CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Cylch cerrig Cerrig Bwlch y Fedw


 CPAT 3331-0001

Ymgymerwyd rhaglen gwaith cloddio arbrofol ac arolwg manwl ar safle cylch cerrig bach yng Ngherrig Bwlch y Fedw, ger Llandrillo yn ne Sir Ddinbych, a ariannwyd gan Cadw. Mae dyffryn afon Dyfrdwy yng nghyffiniau Llandrillo, ar ucheldir o amgylch, yn cynnwys crynodiad anarferol o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, gan gynnwys y cylch cerrig ym Moel Ty?uchaf (SJ 0578 3726), tua 2km ir dwyrain or pentref.

Ar y dde: Cylch cerrig bach yng Ngherrig Bwlch y Fedw CPAT 3331-0001

Gwnaeth Ken Brassil o CPAT ddarganfod ail gylch cerrig bach (SJ 0589 3615) ar ddiwedd yr 1980au, tua 1km ir de-de-ddwyrain o Foel Ty?uchaf. Maer cylch cerrig ar uchder o 525m OD ar ochr ogledd-ddwyreiniol Bwlch y Fedw, sef bwlch bach rhwng Trum y Wern a Moel Pearce sydd, gydai gilydd, yn llunio esgair syn ymestyn ir gogledd-orllewin o grib y Berwyn.

Dangosodd yr arolwg ar gwaith cloddio ei bod yn bosibl bod yna wyth carreg yn y cylch cerrig bach yn wreiddiol; or rhain, dim ond pump oedd yn dal i fod ar eu sefyll, pob un ohonynt yn gadarn. Maer cerrig syn weddill yn cynnwys dau slab mawr ar eu gorwedd ar yr ochr ddeheuol a dwy garreg lai ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol, sef un slab wedi torrin ddau o bosibl. Maen ymddangos mai ceunant syn gyfrifol am y difrod ir cylch cerrig, gan hollti hanner dwyreiniol y cylch or de ir gogledd; maen bosibl y cloddiwyd hwn yn fwriadol fel draen.

 CPAT 2012, photo 3331-0041

Ar y dde: Yn cofnodi rhan or cylch cerrig CPAT 3331-0041.

Tua 5.1m yw diamedr y cylch, er nad ywr cerrig wediu gosod yn union ar y cylchedd, ac nid ywr pellter rhyngddynt yn gyfartal. Ar yr ochr orllewinol, sydd yn y cyflwr gorau, mae cerrig 2, 3 a 4 wediu gosod bob yn 1.8m fwy neu lai, ond maer pellter rhwng cerrig 1 a 2 yn sylweddol fwy, ar 2.5m. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth y bu carreg arall rhwng y ddwy garreg a bod y garreg honno wedii cholli, felly maen bosibl mai mynedfar cylch oedd hwn. Mae lleoliad carreg 5, sydd ar ei gorwedd, yn awgrymu iddi gwympo ir gogledd ai bod hefyd wedii gosod ar bellter o rhwng 1.8m a 2m o garreg 4. Nid yw lleoliad gwreiddiol carreg 6 yn sicr, er bod y pellter rhwng cerrig 5 a 7 yn awgrymu ei bod yn bosibl iddi gael ei gosod tua 1.8m or naill garreg ar llall. Yn yr un modd, nid ywn bosibl penderfynu ar leoliad y garreg olaf, er bod y bwlch rhwng cerrig 1 a 7 eton awgrymu y gallai fod wedii lleoli rhwng 1.8m a 2.0m or naill garreg ar llall.

Or cerrig syn dal i fod ar eu sefyll, carreg 1 ywr fwyaf, gyda 0.85m ohoni uwchben y tywyrch. Er bod carreg 5 yn mesur 1.05m o hyd, maen annhebygol y byddai wedi bod yn dalach na charreg 1 ar l ei gosod yn gadarn yn y ddaear. Maen bosibl bod lleoliad y cerrig hyn yn arwyddocaol, gyda charreg 1 ar yr ochr ogleddol a charreg 5 ar yr ochr ddeheuol. Yn wir, maer olygfa or canol dros garreg 1 yn arwain yn uniongyrchol i bwynt uchaf Moel Ty?uchaf, er bod hwn 200m ir gogledd-ddwyrain or cylch cerrig or un enw.

plan

Ar y chwith: Cynllun or cylch cerrig

Nid ywn ymddangos bod unrhyw rai or cerrig wediu chwarelu neu eu gweithion fwriadol, syn awgrymu i adeiladwyr y cylch cerrig ddefnyddio unrhyw gerrig a oedd o fewn cyrraedd rhwydd. Maen bur debyg mai cyfres o frigiadau creigiog tua 120m ir gorllewin-de-orllewin, lle mae yna nifer o flociau rhydd o garreg, oedd y ffynhonnell.