CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Clawdd Offa
Offa's Dyke logo

Menter Clawdd Offa


Cynllun a ariannwyd gan English Heritage a Cadw oedd Menter Clawdd Offa, fel rhan o waith Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Roedd tri phrif nod i’r fenter – codi proffil Clawdd Offa fel strwythur o bwys mawr yn archeolegol ac yn ehangach, bwrw ymlaen â chynlluniau cadwraeth ymarferol y gwrthglawdd, ac annog dull hirdymor, mwy strategol a mwy integredig o reoli’r Clawdd fel cofadail cyfan. Penodwyd Ian Bapty yn Swyddog Rheolaeth Archeolegol Clawdd Offa fis Awst 1999 ac arhosodd yn y swydd hyd haf 2006, pan ddaeth yr ariannu i ben.

Clawdd Offa - problem cadwraeth

Animal erosion on Offa's Dyke De: Crafiadau anifeiliaid ar Glawdd Offa

Sefydlwyd Menter Clawdd Offa oherwydd pryder cynyddol ynghylch dyfodol tymor hir y Clawdd. Cynhaliwyd nifer o arolygon cyflwr archeolegol dros y deng mlynedd blaenorol, gan gynnwys archwiliad manwl o’r Clawdd yng Nghymru gan Cadw, a chan Gyngor Sir Caerloyw yn ardal Dyffryn Gwy. Dangosodd y gwaith hwn fod y 129 cilometr o wrthglawdd sy’n goroesi dan fygythiad cynyddol pwysau erydiad er gwaethaf tirwedd ac arwyddocâd hanesyddol Clawdd Offa (a’i statws fel Henebyn Rhestredig yng Nghymru a Lloegr). Mae’r pwysau hyn yn amrywio o fynediad i ymwelwyr (sy’n gysylltiedig â’r Llwybr Cenedlaethol sy’n dilyn llawer o hynt y Clawdd), gweithgareddau amaethyddol, adeiladu a datblygu ffyrdd, a difrod gan anifeiliaid yn tyrchu. Mae maint daearyddol enfawr y cofadail yn gwaethygu’r broblem cadwraeth gan ei fod yn dilyn hynt trwy dwy wlad a thros ystod eang o wahanol gyd-destunau amgylcheddol modern.

Agweddau Rheoli

Daeth materion amgylcheddol eraill hefyd i’r amlwg yn sgîl y broses o warchod y Clawdd. Nid cofadail archeolegol o bwys cenedlaethol yn unig mo Clawdd Offa. Mae hefyd yn rhan annatod o dirwedd ehangach y Gororau, sydd wedi datblygu o’i amgylch am fwy na 1000 o flynyddoedd. Mae gwerth arwyddocaol iddo fel coridor bywyd gwyllt, fel tirnod lleol, fel llinell y gwrychoedd, fel darn o goetir, neu fel lôn neu lwybr troed. Rhaid i waith rheoli’r Clawdd heddiw geisio cydbwysedd rhwng y blaenoriaethau hyn sydd, ar adegau, yn gwrthdaro â'i gilydd – a ddylai gwrych, sydd ynddo’i hun yn rhan o’r dirwedd hanesyddol ac yn gartref i fywyd gwyllt, gael ei dynnu ymaith oherwydd bod yr anifeiliaid fferm sy’n cysgodi yn ei erbyn yn achosi difrod i’r gwrthglawdd? Faint o newid ydym ni heddiw’n ei ystyried yn dderbyniol yn achos cofadail hanesyddol fel y Clawdd? Y fath newid parhaus dros y canrifoedd sy’n gyfrifol am y golwg sydd ar y Clawdd heddiw. Nid yw’r atebion rheolaeth yn hawdd bob amser ac maent yn galw am ddull integredig o drin cadwraeth sydd wedi’i ystyried yn ofalus.

Datblygwyd Cynllun Cadwraeth i’r cofadail ac fe ddylai hwn helpu yn y tymor hir i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y penderfyniadau rheoli hyn. Gwnaeth hyn gynnwys ymgynghori gydag amrywiaeth o bartneriaid, er mwyn gwireddu datganiad integredig ynglŷn ag arwyddocâd cyffredinol Clawdd Offa, a datblygu rhaglen reoli gytunedig sy’n cysylltu â’r gyd-ddealltwriaeth honno.

