CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Archaeoleg yn y Fforest

Archaeoleg yn y Fforest:
Pobl gynhanesyddol


Forest Enterprise Wales map

Map o ogledd Cymru sy'n dangos tir Menter Coedwigaeth (gwyrdd) a ffiniau'r Dosbarthiadau Fforest (coch). Dangosir lleoliad henebion a grybwyllir yn y testun.

O fewn y fforest cuddir gwahanol fathau o safleoedd cynhanesyddol, o ogofu Palaeolithig i fryngaerau o Oes yr Haearn. Cyn diwedd yr Oes I ddiwethaf (tua 12,000 o flynyddoedd yn l) byddai pobl yn ceisio noddfa mewn ogofu, ac yno claddwyd olion eu hoffer ac esgyrn anifeiliaid gwyllt fel y mamoth, ceirw mawr a'r hiena. Yn raddol, wrth i'r hinsawdd wella, ymledodd y fforestydd dros y wlad. Mae llochesi coed dros-dro yr helwyr-gasglwyr yn anodd eu darganfod, ac offer carreg a ddarganfyddir amlaf.

Er bod y ffermwyr cyntaf (tua 7000 o flynyddoedd yn l) wedi codi tai mwy sylweddol, nid yn aml y deuir o hyd iddynt. Yr olion a geir amlaf yw'r siamberi claddu lle byddent yn claddu'r meirw. Yn ystod yr ychydig filoedd o flynyddoedd nesaf, pan ddechreuodd pobl ddefnyddio metelau, newidiodd y dull claddu i gladdiadau corfflosgi mewn crugiaucrwn neu gloddiedig. Ni allwn ddeall crefydd y ffermwyr cynnar hyn bellach ond mae'n bosibl bod eu meini hir, rhesi cerrig a chylchoedd cerrig niferus wedi eu cysylltu dymuniad i ddangos treigl y tymhorau.

Yn ystod ymileniwm diwethaf CC, cyn dyfod y Rhufeiniaid, ychydig o olion claddu a adawyd gan bobl yr Oes Haearn ond gadawsant nifer fawr o fryngaerau yn cynnwys olion pentrefi. Yn ogystal ffermwyr, roedd y bryngaerau'n gartrefi i grefftwyr, beirdd, a rhyfelwyr a dreuliai eu hamser yn dwyn gwartheg eu cyndogion!

Coed-y-Parc, Bro Gwyr Mae llwybr yn rhedeg trwy Goed-y-Parc sydd yn rhoi mynedlad i'r safleoedd archeolegol, llawer ohonynt yn henebion cofrestredig o bwysigrwydd cenedlaethol.

Forest Enterprise Wales map

Cathole Cave, Park Wood, © Menter Coedwigaeth Cymru

Ogof Cathole yn Park Wood, Penrhyn Gwyr, sef ogof galchfaen naturiol lle roedd helwyr/casglwyr yn byw rhwng tua 20,000 a 10,000 o flynyddoedd yn l. Mae'r dyddodion hynaf yn cynnwys esgyrn eirth, hienaod, rhinoserosod gwlanog, mamothiaid, ceirw Llychlyn a cheirw Iwerddon, rhywogaeth sydd wedi diflannu. Mae ystlumod yn byw yn yr ogof bellach. Ymhellach i Park Wood, a oedd yn barc ceirw yn ystod y canol oesoedd, mae Ogof Lethrid Tooth lle roedd pobl yn byw yn ystod yr Oes Efydd (tua 4000 o flynyddoedd yn l) pan ddefnyddid hi hefyd fel claddfa ar gyfer o leiaf wyth o bobl.

Parc le Breos Chambered Cairn, Park Wood

Carnedd Siambr Parc le Breos, Park Wood, © Menter Coedwigaeth Cymru

Carnedd Siambr Parc le Breos yn Park Wood, Penrhyn Gwyr, a godwyd yn ystod y cyfnod Neolithig(tua 5500 o flynyddoedd yn l) fel claddfa. Yn un pen o'r garnedd, mae'r wal yn ymestyn i ffurfio cwrt ac yn ei ben pellaf mae tramwyfa ganolog sy'n arwain i'r garnedd. O bobtu'r dramwyfa, a'r meini calchfaen ar hyd ei hymylon, mae dau br o siambrau carreg bychan lle gadawyd esgyrn dynol.

