Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 2: Astudiaeth o thema hanesyddol

Tai a Thylwyth: o'r cyfnod neolithig i'r cyfnod canoloesol

Nid oedd dai parhaol gan y bobl gyntaf a drigai ym Mhrydain ar l diwedd yr Oes I olaf, tua 12,000 i 15,000 o flynyddoedd yn l. Roeddynt yn byw trwy hela, pysgota a chasglu bwydydd gwyllt a symud o le i le. Byddent yn darparu cysgod dros dro neu'n gwneud pebyll changhennau a chrwyn; byddai rhai yn byw mewn ogofu.

Tua 6,000 o flynyddoedd yn l dechreuodd pobl dyfu cnydau ar dir r, megis gwenith a haidd, a chadw anifeiliaid dof: moch, defaid a gwartheg. Roedd y bobl hyn yn byw mewn tai parhaol a dichon fod adeiladau eraill yn cynnwys sguboriau a beudai. Ychydig o'r aneddiadau hyn sydd wedi goroesi - wedi'r cwbl mae 6,000 o flynyddoedd yn gyfnod hir i unrhyw adeiladwaith oroesi, hyd yn oed fel olion ar y ddaear neu dyllau polion. O'r ychydig dai a ddarganfuwyd ac a gloddiwyd gwyddom fod rhai yn adeiladau hirsgwr oedd weithiau wedi eu rhannu yn ddwy ystafell. Mae'r rhai sydd wedi goroesi orau ar Ynysoedd Erch; roedd y rhain wedi eu hadeiladu cherrig ac roedd iddynt waliau trwchus. Roedd dreselau a meinciau cerrig yn y prif ystafelloedd. Roedd tn agored tua chanol y llawr, gyda'r mwg yn dianc trwy'r to. Roedd tai hirsgwr eraill wedi eu hadeiladu choed ac weithiau byddent yn bur fawr, hyd at 7 medr o hyd. Dichon y byddent wedi eu toi phren a gwellt neu gyrs. Credir bod ty o'r math hwn wedi ei ddarganfod wrth gloddio ym Moel y Gaer, Rhosesmor yng Nghlwyd ac un arall yn Nhrelystan.

Trelystan
Cyllun a gwahanol adluniadau o'r tai Neolithig yn Nhrelystan

Byddai'r ffermwyr cyntaf yn gwneud y rhan fwyaf o'u celfi, eu dillad a'u hoffer amaethyddol eu hunain. Byddai crwyn yn cael eu trin i wneud lledr ar gyfer esgidiau a dillad; byddai pren yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai ac i wneud dodrefn syml a bowlenni a chelfi; byddent yn palu am glai ac yn ei brosesu ar gyfer crochenwaith. Byddai'r defaid yn rhoi gwln a chi ei nyddu a'i wehyddu yn frethyn; tyfid llin a'i ddefnyddio i wneud lliain.

Neolithic bowl

Llestr Neolithig

Byddai dewis nodweddiadol o gelfi mewn ty a fferm wedi cynnwys llestri i fwyta a choginio ynddynt, breuan gyfrwy o garreg i falu grawn, bowlenni, llestri ac offer amaethyddol megis rhawiau ac erydr syml - i gyd wedi eu gwneud o bren, a gwydd bren i wehyddu gwln a llin. Gwneid celfi megis bwyeill a chyllyll o gerrig gyda choes a charn pren iddynt.

Am filoedd o flynyddoedd parhaodd pobl i fyw mewn modd digon tebyg. O tua 6,000 mlynedd yn l dechreusant ddefnyddio metel i wneud celfi a phethau eraill, ar y cyntaf copr wedi ei gymysgu phlwm neu alcam, ac yn ddiweddarach, o tua 700 CC, haearn. Roedd y rhan fwyaf o dai y cyfnod hwn yn grwn. Roedd llawer ohonynt wedi eu hadeiladu choed ond mewn rhai ardaloedd defnyddid carreg gan fod digon ohono ar gael. Mewn rhai byddai polyn canolog i ddal y to i fyny; mewn eraill byddai cylch o bolion o gwmpas lle tn agored canolog. Fel arfer gosodid y tai mewn clwstwr o gaeau bychain ac weithiau byddent wedi eu gosod yn grwpiau. Yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd (tua 1,500 CC), mewn rhai rhannau o Brydain, roedd y tir wedi ei rannu yn gaeau mawr gyda chloddiau o bridd a cherrig. Y cynllun caeau sydd wedi ei archwilio orau yw'r un ar Dartmoor yn Nyfnaint. Mae tai crwn o'r Oes Efydd wedi goroesi yng Nghymru ar Fynydd Poeth a Ffridd Bryn Helen, Clwyd.

