Cymraeg / English
|
|
Archaeoleg mewn Addysg
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn cynnig nifer o wasanaethau addysgol i ysgolion yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru. Gallwn gynnig cyngor proffesiynol ar y modd y defnyddir deunydd archaeolegol ('Y Celtiaid', 'Y Rhufeiniaid', 'Bywyd yn y Gorffennol', 'Gwneud Crochenwaith', ac ati) fel adnodd dysgu ac ar archaeoleg fel cyfrwng addysgu (gwaith tîm, cyd-drefnu sgiliau corfforol a meddyliol, iaith, trafod tystiolaeth ac ati) o fewn addysg a'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymru). Pan fo ysgolion yn cynnal digwyddiadau cwricwlaidd arbennig byddwn yn falch o drafod cyfrannu. Mae natur y cyfrannu'n hyblyg ond gallai gynnwys digwyddiad i'r dosbarth gyda darganfyddiadau archaeolegol a deunydd enghreifftiol neu ymweliad tywysedig i safle gyda thaflenni/taflenni gwaith addysgol. Noder bod gan CPAT archif helaeth o ffotograffau o'r awyr a ffotograffau eraill o safleoedd archaeolegol a hanesyddol a gellir prynu copïau ohonynt am bris cost i bwrpasau addysgol. Cofnod yr Amgylchedd HanesyddolMae'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (HER) ar gyfer Clwyd a Phowys yn cael ei lunio a'i gadw gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ei nod yw darparu catalog cynhwysfawr o'r safleoedd a'r darganfyddiadau archaeolegol a hanesyddol o bob cyfnod. Mae'r cofnod yn cael ei ddiweddaru a'i ehangu'n gyson pan dderbynnir gwybodaeth newydd. Cedwir yr HER ar ddata-basau cyfrifiadurol ac mae'n cynnwys cofnodion cartograffig, dogfennol a ffotgraffig ychwanegol.Mae'r wybodaeth a gedwir yn yr HER yn uniongyrchol berthnasol i ardaloedd astudio o fewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymholiadau gan y cyhoedd, athrawon, myfyrwyr ac ymchwilwyr sydd am gael gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hastudiaethau. Defnyddio'r HER yn y Cwricwlwm CenedlaetholI wneud data'r HER yn fwy hygyrch i ysgolion, paratowyd cyfres o daflenni ar themâu sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Cynodau Allweddol 1 i 3). Mae pob taflen yn rhoi gwybodaeth gefndirol ar y pwnc, manylion am y safleoedd perthnasol gyda darluniau, awgrymiadau ar gyfer ymweliadau â'r safleoedd a darllen pellach. Mae'r taflenni hyn i gyd ar gael ar-linell yn awr yma.Arweinlyfrau Byr i Safleoedd ArchaeolegolMae CPAT hefyd wedi cynhyrchu nifer o daflenni arweiniol byrion at ddefnydd athrawon ac eraill sy'n ymweld â safleoedd yn ardal Clwyd-Powys. Mae croeso i chi eu hargraffu a'u defnyddio am ddim i bwrpasau addysgol.Mae'n bosibl y bydd athrawon a myfyrwyr yn ei chael hi'n ddefnyddiol i ofyn am fanylion am safleoedd yn eu hardal eu hunain. Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gadewch ddigon o amser i baratoi taflen wybodaeth os gwelwch yn dda.
I gael gwybodaeth a chyngor pellach cysylltwch â Swyddog Rheoli Treftadaeth yr Ymddiriedolaeth os gwelwch yn dda. Dyma'r cyfeiriad.
|