CPAT logo
Cymraeg / Saesneg
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Abaty Cwmhir, Sir Faesyfed


Mae gwaith ailatgyfnerthu diweddar ar olion yr abaty Sistersaidd o'r 12fed ganrif yn Abaty Cwmhir yng ngogledd Sir Faesyfed (SO05557110) wedi dangos manylion pellach am gynllun ac adeiladwaith yr adeilad. Ymgymerwyd ag arolwg carreg-wrth-garreg o wyneb y wal sydd wedi goroesi gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ym 1988 gyda thm Rhaglen Gymunedol bychan. Ailadroddwyd yr arolwg bellach yn dilyn y gwaith ailatgyfnerthu, dan nawdd Cadw: Welsh Historic Monuments.

Abbey Cwmhir elevation drawing

Cefndir

Abaty Cwmhir oedd y sefydliad mwyaf yng Nghymru a'r mwyaf diarffordd hefyd. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r cyfadail mynachaidd adeg y Diddymiad, ar er ein bod yn gwybod am rannau o'r cynllun gwreiddiol drwy waith cloddio ar raddfa fechan a wnaed yn yr 1820au a'r 1890au, dim ond rhannau o'r eglwys sydd i'w gweld heddiw. Ceir disgrifiad o'r fynachlog a'i chefndir hanesyddol gan Ralegh Radford (Radford 1982).

Abbey Cwmhir

De: Rhan o'r wal sydd wedi goroesi ac a ailarolygwyd yn ystod y prosiect hwn © CPAT CS97/14/8

Y cyfan sydd i'w weld o gorff yr eglwys uwch y ddaear bellach yw waliau allanol eiliau'r gogledd a'r de a gwaelod tair o'r pedair ar ddeg o golofnau gwreiddiol. Mae'r rhan fwyaf o wal orllewinol y corff wedi mynd, ond mae i'w gweld ar ffurf poncyn. Yn y pen dwyreiniol, mae rhannau o waliau gorllewin transeptau'r gogledd a'r de wedi goroesi, yn ogystal rhan o wal ogleddol y transept gogleddol, a phoncyn isel sydd yn awgrymu llwybr wal ddeheuol transept y de.

Awgrymwyd na chwblhawyd erioed mo'r groesfan ddwyreiniol a'r gangell: mae'r gwaith ailatgyfnerthu wedi dangos gwaelod wal ar ben dwyreiniol corff yr eglwys, sydd yn waelach ei adeiladwaith na gweddill yr abaty, ac sy'n taro yn erbyn gwaelod y golofn ar gyfer y bwa croesi. Mae gwaelod rhai o'r pileri sydd yn perthyn i'r fowtio yn eiliau'r gogledd a'r de, a waliau gorllewinol y transeptau gogleddol a deheuol, wedi goroesi, ond mae'r rhan fwyaf o'r tywodfaen nadd wedi ei symud ymaith gan adael bylchau lle buont yn wreiddiol. Ar ben dwyreiniol y corff, mae gwaelod colofn ddeheuol bwa croesi'r gorllewin, a gwaelod y golofn gyfatebol lle mae eil y gogledd a thransept y gogledd yn cyfarfod, wedi goroesi. Nid oes na ffenestr na drws ar l.

Ymgymerwyd 'r arolwg newydd mewn tri cham rhwng 1997 a 2000, yn dilyn cynnydd yn y gwaith ailatgyfnerthu. Yn ystod y gwaith ailatgyfnerthu roedd lefel y llawr wedi ei gostwng yn erbyn rhannau o'r waliau, gan ddatguddio mwy o wyneb y wal, nad oedd i'w weld ym 1988. Datguddiwyd hefyd fanylion newydd am dyllau pytlog a marciau'r seiri meini. Yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau arolwg roedd rhai cerrig wedi eu disodli ac, yn anochel, roedd y gwaith ailatgyfnerthu wedi newid amlinell y gwaith craidd. Nod yr arolwg newydd, felly, oedd cofnodi'r holl fanylion newydd a darparu cofnod mewn lluniau a ffotograffau fel bod modd cymharu'r cerrig oedd ar l yn ystod y naill arolwg a'r llall.

