Cymraeg / English
CPAT logo

Cyfnod Allweddol 2: Bywyd yng Nghymru a Phrydain Gynnar

Y Rhufeiniaid yng Nghymru

Yn OC 43 glaniodd byddin Rufeinig dan awdurdod Aulus Plautius yn ne Prydain. Yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg ddilynol aeth byddinoedd Rhufain rhagddynt i orchfygu y rhan fwyaf o dde a gorllewin Prydain (gan gynnwys Cymru). Fodd bynnag, nid hwn oedd y cyswllt cyntaf fu rhwng y Rhufeiniaid a phobl Prydain. Ym 55 a 54 CC roedd Iwl Cesar wedi arwain byddin i dde Prydain ond roeddynt ymhell o fod yn fyddin barod a bu raid iddynt gilio i Gl. Cynhaliwyd cyswllt tymor hir rhwng y byd Rhufeinig a Phrydain Geltaidd trwy'r masnachwyr fyddai'n dod gwin, olew, crochenwaith cain a phethau moethus eraill i arweinwyr y llwythau. Yn gyfnewid am hyn byddent yn allforio caethweision, mwynau, cwn hela a nwyddau eraill megis brethyn yn l pob tebyg.

Amphora

Llestr Gwin: Amphora

Yn ystod cyfnod y goresgyniad Rhufeinig ar dde Prydain (rhwng OC 34 ac OC 60) symudodd y byddinoedd Rhufeinig yn gyflym tua'r gorllewin gan ddarostwng y rhan fwyaf o'r de a'r dwyrain. Rhwng OC 47 ac OC 49, dan y rhaglaw Ostorius Scapula, gwthiodd y byddinoedd Rhufeinig i orllewin Prydain. Erbyn hyn arweinid llwythau'r rhanbarth hwn gan Caradog (Caratacus), mab Cunobelinus, un o arweinwyr y Brythoniaid yn y de. O un i un gorchfygwyd y llwythau yn y frwydr, gydag un frwydr rhwng y Rhufeiniaid a'r Ordofigiaid yn diweddu gyda Caradog yn cael ei orchfygu a'i gipio. Nid yw lleoliad y frwydr hon yn hysbys ond mae'n debyg ei bod rhywle yng ngorllewin Sir Amwythig. Parhaodd ymgyrchoedd yn erbyn y llwythau gorllewinol hyd at OC 60 pan dorrodd gwrthryfel allan yn nwyrain Prydain, dan arweiniad Buddug. Wedi iddynt orchfygu Buddug a'i byddinoedd treuliodd y Rhufeiniaid y saith mlynedd ddilynol yn ymgryfhau ac yn sefydlu ceyrydd milwrol er mwyn darostwng de a gorllewin Prydain. Dim ond yn OC 71 y llwyddodd y fyddin Rufeinig, dan Julius Agricola, i symud tua'r gogledd i ymgyrchu yn erbyn y Brigantes a llwythau eraill yn y gogledd. Parhawyd i geisio llonyddu'r llwythau gorllewinol trwy'r 70au ac ar l hynny.

Yn ystod cyfnod y goresgyniad a'r llonyddu adeiladodd y fyddin Rufeinig wersylloedd a cheyrydd i letya eu milwyr a'u crefftwyr milwrol. Fel arfer adeiladau dros dro oedd y gwersylloedd hyn, wedi eu hadeiladu o dywyrch a phren er mwyn diogelu'r fyddin dros nos pan gaent saib rhwng ymdeithiau. Safai llawer o'r gwersylloedd hyn ar y Gororau ac ar lwybr y fyddin orchfygol tua chanolbarth Cymru. Fodd bynnag, roedd y ceyrydd yn adeiladau mwy parhaol, wedi eu hadeiladu i letya milwyr oedd wedi eu gorsafu tros gyfnod hir o amser. Maent i'w gweld dros y rhan fwyaf o Gymru fodern gyda'r rhai cynharaf wedi eu clystyru ar hyd y ffin ddwyreiniol a deheuol. Roedd y rhai mwyaf o'r ceyrydd hyn yn orsafoedd ar gyfer lleng. Mae rhai o'r ceyrydd lleng sydd wedi goroesi orau ac wedi eu harchwilio orau yng Nghymru a'r Gororau yn cynnwys Wroxeter, Caerleon a Chaer (Chester). Mae ceyrydd adnabyddus eraill yn yr ardal hon yn cynnwys Caer Ffordun (ger Trefaldwyn), Caersws a'r Gaer, Aberhonddu.