Bronze Age round house
Bronze Age house

Tua 3,000 o flynyddoedd yn l dechreuodd pobl fyw mewn grwpiau mwy o dai oedd wedi eu hamgylchynu yn aml ffens neu balis pren cryf. Ni wyddom yn hollol pam y bu iddynt adeiladu eu haneddiadau yn y dull hwn ond ymddengys eu bod yn amddiffyn eu hunain rhag pobl eraill. Ar l rhai cannoedd o flynyddoedd disodlwyd y ffens gan glawdd sylweddol gyda ffos wedi ei hagor ar yr ymyl allanol. Adeiledid palis pren ar ben y clawdd.

Yn ystod Oes yr Haearn (o tua 700 CC hyd at y goncwest Rufeinig) cefnwyd ar lawer o'r bryngeyrydd llai ac adeiladwyd rhai mwy. Roedd gan nifer o'r rhain dri cylch o gloddiau a ffosydd i ddiogelu'r preswylwyr rhag ymosodiad. Roedd llawer o fryngeyrydd yn nwyrain a gogledd Cymru, gyda rhai ohonynt wedi goroesi hyd heddiw fel nodweddion trawiadol yn y dirwedd. Oddi mewn i'r ceyrydd trigai'r bobl mewn tai crwn wedi eu hadeiladu o garreg neu bren; mewn rhai roedd cymaint o dai nes eu gosod yn daclus ar ymyl ffyrdd. Nid tai oedd yr adeiladau i gyd; defnyddid rhai fel gweithdai ac eraill, rhai hirsgwr fel arfer, i gadw grawn.

Iron Age round house
Iron Age house

Four Poster

Granar

Ni thrigai pawb yn y bryngeyrydd; roedd nifer o ffermydd yma ac acw yn y wlad. Grwpiau bychain o dai crwn oedd y mwyafrif o'r rhain gydag ychydig graneri hirsgwr. Byddai rhai wedi eu hamgylchynu ffens bren, fel amddiffyniad mae'n debyg. Amgylchynid y ffermydd chaeau hirsgwr (a elwir weithiau yn "Gaeau Celtaidd") lle tyfid y cnydau. Mae'n debyg y byddai'r anifeiliaid yn pori mewn caeau mwy neu ar dir agored beth pellter o'r fferm. Yn y rhan fwyaf o'r wlad bodolai coedwigoedd eang o hyd ac roedd coed yn adnodd pwysig a ddefnyddid i adeiladu tai, i wneud offer a chelfi ac fel coed tn.

Pan orchfygwyd Prydain gan y Rhufeiniaid newidiodd bywyd yn sylweddol dros y rhan fwyaf o'r wlad. Symudodd y Rhufeiniaid bobl o'r bryngeyrydd o'u hanfodd a'u perswadio i sefydlu yn y trefi a'r dinasoedd a adeiladwyd gan y gorchfygwr. Yng Nghymru ni fu i goncwest Rhufain arwain at newidiadau mawr o'r fath. Parhi pobl i fyw yn y bryngeyrydd a phrin oedd y trefi a sefydlwyd. Fel arfer roedd ffermydd yn cynnwys nifer fychan o adeiladau wedi eu gosod mewn caeau bychain. Darganfuwyd rhai aneddiadau lle roedd dinasyddion preifat yn byw bywyd Rhufeinig, gan gynnwys ym Mhrestatyn, lle cloddiwyd baddondy. Rhwystrwyd llawer o ymladd rhwng llwythau a grwpiau llai gan y fyddin Rufeinig oedd wedi ei rhannu yn llengoedd a grwpiau eraill ac wedi ei lleoli mewn ceyrydd; gwyddom am nifer o'r ceyrydd hyn yng Nghymru, gan gynnwys Y Gaer, Aberhonddu. Roedd y trefi Rhufeinig ger ffin ddwyreiniol y Gymru fodern yn cynnwys Caer a Wroxeter (ger Amwythig).

Roman fort
Cyllun caer Rufeinig Nodweddiadol Gyda'r Prif Nodweddion Wedi eu Labelu. Tanlinellwyd yr enway Lladin

Roedd y tai yn y trefi Rhufeinig fel arfer wedi eu hadeiladu o gerrig, brics a theils; roedd iddynt gynllun hirsgwr gyda nifer o ystafelloedd ac yn wynebu stryd fyddai weithiau wedi ei phalmantu neu ei gorchuddio cherrig crynion. Byddid wedi gosod draeniau i gario dwr glaw a dwr budr i ffwrdd. Trwy ddefnyddio traphontydd dwr cyflenwid dwr glaw i adeiladau cyhoeddus ac i rai adeiladau preifat. Y prif adeiladau cyhoeddus oedd y fforwm (lle cynhelid y brif farchnad), y deml a'r baddondy cyhoeddus. Cynhesid yr adeiladau system o gylchredeg gwres dan y lloriau ac roedd gan y cyfoethog faddondai preifat. Roedd lloriau mosig i lawer o'r adeiladau, gyda muriau wedi eu plastro ac addurniadau wedi eu paentio arnynt.

