Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 2: Bywyd yng Nghymru a Phrydain Gynnar

Cymru Gristnogol Gynnar: seintiau a brenhinoedd

Yn OC 410 anfonodd yr Ymerawdwr Rhufeinig Honorius neges i bobl Prydain yn dweud wrthynt na ddylent mwyach ystyried eu hunain yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig na allai ei byddinoedd bellach eu hamddiffyn rhag ymosodiad. Fe'u cynghorodd i roi sylw i'w hamddiffynfeydd eu hunain. Daeth y neges hon ar l cyfnod hir o aflonyddwch yn ystod blynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif, cyfnod pan fu nifer o ymosodiadau barbaraidd sylweddol ar dalaith Prydain ac ar rannau eraill o'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd fwy nag un ymgais i dynnu Prydain allan o'r Ymerodraeth, yr un mwyaf adnabyddus dan arweiniad Macsen Wledig (Magnus Maximus) a orchfygwyd yn y diwedd a'i ladd yn OC 388. Cyfeirir at Macsen yn Y Mabinogion fel sylfaenydd nifer o linachau brenhinol Cymreig.

Ar l i Brydain ymddatod o fod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn gynnar yn y bumed ganrif OC, ni welwyd y dull rhufeinig o fyw yn dadfeilio ar unwaith ond gwanychwyd y weinyddiaeth ganolog gyda thwf teyrnasoedd newydd trwy Brydain. Yng Nghymru, roedd y rhain yn cynnwys, ymhlith eraill, Gwynedd, Powys, Dyfed a Glywysing. Dros rai cannoedd o flynyddoedd wedi hynny arhosodd ffiniau'r teyrnasoedd hyn yn hyblyg, fel y symudai grym o'r naill i'r llall ac fel y tyfodd teyrnasoedd newydd megis Ceredigion a Brycheiniog. Roedd pob teyrnas yn cael ei rheoli gan frenin wedi ei ddewis o blith y teuluoedd llywodraethol.

Ramparts
Teyrnasoedd Ccynnar Cymru (ffynhonnell: Davies, W. 1982)

Mae'r corff o gyfreithiau Cymreig cynnar sy'n manylu ar rwymau a rhwymedigaethau cymdeithasol yn dangos bod cymdeithas yn haenedig iawn. Ar y brig roedd y teuluoedd llywodraethol a'r uchelwyr, yn nodedig oherwydd eu tras a'u cyfoeth mewn tir a meddiannau. Islaw'r rhain roedd y dynion rhydd oedd yn ffermwyr, crefftwyr, beirdd a milwyr; byddai'r taeogion a'r caethweision yn ffurfio haen isaf cymdeithas. Ffermwyr-denantiaid oedd y taeogion ac er nad oeddynt yn gaethweision nid oeddent yn rhydd i adael eu tir na'u gwasanaeth i'r arglwydd. Roedd y rhwymyn rhwng dyn a'i arglwydd yn gryf iawn, yn arbennig felly rhwng milwr a'i arweinydd. Byddai'r arweinydd yn darparu ar gyfer ei gadlu ac yn cynnal gwleddoedd iddynt, ac yn eu tro byddent hwythau yn ymladd drosto hyd farwolaeth. Y teulu oedd y rhwymyn cryf arall mewn cymdeithas oedd yn ddigon aflonydd a rhyfelgar, a byddai disgwyl i berson wybod enwau a gorchestion ei hynafiaid yn l i o leiaf bedair, os nad chwe, cenhedlaeth.

Trigai llywodraethwyr y teyrnasoedd Cymreig mewn llys, sef anheddiad amddiffynedig a sefydlid weithiau mewn hen fryngaer, megis yn Dinas Emrys sydd islaw'r Wyddfa. Mae cysylltiad hir rhwng Ambrosius (Emrys Wledig) a Dinas Emrys; mewn lln gwerin fe'i disgrifir fel llywodraethwr cynnar oedd yn hanu o dras Rhufeinig. Bryngaer arall a ailfeddiannwyd yw Caer Drewyn yng Nghlwyd. Hefyd ailfeddiannwyd bryngeyrydd Rhufeinig gynt megis Y Gaer, Aberhonddu. Cynhwysai'r llysbrenhinol gasgliad o dai (fel arfer o bren) fyddai'n gartref i'r teulu brenhinol, y gweithwyr, y milwyr, y crefftwyr a'u teuluoedd. Y prif adeilad oedd y neuadd lle byddai'r llywodraethwr a'i ddilynwyr yn gwledda. Amddiffynnid yr adeiladau rhagfur o gerrig neu bridd a phalis pren.

