CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau
The Neolithic Chambered Tombs of Breconshire

Canllaw i Feddrodau Siambr Neolithig Sir Frycheiniog


© CPAT 3393-0078

Ar y dde: Y beddrod siambr yn Nhy Illtud © CPAT 3393-0078

Mae beddrodau siambr Neolithig i’w cael ledled Ewrop ac maent ymhlith y strwythurau hynaf o waith dyn sy’n goroesi, wedi’u hadeiladu fel lleoedd claddu cymunol y ffermwyr cynharaf. Mae beddrodau o’r dyddiad hwn yn hysbys ledled Cymru, er bod gan Sir Frycheiniog grynodiad anarferol yn ne?ddwyrain y sir, ar lethrau isaf y Mynydd Du a’r llethrau sy’n tremio dros ddyffrynnoedd afon Gwy ac afon Wysg.

Daw pob un o safleoedd Sir Frycheiniog o fewn dosbarth y cyfeirir ato’n gyffredinol fel ‘Beddrodau Hafren-Cotswold’; dyma’r enw arnynt oherwydd eu bod wedi’u dosbarthu’n bennaf o amgylch aber afon Hafren, yn ne-ddwyrain Cymru, y Cotwolds, a rhannau o Wlad yr Haf, Wiltshire a Berkshire. Carneddau claddu trapesoid o gerrig yw beddrodau siambr Hafren-Cotswold, ac mae eu maint yn amrywio'n fawr, o 15m o hyd yn unig i fwy na 50m o hyd. Mae’r cynllun sylfaenol yn cynnwys un siambr neu fwy wedi’u hadeiladu o slabiau mawr ar eu sefyll a chapfaen ar eu pen. Roedd yna goridorau i fynd i mewn i’r rhain ac mae’n bosibl y defnyddiwyd slabiau ar eu sefyll hefyd ar gyfer y coridorau hyn, ynghyd â waliau cerrig sych. Roedd y rhain yn caniatáu mynd a dod i’r siambrau yn ystod oes y beddrod, ac mae’n bosibl iddynt gael eu blocio a’u dadflocio sawl tro.

Roedd y siambrau wedi’u claddu o dan domen o gerrig, gyda waliau cynnal o gerrig sych, a oedd yn cadw deunydd y garnedd yn ei le, yn ei diffinio. Ar ben lletaf y beddrod, mae'r waliau'n troi ar i mewn i lunio cwrt blaen a ddefnyddiwyd, o bosibl, ar gyfer seremonïau a defodau. Yn aml, roedd slab mawr ar ei sefyll, neu borth ffug, yn blocio’r cwrt blaen, gan roi argraff o’r siambr y tu hwnt.

Er bod mwyafrif y beddrodau siambr sydd wedi'u cloddio, i bob golwg, wedi’u hadeiladu mewn un cyfnod, mae'n ymddangos bod yna rai sy'n ymgorffori carnedd gron gynharach, fel yn Nhy Isaf ac, fel yn achos y garnedd yn Pipton, rhai sydd wedi’u hymestyn ar ôl eu hadeiladu gyntaf. Mae’r gwaith cloddio ym Mhenywyrlod Talgarth a Gwernvale wedi cynhyrchu dyddiadau o tua 3,900 cal. CC, sy’n awgrymu eu bod ymhlith yr enghreifftiau cynharaf o’r math hwn o feddrod ym Mhrydain i gyd.

Ystyrir y beddrodau’n aml fel ‘tai’r meirw’ a ddefnyddiwyd dros gyfnod maith, gyda’r siambrau’n cael eu selio a’u hailselio sawl tro. Er y gellir rhagdybio y byddent wedi’u ddefnyddio ar gyfer seremonïau a defodau weithiau, mae’r dystiolaeth sydd wedi’i chloddio i gefnogi hyn yn brin, gyda’r mwyafrif o safleoedd yn cynhyrchu nifer fach o wrthrychau'n unig, gydag ambell lestr crochenwaith ac ychydig o offer cerrig yn dod i’r amlwg. Y gred yn aml yw bod yna rywfaint o arwyddocâd i aliniad henebion cynhanesyddol, ac er y gallai hyn fod yn wir, yr unig nodwedd sy’n gyffredin i feddrodau Sir Frycheiniog yw bod pob un ohonynt wedi’i leoli tuag at hanner dwyreiniol y gorwel, ond heb unrhyw berthynas amlwg â lleoliad yr haul unrhyw adeg benodol o'r flwyddyn.

Mynediad

Mae’n ffaith trist mai dim ond pedwar o’r beddrodau siambr sydd ag unrhyw fynediad cyhoeddus ffurfiol: Gwernvale, Mynydd Troed, Penywyrlod Talgarth a Phenywyrlod Llanigon. Ond gellir ceisio caniatâd tirfeddianwyr perthnasol y safleoedd sy’n weddill, a darperir gwybodaeth ar gyfer pob un o’r beddrodau. Heblaw am Gwernvale, mae’r safleoedd oll ar ffermdir, a dylai ymwelwyr ddilyn y Cod Cefn Gwlad:

  • Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch giatiau ac eiddo yn eu cyflwr gwreiddiol
  • Diogelwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref
  • Cadwch gwn dan reolaeth ofalus
  • Byddwch yn ystyrlon o bobl eraill

Cliciwch yma i lawrlwytho copi PDF o’r canllaw