Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 1: Bywyd yng Nghymru a Phrydain Gynnar

Bywyd Bob Dydd yn y Gorffennol

Cyn y chwyldro diwydiannol roedd y rhan fwyaf o bobl Prydain yn byw yn y wlad ac yn gweithio ar y tir. Bu yma drefi a dinasoedd ers cyfnod y Rhufeiniaid ond, o'u cymharu rhai modern roeddent yn fychan iawn. Cyn y cyfnod Rhufeinig (o ganol y ganrif 1af OC) nid oedd yna drefi na dinasoedd er bod rhai pobl yn byw mewn grwpiau gyda'i gilydd mewn aneddiadau, yn aml iawn o fewn bryngeyrydd. Yma fe ddisgrifir rhai agweddau ar fywyd bob dydd pobl y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol.

Yn ystod y cyfnod cynhanesyddol roedd y rhan fwyaf o bobl yn ffermwyr a dyfai ddigon o gnydau at eu defnydd eu hunain gydag ychydig dros ben i gyfnewid am nwyddau na allent eu gwneud eu hunain. Roedd y nwyddau hyn yn cynnwys defnyddiau crai megis cerrig a metelau a ddefnyddid i wneud celfi, arfau ac addurniadau personol. Er bod llawer o gelfi a thaclau ty o waith cartref gwneid eraill gan grefftwyr pentref megis gofaint, seiri coed, crochenwyr, crefftwyr mewn gwaith lledr a chrefftwyr mewn metelau gwerthfawr. Dichon fod rhai o'r crefftwyr (neu grefftwragedd) hyn yn gweithio'n rhan amser, gan ymwneud gweithgarwch amaethyddol a domestig am y gweddill o'u hamser. Mae'n debyg mai felly yr oedd hi gyda'r mathau symlaf o waith coed, crochenwaith a gwaith metel lle roedd pobl yn gwneud celfi ar gyfer eu tai eu hunain. Mae'n debyg mai bychan oedd nifer y crefftwyr arbenigol hynny fyddai'n gweithio'n amser llawn wrth eu crefft; byddent yn cyflenwi'r eitemau hynny na allai ffermwyr eu gwneud eu hunain yn ogystal ag arfau a nwyddau o'r safon uchaf ar gyfer y dosbarth bychan o fonedd a milwyr.

BOWLEN BREN O OES YR HAEARN

DRYCH O OES YR HAEARN

BOWLEN BREN O OES YR HAEARN

DRYCH O OES YR HAEARN

Roedd y rhan fwyaf o bobl cyn-hanes yn byw mewn aneddiadau bychain neu ar ffermydd unigol wedi eu gwasgaru ar draws gwlad. Mae yna dystiolaeth fod llawer o aneddiadau wedi eu lleoli yn y dyffrynnoedd mwy cysgodol a thoreithiog ond, ar dir uchel y lleolwyd carneddau claddu cerrig yr Oes Efydd a'r bryngeyrydd diweddarach o Oes yr Haearn. Diogelwyd enghreifftiau da o'r rhai olaf hyn yn Ffridd Faldwyn ym Maldwyn ac ym Moel Fenlli ar fryniau Clwyd.

Yn ystod y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol adeiladwyd a datblygwyd trefi. Yng Nghymru ychydig iawn o drefi Rhufeinig a geid, yn arbennig felly ar y Gororau lle mae'r rhan fwyaf o aneddiadau'r cyfnod hwn yn geyrydd milwrol Rhufeinig neu'n aneddiadau brodorol, prin gwahanol i rai Oes yr Haearn. Yn aml iawn datblygai trefi o gwmpas cestyll a adeiladwyd yn wreiddiol i gadw gafael ar y rhannau hynny o'r wlad oedd wedi eu concro trwy rym ac fel canolfannau llywodraeth leol. Mae i nifer o'r trefi hyn darddiad Normanaidd er i lawer ohonynt gael eu hailadeiladu mewn cyfnodau diweddarach. Roedd gan Gymru lai o drefi na Lloegr a hyd at y 13eg ganrif roedd y rhan fwyaf ohonynt ar hyd arfordir y de neu ar y Gororau gan gynnwys rhai yn Rhuddlan, Llanandras ac, yn ddiweddarach Llanfair ym Muallt a Threfaldwyn. Yng Ngogledd Cymru adeiladwyd nifer o gestyll a threfi gan Edward I ar l ei goncwest ar y rhan hon o Gymru yn ddiweddar yn y 13eg ganrif. Ar y cyntaf bwrdeisiaid o'r tu allan i Gymru, gan gynnwys Saeson a Ffleminiaid oedd yn byw yn y rhain. Un dref a chastell sydd wedi goroesi'n dda yw Conwy; yn nhref y Fflint a Rhuddlan mae'r cestyll yn sefyll o hyd ond mae llai i'w weld o'r trefi canoloesol yno.

