CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai prosiectau

Arolwg Arfordirol Clwyd


Treftadaeth Arfordirol Cymru

Mae arfordir trawiadol Cymru wedi bod yn denu ymsefydlwyr am filoedd o flynyddoedd - o helwyr-gasglwyr cynhanesyddol i ddiwydianwyr oes Victoria - gan adael eu marc annileadwy ar yr arfordir. Ond mae'r dystyiolaeth yn aml yn fregus a dylid adlewyrchu diogelu a chadw ein hamgylchedd hanesyddol mewn polis´au a gweithredoedd cyrff preifat, cyhoeddus, lleol a chenedlaethol.

CS96/16/20

De: Drylliad Môr-lestr arfordirol. Mae'r olygfa hon yn dangos drylliad llestr arfordirol o'r 20fed ganrif a wnaed o goed ac a gofrestrwyd yn Peterhead, Yr Alban. Erbyn hyn mae'n gorwedd ar y tir yn ymyl glanfa bren fawr ar lan ogledd-ddwyreiniol yr Afon Dyfrdwy, wrth Bont Penarlâg, ger gwaith dur Shotton. © CPAT CS96/16/20

I helpu ein dealltwriaeth rhoddodd Cadw: Welsh Historic Monuments (gyda chefnogaeth y Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru), arian i'r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru i gwblhau arolwg archaeolegol brys o holl arfordir Cymru.

Amcanion ac Ardaloedd Astudio

Nod yr arolwg oedd adnabod bygythiadau fel erydiad arfordirol, datblygiad diwydiannol, tai a phwysau oddi wrth y nifer gynyddol o ymwelwyr. Canolbwyntiodd yr arolwg ar y parth rhynglanwol (rhwng penllanw a distyll) a rhimyn o dir yn ymestyn am tua 150m i mewn i'r tir, yn ogystal â rhannau isaf y prif aberoedd. Astudiwyd cofnodion cynnar, mapiau a dogfennau eraill ac yna gwnaed arolwg maes brys, a gyflawnwyd trwy gerdded yr arfordir cyfan i ymweld â safleoedd ac adnabod nodweddion ychwanegol.

Ynghylch y Rhimyn Arfordirol

Mae'r rhannau o arfordir Cymru a astudiwyd gan CPAT wedi wynebu llawer o newidiadau ac maent yn amrywiol iawn. Ers Oes yr Iâ ddiwethaf mae lefel y môr yn gyffredinol wedi codi ryw 60 metr, gan foddi gwastatiroedd a dyffrynnoedd isel. Fodd bynnag, mae gwaith adennill diweddarach a dyddodiadau naturiol wedi gwthio'r môr yn ôl mewn mannau, sawl milltir weithiau, gan greu dilyniant cymhleth o ddyddodiadau a nodweddion archaeolegol a gladdwyd. Trwy astudio gofalus, arolygon maes, samplau craidd a chloddio mannau agored, mae'n bosibl adnabod y newidiadau hyn, er y gall y safleoedd archaeolegol eu hunain edrych yn rhyfedd allan o'u cyd-destun i ni heddiw.

Mae arfordir Môr Iwerddon yn cynnwys yn bennaf bentiroedd creigiog, traethau tywodlyd a thwyni tywod, mornentydd gydag aberoedd bychain a phorthladdoedd. Yr hyn sy'n nodweddu aber yr Afon Dyfrdwy ar y llaw arall yw traethellau lleidiog eang, halwyndiroedd a chorsydd (ac mae rhan ohoni'n warchodfa natur forol) a nifer o borthladdoedd bychain. Ond i fyny'r afon o Gei Connah, cyn belled â Chaer, mae'r afon wedi ei chamlesu ac mae'n llifo drwy dir isel a adenilliwyd. I mewn i'r tir o'r rhimyn hwn o dir arfordirol mae cyfoeth o drefi bychain a phentrefi, datblygiadau gwyliau a pharciau carafanau, tir diwydiannol a ddefnyddir neu a adawyd, adeiladau adfeiliedig, tir ffermio a thir diffaith - clytwaith o aneddiadau, diwydiant, amaethyddiaeth a natur.

Archaeoleg a'r Amgylchedd Naturiol

Daw'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol ar yr arfordir o dros 70 o wrthrychau cynhanesyddol yr honnir iddynt gael eu darganfod yn y mawnogydd a'r clai aberol ar flaen traeth Y Rhyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y fatog corn carw a ddyddiwyd bellach i 6,550 o flynyddoedd yn ôl.

