Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 2: Bywyd yng Nghymru a Phrydain Gynnar

Y Bobl Gynharaf

Tua diwedd Oes yr I olaf, rhwng 12,000 a 15,000 o flynyddoedd yn l, fel y cynhesodd yr hin, dychwelodd pobl i fyw i Brydain. Y pryd hwnnw roedd cyswllt tir o hyd rhwng Prydain a'r cyfandir, a rhwng Prydain ac Iwerddon. Nid oedd angen cychod ar yr ymsefydlwyr cynnar. Roedd y bobl hyn yn byw ar hela ac yn ddiweddarach ar gasglu gwreiddiau, cnau ac aeron yn y coedlannau oedd yn graddol ymledu tua'r gogledd gyda'r gwellhad yn yr hinsawdd. Gan eu bod o hyd yn symud o un safle i'r llall mae llai o olion o'u aneddiadau nag mewn cyfnodau diweddarach. Roeddent yn byw mewn pebyll, wedi eu gwneud o bren a chrwyn mae'n debyg, ac weithiau mewn ogofu.

Tua 7,000 o flynyddoedd yn l dechreuodd pobl ym Mhrydain dyfu cnydau a chadw anifeiliaid dof megis moch, defaid, geifr a gwartheg. Mae'n amlwg iddynt ddod rhai o'r anifeiliaid hyn o Ewrop gan nad ydynt yn frodorol i Brydain. Erbyn hyn roedd y sarn gyswllt olaf 'r cyfandir wedi ei thorri, felly rhaid bod pobl wedi teithio dros y moroedd mewn cychod, gyda'u hanifeiliaid a'u hadyd. Ni wyddom faint o ffermwyr deithiodd i Brydain ac Iwerddon: gallai fod yn nifer fechan a gyflwynodd y ffordd newydd o fyw i'r bobl oedd eisoes yn byw yma, neu gallai fod yn nifer llawer mwy a lwyddodd yn raddol i wthio'r boblogaeth gynhenid o'u tiriogaethau hela a chasglu.

Daeth y ffordd newydd o fyw newid mawr yn y dirwedd yn ei sgl. Torrwyd coedydd i ryddhau tir ar gyfer tyfu cnydau a thir pori i'r anifeiliaid. Roedd angen coed hefyd i adeiladu tai ac i wneud offer amaethyddol a domestig. Fodd bynnag, dros lawer o'r wlad, ac yn arbennig yng Nghymru, roedd yna goedwigoedd mawr o hyd lle cartrefai'r anifeiliaid gwyllt. Roedd pobl y cyfnod hwn (a elwir yn neolithig) fel arfer yn byw mewn ffermydd unig neu aneddiadau bychain. Nid oes lawer o'r tai wedi goroesi gan fod y rhan fwyaf ohonynt wedi eu hadeiladu o bren. Roedd rhai yn hirsgwr ac eraill yn grwn.

Trelystan
Cyllun a gwahanol adluniadau o'r tai Neolithig yn Nhrelystan

Yn y cyfnod hwn doedd dim sn am ddefnyddio metel; gwneid yr holl gelfi cherrig neu bren. Y celfi a'r arfau a ddarganfyddir amlaf yw bwyeill cerrig ac amrywiaeth o gelfi torri wedi eu gwneud o fflint wedi ei naddu neu o garreg arall. Byddai'r rhain wedi eu gosod ar goesau pren neu weithiau ar goesau o asgwrn.

Roedd offer domestig yn cynnwys crochenwaith, breuanau cyfrwy o gerrig ddefnyddid i falu grawn, celfi pren, bowlenni a chafnau, gwerthydau a gwyddiau i nyddu a gwehyddu gwln a lliain i wneud brethyn. Defnyddid asgwrn hefyd i wneud celfi ac fel pinnau i fotymu dillad pobl.