Yn y trefi canoloesol y byddai cartrefi a gweithdai'r crefftwyr, pob un yn arbenigo yn ei grefft ei hun gyda chrefftwyr o'r un grefft yn byw yn eu rhan eu hunain o'r dref. Dyna sut y cawsom ln y cigyddion a stryd y cowperiaid (er enghraifft "Coppergate" yn nhref ganoloesol Efrog). Roedd crefftau eraill yn cynnwys gwehyddion, sidanwyr, cryddion, gofaint aur, gofaint arian, dilladwyr a llawer mwy. Lleolid rhai busnesau o bryd i'w gilydd ar gyrion y trefi, er diogelwch ar er mwyn lleihau llygredd ar y strydoedd ac yn yr afonydd; enghreifftiau o'r rhain oedd y barceriaid oedd yn cynhyrchu gwastraff arbennig o annymunol, a'r crochenwyr oedd yn defnyddio tn. Roedd y swyddogion a reolai'r rhanbarth ar ran yr ymerawdwr (yn y cyfnod Rhufeinig) neu ar ran y brenin, yn byw yn y trefi a'r dinasoedd. Felly hefyd siryf y sir yn y cyfnod canoloesol. Diogelid nifer o'r trefi gan furiau, ar y cyntaf gwrthgloddiau pridd a phalis pren arnynt ac yn ddiweddarach waliau o gerrig neu frics. Byddai'r prif ffyrdd yn arwain i mewn i'r dref drwy byrth, yn aml yn enfawr eu maint ac yn cael eu hamddiffyn gan borthcwlis.

Motte
ADLUNIAD O GASTELL PREN

Yn y wlad roedd y bobl ganoloesol yn byw mewn amrywiaeth o aneddiadau. Byddai'r arglwydd lleol yn byw mewn castell o goed neu gerrig wedi ei osod ar fwnt (twmpath o waith dyn), gyda'i feili amddiffynedig o'i gwmpas. Yn y rhannau hynny o'r wlad a feddiannwyd gan y Normaniaid roedd gan bod maenor ei thaeogion, gweithwyr oedd dan orfod cyfraith i aros ar y stad a gweithio ar dir yr arglwydd. Byddai ffermwyr eraill yn berchnogion eu tir eu hunain, neu wedi ei gymryd ar brydles, ond gallent orfod talu rhywfaint trwy lafur i'r arglwydd lleol. Yn aml byddent yn byw mewn pentrefi wedi eu gwasgaru ar stad y faenor; byddai'r stad wedi ei rhannu'n gaeau r agored, yn dir pori ar weundir a gweirglodd ac yn goedwigoedd lle byddai arglwydd y faenor yn hela ceirw ac anifeiliaid gwyllt eraill a lle byddai ef a'i bentrefwyr yn cael coed ar gyfer adeiladu, gwaith coed a thanwydd. Yn ddiweddarach bu troi cefn ar nifer o'r pentrefi ac o bryd i'w gilydd gwelir eu gweddillion fel cloddwaith isel lle, ar un cyfnod, y safai adeiladau pren wedi eu gosod ar ddarnau bychan o dir wedi eu rhannu gan lwybrau pridd.