Roman bath house' granary
Baddondy Rhufeinig

Roman amphora

Llestr gwin: Amphora

Cyflwynwyd dulliau newydd o goginio i'r wlad; byddai bwyd yn cael ei falu mewn mortarau (math arbennig o lestr), mewnforid olew olewydd a gwin o'r cyfandir; felly hefyd ffrwythau megis ffigys a grawnwin. Ci gwin ac olew ei gario mewn llestri tal (amphorae) neu mewn barilau pren. Defnyddid y barilau wedi hynny yn aml i leinio ffynhonnau. Mewnforid crochenwaith cain, a elwid yn samian, o Gl (Ffrainc heddiw).


Carreg goffa

Post Roman memorial stone

Yn y 5ed ganrif OC dymchwelodd yr ymerodraeth Rufeinig a chiliodd rheolaeth a byddin Rhufain o Brydain. Yn y cyfnod hwn roedd llawer rhan o'r wlad dan ymosodiad pobl o Iwerddon a'r Almaen. Yn y gogledd roedd pobl gogledd yr Alban (y Pictiaid) yn ymosod ar y tir i'r de. Nid oedd bellach lywodraeth ganolog ym Mhrydain ond byddai nifer o frenhinoedd a thywysogion yn rheoli rhannau bychain o'r wlad. Ar y pryd roedd Cymru wedi ei rhannu yn nifer o deyrnasoedd, gan gynnwys Gwynedd, Powys a Brycheiniog.

Erbyn hyn nid oedd pobl yn byw mewn trefi. Daeth aneddiadau amddiffynedig yn gyffredin unwaith eto ond eu bod beth yn llai na'r arfer yn Oes yr Haearn. Yn awr byddent yn cynnwys neuadd bren i'r brenin neu'r tywysog lleol ac adeiladau eraill ar gyfer cysgu a choginio. Adeiladwyd rhai o fewn hen fryngeyrydd, eraill mewn clostiroedd newydd a chloddiau o'u cwmpas. Ni oroesodd tai y bobl gyffredin, y crefftwyr na'r ffermwyr. Rhaid mai o bren yr adeiladwyd hwy ac nad oeddynt yn sylweddol iawn. Gwyddom mai un o'r ffactorau pwysig ym mywyd pobl oedd crefydd newydd Cristionogaeth. Er mai ychydig iawn sydd wedi goroesi o'r safleoedd mynachaidd cynnar oedd yn gyffredin yng Nghymru, diogelwyd nifer o gerrig ag engrafiadau arnynt, sy'n coffu'r meirw, a nifer o groesau.

Daeth newid mawr i fod, yn arbennig yn ardaloedd y gororau yng Nghymru, ar l y goncwest Normanaidd (1066). Adeiladodd y Normaniaid gestyll yn y tiroedd feddiannwyd ganddynt ac yma y byddai eu harglwyddi a'u marchogion yn byw. Tyrau pren ar domenni artiffisial o bridd oedd y cestyll cyntaf; cafwyd cestyll cerrig yn lle rhai o'r rhain yn ddiweddarach. Yn aml tyfai trefi o gwmpas y cestyll neu fe'u sefydlwyd o'r newydd, megis yn Rhuddlan, Llanandras, Llanfair ym Muallt a Threfaldwyn. Yng Ngogledd Cymru adeiladwyd nifer o gestyll a threfi gan Edward I ar l iddo orchfygu'r rhan hon o'r wlad tua diwedd y 13eg ganrif.

Motte and Bailey
Adluniad o fwnt a beili

Medieval pottery jug

Jwg crochenwaith canoloesol

Yn y trefi canoloesol ceid tai a gweithdai'r crefftwyr, pob un yn arbenigo yn ei grefft ei hun. Roedd y rhan fwyaf o'r tai wedi eu hadeiladu phren gyda gweithdai a siopau ynghlwm wrthynt. Byddai'r teulu yn byw ac yn gweithio yno, gyda'u gweision a'u prentisiaid. Crefftwyr nodweddiadol o'r cyfnod oedd y gwehyddwyr, y cryddion, y gofaint aur a'r barceriaid. Roedd crefftau eraill yn bodoli allan yn y wlad gan gynnwys crochenwaith. Ar du blaen y ty byddai gweithdy a siop i werthu'r nwyddau. Weithiau hefyd gwerthid nwyddau mewn marchnadoedd yn y trefi ac mewn ffeiriau rhanbarthol oedd yn denu masnachwyr o bell. Dynion oedd y rhan fwyaf o'r crefftwyr a'r masnachwyr er bod dogfennau canoloesol yn nodi rhai merched.

