CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Archaeoleg yn y Fforest

Archaeoleg yn y Fforest:
Mwyngloddiau a chwareli Gogledd Cymru


Mines and quarries of north and mid Wales location map

Map o ogledd Cymru sy'n dangos tir Menter Coedwigaeth (gwyrdd) a ffiniau'r Dosbarthiadau Fforest (coch). Dangosir lleoliad y fforestydd sy'n cynnwys safloedd mwyngloddiau a chwareli a grybwyllir yn y testun.

Mae ucheldiroedd Cymru wedi cael eu defnyddio oherwydd eu mwynau ers y cyfnod cynhanesyddol. Yn fforestydd Eryri fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth uniongyrchol sydd o waith cynnar ac mae'r rhan fwyaf o'r mwyngloddiau'n dyddio o'r 17eg ganrif i'r 20fed ganrif. Dechreuwyd y mwyngloddiau yn aml gan deuluoedd lleol o bwys, fel teulu Wynn, Gwydyr. Ymhellach i'r de, yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau, roedd y gwaith cynharach yn golygu codi haearn o gorsydd yn ystod y canol oesoedd. Dyddiwyd Nant yr Eira yn Hafren, ar lethrau Pumlumon, y mwynglawdd cynharaf yn y fforest, drwy ddadansoddiad radiocarbon i'r Oes Efydd.

Yn ogystal mwynau pwysig mae llawer o'r fforestydd yn cuddio olion chwareli llechi. Mae'r cyfadeiladau hyn yn aml yn ymestyn dros ardal helaeth ac yn cynnwys lefelau, siafftiau, offer weindio, gweithfeydd prosesu, tai i'r gweithwyr a thramffyrdd a ddefnyddid i gludo llechi o'r chwareli.

Coedwig Gwydyr (ger Betws-y-Coed)

Mae'r mwyngloddiau metel cynharaf yng Ngogledd Cymru'n dyddio o'r Oes Efydd ond dechreuodd prif gyfnod y gweithgarwch yn y fforest yn yr 17eg ganrif. Dechreuodd Syr John Wynn o Wydyr gloddio safleoedd fel Gwaunllifion o 1607 ac erbyn canol y 19eg ganrif roedd llawer o blwm a sinc yn cael ei godi o fwyngloddiau Hafna, Dyffryn Conwy, Llanrwst, Coed Mawr Pool a'r Parc.

Hafna mine

Hafna mine, Gwydyr, © Menter Coedwigaeth Cymru

Roedd llawer o'r mwyn yn cael ei brosesu yng Ngwydyr ac mae amrywiaeth eang o adeiladau yn bod hyd heddiw. O'r siafftiau neu'r lefelau, roedd y mwyn yn cael ei gludo'n aml ar dramffordd i'r felin lle gollyngwyd ef i gistiau mwyn cyn cael ei wahanu a'i falu. Yna gwahanwyd y gwastraff oddi wrth y mwyn trwy ddisgyrchiant arnofiant olew. Gyrrid y malwyr a chyfarpar arall gan byllau olwynion mawr. Nid oes yr un olwyn wedi goroesi hyd heddiw ond mae pyllau'r olwynion yn un o nodweddion amlwg y mwyngloddiau.

Mwynglawdd Hafna, a godwyd ym 1879, ac sydd smeltiwr mewn cyflwr da eithriadol a simnai sy'n gyfan. Cedwid y mwyn yn y cistiau mwyn o flaen y smeltiwr, cyn cael ei drefnu a'i falu. Yna gwahanwyd y gwastraff oddi wrth y mwyn.

Miners trail

Mae Llwybr Mwynwyr Parc Coedwig Gwydyr yn rhoi cyfle i'r ymwelydd ymweld rhai o'r hen fwyngloddiau sydd yn y cyflwr gorau tra'n mwynhau ysblander a thawelwch Parc Coedwig Gwydyr.Gan ddechrau ym mwynglawdd plwm Hafna mae'r llwybr yn cynnwys Mwynglawdd Parc, Mwynglawdd Bryn Eisteddfod, Mwynglawdd Dyffryn Conwy a Mwynglawdd Llanrwst.

