|
|
||
|
||
|
Soniwyd am y Celtiaid gyntaf wrth eu henw gan yr ysgrifenwyr clasurol yn yr ychydig ganrifoedd olaf CC. Roedd yr enw yn cyfeirio at amrywiaeth o lwythau a berthynai i'w gilydd gan fyw mewn rhan helaeth o ganolbarth a gorllewin Ewrop. Yn eu plith roedd llwythau ynysoedd Prydain ac Iwerddon.
Gwyddom oddi wrth lenyddiaeth Rufeinig a thystiolaeth archeolegol fod y Celtiaid yn bobl ryfelgar, yn garwyr crandrwydd personol ac ymddangosiad rhwysgfawr. Adlewyrchir hyn mewn darganfyddiadau o emwaith cymhleth, arfau a gweddillion cerbydau rhyfel. Byddai milwyr Oes yr Haearn wedi eu harfogi â tharian fawr, a gwaywffon neu gleddyf. Byddai'r darian wedi ei gwneud o bren ac wedi ei chryfhau ag ymyl metel, darn o fetel ar ei hyd a chasyn ar gyfer y bwlyn pren oedd yn diogelu'r llaw a afaelai ynddi. Byddent yn ymladd ar droed neu oddi ar eu cerbydau rhyfel oedd wedi eu gwneud yn ysgafn o bren a gwiail ac yn cael eu tynnu gan geffyl neu ferlyn bychan cryf. Gyrrid y cerbyd rhyfel gan gerbydwr. Byddai'r milwr yn ymladd, un ai yn sefyll yn y cerbyd neu'n cael ei gario i'r frwydr ac yna yn neidio i lawr ac yn ymladd wyneb yn wyneb â'i elyn. Byddai'r cerbyd yn aros gerllaw fel y gallai neidio arno a dianc petai angen. Anaml y byddai nifer fawr o ddynion yn ymladd; yn amlach na pheidio mae'n debyg ceid ysgarmesoedd rhwng y gwahanol lwythau oedd fel arfer yn cynnwys dwyn gwartheg eich cymdogion. Roedd gwartheg yn arwydd pwysig o gyfoeth yn Oes yr Haearn, cyfnod pan oedd darnau arian yn brin a phan oedd eiddo pobl yn brin o'i gymharu â heddiw. Dengys archwiliad archeolegol o'r aneddiadau fod llawer o bobl Oes yr Haearn yn byw mewn clostiroedd neu fryngeyrydd a amddiffynnid ag un neu fwy o gloddiau a ffosydd. Byddai palis pren neu, o bryd i'w gilydd, wal gerrig ar ben y clawdd mewnol.
O fewn y clostir byddai pobl yn byw mewn tai crynion, yn aml gyda chyntedd dros yr un drws. Fel arfer adeiledid y tai â waliau plethwaith a chlai, gorchudd o wellt neu gyrs ar doeau pren a lloriau clai neu bridd. Mewn rhai ardaloedd lle roedd digon o gerrig ar gael adeiledid muriau'r ty â cherrig. Mae hyn yn wir am ogledd Cymru mewn bryngeyrydd megis Moel-y-Gaer. Yn aml roedd i'r tai le tân canolog ac weithiau bopty clai i grasu bara. Byddai'r grawn ar gyfer y bara yn cael ei falu ar freuan droi. Byddai'r mwg yn dianc trwy'r to gwellt. Ceid gwydd bren mewn rhai tai gyda'r bobl yn gwehyddu brethyn o wlân neu lin.