Roman fort
Cyllun caer Rufeinig Nodweddiadol Gyda'r Prif Nodweddion Wedi eu Labelu. Tanlinellwyd yr enway Lladin

Yn ystod cyfnod y goresgyniad Rhufeinig rhoddwyd y gorau i ddefnyddio rhai ceyrydd, adeiladwyd rhai mewn lleoliadau newydd ac adeiladwyd rhai eraill ar eu hen safleoedd. Enghraifft dda o gaer Rufeinig yng nghanolbarth Cymru yw'r un yng Nghaer Ffordun gerllaw tref bresennol Trefaldwyn. Adeiladwyd y gaer hon gyntaf yn gynnar yn yr ail ganrif OC a chafodd ei hail adeiladu sawl gwaith gyda'r gaer fwyaf yn cael ei hadeiladu yn hwyr yn yr ail ganrif OC. Roedd y rhan fwyaf o'r ceyrydd Rhufeinig yn hirsgwr gyda rhagfuriau o glai a fframwaith o goed iddynt. Ar ben y rhagfur ceid palis pren ac amddiffynnid y cyfan gan un neu fwy o ffosydd dwfn wedi eu torri o amgylch yr ochr allanol. Fel arfer roedd pedwar porth i'r gaer, un ar bob ochr, gyda'r brif ffordd (via praetoria) yn rhedeg yn union o borth y gogledd i borth y de. Prif adeiladau'r gaer oedd y pencadlys (principia), ty'r pengadfridog (praetorium), y graneri (horrea), y gweithdai (fabrica) a'r gwersyll neu farics ar gyfer y milwyr. Cedwid pethau gwerthfawr yn adeilad y pencadlys oedd yn cynnwys creirfa. Roedd llawer o'r ceyrydd wedi eu hadeiladu yn gyfan gwbl o bren gyda chloddiau pridd neu dywyrch ond ailgodwyd rhai gyda muriau ac adeiladau o gerrig.

Erbyn canol yr ail ganrif OC roedd Britannia yn dalaith Rufeinig sefydlog yn cael ei rheoli gan raglaw benodid gan yr ymerawdwr Rhufeinig. Roedd prif ddinas y dalaith yn Llundain. Nod y Rhufeiniaid oedd nid yn unig orchfygu ond hefyd wareiddio pobl Prydain. Fe'u symudasant dan orfodaeth o'u hen aneddiadau ar ben y bryniau ac adeiladu trefi a dinasoedd fel canolfannau crefftau, masnach a gweinyddiaeth. Anogwyd yr hen uchelwyr Celtaidd i ymrufeinio, i fyw yn y canolfannau trefol ac i fabwysiadu ffordd Rufeinig o fyw. Gwaherddid rhyfela. Fel y datblygai pethau yn llai cythryblus gostyngwyd maint y fyddin Rufeinig ym Mhrydain. Fodd bynnag cadwyd milwyr yng Nghymru gan ei fod yn un o rannau lleiaf rhufeiniedig y dalaith. Sicrheid cyswllt cyflym rhwng y ceyrydd a'r trefi a'r dinasoedd trwy adeiladu ffyrdd da ac unionsyth. Yn aml iawn gellir gweld safle'r ceyrydd a'r ffyrdd gynt mewn gwahanol batrymau o farciau cnydau sydd i'w gweld o'r awyr.

