CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Clawdd Offa
Offa's Dyke logo

Beth yw Clawdd Offa?


Gwrthglawdd unionlin hynod sy'n 1200 o flynyddoedd o oed yw Clawdd Offa ac mae'n rhedeg ar hyd ffin Cymru a Lloegr o Dreuddyn (ger Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru) i Sedbury Cliffs (aber yr afon Hafren, yn ne Swydd Gaerloyw).

Location map De: Map yn dangos lleoliad Clawdd Offa

Yn l disgrifiad enwog yr ysgolhaig o Gymro, Asser, a oedd yn ysgrifennu tua chanrif ar l i Glawdd Offa gael ei godi, yn l y gred gyffredinol, mae'n cysylltu 'mr mr'. Er na fedrodd yr archaeolegwyr gadarnhau'r honiad hwn - gan fod bylchau mawr amlwg yn Swydd Henffordd a mannau eraill - y 129 kilometr sydd wedi goroesi yw'r heneb hiraf ym Mhrydain o ddigon. Mae'r Clawdd yn cynnwys ponc a all fod gymaint ag 8 metr mewn uchder a ffos i'r gorllewin, ac fel arfer mae'n sefyll ar safle trawiadol yn y tirwedd gyda golygfeydd hyfryd ac eang i gyfeiriad Cymru. Ni wyddys sut yn union yr oedd y Clawdd yn edrych pan godwyd ef gyntaf, ond mae'r cloddiadau archaeolegol yn awgrymu bod ochr orllewinol y clawdd wedi ei hatgyfnerthu thywyrch i greu arwynebedd a oedd bron yn fertigol, ac mae'n bosibl bod rhyw fath o balisad neu wal ar ben y gwrthglawdd hefyd.

Clawdd Offa yw'r cofadail mwyaf trawiadol o'i fath yn Ewrop, ac nid ymgymerwyd phrosiect adeiladu ar y tirwedd ar y fath raddfa wedyn am 1000 o flynyddoedd tan gynlluniau camlesi mawr y 18fed ganrif. Mae'n un o lwyddiannau peirianyddol mawr y cyfnod cynddiwydiannol a'r adeiledd mwyaf trawiadol i oroesi o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid - ac fel y cyfryw mae'r cynnig tystiolaeth hanfodol bwysig am gyfnod allweddol yn hanes Prydain sydd wedi gadael nifer gymharol fechan o olion gweladwy sylweddol.

Offa's Dyke at Discoed Chwith: Rhan o Glawdd Offa ger Discoed, Powys

Hyd yn oed heddiw, fe drewir ymwelwyr Chlawdd Offa ar unwaith gan faint y gwaith o'i godi. Rhaid i chi gerdded ar hyd y Clawdd i gael syniad o ba mor rhyfeddol ydy o. I ddechrau, mae maint y gwrthglawdd ac ymdeimlad o anferthedd y dasg o adeiladu'r clawdd mawr a choddio'r ffos gan ddefnyddio celfi llaw yn unig. Yna mae rhywun yn gwerthfawrogi'r sgiliau peirianyddol a chynllunio roedd eu hangen i wneud i'r Clawdd ffitio i'r tirwedd, pa un a yw'n dilyn ymyl Dyffryn Gwy yn Swydd Gaerloyw, defnyddio cyfuchliniau, cefnau a llethrau ardal Clun yn Sir Amwythig, neu fartsio'n llawn pwrpas dros iseldiroedd dwyrain Sir Drefaldwyn. Ac yn olaf, mae rhywun yn dechrau meddwl am y drefniadaeth a'r logisteg y tu l i brosiect fel hwn, a'r rheolaeth wleidyddol a'r systemau gweinyddol cymhleth oedd yn sail i'r cyfan. A hyn i gyd mewn cyfnod y cyfeirid ato fel yr 'Oesoedd Tywyll'!.

Offa a hanes y Clawdd

Brenin Teyrnas Eingl-Sacsonaidd o'r enw Mercia oedd Offa, o 757-796 OC. Roedd Mercia, a oedd 'i chanolbwynt yng nghanolbarth Lloegr, yn un o nifer o Deyrnasoedd annibynnol at ganol neu ddiwedd y mileniwm cyntaf OC wrth i reolaeth yr Eingl-Sacsonaidd ymestyn yn raddol ar draws Prydain Ryfeinig gynt. Trwy ymgyrchoed milwrol a thrwy gyfuno gwleidyddol, sefydlodd Offa lywodraeth Mercia dros y rhan fwyaf o'r hyn a elwir 'Lloegr' heddiw. Er mai ychydig iawn o ddogfennau hanesyddol uniongyrchol sydd wedi goroesi am Offa, fe gawn gip ar arweinydd grymus a gwleidydd craff a driniwyd fel rhywun cydradd gan Siarlymaen, arweinydd mwyaf Ewrop ar y pryd.