Cynhaliwyd yr arolwg newydd gan ddefnyddio arolwg gorsaf gyfan i gofnodi cynllun o'r corff a'r transeptau, yn ogystal ag amlinelliadau o'r gwaith craidd. Yna gosodwyd targedau dros dro wrth y waliau ar grid 2m bras, a gwnaed arolwg manwl o'u safle cyn tynnu eu lluniau. Yna gwnaed arolwg ffotograffaidd yn cynnwys nifer o olygfeydd sy'n gorgyffwrdd. Yn ddiweddarach, cywiriwyd y ffotograffau gan ddefnyddio AutoCAD, fel bod modd gwneud cofnod garreg-wrth-garreg ddigidol o gerrig yr arwyneb, yn ogystal manylion y pileri a'r pytlogau.

Dulliau adeiladu

Gwnaed astudiaeth fer o'r deunyddiau adeiladu yn ystod arolwg 1988, a ddangosodd mai cwartsit caled, llwyd graen mn yw'r brif garreg a'i bod yn gyffredin i'r ardal (nid 'calchfaen caled' fel a awgrymwyd yn Radford 1982, 69). Awgrymwyd ei bod yn bosibl mai hen chwarel ger Ogof Fowler (SO 05827154), ar ben bryn i'r gogledd-ddwyrain o'r abaty, oedd ffynhonnell y deunydd adeiladu. Hefyd, ceir ambell floc o glymfaen yn cynnwys clastau cwarts mewn matrics tebyg, a gafwyd o'r un ffynhonnell mae'n debyg. Defnyddiwyd nifer fechan o lechi fel paciad yng ngherrig yr arwyneb, ac fel cyrsiau yn y cerrig craidd.

Abbey Cwmhir

Chwith: Rhan o garreg adeiladu a ddefnyddiwyd i adeiladu'r Abaty © CPAT CS97/13/28

Mae'r cerrig mowld yn y safle sydd wedi goroesi yn cynnwys tywodfaen melynfrown graen mn y dywedir ei bod yn dod o chwareli Grinshill ger Amwythig (Radford 1982, 69). Defnyddiwyd blociau tebyg o garreg nadd i lunio wynebau'r tyllau pytlog drwy graidd y waliau, sef deunydd gwastraff neu, o bosibl, ddeunyddiau a ailddefnyddiwyd o'r sefydliad blaenorol yng Nhy Faenor (cf. Radford 1982, 66).

Mae'n ymddangos bod tua 2.5-4m rhwng y tyllau pytlog, sydd tua 200mm ar draws, ac a ddefnyddiwyd mae'n debyg i gynnal y sgaffaldwaith yn ystod y gwaith adeiladu. Mae trwch y waliau rhwng 1.5-1.8m, ac mae iddynt graidd o rwbel a blociau onglog o gerrig ar yr wyneb sydd thrwch o 0.2-0.3m fel arfer. I bob golwg, mae'r wyneb wedi ei godi mewn lefelau o tua 0.5m, sydd yn cyfateb i'r haenau o gerrig nadd ar y colofnau cynnal, ac yna llenwyd ef chraidd o rwbel a blastrwyd morter. Dim ond rhannau o'r morter gwreiddiol oedd ar wyneb y waliau sydd yn dal i'w gweld yma a thraw. Yma a thraw, i bob golwg, defnyddiwyd cerrig mwy fel clymiadau rhwng y waliau mewnol ac allanol. Adnabuwyd cyfanswm o 11 o farciau seiri meini, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu naddu ar flociau tywodfaen nadd.


Haslam. R - 1982, The Buildings of Wales: Powys Penguin Books

Jones, N W - 2000, Abbeycwmhir: re-survey of the ruins CPAT report no. 225.2

Radford, C A R - 1982, The Cistercian Abbey of Cwmhir, Radnorshire Archaeologia Cambrensis 131, 58-76.