Yn y rhannau rhufeiniedig o Brydain roedd i bob un o ardaloedd y llwythau gynt ei phrif ddinas (civitas) a hon oedd canolfan gweinyddiaeth. Byddai rhannau o orllewin Prydain, gan gynnwys y rhan fwyaf o Gymru fodern, yn perthyn i ranbarth milwrol ac ni fyddai trefi ynddo, ond yn ne Cymru ac ar hyd y Gororau roedd y wlad yn fwy rhufeiniedig. Weithiau byddai'r dinasoedd civitas wedi eu codi ar safleoedd ceyrydd milwrol gynt. Yng Nghymru fodern a'r Gororau roedd y civitates yng Nghaerwent, Caerfyrddin, Wroxeter ac o bosibl Kentchester. Yn y trefi a'r dinasoedd newydd codid adeiladau cyhoeddus i gwrdd ag anghenion y gweinyddwyr a'r dinasyddion. Byddai'r rhain yn cynnwys fforwm, baddondai cyhoeddus, y theatr, yr amffitheatr a'r deml. Fel arfer roedd y fforwm yn cynnwys y farchnad siopa gyda llwybr cerdded dan do ar dair ochr iddi a basilica neu neuadd ar y bedwaredd ochr. Byddai'r baddondai cyhoeddus yn amrywio'n arw o ran maint ond byddent yn cynnwys ystafell sych-boeth (laconica) ac ystafell oer (frigidarium), yr olaf yn cynnwys pwll trochi oer, yn ogystal 'r baddonau eu hunain a'r ystafell ymarfer neu neuadd. Roedd y baddonau wedi eu cynhesu a cheid cyflenwad dwr iddynt ac i adeiladau eraill yn y ddinas o draphontydd dwr cyhoeddus gyda'r dwr yn aml yn tarddu o ffynhonnau y tu allan i'r ddinas.

Bathhouse
Baddondy ym Mhrestatyn

Gweinyddwyr, crefftwyr a masnachwyr oedd trigolion y trefi a'r dinasoedd. Dinasyddion Rhufeinig oedd y gweinyddwyr, gyda'r rhai pwysicaf ohonynt wedi eu symud yno o daleithiau eraill. Byddai'r crefftwyr yn gwneud eu nwyddau ac yn eu gwerthu yn eu gweithdai eu hunain gan gyflenwi trigolion y dref a'r wlad o gwmpas. Y prif grefftau oedd crochenwaith, gwneud brics a theils ar gyfer adeiladu, gwaith metel, gwaith lledr, gwaith gwydr, gwaith coed a gwneud tecstiliau a nwyddau lledr.

Nid trefi a dinasoedd cyffredin oedd pob un o'r canolfannau trefol. Roedd rhai ohonynt yn aneddiadau wedi eu sefydlu ar gloddio mwynau megis aur, copr neu blwm, megis y rhai yn Llanymynech neu Ddolaucothi. Roedd Cymru yn ardal bwysig i gloddio am fwynau gyda'r rhain wedi eu crynhoi yn y gogledd a'r dwyrain, yn nodedig felly ar Fynydd Helygain. Ym Mhrestatyn, dangosodd cloddio mewn anheddiad cyffredin fod pobl yn ymwneud gwaith metel. Darganfuwyd gweithdy gof efydd, gan gynnwys gweddillion aelwyd a ffwrnais a symiau enfawr o slag, sgrap efydd a darnau o fowldiau castio. Hefyd darganfuwyd tystiolaeth o fwyngloddio a gweithio plwm ym Mhrestatyn lle roedd yr anheddiad yn agos at y gaer Rufeinig a letyai'r Ugeinfed Leng. Darganfuwyd teils y lleng mewn baddond~ bychan gerllaw'r gaer. Yn Fferm y Pentre, Y Fflint mae canolfan weinyddol y diwydiant mwyngloddio plwm lleol wedi ei gloddio.

Pentre farm

Adluniad o'r adeiladau pren cynnar yn Fferm y Pentre, wedi eu hadeiladu mae'n debyg tua 120 OC fel cartref a chanolfan weinyddol i'r swyddog oedd yn goruchwylio'r diwydiant mwyngloddio plwm lleol

Mewn llawer o ogledd a chanolbarth Cymru, ar wahn i'r gwaith o adeiladu ceyrydd ac aneddiadau oedd yn gysylltiedig chymunedau mwyngloddio, parhaodd anheddu mewn cefn gwlad yn ddigon tebyg i'r arfer cyn y goncwest Rufeinig. Ar y cyfan roedd pobl wedi cilio o'r bryngeyrydd ond parhaent i fyw mewn ffermydd tebyg i rai cyfnod Oes yr Haearn. Mewn mannau eraill ar iseldiroedd Prydain newidiodd yr adeiladau o fod yn dai crwn i fod yn rhai hirsgwr ond prin yw'r dystiolaeth fod tai Rhufeinig eu harddull yn cael eu hadeiladu yng nghefn gwlad y gogledd a'r canolbarth.

