CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Meysydd Awyr Milwrol Rhaglen Gwella Rhestru


Nod y prosiect oedd deall arwyddocd y tri maes awyr yn y rhanbarth (RAF Penarlg, RAF Sealand ac RAF Wrecsam) a nodir elfennau sydd ar l syn cynrychiolir arwyddocd hwnnw ac sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol. Fe ddechreuodd pob blwyddyn ag asesiad pen-bwrdd, ac yna cafwyd ymweliadau maes i geisio nodi unrhyw elfennau a oedd yn goroesi ar y tir. Yn y flwyddyn gyntaf, canolbwyntiwyd y gwaith ar y meysydd hedfan au hadeiladau hyfforddi, eu hadeiladau storio, eu hadeiladau technegol au hadeiladau gweinyddol cysylltiedig, sef craidd pob maes awyr. Yn yr ail flwyddyn, yr amrywiaeth o safleoedd a strwythurau a adeiladwyd yn y dirwedd ou hamgylch oedd y canolbwynt; er enghraifft caerau tanddaearol, strwythurau ffug i ddenu bomiau, llety a safleoedd cyffredin, ardaloedd gwasgaru awyrennau, cymhorthion glanio awyrennau a chyfleusterau awyrlywio a chyfathrebu radio.

Mae gwybodaeth a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect wedii bwydo i mewn ir Cofnod rhanbarthol or Amgylchedd Hanesyddol i ddarparu sail ar gyfer rheoli treftadaeth a rheoli datblygu, ac i gyfrannu at ein dealltwriaeth o natur derfysglyd yr 20fed ganrif.

 CPAT

Sied awyrennau o fath K yng nghyn RAF Penarlg. Llun 3391-0046, CPAT

RAF Penarlg

Glanfa wrth gefn oedd RAF Penarlg yn wreiddiol, ar gyfer RAF Sealand gerllaw, a defnyddiwyd ef ar gyfer Uned Cynnal a Chadw a nifer o Unedau Hyfforddiant Gweithredol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Caewyd yr orsaf RAF ym 1959, er y parhawyd i ddefnyddior maes awyr ar gyfer hedfan sifil a gan y ffatri awyrennau gyfagos a ddaeth, maes o law, yn rhan o Airbus

Datblygwyd RAF Penarlg pan ddaeth yn amlwg bod rhyfel yn anochel. Codwyd yr adeiladaun gyflym, y mwyafrif ohonyn nhw ar yr un pryd, r bwriad ou defnyddio hyd ddiwedd y rhyfel yn unig. Yng nghanol y maes awyr oedd y maes hedfan, yn cynnwys 3 rhedfa goncrit. Wediu gwasgaru o amgylch tu allan trac y perimedr oedd 5 safle ar wahn yn cynnwys mwy na 480 o adeiladau a strwythurau a fyddai wedi darparu llety, cyfleusterau gweinyddol a chyfleusterau hyfforddi yn ogystal siediau awyrennau ac adeiladau technegol eraill.

 CPAT

Bloc ymolchi cyn RAF Penarlg. Llun 3391-0058, CPAT

Yn ystod yr ymweliadau maes, nodwyd mai dim ond 30 o adeiladau oedd wedi goroesi ond roedd nifer or rhain, er enghraifft mathau penodol o siediau awyrennau ac adeiladau hyfforddi, yn cynrychiolin gryf yr hyn roedd y maes awyr yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer gynt, sef at ddibenion cynnal a chadw a hyfforddi. Er bod rhai or safleoedd wediu clirio neu eu datblygu fel stadau diwydiannol, mae cadwr maes awyr a 3 or safleoedd at ddibenion hedfan wedi chwarae rhan bwysig mewn sicrhau bod siediau awyrennau ac adeiladau fel y twr rheoli, yn ogystal r rhedfeydd a seilweithiau eraill, wedi goroesi. Darparwyd cyfran deg o gaerau tanddaearol ac amddiffynfeydd eraill yn RAF Penarlg, ac adnabuwyd 10 or rhain yn ystod yr astudiaeth ben-bwrdd, ond nid ywr rhain wedi sefyll prawf amser yn dda, gan ildio i waith ehangu ffatri Airbus, stadau diwydiannol, ffyrdd a datblygiadau siopau a thai yn y gornel hon o Gymru syn ddwys ei phoblogaeth.

