|
|
|||||||
|
|||||||
|
Hyd at ryw 6,000 o flynyddoedd yn ôl ym Mhrydain roedd pobl yn byw trwy hela, pysgota a chasglu planhigion gwyllt. Mae tystiolaeth bod dynion yn byw yma cyn yr oes iâ ddiwethaf pan oedd Prydain yn rhan o dirfas Ewrop. Hyd yn oed yn ystod yr oes iâ ddiwethaf roedd yna gyfnodau pan nad oedd yr hinsawdd mor arw a phan oedd dynion yn byw mewn rhannau o dde Prydain. Yn ystod y cyfnod hir hwn (o tua 220,000 o flynyddoedd yn ôl i tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl) byddai dynion yn byw ochr yn ochr ag anifeiliaid megis y llewpard, y ceffyl, yr arth, y rhinoseros, yr iwrch a'r afanc, a byddai'n hela rhai ohonynt. Wedi i'r haenau iâ gilio am y tro olaf cynhesodd yr hinsawdd. Ar y cyntaf roedd y planhigion a fodolai yn ddigon tebyg i'r hyn sy'n tyfu yn y twndra heddiw, ond yn raddol disodlwyd y rhain gan fforestydd bedw a phinwydd ac, yn ddiweddarach fyth, gan fforestydd collddail cymysg. Erbyn hyn roedd dynion yn hela anifeiliaid y goedwig: y baedd gwyllt, yr eidion gwyllt, y carw coch a'r iwrch; yn ogystal â physgota, adara a chasglu bwydydd gwyllt. Mae'r dystiolaeth gyntaf o ffermio yng Nghymru yn dyddio'n ôl i tua chanol y 4ydd mileniwm CC. Ni wyddom o hyd i ba raddau yr oedd brodorion Prydain wedi mabwysiadu ffermio gan bobl newydd oedd wedi ymsefydlu yma gyda'u hanifeiliaid dof a'u cnydau amaethyddol, neu i ba raddau yr oedd y ffermwyr wedi ennill tir yn raddol oddi ar diriogaethau hela llwythol y bobl fesolithig. Ychydig o aneddiadau neolithig ddarganfuwyd yng Nghymru er bod tystiolaeth o ffermio i'w weld yn y newidiadau mewn tyfiant. Gellir darganfod lleihad yn y rhywogaethau o goed a chynnydd mewn porfa a chnydau grawn trwy astudio'r record paill. Darganfuwyd tystiolaeth o adeiladau neolithig yn Gwernvale ger Crughywel, Trelystan ar Gefn Digoll ym Maldwyn ac ar safle'r fryngaer ddiweddaraf ym Moel y Gaer, Rhosesmor yng Nghlwyd. Adeiladau hirsgwâr o goed oedd y rhain. Ymddengys mai ffermydd unig oedd y rhan fwyaf o'r aneddiadau neolithig yng Nghymru.
Defnyddiai'r ffermwyr cyntaf fwyeill cerrig i dorri a chlirio'r fforestydd er mwyn cael lle i blannu haidd, eincorn a gwenith yr Almaen. Byddai'r anifeiliaid dof - y gwartheg a'r defaid a'r geifr - yn pori'r caeau oedd wedi eu cynaeafu a'r llecynnau agored, rhai yn bod yn naturiol, eraill o waith llaw dyn. Byddent hefyd yn brigbori yn y fforestydd ar ddail coed collddail megis y bisgwydden a'r lwyfen. Er mai anifeiliaid dof oedd ffynhonnell y rhan fwyaf o'r cig, parhâi hela a physgota i fod yn eithaf pwysig nid yn unig ar gyfer cig ond hefyd crwyn a ffyrrau. Roedd cynhyrchion llaeth (llaeth, menyn a chaws) a gwlân yn gynhyrchion eilaidd pwysig. Byddai grawn yn cael ei falu'n flawd trwy gael ei rwbio rhwng dwy garreg (a elwid yn breuan gyfrwy) a châi'r bara ei grasu ar y tân agored neu mewn popty clai neu garreg. Nyddid y gwlân a'i wehyddu'n frethyn i wneud dillad a chynfasau. Tyfid llin hefyd i wneud lliain. Gwneid y rhan fwyaf o adeiladau, arfau ac offer allan o bren. Nid oedd prinder coed o'r fforestydd ond roedd pobl neolithig yn ofalus iawn yn eu defnydd o goed, gan ddefnyddio’r rhywogaeth oedd fwyaf addas i'r dasg dan sylw. Annigonol iawn yw'r wybodaeth sydd gennym o fanylion llawer o grefftau'r cyfnod hwn ond daw mwy i'r golwg wrth i'r archeolegwyr gloddio mwy o safleoedd. Mae'r celfi cerrig yn cynnwys cyllyll, ysgrafelli (i grafu crwyn?), celfi turio, bwyeill cam (i naddu pren) a blaenau saethau. Câi'r rhain eu defnyddio ar gyfer gwaith bob dydd megis lladd a blingo anifeiliaid, paratoi'r crwyn, gweithio mewn pren a lledr, a pharatoi bwyd. Gwneid celfi eraill, megis offer palu a chynaeafu, allan o asgwrn a phren. Cedwid bwyd a diod mewn llestri pridd.
