CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Clawdd Offa
Offa's Dyke logo

Ymweld Chlawdd Offa


Nid yn unig y mae Clawdd Offa'n un o henebion mwyaf arwyddocaol Prydain, mae hefyd yn un o'r mwyaf diddorol i ymweld ag ef, diolch i'r ffaith ei fod bellach yn rhan o Lwybr Clawdd Offa. Mae'r llwybr yn golygu bod Clawdd Offa'n heneb y mae'n hawdd iawn ei chyrraedd ac y gall pobl ymweld ag ef yn ddidrafferth a gwerthfawrogi darnau hir o'r rhan bwysig hon o'n treftadaeth mewn modd nad oedd yn bosibl erioed o'r blaen. Yn wir, mae poblogrwydd y Llwybr Hir Cenedlaethol hefyd yn golygu bod Clawdd Offa - ar ffurf y llwybr, mae'n wir - yn fwy adnabyddus nag a fu ers dros 1000 o flynyddoedd o bosib.

National Trail sign post Chwith: Arwydd ar gyfer Llwybr Clawdd Offa

Agorwyd y llwybr 270 kilometr, sydd yn un o'r 13 Llwybr Hir Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, yn swyddogol ym 1971. Gan ddefnyddio lleoliad dramatig y Clawdd, a chan groesi tirweddau sydd yr un mor drawiadol - fel Bannau Brycheiniog a Bryniau Clwyd - pan nad yw'n dilyn y gwrthglawdd, mae'r llwybr yn rhedeg drwy'r Mers o Brestatyn yn y gogledd i Sedbury Cliffs yn y de. Mae'r llwybr hynod yn cynnwys golygfeydd gwych o'r cefn gwlad prydferth sydd statws Parc Cenedlaethol, Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol neu Ardal Amgylcheddol Sensitif.

Ffordd ddelfrydol o ragymadroddi taith i'r Clawdd yw ymweld Chanolfan newydd Clawdd Offa yn Nhef-y-clawdd, a redir gan Gymdeithas Clawdd Offa (elusen wirfoddol sy'n bodoli i hybu'r llwybr a'r Clawdd). Yn y Ganolfan mae arddangosiadau dehongliadol am Glawdd Offa a chyfleusterau eraill i ymwelwyr, a gellwch hefyd gael arweinlyfrau'r Llwybr Hir Cenedlaethol yno, a mapiau perthnasol, rhestrau o leoedd i aros a gwybodaeth arall i'r darpar gerddwr ac i'r archaeolegydd sy'n ymddiddori ym Mercia. Fe gewch eu gwefan yn www.offasdyke.demon.co.uk.

Walkers on Offa's Dyke De: Cerddwyr ar Glawdd Offa ger Pen Offa, Powys

'Wrth ymweld 'r Clawdd trwy'r Llwybr Hir Cenedlaethol, mae'n bwysig nodi mai dim ond y llwybr sydd hawl mynediad i'r cyhoedd' meddai Ian. 'Mae'r Clawdd i gyd ar dir preifat ac ni ddylid archwilio unrhyw ran o'r Clawdd nad yw ar y llwybr heb ganiatd y tirfeddiannwr. Cofiwch hefyd fod parcio'n gyfyngedig ac nad oes dim lle i barcio o gwbl yn ymyl y rhan fwyaf o'r Clawdd, ac mae angen cynllunio ymweliadau gyda hyn mewn cof'. Ffordd da o edrych ar y gwrthglawdd yw gwneud cylchdaith gyda'r Clawdd yn rhan ohoni. Mae hyn nid yn unig yn osgoi ailgerdded yr un rhan o'r daith, mae hefyd yn rhoi cyfle i chi gyferbynnu golwg ar y Clawdd o agos a gweld y cofadail yn ei gyd-destun ehangach.

Rhai rhannau o'r Clawdd i ymweld hwy

Ni fyddai'n iawn 'argymell' rhai rhannau o'r Clawdd yn hytrach nag eraill - lle bynnag y gwelwch ef mae'n synnu rhywun gan ei fod yn edrych ychydig yn wahanol yn ei berthynas 'r tir o'i gwmpas, ac yn y cymhlethdod hwnnw y ceir ei ddirgelwch a'i bwysigrwydd hanesyddol. Fodd bynnag, i'r ymwelydd heb lawer o amser mae'n werth crybwyll rhai 'rhannau da':

Dyffryn Gwy, Swydd Gaerloyw
I'r gogledd o Gas-gwent, mae Clawdd Offa mewn lleoliad dramatig - mae'n dilyn sgarp dwyreiniol Dyffryn Gwy. Ceir darn a gadwyd yn dda ac sy'n hawdd ei gyrraedd yn ymyl Devil's Pulpit uwchben Abaty Tyndyrn. Yn y fan hon gwelir y Clawdd fel ponc glir a gysylltir fel arfer - o gofio bod ochr y dyffryn yn disgyn yn serth dan y cofadail - phant chwarel i'r gorllewin yn hytrach na'r ffos a geir yn y gorllewin mewn mannau eraill. Yn gyffredinol mae'r Clawdd mewn coetir a phan gyrhaeddir cliriad ceir golygfeydd hyfryd dros Ardal Prydferthwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy.