Byddai pobl mewn trefi a phentrefi yn defnyddio nifer helaeth o gelfi domestig a'r rhain yn nodweddiadol o'r cyfnod y byddent yn byw ynddo. Byddai ganddynt grochenwaith yn eu ceginau, peth ohono wedi ei addurno a'i wydro; hefyd llestri haearn i goginio ynddynt a dewis helaeth o gelfi yn cynnwys cyllyll i dorri cig a llysiau a gwyll ar gyfer rhostio cig. Bwytaent oddi ar blatiau a dysglau o grochenwaith, metel (piwter yn aml) neu bren. Anaml y defnyddient ffyrc ond byddent yn arfer bwyta chyllell ac 'u bysedd. Weithiau rhoddid y bwyd ar dafelli tew o fara a byddai hwn yn sugno suddion y bwyd. Byddai'r da eu byd yn yfed gwin o ffiolau gwydr neu arian ond byddai'r tlotaf yn gorfod gwneud y tro ar gwrw, llefrith neu ddwr. Y wraig oedd yn gyfrifol am ofalu am y cartref, gan gynnwys cadw bwyd o un tymor i'r llall, cadw cyfrif gofalus o'r hyn ddefnyddiwyd a'r hyn oedd yn weddill, paratoi neu ofalu am baratoi prydau, sicrhau glendid y ty a'r tylwyth, magu'r plant a bod yn barod i groesawu ymwelwyr. Byddai'r merched tlotaf hefyd yn gweithio yn y caeau neu fel morynion mewn tai eraill. Roedd gan y merched cyfoethog eu morynion eu hunain a gallent dreulio'u hamser yn gwno ac mewn pleserau megis marchogaeth, hela a mwynhau cerddoriaeth a dawns. Byddai'r pendefigion o bryd i'w gilydd yn ymweld 'r llys lle ceid adloniant o'r fath ar raddfa fwy. Byddai pobl mwy deallus yn darllen storau a gweithiau crefyddol. Fodd bynnag ni allai llawer ddarllen nac ysgrifennu ond dibynnu'n unig ar offeiriaid a mynachod i edrych ar l eu cyfrifon ac ysgrifennu eu llythyrau.

Timber framed house
Ty ffrm bren

Safleoedd yr awgrymir ymweld nhw:-
Nid yw bob amser yn hawdd gwerthfawrogi cynnwys a chynllun mewnol tai, yn arbennig y rhai sy'n perthyn i'r cyfnod cynhanesyddol. Mae ymweld thai a chestyll sydd wedi goroesi yn gallu bod o gymorth ond fel arfer maent yn brin o ddodrefn a chelfi. Ar gyfer y cyfnodau diweddaraf, nad yw'r daflen hon yn ymwneud nhw, awgrymir ymweld thai sydd wedi goroesi ac sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill - fel arfer plasau mawr. Mae hyn yn ddull ardderchog o ddeall bywyd pobl o genedlaethau a fu.

Gellir ymweld ag adluniadau o dai cynhanesyddol yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd. Gellir gwneud trefniadau i ddisgyblion ymuno nifer o weithgareddau dan oruchwyliaeth staff yr amgueddfa. Mae nifer o adeiladau o gyfnodau diweddarach i'w gweld yn yr awyr agored. Bydd gan amgueddfeydd lleol gasgliadau o gelfi ty o'r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol. Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd (01222 569441) Amgueddfeydd lleol yn Y Trallwng, Aberhonddu a Llandrindod. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd (01222 397951)

Awgrymiadau i athrawon ar gyfer darllen pellach:-
English Heritage. Resources 1994. (defnyddiau ymarferol i alluogi athrawon i ddefnyddio'r amgylchfyd hanesyddol ar gyfer unrhyw bwnc).
English Heritage. The Archaeology Resource Book 1992.
Howell, R. (ed) 1994. Archaeology and the National Curriulum in Wales. Council for British Archaeology.
Reynolds, P.J. 1979. Iron Age Farm. Colonnade. (disgrifiad o adeiladu arbrofol tai a thechnegau ffermio Oes yr Haearn).

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.