I ryw raddau ychydig fu'r newid mewn ffermio dros yr ychydig filoedd blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, o tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl dysgodd bobl ddulliau gweithio mewn metel. Mae'n bosibl fod defnyddio efydd i wneud celfi miniog wedi bod yn bwysig i wella dulliau amaethyddol. Yn ystod yr ail mileniwm CC dechreuodd pobl sefydlu a ffermio mewn ucheldiroedd megis y tir o gwmpas cronfa ddwr Brenig yng Nghlwyd. Mae dadansoddiad o'r paill o'r fan yma yn awgrymu bod cyfran sylweddol o'r fforestydd wedi eu torri a bod y rhan fwyaf o'r dirwedd yn weundir o laswellt a hesg ar gyfer tir pori. Hefyd, tyfid cnydau grawn. Ni ddarganfuwyd tai'r anheddiad ym Mrenig ond cloddiwyd gweddillion tomenni claddu a chylchoedd cerrig oedd yn gysylltiedig ag arferion crefyddol. Mewn safleoedd eraill megis Ffridd Bryn Helen yng Nghlwyd darganfuwyd gweddillion cytiau crynion o gerrig a chlostiroedd. O ganlyniad i glirio'r coedlannau a ffermio'r tir uchel dirywiodd y pridd a oedd eisoes yn denau ac yn hidlo'n hawdd. Gyda'r tir dan ddwr buan y datblygai'n fawnog. Nid oedd hyn o reidrwydd yn gyfan gwbl o ganlyniad i ffermio ond adlewyrchai newid yn yr hinsawdd i dywydd gwlypach ac oerach tua diwedd yr Oes Efydd pan gefnwyd ar ffermydd y tir uchel. Crwn fel arfer oedd tai diwedd yr Oes Efydd megis yr un ddarganfuwyd yn ddiweddar yn Llandinam yn nyffryn uchaf afon Hafren. Yn Llandinam adeiladwyd y ty o goed a goroesodd fel cylch o dyllau polion. Hefyd darganfuwyd gweddillion llestri pridd a grawn. Mae bryngaer Breiddin hefyd yn tystio i anheddiad yn nyffryn Hafren. Tua'r 10fed neu'r 9fed ganrif CC adeiladwyd anheddiad ar ben y bryn a'i amddiffyn â rhagfur o glawdd a cherrig. Ni ddarganfuwyd unrhyw adeiladau wrth gloddio'r safle ond cafwyd digon o dystiolaeth o doddi a bwrw efydd. Bryngeyrydd oedd y math mwyaf cyffredin o anheddiad o ddiwedd yr Oes Efydd a thrwy gydol Oes yr Haearn. Yn aml iawn roedd y rhain yn fawr ac yn cynnwys nifer o adeiladau crwn, rhai ohonynt yn gartrefi ac eraill yn ystafelloedd gwaith. Ffermwyr oedd mwyafrif pobl Oes yr Haearn. Roedd gan y rhai a drigai yn y bryngeyrydd gaeau ar y tir o gwmpas, ond roedd llawer o rai eraill yn byw mewn aneddiadau llai amddiffynedig yn is i lawr ar y llethrau ac yn y dyffrynnoedd. Un enghraifft sydd wedi ei gloddio yw Collfryn ger Llansantffraid Deuddwr ym Maldwyn. Roedd aneddiadau eraill yn ffermydd unigol heb amddiffynfeydd. Fel arfer roedd y tai yn grwn ac wedi eu hadeiladu o goed. Gwneid y ffrâm o bolion unionsyth wedi eu cydio â'i gilydd â thrawstiau pren. Roedd y waliau wedi eu gwneud o wialenni o goed cyll neu ryw bren ystwyth arall, wedi eu cydblethu a'u plastro â mwd (dwb). Adeiledid y to, oedd yn gonigol, o bolion crwn a'i doi â gwellt neu gyrs. Roedd cyntedd dros ddrws rhai o'r tai. Yn yr ardaloedd mynyddig byddai muriau'r tai weithiau wedi eu hadeiladu â cherrig.