Axe
Pen bwyell garreg

Yn ystod y cyfnod neolithig (o tua 4,500 CC i tua 2,300 CC) cleddid pobl fel arfer mewn beddau wedi eu hadeiladu cherrig. Mae adeiladwaith y rhain yn amrywio o ardal i ardal ond fel arfer mae iddynt un neu fwy o siambrau gyda choridor o gerrig i fynd atynt. Cuddid y cyfan gan dwmpath o bridd a cherrig. Mewn nifer o'r beddau hyn darganfuwyd esgyrn nifer fawr o bobl; doedd dim trefn ar rai o'r esgyrn sy'n awgrymu iddynt gael eu rhoi yn y bedd ar l i'r cyrff bydru. Ar rai safleoedd mae archeolegwyr wedi darganfod tystiolaeth fod cyrff yn cael eu gosod allan mewn clostir arbennig; yn ddiweddarach cesglid yr esgyrn ynghyd a'u rhoi yn y bedd gydag esgyrn perthnasau oedd wedi marw flynyddoedd ynghynt. Mae'n amhosibl i ni wybod heddiw sut grefydd oedd gan y bobl hyn er bod astudiaeth o'r beddau ac o'r cylchoedd pren a cherrig a ddarganfuwyd mewn llawer rhan o Brydain yn awgrymu bod y bobl neolithig yn astudio symudiad yr haul, y lleuad a sr eraill. Roedd y newidiadau hyn yn bwysig iddynt i nodi'r newid mewn tymhorau a'r amser gorau i blannu'r cnydau ac i'w medi. Ceid adeiladau tebyg, crefyddol mae'n debyg, yn cynnwys clostir crwn a chlawdd pridd o'i gwmpas. Weithiau byddai meini hirion y tu mewn i'r cloddiau. Gelwir y rhain yn feingylchoedd neu gylchoedd cerrig.

Gwernvale
Adluniad a chynllun o siambr gladdu neolithig Gwenvale

Tua 4,500 o flynyddoedd yn l dechreuodd pobl ddefnyddio metelau. Y metel cyntaf i'w ddefnyddio oedd copr ac yn fuan iawn fe'i cymysgid ag alcam neu blwm i wneud metel caletach fyddai'n addas ar gyfer bidogau, cyllyll, bwyeill a nifer helaeth o gelfi torri eraill a ddefnyddid mewn gwaith coed, gwaith lledr ac yn y blaen. Dechreuodd y dechnoleg newydd hon ar y cyfandir ac ymledu i Brydain. Ni wyddom os golyga hyn fod llawer o bobl newydd wedi teithio dros y moroedd ac ymsefydlu yma neu fod nifer bychan o grefftwyr wedi dod 'r sgiliau newydd i'w canlyn. Gwyddom fod pobl yn teithio mewn cychod rhwng de Prydain a'r cyfandir yn ystod yr Oes Efydd (tua 2,300 i 700 CC), gan gario'r llwythi o offer ac arfau metel a metel sgrap.

Axe

Pen bwyell efydd

Er bod y rhan fwyaf o bobl wedi parhau fel ffermwyr yr oedd yna newidiadau. Ni fyddai teuluoedd neu grwpiau lleol mwyach yn cael eu claddu gyda'i gilydd mewn beddau o gerrig ond fe'u cleddid mewn pyllau oedd wedi eu leinio cherrig a'u gorchuddio thomenni crwn. Dim ond y bobl bwysicaf gaent eu claddu dan y tomenni hyn, a rhyfelwyr fyddai llawer o'r rhain, wedi eu claddu gyda'u harfau, gan gynnwys bidogau efydd ac, yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd, gyda'u cleddyfau. Yn ystod yr Oes Efydd daeth corfflosgi yn gyffredin, gyda'r gweddillion llosg yn aml yn cael eu claddu dan domen. Un o'r darganfyddiadau mwyaf cyffredin yn y beddau hyn yw crochenwaith. Defnyddid mathau arbennig o grochenwaith yn benodol ar gyfer claddedigaethau, un ai i fod gyda gweddillion y corff neu i ddal yr esgyrn llosg. Mewn achosion prin byddai pobl arbennig yn cael eu claddu gydag addurniadau o aur neu fuchudd. Heddiw mae'r tomenni hyn yn nodweddion cyffredin yn nhirwedd ucheldir Cymru. Ni olyga hyn fod pawb yn Oes yr Efydd yn cael eu claddu ar y bryniau; gwyddom am domenni eraill yn y dyffrynnoedd a'r gwastatiroedd ond niweidiwyd a distrywiwyd llawer yn ddiweddarach gan ffermwyr wrth droi y tir. Weithiau gellir eu gweld o'r awyr fel marciau yn y cnydau.