Coed y Brenin (ger Dolgellau)

Glasdir mine

Mwynglawdd Glastir, Coed y Brenin, © Menter Coedwigaeth Cymru

Mae'n ymddangos bod y mwynau yng Nghoed y Brenin, a elwid Fforest Vaughan gynt, wedi cael eu gweithio gyntaf yn ystod y canol oesoedd pan ddechreuwyd trin haearn o gorsydd. Daethpwyd o hyd i nifer o dwmpathau lle gwneid haearn hydrin a gwnaed gwaith cloddio gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Yn ystod y 19fed ganrif, bu cloddio am gopr, plwm, sinc ac aur yng Nghoed y Brenin. O gloddfa aur Pant Llwyfog gellir olrhain llwybr yr hen ddyfrffosydd a gellir gweld hyd y brigiad cwarts lle cafwyd yr aur.

Mae Mwynglawdd Glastir , ar lannau Afon Wen, yn adnabyddus oherwydd mai yma ym 1896 y dyfeisiodd y rheolwr, George Robson, ddull newydd o wahanu'r copr oddi wrth y gwatraff trwy ddefnyddio ymnofiad mewn olew. Mae olion trawiadol safle'r felin yn amlwg iawn yn y dyffryn ac maent yn rhan o Lwybr Copr Glastir lle gellir gweld yr hen dramffordd, dyfrffosydd a'r adeilad cynhyrchu trydan.

Menter arall, a oedd yn fwy anarferol, oedd tynnu copr o'r mawn yn Nl Frwynog. Llosgwyd y mawn mewn odyn a wnaed yn arbennig ar gyfer y gwaith ac anfonwyd y lludw a'i gyfoeth o gopr i Abertawe i'w smeltio. Yn ystod un flwyddyn yn unig, tynnwyd 2,000 tunnell o ludw gwerth 20,000 o'r mwynglawdd mawn.

Nant yr Eira

Ail-luniad o gloddfa Nant yr Eira, © Menter Coedwigaeth Cymru

Coedwig Hafren (ger Llanidloes)

Mae Coedwig Hafren ym mhen uchaf yr Afon Hafren ar ochr ddwyreiniol mynydd Pumlumon. Cyn plannu'r coed, gweundir agored a geid yma'n bennaf gyda thir amaethyddol ar yr ochr ddwyreiniol. Yn ystod yr Oes Efydd y cafwyd y cyfnod pwysig cyntaf o weithgarwch. Buwyd yn cloddio yn yr ardal am gopr a phlwm. Cafwyd dyddiadau radiocarbon o gloddiadau yn ymyl y gloddfa agored yn Nant yr Eira a chredir bod gweithgarwch hefyd yn ystod yr Oes Efydd yn Nant y Rickett. Nid oes olion unrhyw aneddiadau ond mae yma nifer o domenni claddu o'r Oes Efydd a maen hir trawiadol, Carreg Wen.

Oes aur mwyngloddio yn Hafren a'r cyffiniau oedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Yn hwyr yn y 19eg ganrif, ailagorwyd y gloddfa yn Nant yr Eira gan y Snowbrook Mining Company, a gododd 33 tunnell o blwm o'r gloddfa agored a rhagor o'r siafftiau a'r lefelau niferus. Cludwyd y mwyn ar hyd tramffordd i'r chwalwr a yrrwyd gan ddwr yn llifo drwy ddyfrffos o argae ymhellach i fyny'r dyffryn.

Bryn Eglwys

Chwarel lechi Bryn Eglwys, Dyfi, © Menter Coedwigaeth Cymru

Dyfi Coedwig (ger Machynlleth)

Mae coedwig Dyfi yn cuddio olion llawer o chwareli llechi lle gweithiau cannoedd o ddynion ar un adeg. Y chwarel fwyaf adnabyddus yw Bryn Eglwys ym mlaen Nant Gwernol lle, ym 1877, cynhyrchwyd tua 8000 tunnell o lechi. Cludwyd y llechi o'r chwarel ar system eang o dramffyrdd i orsaf Abergynolwyn lle roedd y dramffordd yn ymuno Rheilffordd Talyllyn. Mae cyfres o deithiau cerdded yn arwain o orsaf Nant Gwernol i'r chwarel.