Olion yw'r mawnogydd a'r cleiau hyn o dirwedd hynach o lawer a gladdwyd gan ddyddodiadau diweddarach a adawyd dros y milenia ac a foddwyd gan y môr wrth i'r lefel godi. Dan ein traed, ac allan dan y tonnau, mae tirwedd a foddwyd sy'n cynnwys safleoedd a darganfyddiadau cynhanesyddol posibl sy'n dyddio o Oes yr Iâ ddiwethaf, neu'n fuan ar ôl hynny, hyd at gyfnod y ffermwyr cyntaf, 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae naddion fflint, darnau o asgwrn ac arfau corn carw, olion bwyd, bonion coed a hyd yn oed peilliau a thrychfilod a ddaliwyd yn y dyddodiadau yn medru dweud llawer wrthym am yr amgylchedd cynhanesyddol coll hwn. Y pwynt yw nad yw archaeoleg i'w chael lle byddech yn ei disgwyl bob amser, ac nid yw'n ymwneud bob amser â 'chofadeiliau' fel cestyll, cylchoedd cerrig a chladdfeydd!

Pysgota, Masnach Arfordiol, Goleudai a Drylliadau

CS95/60/12

Chwith: Goleudy a Chaer Danddaearol Y Parlwr Du. Codwyd y goleudy hwn ym 1776 ar bileri a yrrwyd i'r tywod. Yn y blaendir mae caer danddaearol, goncrit o'r Ail Ryfel Byd - a symudwyd mae'n amlwg - ac ynddi chwe thwll gynnau ac yn wreiddiol roedd ganddi do crwm o friciau a gollwyd erbyn hyn. © CPAT CS95/60/12

Fel y buasech yn disgwyl efallai, mae pysgota, cychod a phorthladdoedd wedi chwarae rhan amlwg ym mywydau pobl yr arfordir erioed. Ond yn hyn sy'n siomi yw nad ydy glanio cychod bychain a chyfarpar pysgota byrhoedlog yn gadael llawer o dystiolaeth yn y cofnod archaeolegol er bod gwaith porthladdoedd diweddarach, mwy sylweddol yn gadael mwy o dystiolaeth.

Darganfu'r arolwg dystiolaeth o bysgota canoloesol ar ffurf dwy gored garreg a phren sylweddol, neu 'goradau', a farciwyd â cherrig a pholion ar y traeth yn Rhos-on-Sea. Roedd y rhain yn nodweddion cyffredin ar arfordir gogledd Cymru ar un adeg, ac roeddent yn gweithio trwy ddal pysgod mewn pyllau artiffisial wrth i'r llanw droi. Darganfuwyd tystiolaeth hynod o ddefnydd cynharach byth o adnoddau'r arfordir ar ffurf tomenni cregyn (sef pentyrau o gresgyn gwastraff) Mesolithig (6,000 o flynyddoedd oed), a gafwyd bellter o'r môr ger Prestatyn.

Mae digon o dystiolaeth o byrth a cheioedd fel y rhai a ddatblygodd ym mhorthladd Foryd ar arfordir Môr Iwerddon, a Phorthladd Talacre a Dociau Mostyn yn rhannau isaf aber yr Afon Dyfrdwy. Codwyd llawer o'r datblygiadau hyn o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn wreiddiol i wasanaethu'r gweithfeydd haearn, y gweithfeydd dur a'r pyllau glo gerllaw, a'r diwydiannau plwm lleol hefyd, gan gynnwys y rhai yn Y Parlwr Du, Llys Bedydd, Llannerch-y-môr, Maes-Glas, Bagillt a'r Fflint. Ymhellach i fyny'r Afon Dyfrdwy, ar forfeydd heli a adenillwyd, codwyd llawer o lanfeydd a phontydd glanio i wasanaethu diwydiannau penodol yng Nghei Connah, Y Fferi Isaf, Cei Aston a Chei Sandycroft. Yn wir, mae'n ymddangos bod bron pob mornant ar hyd yr Afon Dyfrdwy wedi cael ei ddefnyddio fel Cei, er bod y rhan fwyaf wedi eu siltio erbyn hyn ac nid ydynt yn cael eu defnyddio. Dociau Mostyn yw'r unig un sy'n cael ei defnyddio o hyd fel porthladd o bwys.