Yr elfennau syn diffinio RAF Penarlg yw ei ardaloedd gwasgaru awyrennau, sef caeau o amgylch y maes awyr lle gellid storio awyrennau a gweithio arnyn nhw i ffwrdd or maes awyr prysur ac agored i fomio. Er i ymweliadau maes gadarnhau bod yr olion mwyaf ffisegol wedi diflannu, roedd traciau a 3 neu 4 o loriau caled crwn iw gweld ar ffurf ardaloedd ar lefel uwch yng nghyn ardal gwasgaru awyrennau Fferm Manor Hall. Nodwyd hefyd sylfaen sied cynnal a chadw awyrennau.

Adran ogledd-ddwyreiniol Ystafell Fwytar Swyddogion ywr unig ran o safle domestig y Swyddogion sydd wedi goroesi, a oedd yn wreiddiol yn cynnwys 34 o adeiladau a strwythurau. Yng nghyn safle WAAF, mae sylfeini concrit adeiladau ac waliau cynnal o frics yn goroesi ar blatfformau sydd wediu lefelu. Yr unig bethau eraill sydd wedi goroesi yw setiau o 2-3 o risiaun cysylltu adrannau o lwybrau concrit, dau gysgodfan Stanton a gweithfeydd trin carthion sydd fwy neu lai yn gyfan.

RFC Shotwick/RAF Sealand

 CPAT

Twr dwr yng nghyn Wersyll y Dwyrain, RAF Sealand. Llun 3391-0094, CPAT

Mae gwreiddiau RAF Sealand ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae yna nifer o gyfnodau iw ddatblygiad ir hyn yr ydyw heddiw, ac adlewyrchir hyn yn y gwahanol arddulliau o bensaernaeth maes awyr. I gychwyn roedd yna ddwy orsaf gyfagos or enw Shotwick a Queensferry, ac yna daeth y saflen RAF Sealand ym 1924 ac roedd yn ganolfan sylweddol ar gyfer hyfforddi, cynnal a chadw a storio. Dim ond rhan or hen faes awyr syn dal i fod dan reolaeth swyddogol, gan fod y gweddill naill ai wedii ailddatblygu neu ei ailddefnyddio ar gyfer safleoedd busnes

Un nodwedd allweddol syn awgrymu pwysigrwydd a hirhoedledd RAF Sealand ywr ffaith bod adeiladau o bob cyfnod oi ddatblygiad wedi goroesi; 100 adeilad allan o fwy na 280 a adeiladwyd ar draws 3 safle. Yn arbennig o anarferol ywr ffaith bod nifer o adeiladau o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi goroesi. Maer blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd hefyd wediu hadlewyrchun dda grwp o adeiladaun dyddio or 1920au ar 1930au; dim ond un arddull pensaernol sydd iw weld ym mhob un or adeiladau yng Ngwersyll y Dwyrain, a ychwanegwyd ym 1937

Maer caerau tanddaearol a adeiladwyd i amddiffyn RAF Sealand wedi goroesin eithaf da. Mae cynlluniaur rhain yn amrywio, gan gynnwys enghraifft o un a adeiladwyd mewn coetir y newidiwyd ei gynllun i ganiatu lle ar gyfer coeden gyfagos.

Mae yna strwythur unigryw wedii adeiladu i mewn i glawdd amddiffyn rhag llifogydd ar ochr orllewinol Gwersyll y De, a derbynnir yn gyffredinol mai Pencadlys Brwydro RAF Sealand yw hwn (sef daeardy y gellid ei ddefnyddio i gydlynu amddiffyn y maes awyr pe bai rhywun yn ymosod arnyn nhw). Yn wreiddiol, roedd yn cynnwys 4 ystafell choridorau cul yn eu cysylltu i gilydd ond nid ywn cydymffurfio ag unrhyw gynlluniau swyddogol ac maen gymhleth ei ddehongli oherwydd bod ei 2 ystafell wyliadwriaeth wedi dymchwel.

Nodwedd ddiddorol arall o RAF Sealand yw cyfleuster i ganiatu symud awyrennaun ddiogel ar draws y rheilffordd rhwng Gwersylloedd y Gogledd ar De. Mae adrannau o darmac wedi goroesi ir gogledd ar de o linell yr hen reilffordd ac mae yna hefyd olion atalfeydd croesi, i atal gwrthdrawiadau damweiniol threnau a oedd yn dod trwodd. Yn Mancot Royal, ir de or maes awyr, mae lletyau gwasgaredig pobl briod, syn dyddio o gyfnod cyn 1927, yn dal i gael eu defnyddio fel cartrefi.