Dinas Powys
Cynllun Dinas Powys (ffynhonnell: Alcock, L. 1963)

Pot

Un o'r canolfannau grym cynharaf hyn sydd wedi ei archwilio fanylaf yw Dinas Powys ger Caerdydd lle cloddiwyd yr hyn a oedd o bosibl yn neuadd ac ysgubor o waith coed. Roeddynt wedi eu gosod mewn clostir (tua 60 medr wrth 50 medr) oedd wedi ei amgylchynu ffos dorrwyd yn y graig a'i ddiogelu gan gloddiau o glai a rwbel. Yr hyn sy'n gwneud y safle hwn mor eithriadol yw cymaint o waith metel, gemwaith, gwydr a chrochenwaith wedi ei fewnforio - i gyd o safon uchel - a chymaint o esgyrn gwartheg a ddarganfuwyd yno; hyn oll yn dangos statws uchel a chyfoeth y bobl oedd yn byw yno. Roedd y crochenwaith a ddarganfuwyd ar y safle wedi ei fewnforio o fannau mor bell ag Aquitaine (Ffrainc), gogledd Affrica a dwyrain ardal Mr y Canoldir. Mae cysylltiad rhwng y crochenwaith hwn a'r fasnach mewn gwin. Mae modd dyddio'r gwahanol fathau ac arddulliau i gyfnod rhwng y bumed a'r seithfed ganrif OC.

Cefn Graeanog

Cylun o Cefn Graeanog (ffynhonnell: White, R.B. 1978)

Ychydig iawn a wyddom am yr adeiladau neu'r math o aneddiadau yr oedd pobl gyffredin yn byw ynddynt. Mae hyn yn rhannol am na fu cymaint o newid hynny arnynt mewn 1500 o flynyddoedd a mwy, trwy gyfnodau Oes yr Haearn, y goresgyniad Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar (hyd at y Goncwest Normanaidd). Yr anhawster arall yw mai ychydig o wrthrychau y gellid eu dyddio a ddarganfuwyd ar safleoedd domestig yng Nghymru, ac eithrio'r crochenwaith o safon uchel oedd wedi ei fewnforio. Felly, mae'n anodd iawn gwybod ym mha gyfnod, er enghraifft, yr oedd pobl yn byw mewn grwp o dai crwn o bren neu garreg. Yn ystod y Canol Oesoedd cynnar roedd y rhan fwyaf o bobl yn ffermwyr yn byw mewn tai o bren neu garreg, tai crwn neu dai hirsgwr. O bryd i'w gilydd byddai'r rhain wedi eu gosod mewn clostir pren neu garreg. Y tebyg yw fod adeiladau eraill yn cael eu defnyddio fel beudai ac ysguboriau. Yng Nghefn Graeanog yn Llyn roedd clostir hirsgwr o gerrig yn cynnwys tri chwt crwn, gardd a beudy ac ysgubor hirsgwr. Wrth gloddio yno cafwyd tystiolaeth o weithio mewn haearn ac o weithgareddau amaethyddol yn perthyn i'r cyfnod rhwng y drydedd a'r bumed ganrif OC.

Y prif fathau eraill o adeiladau oedd eglwysi a mynachlogydd. Mae'r rhan fwyaf o gyfeiriadau at eglwysi cynnar yng Nghymru yn awgrymu iddynt gael eu hadeiladu o bren. Adeiladau bychain oedd rhai ohonynt wedi eu gwneud o goed cyll wedi eu plethu ac a letyai feudwy yn unig; roedd eraill yn grwp o adeiladau wedi eu hamgylchynu chlawdd pridd a ffens bren, lle byddai'r mynachod a'r lleianod yn byw a gweithio. Yn ddiweddarach yn y cyfnod, ailadeiladwyd rhai o'r adeiladau pren, yn arbennig yr eglwysi, a'u codi cherrig. Yn iaith y cyfnod (ffurf gynnar ar Gymraeg, tebyg i'r iaith siaredid yng Nghernyw a gogledd Prydain) y gair am glostir o'r fath oedd llan, gair sydd yn aml iawn yn ffurfio elfen gyntaf enw lle ac sy'n dynodi hen safle crefyddol. Mae'r safleoedd sydd wedi eu dogfennu yn cynnwys Llangors (ger Aberhonddu), Llangollen a Llanelwy (Clwyd). Ychydig o weddillion canolfannau crefyddol o'r fath sydd wedi goroesi er bod modd olrhain y clostiroedd crwn cynnar mewn nifer o leoedd megis ym Meifod (Maldwyn).

Memorial stone

Er mai anarferol oedd i'r eglwysi a'r mynachlogydd cynharach oroesi mae yna gryn nifer o groesau a meini coffa Cristnogol cynnar. Mae arwydd y groes ar lawer o'r meini coffa gyda'r coffd i'r person fu farw wedi ei ysgrifennu mewn ffurf dalfyredig ar Ladin. Saif un o'r rhain, sef maen i goffu Dervacus, ym Maen Madoc, Ystradfellte, Brycheiniog ger yr hen ffordd Rufeinig o Goelbren i'r Gaer, Aberhonddu. Mae ambell goffd wedi ei ysgrifennu mewn ogam, ffurf o ysgrifennu nad yw wedi ei seilio ar yr wyddor ond ar linellau byr a hir wedi eu rhicio ar draws cornel carreg neu ddarn o bren. Dyfeisiwyd y ffurf hon ar ysgrifennu yn Iwerddon a daeth ymsefydlwyr Gwyddelig hi i'w canlyn i Gymru.