Yn ystod Oes yr Haearn y prif gnydau grawn oedd gwenith yr Almaen. Byddent yn torri'r tir trwy ddefnyddio ffurf gyntefig ar aradr a byddai'r grawn un ai yn cael ei hau ar wasgar neu ei hau mewn rhychau a agorid â darn o bren. Os byddai'r had wedi ei wasgaru byddai'r cae wedyn yn cael ei lyfnu ag oged. Ni wyddom am ogedi o'r cyfnod cyn hanes ond mae'n bosibl mai offer digon cyntefig oedd y rhain ac wedi eu gwneud o ganghennau naturiol. Byddai'r cnwd yn cael ei fedi â chryman neu drwy gasglu'r tywysennau â llaw. Yn wahanol i heddiw byddai'r caeau yn gymysgedd o wenith a haidd a blodau gwylltion a chwyn. Darganfyddir hadau'r chwyn wedi eu cymysgu â grawn wedi ei olosgi. Mae'r golosgi hwn o ganlyniad i danio'r grawn yn ddamweiniol wrth ei sychu neu i'r granar ei hun fynd ar dân. Cedwid y grawn mewn twll yn y ddaear, neu'n fwy cyffredin yng Nghymru, mewn graneri pren wedi eu codi ar bolion oddi ar y ddaear. Byddai cnydau eraill yn cynnwys ffa Celtaidd, digon tebyg i ffa llydain, a llin , gyda'i ddail yn cael eu defnyddio fel porthiant i'r anifeiliaid, ei ffeibrau i wneud lliain a'i hadau i wneud olew. Mae'n bosibl y byddid yn bwyta planhigion eraill a fyddai ond megis chwyn i ni, neu eu defnyddio fel meddyginiaethau neu i liwio. Enghraifft o'r dosbarth olaf hwn oedd y glaslys a roddai liw glas i liwio brethyn a thatwio.
Y pryd hwn byddai'r grawn yn cael ei falu mewn breuan droi a'r bara neu'r teisennau yn cael eu crasu un ai ar ymyl tân agored (fel arfer ar ganol y ty pren crwn) neu mewn popty clai ar un ochr i'r aelwyd. Gellid coginio'r cig mewn crochan metel, ei grasu yn y lludw poeth neu ei rostio ar waell o haearn uwchben y tân. Mewn rhai rhannau o orllewin Prydain byddent yn coginio'r cig mewn tyllau mawr agored yn y ddaear, a'r rhain yn aml wedi eu leinio â choed neu gerrig ac yna eu llenwi â dwr. Byddent yn berwi'r dwr trwy daflu cerrig poeth iddo, cerrig oedd wedi eu poethi ar dân gerllaw. Adnabyddir y safleoedd hyn fel twmpathau cerrig llosg ar ôl y pentyrrau fyddai wedi eu llosgi a'u hollti a'u taflu o'r neilltu ar ôl pob sesiwn goginio.