Yn ystod blynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif OC daeth talaith Rufeinig Britannia dan fygythiad cynyddol ymosodwyr o'r tu allan i'r Ymerodraeth. Roedd y rhain yn cynnwys y Pictiaid o'r gogledd, y Gwyddyl o'r gorllewin a'r Sacsoniaid o'r dwyrain. Adeiladwyd ceyrydd ar hyd y glannau i wrthsefyll yr ymosodiadau hyn. Dirywiodd ansawdd a nifer y milwyr Rhufeinig ym Mhrydain fel yr oedd ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig yn cael eu bygwth mewn mannau eraill. Ar rai achlysuron cryfhawyd y fyddin i wrthsefyll ymosodiadau megis yr un yn OC 367 cyfnod yr hyn a elwid yn "gynllwyn barbaraidd", pan ymosodwyd ar Brydain Rufeinig gan grwpiau o ymosodwyr yn gweithio ar y cyd. Yn ystod diwedd y bedwaredd a dechrau'r bumed ganrif ceisiodd nifer o drawsfeddianwyr dorri'n rhydd oddi wrth yr Ymerodraeth. Un o'r rhain oedd Macsen Wledig (Magnus Maximus), a orchfygwyd yn y diwedd gan yr Ymerawdwr Theodosius yn OC 388; cyfeirir ato yn Y Mabinogion fel sylfaenydd nifer o linachau brenhinol Cymreig.

Ym mlynyddoedd cynnar y bumed ganrif OC galwyd y fyddin Rufeinig yn l i Brydain ac yn OC 410 gollyngodd yr Ymerawdwr Honorius yn ffurfiol ei reolaeth ar y dalaith gan gynghori pobl Prydain i amddiffyn eu hunain. Yn y cyfnod dilynol ni welwyd y dull rhufeinig o fyw yn dadfeilio yn llwyr ond cafwyd lleihad mewn gweinyddiaeth ganolog gyda'r twf mewn teyrnasoedd newydd. Yng Nghymru roedd y rhain yn cynnwys, ymhlith eraill, teyrnasoedd Gwynedd, Powys, Dyfed a Glywysing. Ciliodd pobl yn araf o'r trefi a'r dinasoedd a gwelwyd canolfannau grym a gweinyddiaeth yn cael eu sefydlu ar y llysoedd lleol; yn aml iawn roedd y llysoedd hyn mewn safleoedd amddiffynedig, weithiau wedi eu lleoli yn y bryngeyrydd gynt.

Safleoedd yr awgrymir ymweld nhw:-
Tref Rufeinig Wroxeter (i'r de-ddwyrain o Amwythig, oddi ar yr A5), Sir Amwythig (safle dan warchodaeth English Heritage). Ar agor bob dydd. Ffn 01743 761330
Caer Rufeinig (SN 858107) a gwersyll (SN 963104) ger Coelbren, Morgannwg Ganol a Ffordd Rufeinig Sarn Helen yn rhedeg o'r dwyrain i'r gogledd (Map Pathfinder 1084 Yr Arolwg Ordnans)
Caer Rufeinig Y Gaer, Aberhonddu, ger Aberhonddu (SO 00332966): darganfyddiadau yn Amgueddfa Brycheiniog, Aberhonddu. Map Pathfinder 160 Yr Arolwg Ordnans
Baddondy Rhufeinig Prestatyn, Ffordd Melyd (SJ062818).

(Mae taflenni a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ar gael ar gyfer rhai o'r safleoedd hyn. Gellir cael manylion safleoedd eraill yn eich ardal trwy gysylltu 'r Swyddog Henebion a Safleoedd.)

Darllen pellach:-
Howell, R (ed) Archaeology and the National Curriculum in Wales. CBA/Amgueddfa Genedlaethol Cymru/Cadw.
English Heritage. Resources 1994(defnyddiau ymarferol i alluogi athrawon i ddefnyddio'r amgylchfyd hanesyddol ar gyfer unrhyw bwnc).
English Heritage. The Archaeology Resource Book 1992.
McWhirr, A. Roman Crafts and Industries. Shire Archaeology, Aylesbury.
Todd, M. 1980. Roman Britain (55BC-AD 400). Harvester Press, Brighton.
Atelier Productions 1995 The Romans in Breconshire & Radnorshire, a field guide, Borth.

Paratowyd y wybodaeth hon gan Caroline Earwood a Neville Townsend ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL. Ffn 01938 553670 ffacs (01938) 55219.
E-bost: trust@cpat.org.uk

Cewch atgynhyrchur deunyddiau hyn i ddibenion addysgol yn rhydd oddi wrth hawlfraint.