Coin Chwith: Y Brenin Offa ar ddarn o arian

Clawdd Offa yw'r dystiolaeth orau sydd gennym o rym a chyraeddiadau Offa. Yr awgrym a wneir fel arfer yw y dylid gweld y Clawdd fel ymgais i sefydlu ffin orllewinol rhwng Mercia a'r Teyrnasoedd Brythonig (Cymreig) annibynnol a oedd yn bod yng Nghymru ar y pryd. Buasai Offa yn ymladd yn eu herbyn yn ystod nifer o ymgyrchoedd milwrol ond dim ond llwyddiant rhannol a gafodd. Dehonglodd Sir Cyril Fox, archaeolegydd a wnaeth astudiaeth arloesol o'r gwrthglawdd yn ystod yr 1920au a'r 1930au, y Clawdd fel cynnyrch cytundeb a negydwyd rhwng Mercia a'r Cymry. Bu anghydweld 'r safbwynt hwn gan ymchwilwyr mwy diweddar fel Frank Noble a David Hill, sydd yn gweld y Clawdd fel gwrthglawdd amddiffynnol a godwyd er lles pobl Mercia ar adeg o ansefydlogrwyddd ar hyd y ffin dybiedig.

Mae i wrthglawdd mawr Offa arwyddocd hanesyddol y tu hwnt i gyd-destun uniongyrchol hen deyrnas Mercia. Mae'r Clawdd yn enghreifftio'r prosesau o ganoli gwleidyddol cynyddol ar draws Prydain yr Eingl-Sacsoniaid ac Ewrop gyfoes a arweiniodd yn y man at ymddangosiad y rhanbarthau daearyddol a gwleidyddol - fel Cymru a Lloegr - sydd yn rhan o'n bywydau heddiw. Yn wir mae'n bosibl bod y Clawdd ei hun wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ddatblygiadau o'r fath, yn enwedig o ran creu hunaniaeth Gymreig wleidyddol gydlynus yn y cyfnod canoloesol modern. Er na pharhaodd yn hir fel ffin weithredol ar gyfer Mercia a'r Eingl-Sacsoniaid, mae'n bosibl bod ei barhad fel ffin amlwg yn y tirwedd yn golygu ei fod yn ddatganiad ideolegol grymus am arwahanrwydd popeth i'r gorllewin o Brydain 'Seisnig', a'i fod wedi helpu i greu ymdeimlad o undod ymhlith y Cymry nad oedd yn bodoli gynt.

Dehongliadau eraill?

Yr hyn sy'n tystio i barhad dylanwad Clawdd Offa yw'r ffaith ei fod yn dal i beri cymaint o ddyfalu poblogaidd ynghylch ei gychwyniad, ac mae rhai ysgrifenwyr cyfoes hyd yn oed yn amau'r cysylltiad ag Offa a theyrnas Mercia. Yn l un awgrym, er enghraifft, mae'r Clawdd yn fath o ffordd gynhanesyddol sy'n dyddio o gyfnod cynharach o lawer, ac mae dadansoddiad diweddar o gyd-destun daearyddol myth y Brenin Arthur yn honni mai mur Rhufeinig 'goll' Septimius Severus ydyw, ar sail cyfeiriadau posibl at fur o'r fath mewn testunau Rhufeinig hwyr a thestunau o'r cyfnod canol cynnar.

Offa's Dyke at Bron-y-Garth De: Rhan o Glawdd Offa sydd yn cynrychioli'r ffin rhwng Cymru a Lloegr ym Mron-y-Garth

Er na fyddai'n iawn anwybyddu dadleuon o'r fath dim ond oherwydd eu bod yn cynnig dehongliadau sy'n wahanol iawn i'r safbwynt confensiynol, mae'n bwysig sylweddoli fod yna resymau da iawn dros ddyddio Clawdd Offa i'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mae modd cymharu Clawdd Offa yn agos iawn chloddiau eraill - fel Clawdd Wat sydd gerllaw neu Wansdyke yn Wiltshire - sydd yn dyddio o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd mae'n debyg, ac ar yr un pryd mae'n wahanol iawn i gofadail Rhufeinig fel Mur Hadrian. Er nad oes iddo ddyddiad absoliwt fel y byddai arysgrifiad adeiladu gwreiddiol neu gyfres o ddyddiadau radiocarbon yn ei roi, mae'n ddiamau fod Clawdd Offa'n dyddio o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd.

Clawdd Offa - ffin dechrau Prydain

Mae yna systemau cloddiau byrrach o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain, ac mae'r rheiny yn bendant yn bwysig a thrawiadolm, ac rydym yn ffodus hefyd fod gennym enghreifftiau cain o bensaernaeth eglwysig Eingl-Sacsonaidd sydd wedi goroesi - ond allwn ni ddim yn unman arall gyffwrdd y cyfnod ffurfiannol hwnnw yn hanes Prydain mewn modd mor ddramatig ag a wnawn am filltir ar l milltir yn achos Clawdd Offa, ac allwn ni ddim darganfod unrhyw beth sydd mor berthnasol i'n bywydau ni heddiw ymhlith olion Eingl-Sacsonaidd.