydd wedi ei llenwi llaid ac sy'n cadw'i gwlybaniaeth, nag y bydd dros weddillion wal gerrig. Yn y dull hwn mae modd darganfod safleoedd megis ceyrydd Rhufeinig neu glostiroedd o Oes yr Haearn. Mae'n bosibl y bydd safleoedd eraill gydag ychydig glawdd a ffos arnynt, yn dangos allan yn well dan orchudd tenau o eira neu pan fo'r haul isel yn taflu'i gysgodion. Bydd safleoedd o'r fath yn cynnwys gweddillion aneddiadau diffaith a chyfundrefnau meysydd. Gellir plotio ffotograffau o safleoedd yn fanwl ar fapiau gan ein galluogi i sefydlu darlun o dirweddau gynt.

Gellir darganfod safleoedd hefyd trwy gerdded ar draws gwlad, boed yn gaeau sydd wedi eu haredig, yn fawnogydd wedi eu torri neu'n dir sydd wedi aflonyddu arno gan goedwigaeth. Bydd darganfyddiadau yr aflonyddwyd arnynt gan y prosesau hyn yn gorwedd ar wyneb y tir; weithiau gellir plotio eu gwasgariad a'u natur a dynodi safleoedd aneddiadau neu fannau gwaith gynt. Mewn achosion eraill nid yw safleoedd wedi eu claddu dan ddaear ond parhnt fel cofgolofnau, megis waliau adeiladau neu gaeau. Weithiau, yn arbennig ar y tir uchel gyda'i boblogaeth denau, ni wyddys am y safleoedd hyn neu nid oes gofnod da ohonynt. Mae sefydliadau archeolegol yn trefnu rhaglenni o ddynodi ac arolygu er mwyn cynyddu ein gwybodaeth am y mannau hyn.

Gellir cael mwy o wybodaeth am safleoedd a thirweddau o astudio mapiau a dogfennau. Ym Mhrydain gwnaed y mapiau hynaf sy'n dangos manylion y dirwedd gan dirfeddianwyr o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Mae argraffiad cyntaf yr Arolwg Ordnans hefyd yn dangos safleoedd, llawer ohonynt erbyn hyn wedi eu dinistrio neu eu difrodi. Daw gwybodaeth arall o ysgrifennu hynafiaethol cynnar a chofnodion trefi a stadau, megis siarteri neu restrau o dollau porthladd.

Ond nid yw'n ddigon casglu gwybodaeth am y gorffennol; mae cyfrifoldeb hefyd ar yr archeolegydd i ledaenu'r wybodaeth hon trwy gyhoeddi a chyflwyno. Gwneir hyn trwy gyhoeddiadau academaidd yn cofnodi canlyniadau cloddio ac arolygu yn ogystal chyflwyniadau llai manwl mewn taflenni, llyfrau, amgueddfeydd a chanolfannau dehongli sydd wedi eu paratoi ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol a rhai sy'n ymwneud ag addysg.

Mae rhai o safleoedd a thirweddau'r dyddiau gynt wedi eu diogelu gan ddeddfwriaeth. Mae'r rhai sydd o bwys cenedlaethol yn henebion cofrestredig wedi eu diogelu trwy gyfraith. Mae henebion sydd dan warchodaeth ym mherchnogaeth a than ofal Cadw. Mae llawer ohonynt ar agor i'r cyhoedd. Mae safleoedd eraill nas diogelir gan y gyfraith ond sy'n dibynnu ar ymdrechion archeolegwyr, awdurdodau cynllunio ac aelodau o'r cyhoedd i'w diogelu rhag niwed a distryw. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn sefydlwyd cofrestr gyfrifiadurol o Safleoedd a Henebion ar gyfer pob sir yng Nghymru ac fe'i cynhelir gan y pedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymreig. Gall aelodau o'r cyhoedd weld y Cofnod Safleoedd a Henebion.

Mae dysgu am y gorffennol yn rhan hanfodol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae deall amgylchfyd, hanes ac archeoleg lleol o gymorth i wneud hynny. Gall y Cofnod Safleoedd a Henebion roi manylion safleoedd lleol sy'n berthnasol i rannau o astudiaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Gellir trefnu gweithgareddau ymarferol i'r dosbarth mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys, yn cynnwys defnyddio darganfyddiadau o gloddfeydd ac ymweliadau safleoedd.

Mae archeoleg yn gwneud defnydd o lawer o sgiliau a disgyblaethau gwahanol i ddehongli'r gorffennol: gellir defnyddio data archeolegol mewn sawl rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol heblaw hanes. Er enghraifft, mewn mathemateg (e.e. defnyddio ystadegau a graffiau), astudiaethau gwyddonol/amgylcheddol (adnabod paill a macroffosilau a dadansoddi tyfiant sy'n newid), iaith (e.e. tystiolaeth am enwau lleoedd), dylunio a thechnoleg (e.e. gwneud darluniau mesuredig o ddarganfyddiadau), technoleg gwybodaeth (e.e. defnyddio cronfa ddata mewn archeoleg), daearyddiaeth (e.e. astudiaethau lleoliadol), celf (e.e. astudio patrwm a chelf gain gynnar ar waith llaw archeolegol).

Darllen pellach:
Barker, P. 1977. Techniques of Archaeological Excavation. Batsford, Llundain.
Howell, R (ed) Archaeology and the National Curriculum in Wales. CBA/Amgueddfa Genedlaethol Cymru/Cadw.
English Heritage. Resources 1994 (defnyddiau ymarferol i alluogi athrawon i ddefnyddio'r amgylchfyd hanesyddol ar gyfer unrhyw bwnc).
English Heritage. The Archaeology Resource Book 1992.
Renfrew, C. and Bahn, P. 1991. Archaeology: Theories Methods and Practice. Thames and Hudson, Llundain.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.