Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 3: Cymru a Phrydain yn y Byd Canoloesol

Aneddiadau a Thirwedd Canoloesol

Ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain cefnwyd ar y ceyrydd fu'n gartref i filwyr y fyddin Rufeinig ac yn raddol, edwinodd ffyniant y trefi wrth i'r bobl symud oddi yno. Rhan o'r rheswm am hyn mae'n debyg oedd y tarfu ar fasnach a diwydiant yn y cyfnod ansefydlog hwn pan oedd ymladd rhwng y teyrnasoedd newydd yn beth cyffredin. Adfeiliodd yr hen ffyrdd Rhufeinig gan wneud teithio yn fwy anodd a pheryglus.

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar (o'r 5ed i'r 11eg ganrif OC) tarddodd nifer o deyrnasoedd Cymreig o'r hyn fu yn rhan orllewinol o deyrnas Britannia. Roedd y rhain yn cynnwys teyrnasoedd Gwynedd, Powys, Dyfed, Ceredigion, Buellt a Brycheiniog. Perthynai llywodraethwyr pob teyrnas i deuluoedd bonheddig, gydag aelodau'r teuluoedd hyn yn dal tir gan y brenin ac yn talu trethi iddo mewn nwyddau ac arian a thrwy fod yn barod i ymladd yn ei fyddinoedd.

Daw ein gwybodaeth o'r math o aneddiadau yr oedd pobl yn byw ynddynt yn rhannol o astudiaeth archeolegol ond hefyd o hanes a ysgrifennwyd ac o ddogfennau hanesyddol. Roedd y brenin a'r uchelwyr eraill yn byw yn y llys. Anheddiad amddiffynedig oedd hwn yn cynnwys cyfres o adeiladau a letyai deulu'r arglwydd, ei weithwyr, ei filwyr, ei grefftwyr a'u teuluoedd. Y neuadd oedd yr adeilad mwyaf lle byddai'r arglwydd a'i ddilynwyr yn gwledda. Byddai'r adeiladau eraill yn cynnwys gweithdai, ceginau, storfeydd a stablau. Amgylchynid y cyfan phalis coed neu ffens, fel arfer wedi ei adeiladu ar ben clawdd o bridd neu gerrig. Mewn rhai achosion sefydlwyd y llys mewn hen fryngaer, ar l newid peth ar ei hamddiffynfeydd. Fel arfer roedd y darn tir oddi mewn i gloddiau'r fryngaer yn rhy fawr i'w amddiffyn yn hawdd, felly byddai un rhan ohono yn cael ei neilltuo wal i wneud clostir llai. Un enghraifft o fryngaer o'r fath yn cael ei hailddefnyddio yw Caer Drewyn yng Nghlwyd. Weithiau byddai caer Rufeinig yn cael ei hailatgyfnerthu a'i throi'n llys, megis yn Y Gaer, Aberhonddu neu Gaer Ffordun ger Trefaldwyn. Adeiladwyd llysoedd eraill ar safleoedd newydd a'u gosod mewn clostir crwn.

Dinas Powys
Cyllun Dinas Powys (Ffynhonnell: Alcock, L. 1963)

Amgylchynid eglwysi a mynachlogydd hefyd yn aml chlawdd crwn neu lan. Byddai'r sefydliadau crefyddol cynnar hyn yn cartrefu cymunedau bychain o fynaich neu leianod a byddent yn byw mewn adeiladau pren. Roedd eu bywyd beunyddiol yn cynnwys gwaith caled ar y tir yn ogystal gweddo. Byddai'r mwyaf nodedig ohonynt yn gwneud gwaith cenhadol tra byddai eraill yn ysgolheigion gydag enw iddynt ymhell y tu hwnt i'w cymunedau eu hunain. Ychydig o weddillion yr adeiladau crefyddol hyn sydd wedi goroesi o'r cyfnod canoloesol cynnar er bod tystiolaeth o sefydliadau cynharach i'w gweld weithiau o dan eglwysi diweddarach, megis yng Nghapel Maelog, Llandrindod lle cloddiwyd mynwent o'r 10fed ganrif. Darganfuwyd mynwentydd o'r canoloesoedd cynnar mewn mannau eraill ym Mhowys ac yn Nhanydderwen ger Dinbych lle gorweddai rhai o'r beddau mewn clostiroedd bychain.