Carreg goffa o'r 5/6ed Ganrif o'r Trallwng, ger Aberhonddu sydd yn darllen fel hyn, mewn ogam "CVNACENNIVI ILVVETO" = CARREG CUNACENNIVI ILVVETO",
ac sy'n darllen mewn Lladin "CVNOCENNI FILIV[S]/CVNOGEN HICIACIT" = CARREG CUNOCENNIUS MAB CUNOGENUS. YMA Y GORWEDD.
(ffynhonnell: Nash-Williams, V.E. 1950) Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Roedd y cyswllt ag Iwerddon yn mynd yn l i'r cyfnod cynhanesyddol. Cadwyd masnach a chyswllt trwy gydol y cyfnod Rhufeinig ac o'r bumed ganrif dechreuodd Gwyddelod ymsefydlu mewn rhannau o orllewin Cymru. Adlewyrchir hyn mewn enwau lleoedd, yn arbennig yn Nyfed. Hefyd, daeth ymsefydlwyr o ogledd Prydain i ogledd Cymru. Yn l yr hanes caent eu harwain gan Cunedda, oedd ei hun yn tarddu o deyrnas ogleddol Gododdin (yn ardal Caeredin). Daethant 'r gerdd "Gymraeg" gyntaf i'w canlyn, sef Y Gododdin, sy'n adrodd hanes milwyr Gododdin a ymladdodd ac a laddwyd mewn brwydr fawr yn erbyn y Sacsoniaid ger Catraeth (Catterick), Sir Gaerefrog yn ddiweddar yn y 6ed ganrif.

I'r dwyrain roedd Cymru yn ffinio Mersia, teyrnas yr oedd ei llywodraethwyr o bryd i'w gilydd mewn rhyfel theyrnasoedd Powys a Brycheiniog. Yn OC 196 ymosododd Aethelflaed o Fersia ar Frycheiniog gan gipio'r frenhines ond heb sicrhau goresgyniad parhaol. Ceid ymosodiadau ar Bowys o Mersia o'r seithfed ganrif ymlaen. Yn yr wythfed ganrif diffiniwyd y ffin trwy adeiladu clawdd enfawr a oedd, er nad yn ddi-fwlch, yn ymestyn o arfordir gogledd Clwyd i arfordir y de ger Cas-gwent. Enwyd y clawdd ar l y brenin a orchmynnodd ei fod yn cael ei adeiladu, y brenin Offa o Fersia.

Yn gynnar yn yr unfed ganrif ar ddeg OC newidiwyd hanes teyrnasoedd Cymru yn sylweddol gan y Goncwest Normanaidd.

Safleoedd yr awgrymir ymweld nhw:-
Ychydig gofadeiliau o'r cyfnod hwn sydd wedi goroesi. Fodd bynnag, yn achos rhai safleoedd sydd thystiolaeth o anheddiad canoloesol cynnar ynddynt, perthynant i gyfnod cynharach, ac mae'n werth ymweld nhw pan gyfunir hynny ag astudiaeth o bynciau archeolegol eraill sy'n berthnasol i'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn ne Powys mae yna nifer sylweddol o feini coffa a chedwir rhai ohonynt erbyn hyn yn Amgueddfa Brycheiniog, Aberhonddu.

Dinas Emrys, Gwynedd (SH 606492).
Bryngaer Caer Drewyn, Corwen, Sir Ddinbych (SJ 087444).
Caer Rufeinig Y Gaer, Aberhonddu (SO 00332966).
Maen coffa Maen Madoc ar ochr Ffordd Rufeinig Sarn Helen (gellid ei gyfuno ag ymweliad chaer a gwersyll Rhufeinig Coelbren (SN 858107 a SN 963104).
Maen coffa Piler Eliseg (ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen SJ 20454415).

(Mae taflenni a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ar gael ar gyfer rhai o'r safleoedd hyn. Gellir cael manylion safleoedd eraill yn eich ardal trwy gysylltu 'r Swyddog Henebion a Safleoedd.)

Darllen pellach:-
Howell, R (ed) Archaeology and the National Curriculum in Wales. CBA/Amgueddfa Genedlaethol Cymru/Cadw.
English Heritage. Resources 1994 (defnyddiau ymarferol i alluogi athrawon i ddefnyddio'r amgylchfyd hanesyddol ar gyfer unrhyw bwnc).
English Heritage. The Archaeology Resource Book 1992.
Thomas, C. 1986. Celtic Britain. Thames and Hudson, Llundain.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.