RAF Wrecsam

Dechreuodd RAF Wrecsam ym 1917-20 fel safle hyfforddi ar gyfer y gorsafoedd yn Shotwick a Hooton Park. Yn ystod misoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd, cafwyd un cyfnod o adeiladu helaeth mewn arddull dros dro tebyg i arddull RAF Penarlg, a defnyddiwyd yr orsaf am gyfnod byr fel gorsaf awyrennau ymladd cyn ei defnyddio am y rhan fwyaf or rhyfel ar gyfer hyfforddi ac at ddibenion cydweithredu gwrthawyrennol. Roedd cynllun cyffredinol y maes awyr yn cynnwys tair rhedfa a thrac o amgylch y perimedr. Roedd grwp mawr o adeiladau ar ochr ogledd-orllewinol y maes awyr, y tu hwnt i drac y perimedr, yn ffurfior prif safle hyfforddi a safle technegol. Defnyddiwyd ochrau deheuol a dwyreiniol y maes awyr i wasgaru awyrennau ac ar gyfer nifer o amddiffynfeydd ffrwydriad i amddiffyn awyrennau pan nad oedden nhwn hedfan, ac adeiladwyd siediau awyrennau syml yno gan adlewyrchur ffaith bod awyrennau ymladd wedi ei ddefnyddion wreiddiol.

 CPAT

Y daeardy rheoli ar gyfer safler strwythur Q ffug i ddenu bomiau i ffwrdd o RAF Wrecsam ar Fynydd Rhiwabon. Llun 3601-0050, CPAT

Gwerthwyd y safle ym 1959 a daeth yn chwarel, ac maer rhan fwyaf or maes awyr wedi diflannu. Dim ond ar yr ochr ddwyreiniol y ceir unrhyw olion strwythuraur maes awyr, lle gellir gweld 9 wedi goroesi; mae un or rhain, sef sied awyrennau, yn dystiolaeth or ffaith y defnyddiwyd y tir ar gyfer gweithrediad awyrennau ar un adeg.

Mae RAF Wrecsam braidd yn wahanol ir ddau faes awyr arall gan fod haneswyr lleol, Derek Pratt a Mike Grant, wedi ymchwilion drylwyr iddo. Diolch iw gwaith nhw, mae gennym feincnod iw ddefnyddio i fesur y mathau o strwythurau y gellid disgwyl iddyn nhw fod wedi sefyll unwaith yng nghyffiniaur 2 faes awyr arall, er bod chwarelu am dywod a gro ar l y rhyfel wedi cael gwared llawer or maes awyr ac wedi cael gwared llawer or nodweddion hyn gydag ef.

Maen debyg bod amddiffynfeydd RAF Wrecsam wediu trefnun dair ardal amddiffynedig yn cynnwys grwpiau o gaerau tanddaearol wediu rhyng-gysylltu nodweddion amddiffyn eraill, mewn cyferbyniad r amddiffynfeydd cylchol yn y 2 faes awyr arall, a adeiladwyd ychydig yn gynt. Y gred yw bod y Pencadlys Brwydro hefyd wedi goroesi, er ei fod wedii gladdu. Or strwythurau eraill a oedd yn yr ardaloedd amddiffynedig yn wreiddiol (9 caer danddaearol, 5 caer danddaearol ragsaernol, 5 rhych gwylan y mr a 7 llwyfan magnel gwrthawyrennol), dim ond un caer danddaearol a rhych gwylan y mr sydd wedi goroesi hyd ag y gwyddom, er ei bod yn bosibl bod eraill wediu cuddio o dan wastraff chwarelu.

Roedd y brif orsaf radio VHF/HF ar mast wediu lleoli ir gogledd-orllewin o Ffordd Borras, ac er bod y mast wedii golli, mae llety staff a oedd yn gysylltiedig ag ef, ar adeiladau cyflenwad pwer wrth gefn, wedi goroesi i ryw raddau. Y gred hefyd yw bod un or 2 adeilad cyfeirleoli, a oedd yn hanfodol wrth lywio awyrennau a oedd wedi mynd ar goll mewn tywydd garw, wedi goroesi ar y maes golff ir de or maes awyr.

Wyr hyn syn gwneud RAF Wrecsam yn arbennig o ddiddorol yw bod olion safle ei strwythur Q ffug i ddenu bomiau i ffwrdd ohono yn y nos wedi goroesi ar Fynydd Rhiwabon, rhyw 10km ir gorllewin-de-orllewin. Maer daeardy rheolin goroesin gymharol gyfan, yn cynnwys dwy brif ystafell, y naill ar gyfer rheoli goleuadau yn wreiddiol ar llall ar gyfer storior cyflenwad pwer.

Lawrlwyddo adroddiad y prosiect Meysydd Awyr.

Lawrlwyddo adroddiad y prosiect Safleoedd a strwythurau yn y dirwedd o amgylch y Meysydd Awyr.


Preifatrwydd a chwcis