Y prif anifeiliaid dof oedd gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau. Mae'n debyg mai gwartheg a defaid oedd bwysicaf, y gwartheg am eu cig, eu llaeth a'u crwyn, a'r defaid am eu gwlân. Mewn rhai rhannau o Brydain darganfuwyd gweddillion terfynau caeau hirion, weithiau o gwmpas bryngaer. Mae'n bosibl mai caeau mawr iawn a ddefnyddid i ffermio gwartheg oedd y rhain. Gwyddom o lenyddiaeth gynnar Gymraeg a Gwyddeleg, fod gwartheg yn hynod bwysig yn Oes yr Haearn, nid yn unig yn economaidd ond hefyd yn gymdeithasol. Gyda gwartheg y byddid yn aml yn talu dyledion a mesurid cyfoeth yn ôl maint y buchesi. Byddai'r gwartheg yn rhoi llaeth, cig, crwyn a chyrn. Mae'n amlwg fod defaid yn bwysig yn yr un cyfnod am eu gwlân. Mae'n gyffredin iawn darganfod offer a ddefnyddid wrth nyddu a gwehyddu, ar safleoedd y cyfnod hwn, sy'n dangos bod ffeibrau a brethyn yn cael eu cynhyrchu bron ym mhob cartref. Yr offer ddefnyddid fwyaf cyffredin oedd gwyddiau sythlin a gwerthydau oedd yn cynnwys pric wedi ei naddu a phwysau gwydd crwn wedi ei wneud o garreg, crochenwaith neu bren. Gwneid y gwyddiau o ddau bostyn pren, un ai wedi eu curo i'r ddaear neu eu rhoi i bwyso yn erbyn talcen y ty. Rhwng y ddau bostyn roedd polyn pren a darnau hir o edau wlân (yr ystof) wedi eu clymu wrtho. Delid y rhain yn fwnsieidiau a'u dal i lawr â phwysau cerrig neu glai. Byddai'r edafedd croes yn cael ei basio yn ôl ac ymlaen â llaw gan ddechrau ar ben ucha'r wydd a gweithio i lawr. Petai angen gellid dolennu'r brethyn gweëdig o gwmpas y polyn croes i arbed y gwehyddwr rhag gorfod plygu. Yng Nghymru ni chafwyd ad-drefnu sylfaenol ar dir a ffermio yn sgîl y goncwest Rufeinig . Y prif newid oedd fod rhaid talu trethi i'r gweinyddwyr Rhufeinig; mae'n bosibl fod rhai o'r trethi hyn wedi eu talu â chynnyrch fferm. Daeth y Rhufeiniaid â chelfi newydd i'w canlyn i Brydain er mai dim ond ar safleoedd milwrol neu yn y rhannau mwyaf rhufeiniedig o'r wlad y gwelwyd rhai ohonynt. Roedd y rhain yn cynnwys hofiau, gorchuddion metel i rawiau pren, i'w diogelu rhag traul, torwyr tyweirch, pladuriau, picweirch a chribiniau. Yn amlach na pheidio erbyn hyn roedd swch haearn i'r aradr, i dorri'r tir er bod rhai o hyd wedi eu gwneud o bren ond â blaen haearn iddynt. Mae'n bosibl fod anghenion y fyddin Rufeinig wedi golygu bod angen cynhyrchu llawer mwy dros ben er mwyn bwydo a dilladu'r fyddin yn ogystal â phoblogaeth gynyddol y trefi a'r dinasoedd.
Ni wyddom ddigon am ffermio canoloesol yn y rhan fwyaf o Bowys a Chlwyd. Mae amlygrwydd ffisegol llawer o gestyll coed a phridd yr oes o'r blaen yn eu gwneud yn nodweddion hynod yn y dirwedd, ond dim ond mewn rhai enghreifftiau prin y darganfuwyd y caeau canoloesol. Un eithriad hynod yw Hen Domen ger Trefaldwyn lle cloddiwyd gweddillion cefnennau aredig islaw'r castell diweddarach. Mae'r caeau hyn yn hyn na'r castell ac o reidrwydd felly yn dyddio'n ôl cyn cyfnod y goncwest Normanaidd. Dros rannau helaeth o'r wlad diogelwyd cefnen a rhych lle rhoddwyd heibio yr hen dir âr a'i droi'n borfa barhaol. Y cefnennau yw'r tir a godwyd wrth aredig, mewn ymgais fwriadol i wella'r draeniad. Roedd cwlltwr i'r erydr canoloesol oedd yn troi'r dywarchen ar ôl ei thorri, a'i thaflu o'r neilltu. Yn anffodus, anaml y mae modd dyddio'r math hwn o gae yn fanwl: gallant berthyn i unrhyw gyfnod o tua'r 12fed neu'r 13eg ganrif, ymlaen i'r 19eg ganrif. Fel arfer ar bennau'r cefnennau ceid darn o dir gwastad lle byddid yn troi'r aradr yn ôl, a gelwid hwn yn dalar. Mae rhai o'r caeau cefnen a rhych gorau sydd ar gadw ym Maelor. Yma gosodwyd llawer o'r aneddiadau canoloesol cynnar o fewn ffosydd a oedd yn eu tro yn gymorth i ddraenio'r dwr oddi wrth yr adeiladau yn yr iseldir gwlyb hwn. Mewn rhai ardaloedd mae'n bosibl fod cysylltiad rhwng y caeau cefnen a rhych a chlostiroedd cloddiog fyddai'n cynnwys adeiladau fferm y gellid mynd atynt ar hyd arglawdd.