Cynhaliwyd seremonau crefyddol yn y dramwyfa, a gadawyd olion hyd at 40 o ddynion, gwragedd a phlant yn y garnedd. Mae rhai o'r esgyrn yn dangos arwydddion o dreiglo, sy'n dangos bod y cyrff wedi eu gadael y tu allan cyn i'r esgyrn gael eu claddu yn y garnedd. Roedd cyrff eraill wedi eu llosgi. Claddwyd nifer o gyrff yn y dramwyfa gannoedd lawer o flynyddoedd ar l i'r esgyrn olaf gael eu gadael yn y siambrau.

Cairns at Penmoelallt and Onllwyn, Cwm Taf

Carnedd yn Onllwyn, Cwm Taf, © Menter Coedwigaeth Cymru

Carneddau ym Mhenmoelallt ac Onllwyn, Cwm Taf (llwybrau o ganolfan ymwelwyr Garwnant)
Tua 4000 o flynyddoedd yn l yn ystod yr Oes Efydd roedd y bryn agored, syddd dan goed bellach, yn gladdfa bwysig. Wedi llosgi'r cyrff, cleddid yr esgyrn llosg gydag arfau, offer a photiau, y tu mewn i flwch ag ymylon carreg a charnedd drosto. Ar ochr ddwyreiniol Penmoelallt mae'r carneddau at ei gilydd yn fach, ond yn Onllwyn a Phant Sychbant mae'r carneddau mawr wedi eu gwneud o flociau calchfaen gwelw, ac mae'n rhaid eu bod yn amlwg iawn yn y tirwedd. Yn ymyl carnedd Pant Sychbant mae lloc a farciwyd chlawdd isel chrug drosto sydd, o bosibl, o'r un cyfnod 'r gladdfa.

Carreg Wen Standing Stone, Hafren

Maen Hir Carreg Wen, Hafren, © Menter Coedwigaeth Cymru

Meini Hirion
Pant Meddygon yn Fforest Glasfynydd, sy'n nodweddiadol o'r meini hirion cynhanesyddol sydd wedi goroesi yn y fforestydd ac ar y tir o'u cwmpas. Yn yr achos hwn mae dau faen ac olion toredig trydydd o bosibl. Mae'r debygol bod yma res o gerrig ar un adeg.

Roedd meini hirion wedi eu gwneud fel arfer o garreg leol. Dim ond mewn amgylchiadau arbennig, fel yn achos adeiladu Cr y Cewri yn Wiltshire, y cludid cerrig o bell. Yn Hafren roedd pobl yr Oes Efydd yn ffodus i ddod o hyd i flociau cwarts mawr yn gorwedd ar y llethrau ac un ohonynt oedd Carreg Wen, a osodwyd yn ofalus uwch y gloddfa blwm yn Nant yr Eira.

Bryngaerau Oes Haearn
Yn ystod y fil o flynyddoedd cyn geni Crist, bu newid trawiadol yn y ffordd roedd pobl ym Mhrydain yn byw. Daw'r claddfeydd yn brinach ond mae'n haws adnabod aneddiadau. Ffermydd unigol oed llawer ohonynt a dim ond o'r awyr y gellir eu gweld yn aml, ond tua'r adeg yma dechreuodd pobl amddiffyn eu pentrefi a leolid, yn aml, ar ben bryn er diogelwch.

Allt yr Esgair hillfort

Bryngaer Burfa Bank, Fforest Maesyfed, cyn gwaith torri coed rheoledig diweddar gan Menter Coedwigaeth © CPAT 84-C-338

O fewm y clawdd a'r palisd, roedd y tai pren neu garreg bob amser yn grwn tho conigol. Cadwyd grawn mewn adeiledau hirsgwar a godwyd yn arbennig gyda llawr uwch na lefel y tir er mwyn cadw'r llygod allan. Dangosodd gwaith cloddio fod gan rai bryngaerau gysegrfa neu deml, yn ymyl y canol yn aml, ac roedd gan eraill byewau sbwriel neu storio. Mae llawer o fryngaerau'n eang iawn ac mae'n debyg bod ganddynt dir agored lle byddai anifeiliaid domestig yn cysgodi ar adegau cythryblus.

Mae'r fforestydd yn cynnwys nifer fawr o fryngaerau ond oherwydd eu bod yn fawr a bod coed yn tyfu oddi mewn iddynt weithiau mae'n well tynu lluniau ohonynt o'r awyr. Ar y llawr, mae fel arfer yn hawdd adnabod y cloddiau a'r ffosydd mawr.