Tandderwen cemetery

Gwyddom lai am dai y bobl gyffredin. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod bywyd y rhan fwyaf o bobl cefn gwlad Cymru wedi newid odid ddim o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar hyd at y Goncwest Normanaidd. Yr anhawster arall yw bod archeolegwyr yn dibynnu llawer ar grochenwaith er mwyn dyddio safleoedd a phrin oedd y defnydd o grochenwaith yn y rhan fwyaf o Gymru. Ar rai safleoedd lle mae defnyddiau organig ar gael e.e. pren, lledr, asgwrn, gellir dyddio'r safle trwy ddadansoddiad radio-carbon. Mae'r ffermydd hynny sy'n perthyn i'r cyfnod canoloesol cynnar, megis yr un yng Nghefn Graeanog yn Llyn, yn cynnwys adeiladau crwn o gerrig neu bren, wedi eu gosod mewn clostir bychan. Roedd gardd i'r anheddiad yng Nghefn Graeanog a sgubor neu feudy ar gyfer yr anifeiliaid. Mae dadansoddiad o'r paill o safleoedd gwledig yn rhoi i ni ddarlun o dirwedd sy'n gyfuniad o dir pori, prysgwydd a choedlannau ond tirwedd lle byddid hefyd yn tyfu cnydau gan gynnwys gwenith yr Almaen a haidd. Mae hadau o drefi canoloesol cynnar megis Rhuddlan yn cynnwys ceirch, ffa, pys, rhyg, gwenith, cywarch a llin.

I'r dwyrain o'r teyrnasoedd Cymreig datblygodd anheddiad yr Eingl-Sacsoniaid yn deyrnas Mersia. Dros rai cannoedd o flynyddoedd wedi hynny treiddiodd y Saeson i lawer o ddwyrain Clwyd yn ogystal ag ymosod ymhellach tua'r de ym Mhowys. Yn ail hanner yr 8fed ganrif adeiladwyd cloddiau Wat ac Offa gan frenhinoedd Mersia i ddiffinio terfynau gorllewinol eu teyrnas ac i lesteirio ymosodiadau'r Cymry.

Yn ystod y 10fed ganrif sefydlodd y Saeson nifer o drefi neu fwrdeistrefi (burhs) yng Nghlwyd gan gynnwys Cledemutha yn yr hyn sydd heddiw yn Rhuddlan. Trwy gloddiadau dros nifer o flynyddoedd llwyddwyd i nodi amddiffynfeydd y burh, oedd yn amgylchynu tua 74 acer, yn ogystal gweddillion tai a'u lloriau'n suddedig, crochenwaith Eingl-Sacsonaidd a phwysau gwydd. Dichon i Cledemutha gael ei hadeiladu yn rhannol i wrthsefyll cyrchoedd y Llychlynwyr ac i'w rhwystro rhag ymsefydlu ar lannau gogleddol Cymru.