Yn y rhan fwyaf o Gymru anaml y byddai'r uchelwyr yn byw mewn cestyll cerrig ond yn hytrach mewn cestyll pren neu mewn maenorau neu lysoedd caerog, weithiau ffosydd o'u cwmpas. Roedd y rhan fwyaf o dai wedi eu hadeiladu o goed, gyda llawer o'r rhai berthynai i bobl well eu byd yn cynnwys plasty ffrm goed iddo gyda neuadd, parlwr preifat ac ystafell wely i'r perchennog ac ystafelloedd gweini. Yn y neuadd byddai'r tn ar aelwyd agored gyda'r mwg yn dirwyn trwy'r to. Yr unig ddodrefn fyddai meinciau, byrddau ac ychydig gadeiriau ar gyfer pobl bwysig.

Timber framed house
TY FFRM BREN

Yn amlach na pheidio byddai ffermwyr yn byw mewn aneddiadau gwasgaredig gyda phentrefi yn bethau prin. Oherwydd natur fynyddig llawer o gefn gwlad a'i glaw trwm a'i thymor tyfiant byr, roedd anifeiliaid pori yn bwysicach nag yn y rhan fwyaf o Loegr. Defnyddid hafotai fel cartrefi tymhorol pan eid 'r gwartheg i borfeydd yr ucheldir dros yr haf. Roedd aneddiadau eraill y cyfnod yn cynnwys safleoedd mynachaidd lle byddai nifer o fynachod neu leianod yn byw bywyd o neilltuaeth gan gysegru eu hamser i weddo tra'n cael eu cynnal gan lafur y lleygwyr fyddai'n ffermio eu stadau ac yn gweithio yn eu melinau, eu pysgodfeydd a'u mwngloddiau. Byddai'r mynachlogydd yn cynnig lloches i deithwyr o bob math yn ogystal chynnig addysg a gofal am gleifion. Sefydlwyd llawer o safleoedd mynachaidd Cymru gan Urdd y Mynaich Gwynion (yr Urdd Sisteraidd), gan gynnwys yr un yn Abaty Glyn y Groes ger Llangollen. Roedd safleoedd eraill yn llawer llai gydag adeiladau o bren wedi eu gosod mewn clostir neu lan; roedd y rhain yn cynnwys safleoedd mynachaidd ac eglwysi lleol.

Hafod
HAFOD

Safleoedd yr awgrymir ymweld nhw:-
Bryngeyrydd Oes yr Haearn ym Moel Fenlli, Castell Dinas Brn, Ffridd Faldwyn neu Ddinas Castell (ger Talgarth).
Castell a thref ganoloesol Conwy
Cestyll cerrig yn Y Fflint, Rhuddlan, Dinbych, Ewlo, Dinas Brn (Llangollen), Trefaldwyn, Dolforwyn, Maesyfed, Llanfair ym Muallt neu'r Gelli.
Gweddillion castell pren (mwnt a beili) yn Hen Domen (ger Trefaldwyn)
Safleoedd mynachaidd yn Abaty Glyn y Groes (Llangollen), Dinas Basing neu Aberhonddu (yr eglwys gadeiriol erbyn hyn). Mae taflenni a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ar gael ar gyfer rhai o'r safleoedd. Gellir cael manylion am safleoedd eraill yn eich ardal trwy gysylltu 'r Swyddog Safleoedd a Henebion.

Darllen pellach:-
Arnold, C J 1990 The Archaeology of Montgomeryshire. Y Trallwng: Clwb Powysland.
Cooper, R 1992 Abbeys and Priories of Wales. Abertawe: Christopher Davies.
Dyer, J 1981 Hillforts of England and Wales. Aylesbury: Shire Archaeology.
Howell, R. (ed) 1994. Archaeology and the National Curriculum in Wales. Council for British Archaeology.
Manley, J (ed) 1991 The Archaeology of Clwyd. Y Wyddgrug: Gwasanaeth Archeolegol Clwyd.
Musson, C 1994 Wales from the Air. Aberystwyth: RCAHMW.
Soulsby, I 1983 The Towns of Medieval Wales. Chichester: Phillimore.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.