Parhaodd pobl i ddefnyddio meingylchoedd a chylchoedd cerrig yr oesoedd gynt ond byddent yn aml yn newid y rhain trwy newid lleoliad y cerrig; weithiau cleddid pobl mewn man oedd wedi ei nodi chylch. Nid oedd pob un o'r meini hirion yn rhan o feingylch neu gylch cerrig; roedd yn beth pur gyffredin gosod carreg unigol, hwyrach i nodi claddedigaeth neu fangre arbennig oedd yn gysylltiedig gweithgarwch crefyddol o ryw fath.

Brenig
Adluniad o garnedd gylchog yn Brenig (ffynhonnell: Lynch, 1993)

Yn rhan olaf yr Oes Efydd datblygodd yr hinsawdd yn wlypach ac oerach. Byddai hyn wedi dylanwadu ar y math o gnydau y gallai pobl eu tyfu ac wedi ei gwneud yn anos byw ar y tir uchel. O'r amser hwn dechreuodd pobl fyw mewn aneddiadau oedd yn fwy amddiffynnol; amgylchynid eu tai ffens neu balis pren cryf ac yn aml byddent wedi eu lleoli ar dir uchel fel y gellid gweld pawb a ddynesai atynt. Tua'r amser hwn rhoddwyd mwy o bwys ar gadw gwartheg, yn arbennig ar y tir uchel, megis y rhan fwyaf o Gymru. O'r cyfnod hwn darganfu archeolegwyr fathau newydd o gelfi yn cynnwys crochanau mawr efydd fyddai'n hongian ar gadwyni uwchben y tn. Mae'n debyg y defnyddid y rhain i goginio pryd mawr o gig i'w fwyta mewn gwleddoedd. Ar achlysuron o'r fath byddai'r bobl bwysig yn gwisgo addurniadau o aur, megis torchau (math o gadwyn drom neu aur dirdro), breichledau a modrwyau. Byddai dynion a merched yn gwisgo'r rhain. Gwyddom ychydig am eu dillad gan fod enghreifftiau prin wedi cadw'n dda mewn beddau fu dan ddwr neu mewn mannau gwlyb eraill. Arferai'r merched a'r dynion wisgo tiwnig o wln neu liain a chlog wln wedi ei chau thlws neu froetsh efydd.

Safleoedd yr awgrymir ymweld nhw:-
Nid yw'r safleoedd o'r cyfnod cynhanesyddol cynnar wedi goroesi yn dda yng Nghymru. Roedd rhai mathau ar safleoedd yn llai cyffredin nag mewn rhannau eraill o Brydain. Ceir llawer o domenni yr Oes Efydd yn yr ucheldiroedd. Fodd bynnag mae modd gweld amrywiaeth o safleoedd o'r Oes Efydd ar hyd llwybr arbennig a adeiladwyd ger Cronfa Brenig yng Nghlwyd (ar y B4501 i'r gogledd o Gerrigydrudion). Mae yno hefyd ganolfan ddehongli gyda chyflwyniad fideo yn amlinellu hanes y dyffryn ac adeiladu'r gronfa. Mae arweinlyfr i'r llwybr archeolegol ar gael yn y ganolfan a gellir cael arweiniad byr gan YACP.

Ychydig dros y ffin o Faldwyn, yn Sir Amwythig, mae cylch cerrig wedi goroesi ym Mitchell's Fold (NGR SO 301984) ger Llanffynhonwen (Chirbury). Wedi ei leoli ar grib Stapeley Hill, mae modd mynd ato ar hyd llwybr cyhoeddus.

Mae mannau eraill yn cynnwys:-
Carnedd y Gop, Gwaenysgor, Clwyd (NGR SJ087802)
Amgueddfeydd yn: Aberhonddu, Llandrindod a'r Trallwng.

Darllen pellach:-
Arnold, C. J. 1990. The Archaeology of Montgomeryshire. Y Trallwng: Clwb Powysland.
Bewley, R. 1994. Prehistoric Settlements.
English Heritage. Resources 1994. (defnyddiau ymarferol i alluogi athrawon i ddefnyddio'r amgylchfyd hanesyddol ar gyfer unrhyw bwnc).
English Heritage. The Archaeology Resource Book. 1992.
Green, S. and Walker, E. 1991. Ice Age Hunters. Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Howell, R. (ed) 1994. Archaeology and the National Curriculum in Wales. Council for British Archaeology.
Manley, J. (ed) 1991. The Archaeology of Clwyd. Yr Wyddgrug: Gwasanaeth Archeolegol Clwyd.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.