Menter Clawdd Offa - gwaith ymarferol sydd ar droed

Plough damaged on Offa's Dyke chwith: Difrod gan aradr ar ran o Glawdd Offa

Agwedd bwysig ar y prosiect oedd helpu ffermwyr lleol i gynnal a chadw’r Clawdd mewn modd ystyriol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr i drefnu ariannu gan English Nature neu Cadw, sydd yn gysylltiedig â Chytundeb Rheoli i helpu â chostau gofalu am y Clawdd. Weithiau, trwy gysylltu â chynllun amaeth-amgylchedd, gellid datblygu prosiectau eithaf sylweddol i atgyweirio’r Clawdd, neu, yn symlach, gellid darparu cyngor lle byddai materion yn codi megis ansicrwydd ynghylch gweithdrefnau Caniatâd Henebion Rhestredig. Dyma rai o’r prosiectau a ddatblygwyd gyda ffermwyr: clirio prysgwydd a’u rheoli ar y Clawdd, codi ffensys i amddiffyn rhannau o’r cofadail sydd dan bwysau a llenwi creithiau erydiad. Meddai Ian Bapty, Swyddog Rheolaeth Archeolegol Clawdd Offa dros gyfnod y prosiect, ynghylch y rhan hon o’i swydd: ‘yn y bôn, gyda chytundeb y tirfeddiannwr, rydw i yma i wneud yr holl waith trefnu a chodi arian i beri i’r math hwn o waith ddigwydd’.

Rhwng 1999 a 2006, gwelwyd cynnydd da mewn gwaith rheoli cadwraeth/cynllunio atgyweirio o’r math hwn, a gwaith ymgynghori cysylltiedig gyda thirfeddianwyr ar nifer o safleoedd ar hyd y Clawdd yn Nghymru a Lloegr, ac ar Henebion Rhestredig ar Lwybr Clawdd Offa. Byddai prosiectau’n deillio mewn rhai achosion o waith rheoli oedd eisoes yn bodoli ar y Clawdd a’r llwybr; ymhlith y rhain roedd cynllun ar ben deheuol y Clawdd i reoli’r pwysau oherwydd cerddwyr ar rannau o Glawdd Offa yn Nyffryn Gwy y mae llawer o bobl yn ymweld â nhw, ac yn y gogledd, atgyweirio difrod a achosodd Llwybr Clawdd Offa i fryngeyrydd Oes yr Haearn ym Mryniau Clwyd.

Path erosion on the Dyke De: Erydiad ar lwybr ar Glawdd Offa

Roedd agweddau eraill ar y prosiect yn cynnwys cynnig cyngor rheolaeth archeolegol i Wasanaeth Llwybr Clawdd Offa a rheolwyr tir eraill ar y gwrthglawdd, a threfnu monitro cyflwr y Clawdd yn rheolaidd fel sail ar gyfer rhaglen barhaus o reoli a chadw rheolaeth ar erydiad fel bo’r angen yn codi. Gobeithiwyd hefyd sefydlu mentrau cadwraeth ehangach, megis ymchwil (ar y cyd ag amrywiaeth o asiantaethau perthnasol) i ddatblygu dull o fynd i’r afael â’r broblem anodd o ddifrod moch daear i Glawdd Offa.

Mae data cyffredinol y prosiect wedi’u cofnodi’n ddigidol ar System Gwybodaeth Ddaearyddol (yn cynnwys archif gyfeirio o ddata arolygon a data archeolegol sy’n ymwneud â’r cofadail), a ddylai ddarparu adnodd a fydd ar gael i bob asiantaeth sy’n ymwneud â gwaith rheoli Clawdd Offa.

Astudiaeth achos o reoli'r dreftadaeth?

Gallai rheoli Clawdd Offa trwy Fenter Clawdd Offa - o ran ei gydrannau ymarferol uniongyrchol a’i gydrannau strategol ehangach – fod yn astudiaeth achos sy’n berthnasol i ddiogelu llawer o dirweddau hanesyddol eraill. Fel y dywedodd Ian Bapty ‘Mae ymwneud ag adnawdd archeolegol y mae pawb yn deall ei fod yn bwysig iawn, a hynny wedi’i gysylltu ag agwedd bragmatig tuag at ddiogelu henebion, mewn amgylcheddau modern, yn ganolog i’r dull rheoli sy’n cael ei ddatblygu drwy Fenter Clawdd Offa. Y gobaith yw y bydd hyn yn cynnig dealltwriaeth ddefnyddiol ar gyfer rheoli cadwraeth yn achos gwrthgloddiau hanesyddol eraill, a helpu, yn fwy penodol, i ddiogelu un o safleoedd archeolegol pwysicaf a mwyaf dramatig Prydain yn y tymor hir.’