Creodd y Goncwest Normanaidd ar Loegr yn 1066 sefyllfa newydd ar ororau Cymru, tiroedd a roddwyd yn bennaf i Arglwyddi'r Gororau a lywodraethai megis brenhinoedd yn eu tiroedd eu hunain. Wedi marwolaeth Gwilym Orchfygwr dechreuodd Arglwyddi'r Gororau ar gyfres o ryfeloedd preifat 'r teyrnasoedd Cymreig. Roeddynt yn arbennig o lwyddiannus yn ne Cymru, gan feddiannu llawer o Frycheiniog, Morgannwg a Cheredigion. Yng nghanolbarth a gogledd Cymru diogelwyd y ffiniau trwy adeiladu cestyll. Adeiladwyd y cestyll cynharaf o goed a phridd. Adeiledid twr pren ar domen artiffisial o bridd uwchlaw clostir a elwid yn "beili"; yn y beili ceid tai pren ar gyfer y milwyr, y cogyddion, y gofaint a gweithwyr eraill. Fel arfer ceid neuadd o bren ac weithiau gapel. Roedd cestyll o'r fath yn niferus iawn, gyda thua 300 ohonynt yng Nghymru a hanner y nifer hwn ar y Gororau. Heddiw, gwelir y domen bridd a'r clawdd pridd a amgylchynai'r beili, yn aml wedi goroesi er mai dim ond trwy gloddio y gellir darganfod gweddillion yr adeiladau. Y castell pren sydd wedi ei gloddio fwyaf trylwyr yw Hen Domen ger Trefaldwyn a adeiladwyd gan Roger o Faldwyn yn y 1070au. Cestyll mwnt a beili eraill sydd wedi goroesi'n dda yw Castell Cymaron ger Llandrindod, Tomen y Faerdre ger Llanarmon yn Il a Sycharth ger Llansilin yn nyffryn Tanad. Parheid i ddefnyddio'r castell olaf hwn hyd at flynyddoedd cynnar y 15fed ganrif pan oedd yn gartref i Owain Glyndwr. Ni cheid tomen uchel ym mhob castell pren; yr oedd i rai, a elwid yn amddiffynfeydd cylch, glostir unigol gwastad yn cael ei amddiffyn gan ffos ddofn a chlawdd gyda phyrth cryf mewn tyrau megis castell Waun Gynllwch ger Llanfair ym Muallt.

Motte
Adluniad o fwnt a beili nodweddiadol

Yn ystod y cyfnod canoloesol ni thrigai pob pendefig mewn castell; adeiladwyd maenorau eraill oddi fewn i glostir hirsgwr a ffos o'i amgylch. Ni roddai'r ffos lawer o ddiogelwch rhag ymosodiad ond mae'n sicr ei bod yn arwydd o statws y perchennog. Mae'r rhain yn gyffredin iawn yn arbennig ar diroedd isel Clwyd ac maent yn dyddio'n l gan amlaf i'r 12fed a'r 14eg ganrif. Math ar anheddiad ydynt, oedd yn gyffredin iawn yn Lloegr, ac awgrymwyd eu bod yn dangos lledaeniad y mewnlif Seisnig i wlad goediog Maelor yn ystod y 14eg ganrif. Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r ffosydd yn sych a chafodd rhai eu haredig ac mae eraill yn gorwedd mewn coedwigoedd. Goroesodd rhai enghreifftiau da ger Hanmer, yn Peartree Lane a Halghton Lodge.

Yn ystod y 13eg ganrif adeiladwyd llawer o'r cestyll o garreg. Roedd rhai o'r rhain ar safleoedd mwnt a beili gynt, megis yng Nghastell Llanfair ym Muallt a adeiladwyd cherrig yn rhannol, o tua 1240; roedd eraill ar safleoedd newydd. Adeiledid cestyll gan y Cymry a chan y Normaniaid. Adeiladodd Llywelyn ap Gruffudd nifer o gestyll cerrig, llawer ohonynt yng Ngwynedd, ond saif ei gastell olaf ar ffiniau Powys yn hen ranbarth Cedewain yn Nolforwyn. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1273 a 1277. Mae'r cloddio wnaed yno dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni dwr crwn ac arfdy, neuadd a siambr i'r Arglwyddes yn ogystal ag adeiladau domestig yn cynnwys bwtri, cegin, seler, bragdy, pantri, becws a stordai. Saif y castell oddi mewn i hen fryngaer ar lan gorllewinol afon Hafren gan edrych dros Aber-miwl.

I'r dwyrain o afon Hafren adeiladwyd castell newydd yn Nhrefaldwyn rhwng 1223 a 1234 i gymryd lle mwnt a beili Hen Domen. Adeiladwyd Castell Trefaldwyn gan Harri'r 3ydd i gryfhau'r gafael brenhinol ar y rhan hon o'r wlad, gafael oedd yn cael ei beryglu gan rym cynyddol Llywelyn. Saif ar benrhyn creigiog sy'n ffurfio crib serth gyda chlogwyn ar dair ochr iddi ac ni ellir mynd ato ond o gyfeiriad y de. Roedd yr iard fewnol, a gynhwysai'r ystafelloedd brenhinol, yn cael ei hamddiffyn gan ddwy ffos wedi eu torri yn y graig a chan iard allanol. Ceid diogelwch pellach o gysylltfur a gatws gyda dau dwr iddo.