Er nad oes olion gweladwy ohonynt, awgrymwyd bod porthladdoedd Rhufeinig ger Prestatyn a'r Fflint a oedd yn gwasanaethu safleoedd diwydiannol ac aneddiadau hysbys yno. Mae bron yn sicr fod rhyw fath o borthladd yn y Fflint yn ystod y canol oesoedd ac fe'i crewyd o bosib wrth godi'r castell yn ystod y 13eg ganrif, ac yn ddiweddarach bu'n gwasanaethu'r dref,

CS96/16/32

De: Cei Y Fflint. Mae'r hen gei hwn yn gorwedd ar un o fornentydd Aber yr Afon Dyfrdwy. Gellir gweld nifer o ddarnau o bren ar hyd ochr ogledd-orllewinol y mornant, gan gynnwys olion hwlc pren drylliedig yn y mwd. Mae'r rhan fwyaf o'r llong wedi ei chladdu bellach a dim ond peth o'r pren a'r mast yn ymwthio o ochr orllewinol y doc. © CPAT CS96/16/32

Ymhlith y nodweddion arforol eraill a gofnodwyd yn yr arolwg ceir Goleudy'r Parlwr Du a llithrfa bad achub, a'r gorsafoedd bad achub yng Ngronant a Llanddulas.

Cofnodwyd cyfanswm o naw safle drylliad ac mae wyth ohonynt yn dal yn weladwy ac mae'n debyg mai llongau arfordirol neu gychod o ddiwedd y 19fed ganrif neu ddechrau'r 20fed ganrif ydynt i gyd. O fewn Porthladd y Foryd ger Y Rhyl canfuwyd o leiaf tri drylliad ac roedd nifer o ddrylliadau eraill i fyny'r Afon Dyfrdwy.

Aneddiadau ac Addoli

Mae'r rhan fwyaf o'r aneddiadau ar hyd yr arfordir y tu allan i ardal yr astudiaeth hon - ac mae'r rhai sydd oddi mewn iddi'n ddatblygiadau modern sydd â chysylltiadau â gwyliau'n bennaf, fel parciau carafanau a phentrefi siale. Mae tystiolaeth o aneddiadau cynharach un ai'n brin neu mae wedi ei distrywio gan newidiadau diweddarach. Ond un peth cyffrous yw bod nifer o ddarnau arian Rhufeinig wedi eu darganfod yn Y Rhyl, sy'n awgrymu efallai bod anheddiad gerllaw.

Yn yr un modd, yr unig le addoli a nodwyd o fewn ardal yr astudiaeth oedd Capel St Trillo yn Rhos-on-Sea. Adeilad bychan ag un gell ydyw a wnaed o gerrig mawr ac mae'n dyddio rywle rhwng y 6ed ganrif a'r 16eg ganrif OC, ac mae'n bosibl ei fod wedi ei godi'n wreiddiol i bwrpasau eraill.

Diogelu'r Arfordir a Ffermio

Mae morfeydd heli a adenillwyd a'r modd y diogelwyd hwy wedyn rhag y môr wedi effeithio'n fawr ar natur llawer o'r arfordir. Mae hyn yn arbennig o wir o gwmpas Abergele, Tywyn a Phrestatyn ar Fôr Iwerddon a rhannau uchaf Aber yr Afon Dyfrdwy i gyd. Mae llawer o'r gwrthgloddiau a godwyd i'r diben hwn yn dal i fod, ac mae rhai ohonynt yn dal i gael eu defnyddio fel amddiffynfa arfordirol. O'r 19 nod terfyn a gofnodwyd o eiddo River Dee Company y 18fed ganrif, ni wyddid ond am dri ohonynt a oedd yn dal i fodoli. Oherwydd yr arolwg, adnabuwyd dau arall yng Nghei Connah.

Pan nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludiant, porthladdoedd neu ddiwydiant, tir ffermio yw llawer o'r tir isel - tir pori i wartheg a defaid neu weunydd ar gyfer porthiant, neu fe'i defnyddir ar gyfer garddwriaeth.

Pontydd, Ffer´au a Thrafnidiaeth Tir

Tan yn hwyr yn y 19eg ganrif roedd y man pontio isaf ar draws yr Afon Dyfrdwy yng Nghaer ac roedd gwasanaeth ffer´au'n croesi'n is i lawr yn Higher King's Ferry ac Y Fferi Isaf (sef Lower King's Ferry gynt). Lleolwyd y ffer´au hyn yn ymyl rhydau a oedd yn bod cyn i'r afon gael ei chamlasu ym 1737. Heddiw mae'r ffer´au wedi mynd hefyd a daeth pontydd ffyrdd a rheilffyrdd modern i'w lle.