Ffermwyr oedd y rhan fwyaf o Geltiaid Oes yr Haearn, ffermwyr a dyfai wenith a haidd ac a gadwai ddefaid a gwartheg ac ychydig foch. Ymestynnai eu caeau o gwmpas yr aneddiadau ac ar eu hymylon byddai tir gwlypach wrth yr afon a hefyd goedlannau, cartref anifeiliaid gwyllt megis ceirw a bleiddiaid. Roedd cnydau eraill yn cynnwys llin a ffa, a llysiau pêr a ddefnyddid i goginio a lliwio brethyn. Byddai'r tir yn cael ei drin trwy ddefnyddio aradr syml o bren yn cael ei thynnu gan wartheg. Roedd gwartheg Oes yr Haearn yn llai na gwartheg heddiw, yn agosach mae'n debyg i'r hen frid Dexter. Mae'n bosibl y byddid yn trin darnau llai o dir a gerddi â phrennau cloddio. Byddai'r gwenith yn cael ei fedi un ai â chryman medi neu drwy dorri'r tywysennau â llaw. Byddai'n gyffredin gweld chwyn a blodau yn y caeau. Nid oedd pawb yn byw mewn bryngeyrydd. Roedd rhai pobl yn byw mewn aneddiadau llai, yn cynnwys ychydig dai, wedi eu hamgylchynu â ffens neu heb unrhyw fath o amddiffyniad. Digon tebyg oedd eu tai i dai crwn y bryngeyrydd. Defnyddid adeiladau eraill fel gweithdai er y byddai llawer o'r gweithgarwch yn digwydd yn yr awyr agored. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith metel, crochenwaith, gwaith coed a thrin crwyn i wneud lledr. Ar y rhan fwyaf o ffermydd a bryngeyrydd cedwid y grawn un ai mewn tyllau yn y ddaear neu mewn graneri pren hirsgwâr fyddai'n cadw'r cnwd gwerthfawr yn sych ac allan o gyrraedd y llygod. Heddiw, yr oll sy'n weddill o'r mannau hynny lle trigai pobl Oes yr Haearn yw cloddiau a ffosydd y bryngeyrydd ac olion cnydau clostiroedd gynt a nodweddion eraill y gellir eu gweld o'r awyr. Mae cloddio'r archeolegwyr yn datguddio tyllau polion y tai crwn a'r graneri yn ogystal â darganfod gweddillion toredig arfau, tlysau, celfi pren a chrochenwaith a ddefnyddid i ddal bwyd ac i'w goginio. Y safleoedd gorau i ymweld â nhw yw'r bryngeyrydd: fel arfer mae'r cloddiau a'r ffosydd wedi cadw'n dda ac mae modd dychmygu sut olwg oedd arnynt bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Hefyd mae modd adnabod clostiroedd llai oddi wrth weddillion eu cloddiau ond nid ydynt mor drawiadol i'r llygaid.
Nid ffermwyr oedd pawb yn Oes yr Haearn; ceid hefyd grefftwyr arbenigol a weithiai mewn clai, metel a choed. Gwneid crochenwaith un ai gyda thorch o glai neu drwy siapio lwmp o glai ar y dröell. Wedi iddo sychu câi ei danio mewn coelcerthi. Mae arddulliau crochenwaith yn amrywio o le i le ond roedd crochenwaith yn llai cyffredin yng Nghymru nag yn Lloegr yn ystod Oes yr Haearn. Byddai llestri eraill wedi eu gwneud o bren, un ai wedi ei gerfio neu ei ddurnio neu ei wneud â ffyn. Roedd pren yn ddefnydd pwysig i sawl pwrpas, o wneud celfi i adeiladu tai. Gwneid gwaith metel yn yr awyr agored, gan weithio mewn efydd, haearn a metelau prin. Defnyddid ffwrnais bant syml i doddi'r mwyn, câi efydd ei fwrw i fowldiau ond gan na ellid cyrraedd tymheredd digon uchel i doddi haearn byddai'n rhaid ei forthwylio. Y pethau mwyaf cyffredin a wneid o fetel oedd cleddyfau haearn, cyllyll, bwyeill a chelfi gwaith coed a thlysau efydd, gemwaith a mân daclau harneisiau.
Safleoedd yr awgrymir ymweld â nhw:-
(Mae taflenni a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ar gael ar rai o'r safleoedd. Gellir cael manylion am safleoedd eraill yn eich ardal trwy gysylltu â'r Swyddog Safleoedd a Henebion). Mae gan amgueddfeydd lleol gasgliadau o ddefnyddiau o safleoedd Oes yr Haearn:-
Adluniad o Bentref Oes yr Haearn yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd. (Gellir gwneud trefniadau i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â bywyd yn Oes yr Haearn, dan gyfarwyddyd staff yr amgueddfa. Rhif ffôn cyswllt: 01222 397951). Darllen pellach:
|