Bryniau Sir Faesyfed, Powys
O fewn hen sir Faesyfed, mae'r Clawdd yn ymdroelli drwy dirwedd sy'n cynnwys bryniau a dyffrynnoedd ysgubol. Nodweddir yr ardal gan bentrefi bach a ffermydd bugeiliol sydd yn nodweddiadol o'r Mers, a rhoddwyd iddi statws Ardal Amgylcheddol Sensitif. Ceir darnau da o'r Clawdd yn y Burfa, Discoed ac yn fwyaf dramatig, o bosibl, ar Hawthorn Hill i'r de o Dref-y-clawdd. Mae'r darn ar Hawthorn Hill yn cynnig golygfeydd arbennig o banoramig i gyfeiriad bryniau Cymru, ac mae natur ddiarffordd, ddigysgod y lle yn pwysleisio rywsut y gamp adeiladu hynod a gynrychiolir gan wrthglawdd mawr Offa.

Ardal Clun, Sir Amwythig Offa's Dyke
De: Clawdd Offa'n codi a disgyn ar draws ardal Clun, Sir Amwythig
Wrth fynd tua'r gogledd o Dref-y-clawdd, mae'r Clawdd yn codi a disgyn drwy fryniau ardal wledig Clun gan ddringo i 420 metr ar Fryn Llanfair, cyn disgyn eto i'r iseldir y tu hwnt i Gefnffordd Ceri. Hwn mae'n debyg yw'r darn di-dor gorau a gadwyd ac mae'r llwybr yn cynnig golygfeydd gwych o'r gwrthglawdd wrth iddo ymgordeddu dros y tirwedd amaethyddol sydd bellach yn Ardal Amgylcheddol Sensitif. Ceir darnau arbennig o fawr o'r gwrthglawdd o gwmpas Bryn Llanfair, ar lethrau Bryn Hergan ac ar y naill ochr a'r llall o Gefnffordd Ceri. ac yn aml mae'r ffos yn cael ei hamlygu gan boncen wrthsgarp ar ei ymyl gorllewinol.

I'r dwyrain o Drefaldwyn, Powys a Sir Amwythig
I'r gogledd o Mellington, mae'r Clawdd yn gadael y tir uchel ac yn mynd dros y tir isel i'r dwyrain o Drefaldwyn, gan ddilyn trywydd syth a bwriadol. Mewn tirwedd a luniwyd gan ganrifoedd o aredig y tir, mae olion y Clawdd yn newid yn sydyn o gae i gae, gan amrywio o fod yn boncen a ffos drawiadol wrth Bont Ffin y Siroedd i'r de o ffordd Amwythig-Trefaldwyn, i rannau lle na welir ond darnau o'r boncen erydedig neu's ffos a lenwyd, neu fannau eraill lle nad oes dim ond gwrych yn aros. Ac eto mae hwn yn dal i fod yn ddarn trawiadol a diddordol o'r cofadail, lle mae hi nid yn unig yn yn bosibl gwerthfawrogi dewrder penderfynol penseiri Mercia, ond hefyd ddarllen yn y darnau gwahanol sydd wedi goroesi lawer o stori'r tirwedd ers i'r Clawdd gael ei godi.

Ardal Dyffryn Ceiriog, Powys a Sir Amwythig
O Gastell y Waun mae'r Clawdd yn disgyn i ddyffryn hardd yr afon Ceiriog lle mae darn da o'r clawdd a'r ffos, ac yna mae'n dringo ochr ddeheuol y dyffryn tua Selattyn Hill fel gwrthglawdd yr un mor fawr sydd yn gwasanaethu fel ffin rhwng Cymru a Lloegr. Efallai bod maint y gwrthglawdd yn arwydd o fan croesi strategol o bwys ar draws y dyffryn, ond beth bynnag yw'r rheswm mae'r Clawdd yn yr ardal hon wedi ei adeiladu mor fawr (ac wedi ei gadw gystal) ag unrhyw le ar ei hyd. Gellir cyrraedd darn Castell y Waun ar hyd Llwybr Hir caniataol gwahanol yn ystod yr haf yn unig, ond gellir mynd am dro braf unrhyw bryd drwy ddilyn y llwybr ar hyd y darn trawiadol o'r Clawdd i'r de o'r afon.