Tua'r gogledd yng Nghastell Dinas Brn codwyd castell o garreg oddi mewn i'r hen fryngaer sy'n sefyll uwchlaw afon Dyfrdwy ger Llangollen. Adeiladwyd y castell yn ail hanner y 13eg ganrif gan dywysogion Powys Fadog. Mae'r castell yn cynnwys iard neu feili gyda'r prif adeiladau wedi eu gosod ar hyd yr ochr ddwyreiniol ac fe'i hamddiffynnid ffos dorrwyd yn y graig ar yr ochrau dwyreiniol a deheuol. Ar y ddwy ochr arall mae'r tir yn disgyn yn serth. Llosgwyd Castell Dinas Brn gan y Cymry cyn iddo gael ei gipio gan Henry de Lacy, iarll Lincoln ym 1277. Castell arall a godwyd mewn hen fryngaer yw Castell Tinboeth ger Llanbadarn Fynydd ym Maesyfed.

Dinas Bran
Castell Dinas Bran (ffynhonnell: Cathcart-King, D.J. 1974)

Canlyniad rhyfela parhaus rhwng y Saeson a'r Cymry yn y gogledd oedd adeiladu nifer o gestyll gan y ddwy ochr, yn cynnwys cestyll Deganwy ac Ewlo. Yn ddiweddar yn y 13eg ganrif dilynwyd llwyddiant byddinoedd Edward 1af yn ymledu i ogledd Cymru, ag ymgyrch adeiladu cestyll, er mwyn sicrhau ei afael ar y wlad. Codwyd cestyll cerrig enfawr gan Edward 1af yn Y Fflint a Rhuddlan. Saif castell Y Fflint, a godwyd ym 1277, ar benrhyn creigiog ar aber afon Dyfrdwy. Roedd iddo ddwy ward, gyda'r ward fewnol yn cael ei diogelu gan dwr ym mhob cornel. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gestyll ni ddarganfuwyd tystiolaeth o adeiladau domestig yno. Saif castell Rhuddlan, a godwyd rhwng 1277 a 1282, ar lannau afon Clwyd ac fe sythwyd a charthwyd yr afon er mwyn gwella mynediad i'r mr. Castell arall a godwyd yn dilyn buddugoliaeth Edward ar Lywelyn ap Gruffudd oedd castell Dinbych. Er mai Henry de Lacy oedd ei berchennog, fe'i codwyd gyda chymorth gan Edward. Megis nifer o gestyll eraill roedd cysylltiad uniongyrchol rhwng ei amddiffynfeydd a rhai'r dref ei hun.

Yn aml iawn fe sefydlid trefi canoloesol yn fwriadol, yn aml yn agos i gestyll, er mwyn perswadio crefftwyr a masnachwyr i ymsefydlu a symbylu masnach. Sefydlwyd trefi yn Nhrefaldwyn, Y Trallwng (La Pole) a'r Drenewydd (Llanfair Cedewain). Yn Rhuddlan ailfodelwyd y dref Sacsonaidd gan y Normaniaid a'i newid eto yn dilyn adeiladu'r castell. Adeiladwyd trefi canoloesol eraill yn Aberhonddu, Y Gelli Gandryll, Trefyclo, Llanidloes, Wrecsam a Rhuthun. Lleolwyd y rhan fwyaf o'r rhain yn rhannau dwyreiniol Cymru, ar y Gororau lle roedd dylanwad y Saeson a'r Normaniaid gryfaf. Nid oedd trefi bob tro yn llwyddiannus. Sefydlwyd tref islaw castell Dolforwyn ger afon Hafren ond bu'n aflwyddiannus yn dilyn cipio'r castell ym 1277 a sefydlu'r Drenewydd i fyny'r afon.