Ychydig newid fu ar offer amaethyddol eraill er bod mwy nag o'r blaen yn cael eu gwneud o haearn. Ar ôl aredig byddai’r had yn cael ei wasgaru â llaw; wedyn byddai'r caeau yn cael eu llyfnu. Â llaw y byddid yn gwneud unrhyw chwynnu a byddai'r cnydau gwenith (gwenith yr Almaen neu wenith pensgwar), haidd, rhyg a cheirch yn cael eu medi â phladuriau. Byddai peth o'r grawn yn cael ei falu'n flawd ond defnyddid haidd hefyd i wneud cwrw yn ogystal â chael ei goginio'n gyflawn neu fel uwd. Byddai'r grawn yn cael ei falu un ai â llaw neu mewn melinau dwr ar afonydd a nentydd. Cesglid gwair a gwellt â chribiniau pren, a'i gadw fel porthiant a gwellt gwely i'r anifeiliaid. Tyfid perlysiau, llysiau a ffrwythau yn agos i'r ffermydd, y maenorau a'r mynachlogydd. Defnyddid y rhain ar gyfer bwyd a meddyginiaethau. Wrth fridio'n ddethol ac wrth gyflwyno mathau newydd datblygodd yr anifeiliaid dof o'r rhai a gedwid yn ystod Oes yr Haearn er eu bod o hyd yn fychain o'u cymharu â bridiau modern. Ar fferm a maenor cynhyrchid brethyn o hyd gan wraig y ty, ond erbyn hyn anfonid llawer ohono at wehyddion proffesiynol yn y trefi a gwerthent hwy y brethyn ar hyd a lled y wlad a thramor. Rhoddid yr anifeiliaid i bori'r caeau ar ôl medi'r cnydau, hefyd ar weirgloddiau wrth yr afonydd, ar y morfeydd ac ar borfeydd y tir uchel. Rheolid hawliau a pherchnogaeth tir gan y llys maenoraidd.
Megis dros filoedd o flynyddoedd byddai'r cyrs a dyfai ar lannau’r llynnoedd a'r afonydd yn bwysig ar gyfer toi. Roedd darnau helaeth o goedlannau wedi goroesi, lle gellid torri coed ar gyfer adeiladu, gwaith coed a thanwydd. Roedd y coedwigoedd hefyd yn gysgod i anifeiliaid gwyllt megis y baedd a'r carw a byddai'r bonedd yn eu hela â chwn. Roedd cosbi llym i'w gael am herwhela, hyd yn oed torri llaw i ffwrdd. Câi adar gwyllt eu hela â hebogiaid dof neu eu saethu â bwa hir, a delid pysgod mewn rhwydi yn y môr ac ar yr afonydd. Roedd rheidrwydd i fwyta pysgod ar rai dyddiau ympryd a bennid gan yr eglwys. Er mwyn cael digon o bysgod ar gyfer eu hanghenion cedwid pysgod mewn pyllau gwneud yn agos i'w tai. Roedd y rhain yn gyffredin iawn mewn mynachlogydd gan fod y mynaich yn cadw mwy o ddyddiau ympryd na'r bobl gyffredin. Ni fyddai'r rhan fwyaf o'r bobl dlotaf yn bwyta cig yn aml, gan fyw yn hytrach ar fara neu brydau o rawn neu ffa wedi eu coginio. Ym mynydd-dir Cymru, fel arfer, defnyddid llawer o'r tir uchel ar gyfer pori gwartheg dros yr haf a byddai grwpiau o bobl ifanc yn gofalu amdanynt ac yn byw dros fisoedd yr haf mewn ty dros dro neu hafod. Gwneid menyn a chaws o laeth y gwartheg a'i gadw nes byddai modd ei gyrchu i fferm y teulu lle câi ei ddefnyddio neu ei werthu. Yn ystod y cyfnod canoloesol y cyflwynwyd cwningod i Brydain - am eu cig a'u ffwr. Cedwid y rhain mewn cwningaroedd oedd wedi eu hadeiladu yn arbennig. Adeiledid y rhodfeydd â cherrig a'u gorchuddio â phridd ac fe'u gelwid yn aml yn dwmpathau clustog. Mae'r rhain i'w cael mewn grwpiau ar y tir uchel, weithiau'n gysylltiedig â chlostir fyddai'n cynnwys ty y cwningwr. Darllen pellach:-
|