Cymraeg / English
|
|
Y Rhufeiniaid yng Nghanolbarth Cymru
|
Pentref Caersws a Gaer Rhufeinig
|
|
Ffitiad efydd o gelc y Trallwng
|
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys wedi paratoi arddangosfa o’r enw Y Rhufeiniaid yng Nghanolbarth Cymru fel menter ar y cyd ag
Amgueddfa Powysland yn y Trallwng. Mae’r arddangosfa’n tynnu ar waith prosiect CPAT, a ariannwyd gan Cadw, ar safleoedd milwrol neu sifilaidd Rhufeinig yn
rhanbarth Clwyd-Powys. Mae’n cynnwys cyfres o baneli arddangos dwyieithog, yn manylu ar agweddau ar fywyd y Rhufeiniaid yng nghanolbarth Cymru, a model
rhithwir o safleoedd Rhufeinig ac Oes yr Haearn yng Nghaersws a’r cyffiniau yng Ngogledd Powys, gan gynnwys y gaer Rufeinig yng Nghaersws a’r fryngaer o
Oes yr Haearn yng Nghefn Carnedd.
|
Roedd y paneli arddangos yn ffurfio rhan o arddangosfa dros dro yn Amgueddfa Powysland yn wreiddiol, ond maent bellach yn ffurfio craidd arddangosfa
deithiol CPAT. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu’r arddangosfa deithiol gyfan hon, neu ran ohoni, cysylltwch â Chris Martin at CPAT.
Mae modd hefyd lawrlwytho copïau digidol o’r paneli arddangos (mewn fformat PDF) o’r wefan hon, trwy ddilyn y ddolen isod.
Mae’r model rhithwir wedi’i greu fel adnodd dwyieithog ar y we sy’n caniatáu ichi fforio tirwedd Rufeinig ac Oes yr Haearn yn y rhan hon o ddyffryn
Hafren drosoch eich hun, ac mae hwn hefyd ar gael trwy’r wefan hon trwy ddilyn y ddolen isod. Mae ‘ffilm’ fer, y mae modd ei chyrchu hefyd o’r fersiwn o’r
model ar y we, wedi’i chreu i’w rhedeg fel cyflwyniad clyweledol parhaus fel rhan o arddangosfa’r amgueddfa. Mae Iolo Williams yn llefaru’r sylwebaeth yn
Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer yr animeiddiad 15 munud o hyd hwn. Er bod Iolo fel rheol yn cael ei gysylltu â chadwraeth bywyd gwyllt, roedd wrth ei fodd
o roi ei sgiliau lleisiol ar waith â’r prosiect treftadaeth leol hwn.
Rydym yn gobeithio cynhyrchu mwy o arddangosfeydd a modeli – felly cadwch eich llygaid yn agored amdanynt. . .
|
Bu arddangosfa Amgueddfa Powysland yn rhedeg rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2007. Yn ogystal â’r uchod, fe roddodd gyfle i weld amrywiaeth o arteffactau
Rhufeinig a ddarganfuwyd yn lleol, gan gynnwys eitemau o gelc enwog y Trallwng. Celc cyfoethog sy’n gysylltiedig â chladdiad yw hwn, ac fe’i darganfuwyd
ychydig gannoedd o fetrau yn unig o’r amgueddfa ar ddiwedd y 1950au. Fel rheol, dim ond yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd y gellir ei weld. Roedd nifer o
fentrau addysgol, gan gynnwys gweithdai i ysgolion yn yr amgueddfa, hefyd ar gael yn ystod yr arddangosfa. Dilynwch y ddolen hon i gael manylion
digwyddiadau sydd ar ddod yn Amgueddfa Powysland.
Cynhyrchwyd deunydd arddangos Y Rhufeiniaid yng Nghanolbarth Cymru gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ar y cyd ag Amgueddfa
Powysland. Cynhyrchwyd y model rhithwir gan yr arbenigwr cyfrifiadurol Steve Smith yn gweithio gyda CPAT.
Mae’r prosiect wedi derbyn arian oddi wrth CyMAL,
Cadw a
Chyngor Sir Powys.
|
|
Cliciwch yma i fynd i mewn i’r model rhithwir o ardal Caersws a mynd ar daith rithwir, neu dywys eich hun, o amgylch amrywiaeth o
safleoedd Rhufeinig ac Oes yr Haearn sydd wedi’u hail-greu. I fynd i mewn i’r byd rhithwir hwn, mae angen i’ch porwr gwe fod ag ategyn VRML – dilynwch y
dolenni ar y dudalen nesaf i gael y fersiwn ddiweddaraf o’r rhaglen hon.
|
|
Cliciwch yma i weld neu lawrlwytho copïau o’r llyfryn esboniadol y mae CPAT wedi’i gynhyrchu ynglyn â model rhithwir
Y Rhufeiniaid yng Nghanolbarth Cymru. Fe fydd angen copi o Adobe Acrobat i ddarllen y ffeiliau hyn – dilynwch y dolenni ar y dudalen nesaf i gael
y fersiwn ddiweddaraf o’r rhaglen hon.
|
|
Cliciwch yma i weld neu lawrlwytho’ch copïau digidol eich hun o baneli arddangos Y Rhufeiniaid yng Nghanolbarth Cymru
Fe fydd angen copi o Adobe Acrobat i ddarllen y ffeiliau hyn – dilynwch y dolenni ar y dudalen nesaf i gael y fersiwn ddiweddaraf o’r rhaglen hon.
|
I gael mwy o wybodaeth, neu i archebu arddangosfa deithiol Y Rhufeiniaid yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer eich lleoliad chi,
cysylltwch â Chris Martin yn CPAT.
|