Roedd yn gyffredin i drefi canoloesol gael eu cynllunio ar batrwm rhwyllwaith o strydoedd gyda chlytiau cul o dir (burgages) y tu l i bob un. Byddai'r adeiladau oedd yn wynebu'r stryd yn cynnwys siopau, gweithdai, tai a gerddi'r crefftwyr a'r masnachwyr. Roedd gan y rhan fwyaf o drefi amddiffynfeydd, onide fe'u diogelid gan eu hagosrwydd at y castell. Byddai rhai wedi eu hamgylchynu ffos a chlawdd gyda phalis pren ar ei ben. Yn ystod y 13eg a'r 14eg ganrif ailadeiladodd nifer o drefi eu hamddiffynfeydd, y tro hwn cherrig, gan amgylchynu ardal ehangach gan fod y dref wedi ymestyn ers cyfnod ei sefydlu. Mae'r trefi sydd ag amddiffynfeydd o gerrig sydd wedi rhannol oroesi yn cynnwys Aberhonddu, Dinbych a Threfaldwyn. Roedd prif nodweddion eraill y trefi yn cynnwys marchnadfa agored, neuadd fasnachol, neuadd drefol, melinau ac eglwysi. Fel arfer cynhelid marchnadoedd bob wythnos, fel arfer dan drwydded gan y brenin. Roedd ffair flynyddol yn fraint y byddai cryn chwennych amdani a byddai'n dod masnach a thollau ychwanegol i'r dref yn ei sgl. Ar wahn i'r castell a'r eglwys roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau yn rhai o ffrm bren. Ychydig o adeiladau pren canoloesol sydd wedi goroesi gan eu bod mor agored i bydredd a thn.

Yn ogystal ag adeiladu cestyll cerrig enfawr a threfi newydd, sefydlwyd tai crefyddol newydd yn y cyfnod canoloesol. Yng Nghymru sefydlwyd nifer o'r abatai gan Urdd y Mynaich Gwynion gyda'i mam eglwys yn Citeaux ym Mwrgwyn (Burgundy). Byddai'r mynaich hyn, a wisgai mewn gwyn, yn byw mewn cymunedau mawr fyddai'n cynnwys brodyr lleyg a gweision. Cynigient letygarwch i deithwyr, cardod i'r tlawd a thriniaeth feddygol i'r claf. Byddai'r mynaich hefyd yn chwarae rhan mewn bywyd gwleidyddol ac roedd ganddynt gryn dipyn o ddylanwad ar lywodraethwyr y teyrnasoedd Cymreig ac ar y pendefigion Normanaidd. Weithiau byddent yn gweithredu fel negeseuwyr a chymrodeddwyr rhwng y carfanau rhyfelgar ac roedd iddynt swyddogaeth allweddol mewn trefnu cytundebau. Roedd y mynachlogydd hefyd yn ganolfannau dysg ac ysgolheictod lle cesglid brutiau a chroniclau megis Brut y Tywysogyon.

Valle Crucis
Abaty Glyn y Groes (ffynhonnell: Cooper, R. 1992)

Mae'r mwyaf adnabyddus o'r mynachlogydd Cymreig yn cynnwys Ystrad Marchell, Ystrad Fflur, Glyn y Groes, Dinas Basing a Chwm-hir. Roedd llawer o adeiladau'r mynachlogydd o safon bensaernol uchel,yn arbennig felly yr eglwysi, ac mae rhai ohonynt, megis un Glyn y Groes ger Llangollen, wedi goroesi bron yn gyflawn i'r dydd heddiw. Maes arall y byddai'r mynaich yn ddylanwadol ynddo oedd amaethyddiaeth. Dangosodd dadansoddiad o baill fod y mynaich wedi cynyddu'r tir r a ddefnyddid ar gyfer cnydau yn sylweddol. Roeddynt yn enwog am reolaeth dda ar y stad ac am wella'r tir amaethyddol trwy agor ffosydd, adeiladu cloddiau, gwrychoedd a waliau cerrig ac am ddatblygu bridiau gwell o wartheg a defaid. Roeddynt hefyd yn ymwneud 'r diwydiant mwyngloddio yng Nghymru.