Milwrol

Mae castell canoloesol Y Fflint, a gychwynnwyd ym 1277, yn adnabyddus iawn wrth gwrs, ond ychydig o dystiolaeth arall sydd o weithgarwch milwrol ar hyd yr arfordir, fel safleoedd Rhufeinig, er nad oes amheuaeth eu bod yno ar un adeg. Fodd bynnag, amlygwyd olion gweithgarwch milwrol mwy diweddar gan yr arolwg, fel y 'caerau tanddaearol' o'r Ail Ryfel Byd (adeiladau amddiffynnol gwrth-ymosodiad) sydd yn awr yn cael eu cuddio gan dywod traeth Y Parlwr Du ac sydd â thyfiant drostynt ar hyd glannau'r Afon Dyfrwy yn Nociau Mostyn, Cei Connah a Sandycroft. Defnyddid traeth Y Parlwr Du hefyd fel maes hyfforddiant milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel y gellir gweld o'r polion amddiffyn gwrth-gleider.

Yn gynharach yn y ganrif hon, codwyd ffatri cotwm nitrig sylweddol yn Y Fferi Isaf, a pharheid i'w defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel diweddarach hwn, sefydlwyd ffatri arfau hefyd ymhellach i fyny'r afon yn Sandycroft.

Diwydiant

Mae'r safleoedd diwydiannol mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â'r diwydiannau cloddio yn y gefnwlad arfordirol, sef plwm a glo. Roedd gweithfeydd plwm ym Magillt, Llannerch-y-môr a'r Fflint, a phyllau glo yn Y Parlwr Du, Mostyn, Hanmer a Llys Bedydd, gweithfeydd haearn yn Narwen a Mostyn, a gwaith dur anferth yn Shotton - pob un â'i geioedd. Datblygodd gweithfeydd alcali ym Mhrestatyn a'r Fflint a lleolwyd ffowndr´au ar hyd glan orllewinol yr Afon Clwyd ger Rhuddlan, yn ogystal â thanerdy. Cyn hynny, roedd gweithfeydd plwm Rhufeinig ger Y Fflint, fel a ddywedwyd eisoes.

CS96/01/02

Chwith: Maen Terfyn Ffynnongroyw. Un o'r ychydig sydd wedi goroesi o gyfres o nodau ar hyd Aber yr Afon Dyfrdwy sy'n dangos ffin llein-ddaliad y River Dee Company. Ar yr ochr sy'n wynebu'r môr, ysgythrwyd ar y garreg y llythrennau RDC a'r flwyddyn 1785, ac mae llythrennau eraill, NH o bosibl, uwchben y dyddiad.. © CPAT CS96/01/02

Casgliadau

Mae'r rhan fwyaf o arfordir Clwyd yn sefydlog, diolch i raddau helaeth i gynlluniau artiffisial eang i ddiogelu'r forlin, ond mae peth ohoni'n dal i fod yn isel neu hyd yn oed yn is na lefel y penllanw. Gallai lefel y môr, sy'n codi, gael effaith ddifrifol ar y tirwedd hwn a'i archaeoleg, fel y cafodd datblygu diwydiant ysgafn a thwristiaeth effaith arno.

Dangosodd tystiolaeth ddogfennol 49 o safleoedd, a dangosodd astudiaethau desg ac arolygon maes 129 safle arall (ac ychwanegwyd y cyfan erbyn hyn at y Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol). Mae pob un ond un o'r safleoedd newydd yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol neu fodern, ac mae ychydig dros eu chwarter yn safleoedd diwydiannol, porthladdoedd a phyrth. Mae'n bosibl mai ymddangosiad cymharol ddiweddar y forlin bresennol sy'n cyfrif am y nifer gymharol isel o safleoedd archaeolegol cynharach.

Er mai arolwg cyflym a wnaed, fe lwyddodd i ganfod safleoedd newydd a chofnodi natur y forlin gydag asesiad o'r bygythiad canfyddedig i'r archaeoleg oddi wrth erydiad a datblygiadau modern. Ar hyd Aber yr Afon Dyfrdwy mae diwydiant yn fygythiad difrifol i'r archaeoleg ac i olion safleoedd hanesyddol a phyrth.

Diolch i arian gan Cadw: Welsh Historic Monuments, bu'r arolwg hwn gan CPAT, fel yr arolygon o'r forlin a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru, yn gam pwysig pellach o ran diogelu archaeoleg a threftadaeth arfordirol amrywiol Cymru.


Jones, N and Silvester, R - 1996, Clwyd Coastal Survey, CPAT Report no. 194

Cadw:Welsh Historic Monuments/Welsh Archaeological Trusts - 1999, Caring for Coastal Heritage, illustrated booklet