CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Beddrodau Sgwr y Ddwyryd


 CPAT

Canlyniadaur arolwg magnetomedr CPAT

Maer fynwent fach y maen debygol ei bod yn dyddio o ddechraur canoloesoedd wedii hailasesu fel rhan o raglen gwella rhestru a ariannwyd gan Cadw. Saif y safle yn union ir gorllewin or pentrefan bach or enwr Ddwyryd, sydd ei hun tua 3km ir gorllewin o dref Corwen yn ne-orllewin Sir Ddinbych, sef Sir Feirionnydd gynt (SJ 03874341). JK St Joseph a gymerodd y ffotograffau cyntaf or fynwent ym 1975 ac, yn fwy diweddar ym mis Gorffennaf 2006, cymerodd Toby Driver, CBHC, ffotograffau pan gofnodwyd tri neu bedwar beddrod sgwr, o leiaf dau ohonynt yn cynnwys bedd canolog i bob golwg.

Mae arolwg magnetomedr bellach wedi dangos bod yna o leiaf chwe beddrod sgwr yn y fynwent, yn ogystal dau fedd posibl heb eu hamgu yn union ar ymyl y ffordd Rufeinig rhwng Caer a Chaer Gai (RR66a). Maen amlwg ir ffordd Rufeinig ddylanwadu ar leoliad y fynwent, ac felly maen bosibl ei bod yn dal i gael ei defnyddio bryd hyn. Fodd bynnag, nid yw unrhyw rai or nodweddion cyfansoddol yn y fynwent yn parchu aliniad y ffordd, ond yn hytrach maent wedi'u halinio o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae maint a dosbarthiad y beddrodau'n awgrymu y bu dau gyfnod neu fwy o gladdu, gyda grwp dwyreiniol o dri neu bedwar beddrod o faint a gorweddiad tebyg. Maer ddau feddrod gorllewinol yn fwy ac mae eu haliniadaun wahanol. Ar hyn o bryd, nid ywn bosibl penderfynun bendant beth oedd maint y fynwent, er bod dosbarthiad y claddiadaun awgrymu mai grwp bach, diamheuol yw hwn.

Gwnaed gwaith cloddio arbrofol i ymchwilio i un beddrod sgwr y nododd yr arolwg geoffisegol ei fod yn mesur 6.5m or dwyrain i'r gorllewin a 6.3m o'r gogledd i'r de, heb unrhyw fynedfa amlwg. Darganfuwyd bod y ffos oi amgylch yn 1.16m o led a hyd at 0.45m o ddyfnder, gyda phroffil siltio a oedd yn awgrymu y bu cyfnod o hindreuliad cychwynnol ond bod y ffos, wedyn, wedi aros yn sefydlog am gyfnod sylweddol, i bob golwg. Maer llenwadau uchaf yn dangos cyfnod o aredig dwys yn ystod y 18fed/19eg ganrif, syn awgrymu bod y beddrod, ar ffos oi amgylch, wedi goroesi fel cloddweithiau tan yn gymharol ddiweddar.

 CPAT 3267-0109

Ar y chwith: yn cloddior bedd canolog CPAT 3267-0109

Roedd y beddrod yn cynnwys un bedd, yn y canol. Roedd dau ben hwn yn grwn, roedd yn mesur 2.3m or dwyrain ir gorllewin a 0.95m or gogledd ir de ac roedd yn o leiaf 0.75m o ddyfnder. Tuag at waelod y bedd, nododd y gwaith cloddio weddillion arch bren, yn goroesi fel amlinelliad o bren golosgedig ar hyd yr ymyl ddeheuol, ac oddi mewn i hwn roedd yna olion gweddillion ysgerbydol, er nad oedd yna ddigon o'r rhain i ganiatu dadansoddi pellach. Roedd lleoliad cerrig mwy yn y llenwad a oedd, maen debyg, wedi dod i orffwys yn erbyn yr arch wrth l-lenwir bedd, hefyd yn awgrymu amlinelliad yr arch.

 CPAT

Adluniad yn dangos sut olwg oedd ar y beddrodau sgwr o bosibl CPAT

Mae yna bethau syn amlwg yn debyg rhwng y fynwent yn y Ddwyryd ar fynwent yn Nhandderwen, ir dwyrain o Ddinbych, a gloddiwyd gan CPAT ym 1985-88 (Brassil et al. 1991). Roedd hon yn cynnwys naw beddrod sgwr, wyth ohonynt ag un bedd wedii amgu ac un thri bedd wediu hamgu. Roedd y fynwent hefyd yn cynnwys 28 o feddi heb eu hamgu. Roedd un ar hugain or beddin cynnwys rhywfaint o weddillion arch bren, a chalibrwyd dyddiadau radiocarbon a gynhyrchwyd ar gyfer dwy fedd yn y beddrodau sgwr i 560-655 OC ac 886-1012 OC, ar lefel tebygolrwydd o 68%. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl pennu oedran y pren pan torrwyd ef i lawr, na pha ran or goeden oedd wedii defnyddio, fellyr cyfan y mae'r dyddiadau'n ei roi yw syniad o ddyddiad y claddiadau.