CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Rhesi Cerrig Craig y Fan Ddu


 CPAT 3325-0016

Ar y dde: Rhan or rhesi cerrig lluosog CPAT 3325-0016

Ymgymerwyd rhaglen gwaith cloddio arbrofol ac arolwg manwl i ymchwilio i grwp o gerrig ar eu sefyll yng Nghraig y Fan Ddu ym Mannau Brycheiniog, a ariannwyd gan Cadw. Maer safle tua 7.3km ir de-orllewin o Dal-y-bont ar Wysg, a saif ar uchder o ryw 500m ar lethr de-ddwyreiniol Craig y Fan Ddu, yn tremio dros ran uchaf nant Caerfanell (SO 05637 18058). Mae Craig y Fan Ddu yn llunio crib syn estyn ir de o brif gadwyn Bannau Brycheiniog, syn cynnwys Corn Du a Phen y Fan, y ddau ohonynt charneddau claddu or Oes Efydd ar eu copaon.

Cadarnhaodd yr arolwg bresenoldeb tair rhes gerrig syn lled-gyfochrog, pob un rhyw 4m rhyngddynt a phob un tua 20m o hyd, ynghyd dwy garreg arall ar eu sefyll a nifer o slabiau posibl ar eu gorwedd, syn awgrymu y bu mwy o resin wreiddiol.

Nid yw rhesi sengl, neu hyd yn oed ddwbl, yn anghyffredin yng Nghymru, er mai dim ond dwy enghraifft arall o resi lluosog syn bodoli, y ddwy ohonynt ar ochr orllewinol Mynydd Hiraethog, ger Pentrefoelas. Maer fwyaf, er y lleiaf cyflawn, or rhain yn Ffridd Can Awen ac, yn wreiddiol, roedd yn cynnwys tua 450 o gerrig bach wediu gosod mewn rhesi afreolaidd. Mae CBHC wedi ailarolygur ail safle, sef Hafod-y-dre, yn ddiweddar, a gwnaethant nodi 87 o gerrig bach yn llunio 18 rhes, er bod cofnodion cynharach yn awgrymu hyd at 130 o gerrig.

Ni chynhyrchodd y gwaith cloddio diweddar ar raddfa fach unrhyw dystiolaeth y gellid ei defnyddio i ddyddior rhesi, sef sefyllfa syn rhy gyffredin o lawer wrth ymchwilio i resi cerrig. Er ein bod, ers tro, wedi cymryd bod henebion or fath yn dyddio o ddiwedd yr oes Neolithig neu ddechraur Oes Efydd, mae gwaith cloddio diweddar yn Cut Hill ar Dartmoor wedi cynhyrchu dyddiadau radiocarbon o fawn o dan garreg a oedd wedi cwympo, syn awgrymu y codwyd y cerrig erbyn rhwng 3700 CC a 3500 CC.

 CPAT

Ar y chwith: Cynllun or rhesi cerrig CPAT