Nid oes cymaint o wybodaeth archeolegol ar gael am aneddiadau gwledig ag sydd ar gael am gestyll, trefi ac adeiladau crefyddol. Fodd bynnag gwyddom o ffynonellau dogfennol fod y teyrnasoedd Cymreig wedi eu rhannu'n unedau gweinyddol neu gymydau, a'r rhai hynny yn eu tro wedi eu rhannu'n gantrefi. O fewn y cantrefi hyn byddai tir yn cael ei ddyrannu i ddynion rhydd y llwyth neu'r teulu, mewn rhandiroedd; o fewn y rhandiroedd hyn byddai ffermydd wedi eu gosod mewn clostiroedd bychain wedi eu trefnu o gwmpas darn o dir r fyddai wedi ei rannu'n stribedi neu leiniau. Hefyd roedd yna dir pori agored neu gytir. Roedd aneddiadau'r taeog fel arfer yn fwy cnewyllol. Yn raddol newidiwyd y drefn hon neu ei gollwng yn llwyr yn y rhannau hynny o'r wlad ddaeth dan oruchwyliaeth Seisnig. Mewn rhannau o ogledd Cymru yn arbennig, rhannwyd y tir yn berewicks neu dreflannau cyn y Goncwest Normanaidd ac fe'u cofnodir yn Llyfr Domesday. Ci'r tir ei amaethu'n bennaf gan daeogion oedd dan rwymedigaeth i'r tir. Weithiau byddai'r treflannau yn gorwedd o fewn terfynau maenor sylweddol fawr: roedd maenor Llys Bedydd (Bettisfield), Clwyd yn ymestyn i bron 6,000 hectar ac yn cynnwys plwyf Hanmer. Dichon fod canolfan weinyddol y faenor wedi cael ei phatrymu ar fwnt a beili. Fel arfer aneddiadau llai pwysig oedd ffermydd y mynydd-dir a chi eu tir ei drin yn ddiweddarach na thir yr aneddiadau ar y tir isel. Hefyd, byddai porfa haf yr ucheldir yn cael ei ddefnyddio gan denantiaid y treflannau ar y tir isel.

Montgomery

Safleoedd yr awgrymir ymweld nhw:-
Cestyll yn:-
Y Fflint, Sir Y Fflint (SJ 24717333)
Rhuddlan, Sir Ddinbych (SJ 02447791)
Dinbych, Sir Ddinbych (SJ 051657)
Trefaldwyn, Powys (SO221967)
Maesyfed, Powys (SO 21176100)
Tretwr, ger Crughywel, Powys (18462125)
Castell Dinas Brn, ger Llangollen, Sir Ddinbych (SJ 222430)
Castell Tinboeth ger Llanbadarn Fynydd, Powys (SO 09017544)
Llanfair ym Muallt, Powys (SO 04395103).

Abaty Glyn y Groes ger Llangollen (SJ 20454415)

Amddiffynfeydd y dref yn Ninbych, Aberhonddu a Threfaldwyn.

(Mae taflenni a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ar gael ar gyfer rhai o'r safleoedd hyn. Gellir cael manylion safleoedd eraill yn eich ardal trwy gysylltu 'r Swyddog Henebion a Safleoedd.)

Darllen pellach:-
Arnold, C. J. 1990. The Archaeology of Montgomeryshire. The Powysland Club.
Cooper, R. 1992. Abbeys and Priories of Wales. Christopher Davies Ltd. BR>Howell, R (ed) Archaeology and the National Curriculum in Wales. CBA/Amgueddfa Genedlaethol Cymru/Cadw.
English Heritage. Resources 1994 (defnyddiau ymarferol i alluogi athrawon i ddefnyddio'r amgylchfyd hanesyddol ar gyfer unrhyw bwnc).
English Heritage. The Archaeology Resource Book 1992.
Manley, J., Grenter, S. and Gale, F. 1981. The Archaeology of Clwyd. Cyngor Sir Clwyd.
Musson, C 1994. Wales from the Air. RCAHMW.
Soulsby, I. 1983. The Towns of Medieval Wales. Phillimore.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.